Ymestyn eich fisa teulu

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Fel arfer, gallwch wneud cais i ymestyn fisa teulu cyn iddo ddod i ben. Mae fisa teulu yn unrhyw un o'r canlynol:

  • fisa partner

  • fisa plentyn

  • fisa fel rhiant plentyn sy'n byw yn y DU

Fel arfer, bydd yn costio rhwng £3,000 a £4,000 i wneud cais i ymestyn eich fisa, yn dibynnu ar eich sefyllfa.

Bydd eich fisa fel arfer yn cael ei ymestyn am 2 flynedd a 6 mis. Mewn rhai achosion gallwch wneud cais i fyw yn y DU yn barhaol yn lle hynny - gelwir hyn yn 'ganiatâd amhenodol i aros'.

Dylech wneud cais i ymestyn eich fisa yn ystod y 28 diwrnod cyn iddo ddod i ben.

Os bydd eich fisa'n dod i ben cyn i chi wneud cais

Gelwir hyn yn 'aros yn hirach na chyfnod fisa' - byddwch yn colli eich hawl i weithio yn y DU. Os yw eich fisa eisoes wedi dod i ben, edrychwch beth allwch chi ei wneud os ydych chi wedi aros yn rhy hir.

Gweld a ddylech chi wneud cais am ganiatâd amhenodol i aros

Fel arfer, gallwch wneud cais am ganiatâd amhenodol i aros os ydych wedi bod yn y DU ar fisa partner neu riant am 5 mlynedd yn olynol. Gelwir hyn yn ‘llwybr 5 mlynedd’.

Os oes gennych fisa partner neu riant yn seiliedig ar amgylchiadau eithriadol neu fywyd preifat a theuluol, dim ond ar ôl i chi fod yn y DU am 10 mlynedd yn olynol y gallwch wneud cais am ganiatâd amhenodol i aros. Gelwir hyn yn ‘llwybr 10 mlynedd’. Os nad ydych yn siŵr, edrychwch ar y llythyr a gawsoch gan y Swyddfa Gartref pan gawsoch y fisa - bydd yn dweud a ydych ar y llwybr 10 mlynedd ai peidio.

Os yw eich fisa yn dod i ben ac nad ydych wedi bod yn y DU ers digon o amser i gael caniatâd amhenodol i aros, dylech wneud cais i ymestyn eich fisa. Os ydych chi wedi bod yn y DU ers digon o amser, holwch a allwch chi wneud cais am ganiatâd amhenodol i aros.

Os oes gan eich plentyn fisa

Gallwch wneud cais iddo gael caniatâd amhenodol ar yr un pryd ag y byddwch chi'n gwneud cais i chi'ch hun - does dim ots ers faint mae wedi bod yn y DU.

Edrych a ydych yn bodloni'r rheolau i ymestyn eich fisa

I ymestyn eich fisa, fel arfer bydd angen i chi fodloni'r un rheolau â phan gawsoch chi'r fisa am y tro cyntaf.

Os oes gan eich plentyn fisa plentyn, gallwch wneud cais i ymestyn ei fisa ar yr un pryd â'ch fisa chi.

Os oes gennych fisa partner

Mae'r rheolau'n dibynnu ar p'un ai a oes gennych yr un partner o hyd â phan wnaethoch gais am eich fisa.

Os ydych chi gyda'r un partner

Bydd angen i chi ddangos:

  • eich bod yn dal i fyw gyda'ch partner yn y DU

  • bod gennych chi a'ch partner ddigon o incwm a chynilion i fodloni'r gofyniad ariannol o hyd

  • bod lle rydych chi’n byw yn ddiogel, yn addas ac yn ddigon mawr i chi fyw yno

Ni allwch ymestyn eich fisa os oes arnoch chi £500 neu fwy i’r GIG.

Mae'r rheolau hyn yr un fath â phan gawsoch fisa partner am y tro cyntaf.

Os gwnaethoch gais am fisa partner am y tro cyntaf cyn 11 Ebrill 2024

Os ydych newydd wneud cais ar eich cyfer chi eich hun, mae'r gofyniad ariannol yr un fath pan fyddwch yn ymestyn eich fisa. Mae hyn yn golygu y byddwch yn dal i fodloni’r gofyniad ariannol os yw eich incwm ar y cyd yn £18,600 o leiaf cyn treth.

Os gwnaethoch gais am hyd at 3 o blant, mae’r gofyniad ariannol yr un fath. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i’ch incwm ar y cyd fod o leiaf:

  • £22,400 os gwnaethoch gais am 1 plentyn

  • £24,800 os gwnaethoch gais am 2 blentyn

  • £27,200 os gwnaethoch gais am 3 phlentyn

Os gwnaethoch gais am 4 plentyn neu fwy, y gofyniad ariannol fydd £29,000. Mae hyn yn llai na phan wnaethoch gais am y tro cyntaf.

