Gwneud cais am fisa teulu neu ganiatâd amhenodol

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Bydd angen i chi neu aelod o'ch teulu wneud cais ar-lein os yw am gael fisa teulu - neu ei ymestyn. Mae fisa teulu yn cynnwys fisa partner, plentyn, rhiant ac oedolyn dibynnol.

Bydd angen i chi neu aelod o'ch teulu wneud cais ar-lein hefyd os yw am gael hawl barhaol i fyw yn y DU - gelwir hyn yn 'ganiatâd amhenodol'.

Os nad ydych eisoes wedi gwneud hynny, mae angen i chi weld a all aelod o'ch teulu gael y fisa neu'r caniatâd amhenodol. Gallwch:

Gweld faint mae fisa yn ei gostio

Bydd angen i aelod o’ch teulu dalu ffi pan fydd yn gwneud cais. Bydd yn rhaid iddo dalu am bob unigolyn sy'n gwneud cais gydag ef - er enghraifft, bydd yn rhaid i'ch partner dalu am ei blant hefyd. Mae ffioedd gwahanol yn dibynnu ar a yw aelod o'ch teulu'n gwneud cais o'r tu mewn neu'r tu allan i'r DU. 

Bydd angen i chi hefyd holi a oes rhaid i aelod o'ch teulu dalu’r gordal iechyd mewnfudo.

Os byddwch yn gwneud cais ar gyfer aelod o'r teulu, gallwch dalu'r ffioedd ar ei ran.

Os yw aelod o’ch teulu yn gwneud cais o’r tu allan i’r DU

Gallwch weld faint yw’r ffioedd fisa ar GOV.UK. Bydd angen i chi wirio’r ffioedd yn y categorïau fisa ‘Llwybr at Setlo’:

  • 'Llwybr at Setlo' - gallwch ddod o hyd i'r ffioedd ar gyfer y rhan fwyaf o geisiadau

  • 'Llwybr at Setlo - perthynas ddibynnol arall' - gallwch ddod o hyd i'r ffioedd os yw oedolyn sy'n aelod o'r teulu nad yw'n bartner i chi yn gwneud cais am fisa

  • ‘Llwybr at Setlo – ffoadur sy'n berthynas ddibynnol’ – gallwch ddod o hyd i’r ffioedd os ydych chi’n ffoadur neu os oes gennych ddiogelwch dyngarol a bod eich partner neu’ch plentyn yn gwneud cais am fisa

Gallwch hefyd weld faint fydd y fisa’n ei gostio mewn arian cyfred arall gan ddefnyddio’r adnodd ar GOV.UK.

Os yw aelod o’ch teulu yn gwneud cais o’r DU

Gallwch weld faint yw’r ffioedd mewnfudo ar GOV.UK. Bydd angen i chi wirio'r ffioedd ar gyfer y categorïau fisa canlynol:

  • 'Hawl i aros - Arall' - gallwch ddod o hyd i'r ffioedd os yw aelod o'ch teulu'n gwneud cais am ei fisa cyntaf neu i ymestyn ei fisa

  • 'Caniatâd amhenodol i aros - prif ymgeiswyr a dibynyddion' - gallwch ddod o hyd i'r ffioedd os yw aelod o'ch teulu'n gwneud cais am ganiatâd amhenodol

Gweld swm y gordal iechyd mewnfudo

Fel arfer, bydd yn rhaid i aelod o'ch teulu dalu i ddefnyddio'r GIG fel rhan o'i gais am fisa. Gelwir hyn yn ‘ordal iechyd mewnfudo’. Ni fydd yn rhaid iddo dalu'r tâl ychwanegol os yw'n gwneud cais am ganiatâd amhenodol.

Bydd yn rhaid i aelod o'ch teulu dalu'r gost ychwanegol am bob unigolyn sy'n gwneud cais gydag ef - er enghraifft, bydd yn rhaid i'ch partner dalu am ei blant hefyd. Gallwch weld faint yw’r gordal iechyd mewnfudo ar GOV.UK.

Os na allwch chi ac aelod o'ch teulu fforddio'r ffioedd neu'r gordal iechyd mewnfudo

Mewn rhai achosion gall eich aelod o'r teulu wneud cais am 'ohiriad ffioedd' - mae hyn yn golygu na fydd yn rhaid iddo dalu. Ni all gael hepgor ffioedd os yw'n gwneud cais am ganiatâd amhenodol.

