Gwiriwch sut mae'r dreth gyngor yn gweithio ac a oes rhaid i chi ei thalu
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
System drethiant leol a gesglir gan awdurdodau lleol yw'r dreth gyngor. Mae'n dreth ar eiddo domestig. Yn gyffredinol, po fwyaf yw'r eiddo, y mwyaf o dreth a godir. Bydd rhai mathau o eiddo yn cael eu heithrio rhag talu'r dreth gyngor.
Rhestrau prisio a bandiau
Mae pob awdurdod lleol yn cadw rhestr o'r holl eiddo domestig yn ei ardal. Rhestr brisio yw hon. Caiff pob eiddo ei brisio a'i roi mewn band prisio. Yna caiff swm gwahanol o'r dreth gyngor ei godi ar bob band.
Ailbrisio ac ailfandio
Cyn Ebrill 2005, cafodd pob eiddo domestig ei brisio ar sail prisiau Ebrill 1991 a'u rhoi yn yr hyn a elwir yn rhestr brisio 1993.
Yn Ebrill 2005, cafodd pob eiddo domestig ei ailbrisio ar sail prisiau Ebrill 2003 a'u rhoi mewn bandiau prisio newydd ar restr brisio 2005. Y bandiau prisio yw:
Bandiau prisio o fis Ebrill 2005
Band prisio | Ystod o werthoedd |
---|---|
Band prisio
A |
Ystod o werthoedd
Hyd at £44,000 |
Band prisio
B |
Ystod o werthoedd
Dros £44,000 a hyd at £65,000 |
Band prisio
C |
Ystod o werthoedd
Dros £65,000 a hyd at £91,000 |
Band prisio
D |
Ystod o werthoedd
Dros £91,000 a hyd at £123,000 |
Band prisio
E |
Ystod o werthoedd
Dros £123,000 a hyd at £162,000 |
Band prisio
F |
Ystod o werthoedd
Dros £162,000 a hyd at £223,000 |
Band prisio
G |
Ystod o werthoedd
Dros £223,000 a hyd at £324,000 |
Band prisio
H |
Ystod o werthoedd
Dros £324,000 a hyd at £424,000 |
Band prisio
I |
Ystod o werthoedd
Dros £424,000 |
Eich band treth gyngor
I wybod ym mha fand mae eiddo domestig, gallwch:
edrych ar gopi o'r rhestr brisio – gweler isod
gweld rhestrau bandio ar gyfer y dreth gyngor a gyhoeddwyd ar y we gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn www.voa.gov.uk
holi'ch awdurdod lleol cyn derbyn bil y dreth gyngor
os mai chi yw'r person atebol, gallwch hefyd ddod o hyd i'r band prisio o'ch bil treth gyngor neu unrhyw newid i'r rhestr brisio gan y swyddog rhestru.
Mae copi o'r rhestr brisio yn cael ei gadw ym mhrif swyddfeydd yr awdurdod lleol, ac ar gael i'r cyhoedd ei weld. Efallai y bydd awdurdodau lleol yn sicrhau bod y rhestr ar gael mewn swyddfeydd eraill hefyd, gan gynnwys llyfrgelloedd. Gallwch fwrw golwg ar y rhestr brisio a gwneud copïau ohoni yn swyddfa'r awdurdod lleol neu'r swyddfa brisio leol. Efallai y byddant yn codi tâl bach i wneud hyn.
Os bydd unrhyw newid i'r rhestr brisio, gan gynnwys ychwanegu eiddo domestig newydd at y rhestr, bydd y swyddog rhestru yn rhoi gwybod i'r person atebol.
Eiddo wedi'i eithrio rhag y dreth gyngor
Mae rhai eiddo wedi'u heithrio rhag talu'r dreth gyngor yn gyfan gwbl. Hwyrach eu bod wedi'u heithrio am gyfnod byr yn unig, er enghraifft, chwe mis, neu am gyfnod hwy.
