Defnyddio ein gwasanaeth Gorchymyn Rhyddhau o Ddyled (DRO) - ein polisi preifatrwydd
Pan fyddwch yn cysylltu â ni, rydym yn casglu gwybodaeth bersonol amdanoch er mwyn nodi a ydych yn gymwys ar gyfer Gorchymyn Rhyddhau o Ddyled (DRO), a gwneud cais am un ar eich rhan. Gallwn wneud hyn o dan sail gyfreithiol o’r enw ‘tasg gyhoeddus’. Mae hyn yn golygu ei fod yn caniatáu inni gyflawni tasg sydd er budd y cyhoedd neu’n rhan o’n swyddogaethau swyddogol, ac sydd â sail glir yn y gyfraith. Rydym wedi ein hawdurdodi gan y Gwasanaeth Ansolfedd i ddrafftio ac anfon ceisiadau DRO ar gyfer ein cleientiaid.
Rydym yn cael eich gwybodaeth:
-
drwy siarad â chi dros y ffôn, drwy alwad fideo neu sgwrs
-
o gofnodion ar ein system rheoli achosion - os ydych wedi derbyn cyngor gennym o'r blaen
-
gan asiantaethau gwirio credyd - gyda'ch caniatâd
Mae gennym 'fuddiant dilys' i wneud hyn o dan gyfraith diogelu data. Mae hyn yn golygu bod modd i ni gyflawni ein nodau a'n hamcanion fel sefydliad. Byddwn yn gofyn am eich caniatâd bob amser cyn eich cynrychioli neu rannu eich gwybodaeth.
Byddwn yn gofyn am eich caniatâd bob amser cyn storio gwybodaeth am y canlynol:
-
cyflyrau iechyd
-
tarddiad ethnig
-
crefydd
-
aelodaeth o undeb llafur
-
cyfeiriadedd rhywiol
Does dim rhaid i chi roi’r wybodaeth hon i ni os nad ydych chi eisiau gwneud hynny.
Os oes angen i chi gysylltu â ni am eich gwybodaeth
Os oes angen rhagor o fanylion arnoch ynglŷn â sut rydym yn prosesu eich gwybodaeth, cysylltwch â'r Uned DRO.
Uned DRO
Armstrong House
Abbeywoods Business Park
Pity Me
Durham
DH1 5GH
E-bost: masdrounit@citizensadvicecd.org.uk
Rhif ffôn: 0191 372 6696
Dydd Llun - Dydd Gwener, 9am i 5pm
Mae galwadau fel arfer yn costio hyd at 55c y funud o ffonau symudol a hyd at 13c y funud o linellau tir. Dylai fod yn rhad ac am ddim os oes gennych gontract sy'n cynnwys galwadau i linellau tir - holwch eich cyflenwr os nad ydych yn siŵr.
Y wybodaeth rydym yn gofyn amdano
Rydym ond yn cofnodi gwybodaeth a fydd yn ein helpu i asesu eich cymhwysedd ar gyfer DRO a chwblhau eich cais am DRO. Mae hyn yn cynnwys eich enw, eich manylion cyswllt a gwybodaeth am eich sefyllfa ariannol fel dyledion, incwm a gwariant.
Gyda'ch caniatâd, byddwn yn cysylltu ag asiantaethau gwirio credyd ar eich rhan. Byddant yn rhoi copi o'ch adroddiad credyd i ni sy'n nodi eich dyledion a'ch credyd.
Mae'n bosibl y byddwn yn gofyn am wybodaeth ddemograffig fel eich rhywedd neu eich ethnigrwydd.
Sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth
Y prif reswm y mae angen eich gwybodaeth arnom yw cwblhau eich cais am DRO.
