Gweld a all eich plentyn gael hawl barhaol i fyw yn y DU
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Dod ag aelodau o’r teulu o Wcráin i’r DU
Mae rheolau arbennig ar gyfer aelodau o’r teulu sy’n wladolion Wcráin. Darllenwch y rheolau ynghylch dod ag aelodau o’r teulu o Wcráin i’r DU.
Efallai y gallwch wneud cais i'ch plentyn fyw'n barhaol yn y DU - gelwir hyn yn 'ganiatâd amhenodol'. Dim ond os yw eich plentyn o dan 18 oed y gallwch wneud cais - oni bai ei fod eisoes yn y DU ar fisa plentyn.
Os byddwch chi'n gwneud cais i'ch plentyn gael caniatâd amhenodol, fe'ch gelwir yn 'noddwr' iddo. Bydd yn costio dros £2,500 i gael caniatâd amhenodol ar gyfer eich plentyn.
Bydd angen i chi wirio:
a allwch chi noddi eich plentyn
a all eich plentyn wneud cais am ganiatâd amhenodol
y rheolau ynghylch eich incwm a'ch cynilion
bod lle rydych chi’n byw yn ddiogel ac yn addas
Gweld a allwch chi noddi eich plentyn
Gallwch noddi eich plentyn i wneud cais am ganiatâd amhenodol:
os oes gennych chi a rhiant arall eich plentyn hawl barhaol i fyw yn y DU - rhaid i'r ddau ohonoch fod yn y DU neu'n symud i'r DU gyda'ch plentyn
os oes gennych chi gyfrifoldeb llwyr dros eich plentyn ac mae gennych hawl barhaol i fyw yn y DU
Chi sy’n llwyr gyfrifol os chi yw’r unig un sy’n gyfrifol am fagwraeth a lles eich plentyn. Mae hyn fel arfer yn golygu nad yw rhiant arall eich plentyn yn rhan o'i fywyd.
Mae gennych hawl barhaol i fyw yn y DU os oes gennych un o’r canlynol:
Dinasyddiaeth Brydeinig
Dinasyddiaeth Wyddelig - rhaid i chi fod yn byw neu wedi byw yn y DU
caniatâd amhenodol i aros neu hawl preswylio
statws preswylydd sefydlog o’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE
Os ydych chi'n gwneud cais am ganiatâd amhenodol, gallwch wneud cais am eich plentyn ar yr un pryd. Bydd y Swyddfa Gartref yn gwneud penderfyniad am eich cais cyn gwneud penderfyniad am gais eich plentyn.
Os ydych chi’n ffoadur neu os oes gennych ddiogelwch dyngarol
Gall eich plentyn wneud cais i ymuno â chi o dan reolau 'aduno teulu' ffoaduriaid os cafodd ei genhedlu neu ei fabwysiadu cyn i chi orfod gadael eich gwlad. Mae'n rhad ac am ddim ac yn haws gwneud cais, a does dim angen i chi gael caniatâd amhenodol.
Edrychwch ar GOV.UK i weld sut gall eich plentyn wneud cais am aduniad teuluol.
Os nad oes gennych chi neu riant arall y plentyn hawl barhaol i fyw yn y DU
Fel arfer, ni chaiff eich plentyn wneud cais am ganiatâd amhenodol.
Os oes gennych chi neu'ch partner fisa partner, efallai y gallwch wneud cais i'ch plentyn gael fisa plentyn - bydd yn para cyhyd â'r fisa partner. Gweld a all eich plentyn gael fisa plentyn.
Os oes gennych chi neu eich partner fath arall o fisa, gallai hefyd adael i chi noddi eich plentyn i ymuno â chi fel dibynnydd. Bydd angen i chi wirio rheolau eich fisa. Er enghraifft:
edrychwch ar y rheolau os oes gennych chi fisa gweithiwr medrus ar GOV.UK
edrychwch ar y rheolau os oes gennych chi fisa myfyriwr ar GOV.UK
Os oes gennych fath arall o fisa, dylech allu dod o hyd i'r rheolau ar gyfer eich fisa ar GOV.UK.