Dyma'r mathau o eiddo a all gael eu heithrio:
eiddo heb ei feddiannu na'i ddodrefnu i raddau helaeth hyd at 6 mis
eiddo heb ei feddiannu na'i ddodrefnu i raddau, ac sydd ar ganol gwaith trwsio neu addasiadau sylweddol hyd at 6 mis
eiddo heb ei feddiannu ac a gondemniwyd
eiddo heb ei feddiannu ac sydd wedi'i adfeddiannu gan fenthyciwr morgeisi
eiddo gwag oherwydd bod y sawl a oedd yn byw yno bellach yn byw yn rhywle arall oherwydd anghenion gofal, er enghraifft, yn yr ysbyty (neu gyda pherthnasau)
eiddo sy'n wag oherwydd bod y sawl a oedd yn byw yno wedi mynd i ofalu am rywun arall
unrhyw eiddo lle mai dim ond myfyrwyr, neu gynorthwywyr ieithoedd tramor ar raglen swyddogol y British Council, sy'n byw ynddo. Gall fod yn neuadd breswyl, neu'n dŷ. Os oes myfyrwyr a rhai nad ydynt yn fyfyrwyr yn byw yno, nid yw'r eiddo wedi'i eithrio ond caiff unrhyw fyfyrwyr yn y tŷ eu diystyru
carafán neu gwch ar eiddo lle telir y dreth gyngor
eiddo lle mae'r holl bobl sy'n byw ynddo o dan 18 oed
eiddo lle mae'r holl bobl sy'n byw ynddo naill ai â nam meddyliol difrifol neu'n fyfyrwyr, neu'n cynnwys cyfuniad o'r ddau
fflat 'nain/mam-gu' hunangynhwysol lle mae'r sawl sy'n byw ynddo yn berthynas ddibynnol i berchennog y prif eiddo.
Os ydych chi'n credu y dylai'ch eiddo gael ei eithrio, siaradwch â chynghorydd profiadol.
Pwy sy'n gorfod talu'r dreth gyngor
Fel arfer, mae un person, a elwir yn berson atebol, yn atebol i dalu'r dreth gyngor. Ni all neb o dan 18 oed fod yn berson atebol. Bydd cwpl sy'n byw gyda'i gilydd yn atebol, hyd yn oed os mai dim ond un enw sydd ar y bil.
Fel arfer, y sawl sy'n byw mewn eiddo fydd y person atebol, dro arall, perchennog yr eiddo sy'n atebol i dalu.
Bydd y perchennog yn atebol:
os yw'n eiddo amlfeddiannaeth, er enghraifft, tŷ lle mae llawer o bobl yn talu'r rhent, ond lle nad oes neb yn gyfrifol am dalu'r rhent i gyd; neu
mae'r bobl sy'n byw yn yr eiddo i gyd o dan 18 oed; neu
mae'r rhai sy'n byw yn yr eiddo yn geiswyr lloches nad ydyn nhw’n gymwys i hawlio budd-daliadau
mae gan y bobl sy'n aros yn yr eiddo, brif gartrefi yn rhywle arall; neu
cartref gofal yw'r eiddo.
Os mai dim ond un person sy'n byw yn yr eiddo, fe/hi fydd y person atebol. Os oes mwy nag un person yn byw yno, defnyddir system o'r enw hierarchaeth atebolrwydd i ganfod pwy yw'r person atebol. Y sawl sydd ar frig yr hierarchaeth, neu'r agosaf ato, yw'r person atebol. Os oes dau berson ar un pwynt yr hierarchaeth, bydd y ddau ohonyn nhw’n atebol.
Hierarchaeth atebolrwydd yw:
preswylydd sy'n byw yn yr eiddo ac sy'n berchen ar y rhydd-ddaliad
preswylydd sy'n byw yn yr eiddo ac sydd â phrydles
tenant preswyl neu ddaliwr cytundeb
preswylydd sy'n byw yn yr eiddo ac sy'n drwyddedai. Mae hyn yn golygu nad ydyn nhw’n denant, ond bod ganddyn nhw ganiatâd i aros yno
unrhyw breswylydd sy'n byw yn yr eiddo, er enghraifft, sgwatiwr
perchennog yr eiddo nad yw'n byw yno.
Faint yw'r dreth gyngor
Bob blwyddyn, bydd pob awdurdod lleol yn pennu cyfradd treth gyngor ar gyfer pob band prisio. Ni fydd pawb yn gorfod talu swm llawn y dreth gyngor. Mae'n bosibl y bydd eich bil treth gyngor yn cael ei leihau mewn rhai ffyrdd. Y rhain yw:
cynllun gostyngiadau i bobl anabl
gostyngiadau
Gostyngiad y Dreth Gyngor, neu ostyngiad yn ôl disgresiwn.