Os yw eich partner yn gwneud cais am fisa partner, dim ond ar ei gyfer ef ei hun a'i blant y gall wneud cais am hepgor y ffioedd ac os yw’r canlynol yn berthnasol:

  • ei fod yn gwneud cais am fisa yn seiliedig ar amgylchiadau eithriadol neu fywyd preifat a theuluol

  • dim ond y prawf cynnal a chadw digonol y mae'n rhaid iddo ei fodloni

I wneud cais am hepgor ffioedd, rhaid iddo ddangos nad oes ganddo ddigon o incwm a chynilion i dalu am y ffi a chostau hanfodol fel bwyd a rhent - hyd yn oed gyda'ch cymorth chi. Os oes ganddo blentyn, gall wneud cais am hepgor ffioedd os byddai talu’r ffi yn effeithio ar les y plentyn.

Bydd angen i chi anfon dogfennau yn dangos eich incwm a'ch gwariant ar gyfer y 6 mis diwethaf, er enghraifft:

  • slipiau cyflog

  • cyfriflenni banc ar gyfer eich holl gyfrifon

  • datganiad ysgrifenedig o’ch contract meddiannaeth

  • biliau cyfleustodau

Gallwch wneud cais am hepgor ffioedd ar GOV.UK.

Gweld a oes angen prawf meddygol ar aelod o’ch teulu

Os yw aelod o'ch teulu'n symud i'r DU, efallai y bydd angen iddo wneud prawf twbercwlosis (TB) cyn gwneud cais. Mae’n dibynnu ar ble mae wedi bod yn byw.

Edrychwch i weld a oes angen prawf TB ar aelod o’ch teulu a sut mae cael un ar GOV.UK.

Cychwyn y cais

Gall aelod o'ch teulu wneud cais ar-lein - neu gallwch wneud cais ar ei ran.

Os ydych chi’n gwneud cais ar ran aelod o’r teulu, rhaid i chi wneud cais yn ei enw ef/hi. Os yw'n 16 oed o leiaf, dylech ofyn iddo wirio'r cais cyn i chi ei gyflwyno - ef/hi fydd yn gyfrifol os yw'n anghywir.

Gallwch argraffu copi o’r cais i aelod o’ch teulu ei wirio. Gallwch hefyd gadw'r cais a gall fewngofnodi ar wahân i'w wirio.

Mae'r hyn y mae angen i chi neu aelod o'ch teulu ei wneud yn dibynnu ar p'un ai a yw yn y DU neu’r tu allan. Maen nhw’n gallu:

Bydd angen i aelod o’ch teulu roi ei gyfeiriad e-bost i’r Swyddfa Gartref pan fydd yn gwneud cais. Pan fydd yn dechrau ar ei gais, bydd yn cael e-bost gan y Swyddfa Gartref - bydd angen iddo glicio dolen yn yr e-bost pan fydd yn ei gael.

Mae'n bwysig bod yr aelod o'ch teulu yn edrych ar ei negeseuon e-bost yn aml ar ôl iddo wneud cais - efallai y bydd y Swyddfa Gartref yn anfon gwybodaeth bwysig ato.

Os oes angen help arnoch i wneud cais ar-lein, edrychwch ar GOV.UK i weld sut mae cael help gyda’ch cais.

Trefnu apwyntiad

Pan fydd aelod o'ch teulu'n gwneud y cais, fel arfer bydd angen iddo drefnu apwyntiad i gael tynnu ei lun a chymryd ei olion bysedd - gelwir hyn yn 'wybodaeth fiometrig'.

Os yw’r aelod o’ch teulu y tu allan i’r DU, bydd angen iddo drefnu apwyntiad mewn canolfan gwneud cais am fisa - dewch o hyd i ganolfan gwneud cais am fisa ar GOV.UK.

Os yw’r aelod o'ch teulu yn y DU, bydd angen iddo drefnu apwyntiad ar wefan Gwasanaeth Ceisiadau Fisa a Dinasyddiaeth y DU.

Llwytho tystiolaeth i fyny

Ar ôl i aelod o’ch teulu wneud cais, bydd angen iddo lwytho sganiau neu luniau o’i dystiolaeth i fyny. Os ydych chi’n gwneud cais ar ei ran, gallwch hefyd lwytho’r dystiolaeth i fyny.

Bydd aelod o’ch teulu yn cael gwybod:

  • sut i lwytho ei dystiolaeth i fyny

  • pa dystiolaeth sydd ei hangen – fel arfer mae angen iddo lwytho tystiolaeth i fyny i brofi pob peth y maent yn ei ddweud yn y cais

Os na fydd yn llwytho’r dystiolaeth gywir i fyny, bydd y Swyddfa Gartref fel arfer yn dweud wrtho beth sydd ei angen arno ac yn rhoi cyfle arall iddo lwytho'r dystiolaeth gywir i fyny cyn iddi wrthod y cais.