Os cafodd eich plentyn ei eni yn y DU neu os oes gan un o’i rieni ddinasyddiaeth Brydeinig
Efallai y bydd gan eich plentyn ddinasyddiaeth Brydeinig yn awtomatig.
Os nad yw eich plentyn yn ddinesydd Prydeinig yn barod, efallai y gallwch wneud cais am ddinasyddiaeth iddo. Mae'n dibynnu ar ble cafodd ei eni a'ch statws mewnfudo chi. Mae’n costio llai na gwneud cais am ganiatâd amhenodol i aros.
Holwch a oes gan eich plentyn ddinasyddiaeth Brydeinig neu a all wneud cais am un.
Os ydych chi'n ddinesydd yr UE, Norwy, y Swistir, Gwlad yr Iâ neu Liechtenstein
Efallai y bydd eich plentyn yn gallu gwneud cais am statws preswylydd cyn-sefydlog neu sefydlog o’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE. Mae’n rhad ac am ddim ac yn haws na gwneud cais am ganiatâd amhenodol.
Gall eich plentyn wneud cais i’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE os oeddech chi’n byw yn y DU erbyn 31 Rhagfyr 2020.
Os plentyn eich partner ydyw, gall wneud cais i Gynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE os oeddech chi’n byw yn y DU erbyn 31 Rhagfyr 2020 a bod un o’r canlynol yn berthnasol:
gwnaethoch chi a’i riant arall briodi neu gofrestru partneriaeth sifil erbyn 31 Rhagfyr 2020
roeddech chi a’i riant arall yn byw gyda’ch gilydd am 2 flynedd erbyn 31 Rhagfyr 2020
rydych chi'n ddinesydd o'r Swistir ac rydych chi a'ch partner yn briod - bydd hyn yn berthnasol os byddwch yn priodi ar unrhyw adeg tan 31 Rhagfyr 2025
Gallwch weld a all eich plentyn wneud cais i'r Cynllun Preswylio'n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE.
Gallwch weld pa wledydd sydd yn yr UE ar GOV.UK.
Os gwnaethoch gyrraedd y DU ar ôl 31 Rhagfyr 2020
Os gwnaethoch gais a bod gennych statws cyn-sefydlog fel aelod o'r teulu, ni all eich plentyn wneud cais am ganiatâd amhenodol.
Gall eich plentyn wneud cais i'r Cynllun Preswylio'n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE os yw un o'i rieni:
yn un o ddinasyddion yr UE, Norwy, y Swistir, Gwlad yr Iâ neu Liechtenstein
yn byw yn y DU erbyn 31 Rhagfyr 2020
Os na all eich plentyn wneud cais, bydd angen i chi aros nes i chi gael statws sefydlog cyn y gall eich plentyn wneud cais am ganiatâd amhenodol. Gwiriwch y rheolau ynghylch newid o statws preswylydd cyn-sefydlog i statws preswylydd sefydlog.
Os cawsoch eich geni yng Ngogledd Iwerddon
Efallai y bydd eich plentyn neu blentyn eich partner yn gallu gwneud cais am statws preswylydd cyn-sefydlog neu sefydlog o dan y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE. Mae'n rhad ac am ddim ac yn haws na gwneud cais am ganiatâd amhenodol.
Efallai y gall y plentyn wneud cais am statws preswylydd cyn-sefydlog neu sefydlog os oes gennych ddinasyddiaeth Brydeinig neu Wyddelig - neu'r ddau. Pan gawsoch eich geni, rhaid i un o’ch rhieni fod wedi cael naill ai:
dinasyddiaeth Brydeinig neu Wyddelig - neu’r ddwy
statws mewnfudo sy'n gadael iddynt fyw yn y DU yn barhaol - er enghraifft, caniatâd amhenodol
Rhaid eich bod wedi bod yn byw yn y DU erbyn 31 Rhagfyr 2020.
Os plentyn eich partner ydyw, dim ond os yw’r canlynol yn berthnasol i chi a'ch partner y gall wneud cais:
wedi priodi neu fod wedi cofrestru partneriaeth sifil erbyn 31 Rhagfyr 2020
yn byw gyda’ch gilydd am 2 flynedd erbyn 31 Rhagfyr 2020
Gweld a all eich plentyn wneud cais am ganiatâd amhenodol
Os yw eich plentyn y tu allan i'r DU, rhaid iddo fod o dan 18 oed i wneud cais am gyfnod amhenodol.