Cynllun gostyngiadau i bobl ag anableddau
Os oes rhywun (oedolyn neu blentyn) yn byw mewn cartref sydd ag anabledd, gall y bil treth gyngor ar gyfer yr eiddo gael ei leihau. Gwneir y gostyngiad drwy godi'r dreth gyngor ar fand prisio is na'r un y mae'r eiddo ynddo. Er enghraifft, os yw'r eiddo ym mand D, caiff bil y dreth gyngor ei bennu fel pe bai ym Mand C. O 1 Ebrill 2000, mae'r gostyngiad hwn hefyd yn berthnasol i eiddo ym mand A.
I wneud cais am ostyngiad rhaid i chi ddangos bod person anabl yn byw yn yr eiddo, a bod yr eiddo yn diwallu anghenion y person hwnnw hefyd.
Rhaid gwneud cais ysgrifenedig am y gostyngiad hwn i'r awdurdod lleol. Bydd gan lawer o awdurdodau lleol ffurflen gais arbennig. Bydd rhai yn gofyn am dystiolaeth ategol, er enghraifft, llythyr meddyg.
Os ydych chi'n credu bod gennych hawl i gael gostyngiad am fod rhywun ar yr aelwyd yn anabl, dylech siarad gyda chynghorydd.
Gostyngiadau
Os mai dim ond un person sy'n byw mewn eiddo, bydd yn cael disgownt o 25% ar fil y dreth gyngor. Wrth nodi faint o bobl sy'n byw mewn eiddo, nid yw rhai pobl yn cael eu cyfrif. Gelwir y rhain yn bobl a ddiystyrir.
Caiff pobl eu diystyru os ydyn nhw'n:
17 oed neu iau
carcharorion
yn y ddalfa cyn eu halltudio neu dan ddeddfwriaeth iechyd meddwl
wedi'u diffinio fel rhai â nam meddyliol difrifol
myfyrwyr amser llawn ar gwrs addysg cymhwysol. Mae cynorthwywyr ieithoedd tramor ar raglen swyddogol y British Council hefyd yn cael eu cyfrif fel myfyrwyr at ddibenion y Dreth Gyngor. Os mai dim ond myfyrwyr sy'n byw yn yr eiddo dan sylw, yna caiff ei eithrio o'r dreth gyngor yn gyfan gwbl
priod neu'n ddibynnydd myfyriwr a rhywun nad yw'n ddinesydd Prydeinig sydd ddim yn cael gweithio na hawlio budd-daliadau yn y DU oherwydd rheolau mewnfudo
nyrsys dan hyfforddiant neu nyrsys Project 2000
pobl ifanc ar gynlluniau hyfforddi'r llywodraeth, prentisiaid, neu gynorthwywyr ieithoedd tramor
cleifion ysbyty sy'n byw yn yr ysbyty
rhai sy'n byw mewn cartref gofal preswyl, cartref nyrsio, neu gartref nyrsio meddwl lle maen nhw’n derbyn gofal neu driniaeth
rhai sy'n byw mewn hostel sy'n darparu gofal neu driniaeth oherwydd henaint, anabledd corfforol neu feddyliol, dibyniaeth ar alcohol neu gyffuriau yn y gorffennol neu'r presennol neu salwch meddwl yn y gorffennol neu'r presennol, a hostel mechnïaeth neu brawf (Cymru a Lloegr yn unig)
gofalwyr
gweithwyr gofal
rhai sy'n aros mewn hostel neu loches nos, er enghraifft, hostel Byddin yr Iachawdwriaeth neu Fyddin yr Eglwys
rhai sy'n gadael ysgol neu goleg sy'n yn dal i fod dan 20 oed, a adawodd yr ysgol neu'r coleg ar ôl 30 Ebrill. Byddant yn cael eu diystyru tan 1 Tachwedd yn yr un flwyddyn, waeth a fyddan nhw’n gweithio ai peidio
18 oed a bod gan rywun hawl i gael budd-dal plant ar eu cyfer nhw. Mae hyn yn cynnwys rhywun sydd wedi gadael ysgol neu goleg mewn gwaith am dâl, neu unigolyn dan ofal awdurdod lleol
aelodau o gymuned grefyddol
aelodau o’r lluoedd arfog a'u dibynyddion.
