Discretionary Assistance Fund Briefing
The Discretionary Assistance Fund (DAF) briefing [ 110 kb]
The Discretionary Assistance Fund (DAF) is a Wales-wide scheme that was established in April 2013 following the devolution of discretionary elements of the Department for Work and Pensions (DWP) Social Fund to the Welsh Government. The devolved fund replaces Crisis Loans and Community Care Grants which stopped at the end of March that year.
The Welsh DAF provides grants in the form of Emergency Assistance Payments (EAPs) - to help in an emergency or when there is an immediate threat to health or wellbeing - and Individual Assistance Payments (IAPs) - to help people to remain, or begin, living independently in the community.
Last year Citizens Advice Cymru undertook an ad hoc survey to find out more about the experiences of both users and advisers in accessing DAF during its first year of operation. This briefing highlights some of the findings of that research, along with the findings of a more recent review into client experiences among Citizens Advice bureaux advisers.
March 2015
Cronfa Cymorth Dewisol – briff [ 150 kb]
Mae’r Gronfa Cymorth Dewisol (y Gronfa) yn gynllun Cymru gyfan a sefydlwyd ym mis Ebrill 2013 yn dilyn datganoli elfennau dewisol o Gronfa Gymdeithasol yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) i Lywodraeth Cymru. Mae’r gronfa ddatganoledig yn disodli’r Benthyciadau Argyfwng a’r Grantiau Gofal Cymunedol a ddaeth i ben ddiwedd mis Mawrth y flwyddyn honno.
Mae Cronfa Cymru’n darparu grantiau ar ffurf Taliadau Cymorth mewn Argyfwng (EAP) – i helpu mewn argyfwng neu pan fo bygythiad uniongyrchol i iechyd neu les – a Thaliadau Cymorth i Unigolion (IAP) – i helpu pobl i ddechrau neu i barhau i fyw’n annibynnol yn y gymuned.
Y llynedd, gwnaeth Cyngor ar Bopeth arolwg ad hoc i ddysgu rhagor am brofiadau defnyddwyr a chynghorwyr wrth wneud ceisiadau i’r Gronfa yn ystod ei blwyddyn gyntaf. Mae’r briff hwn yn tynnu sylw at rai o ganfyddiadau’r ymchwil a wnaed, ynghyd â chanfyddiadau adolygiad mwy diweddar o brofiadau cleientiaid ymhlith cynghorwyr canolfannau Cyngor ar Bopeth.
Mawrth 2015