Os yw eich plentyn eisoes yn y DU, dim ond os oes ganddo fisa plentyn y gall wneud cais am ganiatâd amhenodol. Mae’n dal yn gallu gwneud cais os yw dros 18 oed. Efallai ei fod wedi cael fisa plentyn os oedd gan ei riant un o’r canlynol:
fisa partner
fisa fel rhiant plentyn yn y DU - bydd hwn yn blentyn gwahanol
Mae Toshiya yn ddinesydd Japaneaidd a oedd yn byw yn Japan. Toshiya sy’n llwyr gyfrifol am ei ferch, Hana. Mae Hana hefyd yn ddinesydd o Japan.
Pan oedd Hana yn 14 oed, priododd Toshiya â dinesydd Prydeinig, Anita. Symudodd Anita yn ôl i’r DU a chafodd Toshiya fisa partner i symud gyda hi. Arhosodd Hana yn Japan i barhau â’i haddysg.
Pan ddaeth Hana â’i haddysg i ben yn 16 oed, cafodd fisa plentyn i ddod i’r DU. Gallai wneud hyn oherwydd bod gan Toshiya fisa partner.
Mae Toshiya bellach wedi cael caniatâd amhenodol. Mae Hana yn 19 oed.
Gall Hana wneud cais am ganiatâd amhenodol oherwydd mai Toshiya sy’n llwyr gyfrifol amdani ac mae ganddo statws mewnfudo sy’n gadael iddo fod yn noddwr. Gall wneud cais er ei bod yn y DU ac yn hŷn na 18 oed oherwydd bod ganddi fisa plentyn.
Os yw eich plentyn yn y DU ac yn hŷn na 18 oed, fel arfer bydd angen iddo basio prawf ‘Bywyd yn y DU’ a phrawf Saesneg cyn gwneud cais. Gallwch:
Os nad yw eich plentyn wedi pasio'r profion, gall wneud cais am amser ychwanegol i fyw yn y DU - gelwir hyn yn 'ganiatâd cyfyngedig'. Dylai ei gwneud yn glir ei fod yn gwneud cais am ganiatâd cyfyngedig - bydd y cais yn costio llai. Unwaith y bydd eich plentyn wedi pasio'r profion, gall wneud cais am ganiatâd amhenodol ar unwaith.
Os yw eich plentyn yn annibynnol
Chewch chi ddim noddi eich plentyn os yw’n annibynnol, er enghraifft:
os yw'n byw gyda phartner
os yw wedi gadael cartref - oni bai ei fod wedi gadael ei gartref i astudio
Os nad nhw yw eich plentyn yn un biolegol neu fabwysiedig
Gallwch noddi'r plentyn os yw ei riant wedi marw a chithau'n ŵr, yn wraig neu'n bartner sifil i'r rhiant.
Efallai y byddwch hefyd yn gallu noddi'r plentyn os yw'r canlynol yn berthnasol:
rydych chi'n perthyn iddo
mae rhesymau difrifol pam y dylid caniatáu iddo ddod i'r DU - er enghraifft am nad oes neb arall a allai ofalu amdano yn unman arall
Gofynnwch am help gan gynghorydd arbenigol os ydych chi am noddi plentyn pan nad ydych chi'n rhiant nac yn llys-riant iddo.
Os ydych chi am fabwysiadu plentyn o dramor, mae rheolau gwahanol - gofynnwch am help gan gynghorydd arbenigol.
Darllenwch y rheolau ynghylch eich incwm a'ch cynilion
Os ydych chi neu'ch partner yn gwneud cais am ganiatâd amhenodol ar yr un pryd
Bydd angen i chi basio prawf gwahanol o’r enw ‘gofyniad ariannol’. Darllenwch y rheolau ynghylch gwneud cais am ganiatâd amhenodol i oedolion.