Os caiff pawb sy'n byw yn yr eiddo ei ddiystyru, bydd angen talu bil treth gyngor o hyd gyda gostyngiad o 50 y cant.
Os ydych chi'n aros yn yr eiddo ond nad dyma'ch prif gartref, byddwch hefyd yn cyfrif fel rhywun wedi'i ddiystyru. Os mai chi yw'r unig berson sy'n byw yno a bod eich prif eiddo yn rhywle arall, bydd yr eiddo hwn yn cyfrif fel eich ail gartref a gall rheolau arbennig leihau'r gostyngiad a ganiateir.
Bydd awdurdod lleol yn anfon bil treth sy'n cynnwys gostyngiad yn awtomatig. Bydd y disgownt/gostyngiad yn ymddangos ar y bil.
Os ydych chi'n credu bod gennych hawl i gael disgownt ac nad yw'r bil yn dangos hynny, dylech wneud cais i'r awdurdod lleol am ddisgownt, cyn gynted ag y bo modd.
Os yw'r bil yn dangos bod yr awdurdod lleol wedi cyflwyno gostyngiad a'ch bod yn credu na ddylech gael un, rhaid i chi ddweud wrth yr awdurdod lleol cyn pen 21 diwrnod. Os na wnewch chi hyn, gall yr awdurdod lleol osod cosb yn ddiweddarach.
Cartrefi gwyliau ac ail gartrefi
Os oes gennych gartref gwyliau neu ail gartref, dylech wirio rheolau eich cyngor lleol ynghylch treth y cyngor. Gallai eich cyngor lleol naill ai:
roi gostyngiad i chi ar eich treth gyngor
godi swm ychwanegol sef 'premiwm' arnoch - gallai hyn fod hyd at 300% o'ch treth gyngor
Gallwch wirio rheolau'r cyngor lleol am ostyngiadau treth gyngor ar eu gwefan. Os nad ydych yn siŵr ym mha ardal y cyngor y mae eich cartref ynddo, gallwch ddod o hyd i'r cyngor lleol ar GOV.UK.
Os ydych yn rhentu'ch eiddo fel gwyliau hunanarlwyo, efallai na fydd yn rhaid i chi dalu'r dreth gyngor - rydych yn talu trethi busnes yn lle hynny.
Ni fydd yn rhaid i chi dalu treth y cyngor os yw'r cyfan o'r canlynol yn berthnasol i'r eiddo:
roedd ar gael i'w osod am o leiaf 252 diwrnod yn ystod y flwyddyn ddiwethaf
fe'i gosodwyd am o leiaf 182 diwrnod yn ystod y flwyddyn ddiwethaf
rydych yn bwriadu ei osod am o leiaf 252 diwrnod y flwyddyn nesaf
Gallwch ddarganfod mwy am ardrethi busnes ar gyfer llety gwyliau hunanarlwyo ar GOV.UK.
Gostyngiad y Dreth Gyngor a gostyngiadau yn ôl disgresiwn
Os ydych yn atebol i dalu'r dreth gyngor, mae'n bosib y byddwch yn gymwys i gael gostyngiad yn y dreth gyngor. Bydd faint o ostyngiad y gallwch ei gael yn dibynnu ar eich incwm a'ch cyfalaf.
Waeth a ydych yn gymwys i gael gostyngiad treth gyngor ai peidio, gallwch ofyn i'ch awdurdod lleol wneud gostyngiad yn ôl disgresiwn oddi ar y bil. Dylech nodi eich amgylchiadau wrth ofyn iddyn nhw ystyried eich cais. Os nad ydych chi'n hapus gyda'u penderfyniad am eich cais gallwch gwyno neu apelio.
I gael rhagor o wybodaeth am gymorth gyda'r dreth gyngor, neu sut i apelio yn erbyn penderfyniad am ostyngiad yn y dreth gyngor neu ostyngiad yn ôl disgresiwn, ewch i Cymorth gyda'ch treth gyngor – gostyngiadau.