Os ydych chi ar y llwybr 10 mlynedd, does dim angen i chi ddangos eich bod yn bodloni’r gofyniad ariannol neu fod lle rydych chi’n byw yn ddiogel, yn addas ac yn ddigon mawr. Os nad ydych yn siŵr, edrychwch ar y llythyr a gawsoch gan y Swyddfa Gartref pan gawsoch y fisa - bydd yn dweud a ydych ar y llwybr 10 mlynedd ai peidio.

Os yw eich perthynas â’ch partner wedi dod i ben

Os ydych chi wedi gwahanu oddi wrth eich partner, holwch sut y gallwch aros yn y DU heb eich partner.

Os yw eich partner wedi marw

Gallwch wneud cais am ganiatâd amhenodol - does dim ots ers faint rydych chi wedi bod yn y DU. Gweld sut i wneud cais am ganiatâd amhenodol.

Os oes gennych bartner gwahanol

Ni allwch ymestyn eich fisa cyfredol. Bydd yn rhaid i chi wneud cais am fisa newydd a chael eich noddi gan eich partner newydd.

Newidiodd y gofyniad ariannol ar 11 Ebrill 2024. Byddwch yn bodloni’r gofyniad ariannol:

  • os nad yw eich partner yn y lluoedd arfog a bod eich incwm ar y cyd o leiaf £29,000 bob blwyddyn cyn treth

  • os yw eich partner yn y lluoedd arfog a bod eich incwm ar y cyd o leiaf £23,496 bob blwyddyn cyn treth

Darllenwch y rheolau llawn y mae angen i chi eu bodloni i gael fisa partner.

Os oes gennych fisa fel rhiant plentyn yn y DU

Bydd angen i chi ddangos:

  • bod eich plentyn yn dal yn y DU

  • rydych chi'n dal yn gyfrifol am eich plentyn neu mae gennych chi hawliau mynediad ac rydych chi'n ymweld ag ef yn rheolaidd

  • eich bod yn dal i allu fforddio byw yn y DU heb ddefnyddio arian cyhoeddus

  • bod lle rydych chi’n byw yn ddiogel, yn addas ac yn ddigon mawr i chi fyw yno

Ni allwch ymestyn eich fisa os oes arnoch chi £500 neu fwy i’r GIG.

Mae'r rheolau hyn yr un fath â phan gawsoch fisa rhiant am y tro cyntaf. Darllenwch y rheolau llawn y mae angen i chi eu bodloni i gael fisa fel rhiant plentyn yn y DU.

Os ydych chi ar y llwybr 10 mlynedd, does dim angen i chi ddangos eich bod yn gallu fforddio byw yn y DU heb arian cyhoeddus neu fod lle rydych chi’n byw yn ddiogel, yn addas ac yn ddigon mawr. Os nad ydych yn siŵr, edrychwch ar y llythyr a gawsoch gan y Swyddfa Gartref pan gawsoch y fisa - bydd yn dweud a ydych ar y llwybr 10 mlynedd ai peidio.

Os yw rhiant arall y plentyn yn bartner i chi erbyn hyn

Os gall eich partner eich noddi i gael fisa partner, rhaid i chi wneud cais am fisa partner yn hytrach nag ymestyn eich fisa rhiant. Edrychwch i weld a allwch chi gael fisa partner.

Os ydych ar y llwybr 5 mlynedd i gael caniatâd amhenodol, mae'r 5 mlynedd yn dechrau eto pan fyddwch yn symud i fisa partner.

Os ydych ar y llwybr 10 mlynedd, gallwch ychwanegu’r amser y gwnaeth y ddau ohonoch ei dreulio ar y ddau fath o fisa.

Os ydych chi wedi treulio amser y tu allan i'r DU

Gallwch ymestyn eich fisa oni bai nad yw’r Swyddfa Gartref yn credu eich bod yn bwriadu byw yn y DU mewn gwirionedd. Dim ond os ydych chi wedi treulio mwy na hanner eich amser ar y fisa y tu allan i'r DU y bydd hyn yn broblem.

Gofynnwch am gymorth gan gynghorydd arbenigol os nad ydych yn siŵr a allwch ymestyn eich fisa.