Rhaid i chi ddangos y bydd gennych ddigon o incwm bob wythnos i ofalu am eich plentyn. Gelwir hyn yn brawf ‘cynnal a chadw digonol’.
I weld a allwch chi basio'r prawf cynnal a chadw digonol, rhaid i chi gyfrifo'n gyntaf faint o incwm y mae'r llywodraeth yn dweud bod ei angen arnoch bob wythnos. Yna bydd angen i chi wirio a oes gennych ddigon o incwm.
Cyfrifwch faint o incwm sydd ei angen arnoch bob wythnos
I gyfrifo faint o incwm y mae'r llywodraeth yn dweud bod ei angen arnoch bob wythnos, adiwch y canlynol at ei gilydd:
£77 os ydych chi'n sengl neu £121.05 os ydych chi'n byw gyda phartner
£70.80 ar gyfer pob plentyn dan 18 oed a fydd yn byw gyda chi – mae hyn yn cynnwys y plentyn yn gwneud cais am ganiatâd amhenodol ac unrhyw blentyn arall a fydd yn byw gyda chi
eich costau tai - eich taliadau rhent neu forgais ynghyd â'ch treth gyngor yw'r rhain
Pan fyddwch yn cyfrifo eich costau tai, peidiwch â chynnwys unrhyw ran o'r costau a fydd yn cael eu talu gan y Gostyngiad yn y Dreth Gyngor, y Budd-dal Tai neu elfen dai'r Credyd Cynhwysol.
Mae plentyn Alisha yn gwneud cais am ganiatâd amhenodol o’r tu allan i’r DU. Alisha sy’n llwyr gyfrifol am ei phlentyn ac nid oes ganddi bartner.
Cyfanswm yr incwm wythnosol sydd ei angen ar Alisha i noddi ei phlentyn yw £77 ynghyd â £70.80 ynghyd â’i chostau tai.
Mae rhent Alisha yn dod o dan elfen dai’r Credyd Cynhwysol. Mae hyn yn golygu mai’r dreth gyngor yw ei hunig gost tai.
Mae treth gyngor Alisha yn £30 bob wythnos. Mae hi’n cael Gostyngiad o £10 yn y Dreth Gyngor bob wythnos. £30 llai £10 ydy £20. Mae hyn yn golygu bod angen £20 o incwm arni ar gyfer y dreth gyngor bob wythnos.
Cyfanswm yr incwm sydd ei angen ar Alisha bob wythnos yw £77 a £70.80 yn ogystal ag £20. Mae hyn yn £167.80.
Gweld a oes gennych chi ddigon o incwm
Cyfrifwch faint o incwm y byddwch yn ei gael bob wythnos ar ôl tynnu treth. Os ydych yn byw gyda phartner, gallwch ychwanegu ei incwm at eich incwm chi. Gallwch gynnwys enillion, pensiynau ac incwm o bethau fel rhent neu gyfranddaliadau.
Os oes gennych unrhyw gynilion, gallwch eu hychwanegu at eich incwm - rhaid i chi fod wedi cael y cynilion am o leiaf 6 mis. Rhannwch swm eich cynilion gyda 52 - dyma faint y gallwch ei ychwanegu at eich incwm wythnosol.
Os yw cyfanswm eich incwm yn ddigon uchel, byddwch yn bodloni’r prawf cynnal a chadw digonol.
Mae plentyn Alisha yn gwneud cais am ganiatâd amhenodol o’r tu allan i’r DU. Alisha sy’n llwyr gyfrifol am ei phlentyn ac nid oes ganddi bartner. Cyfanswm yr incwm wythnosol sydd ei angen arni i noddi ei phlentyn yw £167.80.
Enillion wythnosol Alisha ar ôl treth yw £140 - nid oes ganddi incwm arall.
Mae gan Alisha £2,600 o gynilion, ac mae hi wedi’u cael dros y 6 mis diwethaf. £2,600 wedi’i rannu â 52 yw £50. Mae hyn yn cael ei ychwanegu at ei hincwm.
Mae £140 a £50 yn £190. Cyfanswm incwm wythnosol Alisha yw £190. Mae hyn yn fwy nag y mae’r llywodraeth yn dweud bod ei angen arni, felly gall Alisha noddi ei phlentyn.