Premiwm cartrefi gwag ar gyfer eiddo gwag hirdymor
Gall y cyngor godi premiwm 'tai gwag' arnoch os yw'ch cartref yn wag a heb ei ddodrefnu am flwyddyn neu fwy - rydych yn talu hyn ar ben eich treth gyngor.
Gall y premiwm fod hyd at 300% o'ch treth gyngor.
Os yw eich eiddo eisoes wedi'i eithrio rhag treth y cyngor, ni chodir y premiwm tai gwag arnoch. Ni chodir y premiwm arnoch ychwaith os yw'ch eiddo:
ar y farchnad - naill ai i'w werthu neu i'w osod, am hyd at 1 flwyddyn
yn unig neu'n brif breswylfa aelod o'r lluoedd arfog, sy'n byw mew llety lluoedd arfog ar gyfer ei waith
yn atodiad sy'n cael ei ddefnyddio fel rhan o'ch prif breswylfa
Sut i dalu'r dreth gyngor
Bydd biliau'r dreth gyngor yn cael eu hanfon ym mis Ebrill.
Mae gennych hawl i dalu drwy 10 rhandaliad, a gallwch hefyd ofyn am gael talu mewn 12 rhandaliad. Gall awdurdodau lleol dderbyn taliadau bob wythnos neu bob pythefnos.
Efallai y bydd rhai'n cynnig gostyngiad yn y bil cyfan os caiff ei dalu i gyd ar unwaith, ar ddechrau'r flwyddyn.
Ôl-ddyledion
Os na fyddwch yn talu rhandaliad o'r dreth gyngor o fewn 28 diwrnod i'r dyddiad y mae'n ddyledus, a'ch bod wedi bod yn hwyr yn talu dau randaliad o'r blaen, byddwch yn colli'r hawl i dalu fesul rhandaliadau ac yn gorfod talu'r swm llawn ar unwaith. Yn ymarferol, bydd y rhan fwyaf o awdurdodau lleol yn dal i dderbyn taliadau drwy randaliadau.
Os na fyddwch chi'n talu rhandaliad o'r dreth gyngor o fewn 28 diwrnod i'r dyddiad dyledus, caiff yr awdurdod lleol ofyn i lys ynadon gyflwyno gwŷs llys am yr ôl-ddyledion. Os na dalwch chi'r rhain erbyn dyddiad y gŵys llys, gall yr awdurdod lleol ofyn i'r ynadon gyflwyno gorchymyn atebolrwydd.
Mae gorchymyn atebolrwydd yn caniatáu i awdurdod lleol wneud trefniadau i'r ôl-ddyledion gael eu talu drwy ddidyniadau o gymhorthdal incwm, lwfans ceisio gwaith neu gyflog yr unigolyn, neu i feilïaid atafaelu nwyddau'r unigolyn sy'n werth y swm sy'n ddyledus.
Os oes gennych chi ôl-ddyledion treth gyngor dylech siarad â chynghorydd.
Apeliadau
Gellir gwneud apeliadau am ystod o faterion yn ymwneud â'r dreth gyngor. Rhaid apelio naill ai i'r swyddfa brisio neu i'r awdurdod lleol yn dibynnu ar y mater dan sylw.
Gellir gwneud apeliadau i'r swyddfa brisio ynghylch y canlynol:
a ddylai'r eiddo fod ar y rhestr brisio ai peidio
ym mha fand prisio y mae'r eiddo (gweler dan 'Valuation lists and bands' yn Beth yw Treth Gyngor
eiddo sy'n rhannol ddomestig ac yn rhannol fusnes, pa gyfran o'r eiddo sy'n ddomestig.
Gellir gwneud apeliadau i'r awdurdod lleol ynghylch:
a yw rhywun yn berson atebol ai peidio. Mae hyn yn cynnwys rhywun sy'n gyd-atebol oherwydd bod dau neu fwy o bobl ar yr un lefel hierarchaeth neu fod rhywun yn gyd-atebol am eu bod yn un o gwpl
a yw'r eiddo wedi'i eithrio ai peidio
a oes gostyngiad yn gymwys, a faint
a yw'r cynllun gostyngiad ar gyfer pobl ag anableddau yn berthnasol ai peidio.