Gweld a oes angen i chi sefyll prawf Saesneg

Fel arfer, bydd angen i chi sefyll prawf Saesneg cyn y gallwch wneud cais i ymestyn eich fisa. Does dim rhaid i chi sefyll prawf os yw un o'r canlynol yn berthnasol:

  • os ydych chi'n ddinesydd gwlad sydd wedi'i heithrio oherwydd bod y Saesneg yn iaith swyddogol neu fwyafrifol yno - er enghraifft Jamaica neu UDA

  • os oes gennych radd prifysgol a gafodd ei haddysgu neu ei hymchwilio yn Saesneg

  • rydych chi dan 18 oed neu'n hŷn na 65 oed

  • os ydych am ymestyn fisa plentyn - hyd yn oed os ydych bellach dros 18 oed

  • os ydych ar y llwybr 10 mlynedd i gael caniatâd amhenodol

Os oes gennych gyflwr corfforol neu feddyliol sy’n eich atal rhag pasio’r prawf, efallai na fydd yn rhaid i chi ei sefyll. Bydd angen i chi ofyn i'ch meddyg gadarnhau bod eich cyflwr:

  • yn annhebygol o newid

  • yn ei gwneud yn amhosibl i chi ddysgu digon o Saesneg - er enghraifft, anabledd dysgu neu anaf i'r ymennydd sy'n eich atal rhag dysgu'r iaith

Gallwch weld y rheolau llawn ynghylch pwy sydd angen sefyll prawf Saesneg ar GOV.UK.

Sefyll prawf Saesneg

Os oes angen i chi basio prawf, rhaid iddo fod ar lefel 'A2' o leiaf ar y raddfa 'Fframwaith Cyfeirio Ewropeaidd Cyffredin ar gyfer Ieithoedd' (CEFR). Mae hyn yn profi a ydych chi’n gallu siarad Saesneg a deall Saesneg llafar – nid yw’n profi eich bod yn gallu darllen nac ysgrifennu yn Saesneg.

Rhaid i chi ddefnyddio darparwr prawf cymeradwy.

Os gwnaethoch basio prawf pan wnaethoch gais am eich fisa teulu am y tro cyntaf, edrychwch pa lefel ydoedd. Os oedd ar lefel ‘A1’, bydd angen i chi sefyll prawf ar lefel A2. Os gwnaethoch chi basio prawf ar lefel A2 neu lefel ‘B1’, does dim angen i chi sefyll un arall.

Gallwch ddod o hyd i ddarparwr prawf Saesneg cymeradwy ar GOV.UK.

Os ydych chi’n gallu siarad Saesneg yn dda

Mae’n werth sefyll prawf lefel B1 yn lle hynny. Gallwch ddefnyddio canlyniad eich prawf B1 pan fyddwch yn gwneud cais am ganiatâd amhenodol, ond chewch chi ddim defnyddio prawf A1.

Os nad ydych yn bodloni'r rheolau i ymestyn eich fisa

Dylech allu ymestyn eich fisa os oes 'amgylchiadau eithriadol'. Mae amgylchiadau eithriadol os oes unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol:

  • byddai peidio â chael fisa teulu yn achosi 'canlyniadau llym heb gyfiawnhad' i chi, eich partner neu blentyn dan 18 oed - er enghraifft, os oes angen gofal arbennig arnoch a dim ond yn y DU y gallwch ei gael

  • byddech chi a'ch partner yn cael trafferth byw gyda'ch gilydd yn unrhyw le arall yn y byd - er enghraifft, os nad oes gwlad lle mae'r ddau ohonoch yn cael byw

  • os oes gennych blentyn dan 18 oed sydd yn y DU ac sydd naill ai’n ddinesydd Prydeinig neu sydd wedi byw yn y DU ers o leiaf 7 mlynedd

Dylech hefyd allu ymestyn eich fisa os byddai gwrthod eich cais yn effeithio ar eich 'hawl i fywyd preifat neu deuluol'. Mae’n bosibl y bydd unrhyw un o’r canlynol yn effeithio ar eich hawl i fywyd preifat a theuluol:

  • byddai'n anodd iawn i chi fyw yn y wlad y byddai'n rhaid i chi ddychwelyd iddi neu symud iddi - er enghraifft oherwydd diffyg gwaith, addysg, teulu neu ffrindiau, neu os na fyddech yn cael eich derbyn yn ôl yno

  • rydych wedi byw yn y DU ers 20 mlynedd neu fwy

  • rydych chi rhwng 18 a 25 oed ac rydych chi wedi byw yn y DU am o leiaf hanner eich bywyd

Os ydych yn cael fisa yn seiliedig ar amgylchiadau eithriadol neu fywyd preifat a theuluol, dim ond ar ôl 10 mlynedd y gallwch wneud cais am ganiatâd amhenodol i aros.

Gofynnwch am help gan gynghorydd arbenigol os ydych chi am wneud cais ar sail amgylchiadau eithriadol neu fywyd preifat a theuluol.

Gwneud cais i ymestyn eich fisa

Edrychwch sut y gallwch wneud cais i ymestyn eich fisa.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.

Adolygwyd y dudalen ar 11 Gorffennaf 2022