Os nad yw cyfanswm eich incwm yn ddigon uchel
Pan fyddwch yn cyfrifo cyfanswm eich incwm, efallai y gallwch gynnwys budd-daliadau eraill a gewch - er enghraifft rhai rhannau o'r Credyd Cynhwysol. Mae’n dibynnu ar eich amgylchiadau.
Os oes angen help arnoch i gyfrifo a ydych chi'n bodloni'r prawf cynnal a chadw digonol, siaradwch â chynghorydd.
Gwnewch yn siŵr bod lle rydych chi’n byw yn ddiogel ac yn addas
Bydd yn rhaid i chi ddangos bod lle rydych chi’n byw yn ddiogel, yn addas ac yn ddigon mawr ar gyfer nifer y bobl rydych chi eisiau byw yno gyda chi. Does dim angen i chi fod yn berchen ar eich cartref eich hun ond mae angen rhywle lle gallwch chi aros yn y tymor hir. Er enghraifft, efallai fod gennych gytundeb tenantiaeth neu ystafell eich hun yn nhŷ eich rhieni.
Os ydych yn byw mewn tŷ cyngor neu os yw eich landlord yn gymdeithas dai, gallwch weld faint o bobl sy'n cael byw yn eich cartref. Gelwir hyn yn ‘nifer y bobl a ganiateir’ (PNP). Fel arfer, mae'r PNP ar eich cytundeb tenantiaeth, neu gallwch ofyn i'ch landlord. Nid yw plant dan flwydd oed yn cael eu cynnwys yn y cyfanswm, ac mae plant rhwng 1 a 10 oed yn cyfrif fel hanner person.
Os nad yw eich landlord yn gyngor neu'n gymdeithas dai, edrychwch ar ganllawiau eich cyngor lleol am orlenwi. Gallwch ddod o hyd i’ch cyngor lleol ar GOV.UK.
Os nad yw eich plentyn yn bodloni'r rheolau ar gyfer gwneud cais am ganiatâd amhenodol
Efallai y bydd eich plentyn yn dal i allu cael caniatâd amhenodol. Mae’r rheolau’n dibynnu ar a yw'n byw yn y DU neu’r tu allan pan fydd yn gwneud cais.
Os yw eich plentyn y tu allan i’r DU
Efallai y bydd eich plentyn yn gallu cael fisa petai gwrthod y fisa yn arwain at 'ganlyniadau llym ac afresymol'. Gallai hyn fod yn wir petaech yn cael trafferth byw gyda'ch plentyn yn unrhyw le arall yn y byd - er enghraifft os oes gennych blant eraill nad ydynt yn gallu mynd gyda chi.
Gofynnwch am help gan gynghorydd arbenigol os ydych chi am wneud cais ar sail canlyniadau llym ac afresymol.
Os yw eich plentyn yn y DU
Mae’r rheolau’n gymhleth. Gofynnwch am help gan gynghorydd arbenigol.
Gweld beth yw hawliau eich plentyn os bydd yn cael caniatâd amhenodol
Os bydd eich plentyn yn cael caniatâd amhenodol, mae hyn yn rhoi bron yr un hawliau iddo ag sydd gan ddinesydd Prydeinig, gan gynnwys yr hawliau i’r canlynol:
gweithio neu astudio
rhentu neu brynu rhywle i fyw - gan gynnwys gwneud cais am dŷ cyngor
hawlio budd-daliadau
defnyddio’r GIG
mynd i'r ysgol
gadael y DU a dychwelyd cynifer o weithiau ag y dymunant
Fel arfer, dim ond os yw’r tu allan i'r ardal deithio gyffredin am fwy na 2 flynedd yn olynol y bydd yn colli ei ganiatâd amhenodol. Yr ardal deithio gyffredin yw’r DU, Iwerddon, Guernsey, Jersey ac Ynys Manaw.
Gwneud cais am ganiatâd amhenodol
Gweld sut y gall eich plentyn wneud cais am ganiatâd amhenodol.
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.
Adolygwyd y dudalen ar 11 Gorffennaf 2022