Ni ellir apelio yn erbyn lefel y dreth gyngor a bennir neu bob band prisio ar gyfer yr ardal.
Pwy sy'n gallu apelio
Mae'r canlynol yn gallu apelio yn erbyn penderfyniad y swyddfa brisio:
perchennog yr eiddo
yr unigolyn atebol, gan gynnwys person sy'n gyd-atebol. Mae rheolau arbennig ynghylch pryd y gall person atebol apelio am fand prisio eiddo (gweler 'Terfynau amser ar gyfer apelio yn erbyn band prisio'r eiddo' isod)
y person a fyddai'n atebol pe na bai'r eiddo wedi'i eithrio
yr awdurdod lleol.
Mae'r canlynol yn gallu apelio yn erbyn penderfyniad yr awdurdod lleol:
person atebol, gan gynnwys person sy'n gyd-atebol
person a dramgwyddir. Rhywun sydd wedi'i effeithio'n uniongyrchol gan y penderfyniad, er enghraifft, gweinyddwr ystâd person atebol sydd wedi marw.
Fel arfer, mae'n rhaid i bobl sy'n dymuno apelio fod wedi symud i'r eiddo am lai na chwe mis, neu'n byw mewn eiddo newydd sydd wedi'i ychwanegu at y rhestr brisio yn ddiweddar. Mae rheolau arbennig yn berthnasol i apeliadau sy'n ymwneud â band prisio'r eiddo – gweler isod.
Apeliadau i newid band prisio eiddo
Gellir newid y rhestr brisio i osod eiddo mewn band prisio gwahanol:
os oedd gwall pan luniwyd y rhestr yn y lle cyntaf; neu
os cafodd yr eiddo ei brisio'n anghywir, er enghraifft, am nad oedd y swyddog prisio yn gwybod am nodweddion mewnol yr eiddo a oedd yn lleihau ei werth; neu
mewn eiddo sy'n rhannol ddomestig ac yn rhannol fusnes, mae'r gyfran ddomestig wedi cynyddu neu ostwng, neu mae'r eiddo wedi dod yn gyfan gwbl ddomestig neu'n gyfan gwbl yn fusnes; neu
bu newidiadau i'r eiddo sydd wedi gostwng ei werth; neu
bu newidiadau i'r eiddo sydd wedi cynyddu ei werth ac mae'r eiddo wedi'i werthu ers hynny.
Mae rheolau arbennig ynghylch pryd gall person atebol apelio yn erbyn band prisio ei eiddo – gweler isod.
Terfynau amser ar gyfer apelio yn erbyn band prisio eiddo
Pennwyd terfynau amser gwahanol ar gyfer apelio yn erbyn band prisio eiddo domestig yn rhestr brisio 1993 a rhestr brisio 2005.
Terfynau amser ar gyfer apeliadau i newid y band prisio yn rhestr brisio 1993
Rhaid gwneud apêl i newid band prisio eiddo yn rhestr brisio 1993 erbyn 31 Rhagfyr 2005 fan bellaf. Dim ond dan yr amgylchiadau canlynol mae modd apelio:
mae'r person sy'n atebol am yr eiddo wedi newid. Bydd gan y person(au) atebol newydd chwe mis o'r dyddiad y daw'n atebol neu hyd at 31 Rhagfyr 2005, p'un bynnag yw'r cynharaf, i wneud cynnig i newid y band prisio, neu
mae eiddo wedi'i ychwanegu at y rhestr brisio yn ddiweddar. Mae gan y person atebol chwe mis o'r dyddiad y daw'n berson atebol neu hyd at 31 Rhagfyr 2005, p'un bynnag yw'r cynharaf, i wneud cynnig i newid y rhestr.
Gellir ymestyn terfyn amser 31 Rhagfyr 2005 dan rai amgylchiadau arbennig. Os hoffech wybod mwy am hyn, dylech siarad â chynghorydd.
Terfynau amser ar gyfer apeliadau i newid y band prisio yn rhestr brisio 2005
Os yw eiddo domestig yn rhestr brisio 2005 ar 1 Ebrill 2005, yna gall y person sy'n atebol i dalu'r dreth gyngor ar 1 Ebrill 2005 wneud apêl i newid y band prisio rhwng 1 Ebrill 2005 a 30 Medi 2006.