Dim ond os bydd wir angen inni wneud hynny y byddwn yn cyrchu'ch gwybodaeth ac mae gennym fudd cyfreithlon i wneud hyn o dan gyfraith diogelu data. Mae hyn yn golygu ei fod yn caniatáu inni gyflawni ein nodau fel sefydliad. Er enghraifft, efallai y byddwn yn cyrchu eich gwybodaeth:
-
at ddibenion hyfforddiant ac ansawdd
-
i ymchwilio i gwynion
-
i gael adborth gennych am ein gwasanaethau
-
i'n helpu i wella ein gwasanaethau
Rydym yn defnyddio rhywfaint o wybodaeth i greu ystadegau ynglŷn â phwy sy'n derbyn cymorth gennym, a nodi'r problemau mwyaf cyffredin. Mae'r wybodaeth hon yn ddienw bob amser - nid oes modd eich adnabod. Rydym yn rhannu'r ystadegau hyn â'r Gwasanaeth Cynghori Ariannol, ein cyllidwr.
Pan fyddwn yn rhannu eich gwybodaeth â sefydliadau eraill
Weithiau rydym yn rhannu eich gwybodaeth bersonol â sefydliadau eraill - rydym ond yn gwneud hyn er mwyn eich helpu gyda'ch cais neu fonitro ansawdd ein gwasanaethau. Byddwn yn cael eich caniatâd cyn gwneud hyn.
Mae'n rhaid i sefydliadau rydym yn rhannu eich data â nhw ei storio a'i ddefnyddio yn unol â chyfraith diogelu data - ni allant ei drosglwyddo na'i werthu heb eich caniatâd. Gallwch wirio’r hysbysiadau preifatrwydd ar eu gwefannau am ragor o wybodaeth am sut y byddant yn defnyddio’ch data personol.
 phwy rydym yn rhannu eich gwybodaeth
Rydym yn rhannu eich cais am DRO gyda derbynnydd swyddogol yn y Gwasanaeth Ansolfedd sy'n prosesu eich cais.
Gyda'ch caniatâd, mae'n bosibl y bydd angen i ni rannu eich manylion gyda'r canlynol:
-
credydwyr - i gael mwy o wybodaeth am eich dyledion
-
asiantaethau gwirio credyd - i gael copi o'ch adroddiad credyd
-
cyflogwyr neu swyddfeydd budd-daliadau - i gael manylion am eich incwm
-
ein partneriaid ymchwil dibynadwy, Optimisa, PWC Research a 2CV, i gael eich adborth ar ein gwasanaeth
-
Y Corff Cyfarwyddyd Ariannol Sengl (SFGB), ein cyllidwyr - er mwyn iddo wirio ansawdd ein cyngor
Y Corff Cyfarwyddyd Ariannol Sengl (SFGB) yw'r sefydliad a sefydlwyd yn sgil uno'r Gwasanaeth Cynghori Ariannol, Pension Wise a'r Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau. Yn flaenorol, gyda'ch caniatâd, rhannwyd rhai o'ch manylion gyda'r Gwasanaeth Cynghori Ariannol (MAS) er mwyn iddo wirio ansawdd ein cyngor - gallwch wirio hysbysiad preifatrwydd y Gwasanaeth Arian a Phensiynau ar eu gwefan.
Storio eich gwybodaeth
Mae eich gwybodaeth yn cael ei storio'n ddiogel yn ein systemau mewnol. Mae'r holl staff a gwirfoddolwyr sydd â mynediad at eich data wedi cael hyfforddiant diogelu data er mwyn sicrhau bod eich gwybodaeth yn cael ei thrin yn sensitif ac yn ddiogel.
Bydd eich cynghorydd DRO yn cofnodi eich holl fanylion DRO yn ein system rheoli achosion diogel.
Rydym yn cadw eich gwybodaeth am 6 blynedd. Os yw eich achos wedi bod yn destun cwyn ddifrifol, hawliad yswiriant neu anghydfod arall, rydym yn cadw'r data am 16 mlynedd.
Cynhelir ein systemau rheoli achosion yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE), a lle bynnag y bo modd, yn y DU.
Os ydych chi eisiau cwyno
Os nad ydych yn hapus â sut rydym wedi ymdrin â'ch data, gallwch gwyno.