Os bydd y person sy'n atebol am eiddo yn newid, caiff y person(au) atebol newydd chwe mis o'r dyddiad y daw'n atebol i wneud cynnig i newid y band prisio. Felly, er enghraifft, petaech yn dod yn berson atebol ar 1 Mai 2005 byddai gennych chwe mis o 1 Mai 2005 i wneud cynnig i newid y rhestr. Mae hyn ar yr amod nad yw eich rhesymau dros y cynnig wedi'u hystyried a'u gwrthod eisoes gan dribiwnlys prisio neu'r Uchel Lys.
Os yw eiddo wedi'i ychwanegu at y rhestr brisio ers 1 Ebrill 2005, mae gan y person atebol chwe mis o'r dyddiad y daw'n berson atebol i wneud cynnig i newid y rhestr. Yn ymarferol, mae hyn yn golygu chwe mis o'r dyddiad y mae'r eiddo ar y rhestr brisio yn y lle cyntaf.
Gweithdrefnau
Apelio i'r swyddfa brisio
Er mwyn apelio, rhaid i chi gyflwyno cynnig i'r swyddfa brisio yn dweud beth ddylai gael ei newid, yn eich barn chi, a pham. Os nad yw'r swyddfa brisio yn cytuno i'r newidiadau, mae'r cynnig yn dod yn apêl yn awtomatig ac yn cael ei glywed gan dribiwnlys prisio.
Dim ond mewn band gwahanol y gellir rhoi eiddo dan rai amgylchiadau, er enghraifft, os oes rhywbeth wedi digwydd i ostwng gwerth yr eiddo yn sylweddol.
Apelio i'r awdurdod lleol
Cam cyntaf apêl i'r awdurdod lleol yw gwneud gwneud cwyn ysgrifenedig am y broblem i'r awdurdod lleol. Os nad yw'r awdurdod lleol yn datrys y broblem, yna gellir gwneud apêl i'r tribiwnlys prisio.
Y Tribiwnlys Prisio
Ym mhob achos, bydd y Tribiwnlys Prisio yn ystyried yr holl wybodaeth am yr achos penodol ac yn penderfynu beth ddylai ddigwydd. Gallant benderfynu ar sail sylwadau ysgrifenedig neu gallant alw ar bawb sy'n gysylltiedig â chyfarfod i glywed eu tystiolaeth.
Gallwch gael mwy o wybodaeth ar wefan Tribiwnlys Prisio Cymru yn: www.valuation-tribunals-wales.org.uk
Os ydych am wneud apêl naill ai i swyddfa brisio neu awdurdod lleol, dylech siarad â chynghorydd
Amgylchiadau penodol
Mae pwyntiau penodol i'w cofio dan yr amgylchiadau canlynol:
Os ydych chi'n byw'n barhaol mewn gwesty - ni fyddwch yn atebol am y dreth gyngor ar yr eiddo; bydd prisiau'r gwesty yn debygol o gynnwys unrhyw dreth gyngor sy'n daladwy
Os oes gennych fwy nag un cartref - efallai y byddwch yn talu treth gyngor is ar eich ail gartref (os nad oes neb yn byw yno) a threth gyngor lawn ar eich prif gartref
Os oes gennych chi garafanau neu gartrefi symudol - os ydych chi'n byw'n barhaol mewn carafán neu gartref symudol byddwch yn talu'r dreth gyngor. Bydd pobl sydd â charafán sefydlog fel cartref gwyliau yn talu'r ardreth fusnes. Ni fydd angen talu'r dreth gyngor na'r ardreth fusnes ar garafanau tynnu sy'n cael eu cadw yn eich cartref
Os ydych chi'n fyfyriwr llawn amser mewn addysg uwch - bydd yn rhaid i chi dalu'r dreth gyngor os mai chi yw'r person atebol am eiddo. Fodd bynnag, os yw pawb sy'n byw yn yr eiddo yn fyfyrwyr ni fydd angen talu unrhyw dreth gyngor.
Os ydych chi'n perthyn i unrhyw un o'r grwpiau hyn ac angen rhagor o wybodaeth dylech siarad â chynghorydd.
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.