Edrych pa dystiolaeth sydd angen i chi ei llwytho i fyny ar GOV.UK.

Profi eich perthynas

Os yw eich partner yn gwneud cais, bydd angen iddo lwytho tystiolaeth i fyny yn dangos eich bod mewn perthynas go iawn a pharhaus. Er enghraifft, gallai hyn gynnwys dogfennau sy’n dangos eich bod:

  • wedi byw gyda’ch gilydd

  • wedi cael plant gyda’ch gilydd

  • yn rhannu cyfrif banc neu gynilo

  • wedi treulio amser gyda’ch gilydd ac mewn cysylltiad yn aml

Os oes angen iddynt brofi math arall o berthynas, gallant lwytho copïau o dystysgrifau geni neu dystysgrifau mabwysiadu i fyny. Bydd angen iddynt gynnwys cyfieithiad os nad yw'r dogfennau yn Saesneg.

Profi eich bod yn bodloni gofyniad ariannol

Bydd angen i aelod o’ch teulu brofi faint o incwm a chynilion sydd gennych. Er enghraifft, os ydych chi'n cael budd-daliadau neu bensiwn, bydd angen llwytho'r canlynol i fyny:

  • llythyr gan eich darparwr budd-daliadau neu bensiwn sy'n dangos faint o arian rydych chi'n ei gael

  • cyfriflen banc o'r flwyddyn ddiwethaf ar gyfer y cyfrif lle mae’r arian yn mynd

Os ydych chi'n gyflogedig, bydd angen iddo lwytho slipiau cyflog a chyfriflenni banc ar gyfer y cyfrif y mae eich cyflog yn cael ei dalu iddo. Os ydych chi wedi cael eich cyflogi gan yr un cyflogwr am o leiaf 6 mis, bydd angen i aelod o'ch teulu lwytho dogfennau i fyny ar gyfer y 6 mis diwethaf. Os dechreuodd eich cyflogaeth yn ystod y 6 mis diwethaf, bydd angen iddo lwytho dogfennau i fyny ar gyfer y 12 mis diwethaf.

Os ydych chi'n hunangyflogedig, bydd angen iddo lwytho'r dogfennau canlynol i fyny sy'n dangos eich incwm ar gyfer y 2 flynedd ddiwethaf:

  • cyfriflenni banc ar gyfer cyfrif banc eich busnes

  • cyfrifon archwiliedig

  • ffurflenni treth

Os gwnaethoch chi ennill llai o arian rhwng 1 Mawrth 2020 a 31 Hydref 2021 oherwydd y coronafeirws, dylid egluro hyn yn y cais. Bydd y Swyddfa Gartref fel arfer yn anwybyddu'r incwm a golloch - efallai y bydd yn rhaid i aelod o'ch teulu lwytho dogfennau i fyny cyn 1 Mawrth 2020.

Profi bod gennych rywle addas i fyw

Bydd angen i aelod o’ch teulu lwytho dogfen i fyny sy’n dangos bod gennych chi rywle i fyw - er enghraifft:

  • datganiad ysgrifenedig os oes gennych gontract meddiannaeth

  • cyfriflen morgais

  • llythyr gan y perchennog - er enghraifft, os ydych chi'n aros gyda'ch rhieni

Fel arfer, bydd angen iddo lwytho adroddiad neu ddogfen i fyny i brofi bod lle bydd yn byw yn ddiogel, yn addas ac yn ddigon mawr. Ni fydd angen hyn os ydych yn byw mewn tŷ cyngor neu os yw eich landlord yn gymdeithas dai.

Gallwch gael adroddiad gan arolygwr neu swyddog iechyd yr amgylchedd. Dechreuwch drwy ofyn i'ch cyngor lleol a all wneud adroddiad. Dewch o hyd i’ch cyngor lleol ar GOV.UK.

Fel arfer, ni fydd angen i aelod o'ch teulu gael adroddiad os oes ganddo fisa eisoes a'i fod yn gwneud cais i'w ymestyn neu i gael caniatâd amhenodol.

Os caiff y cais ei wrthod

Gall eich aelod o’r teulu wneud un o’r canlynol:

  • apelio yn erbyn y penderfyniad - bydd angen iddo ddangos bod y penderfyniad yn effeithio ar ei 'hawl i fywyd preifat neu deuluol'

  • gwneud cais am fisa newydd - bydd yn rhaid iddo dalu'r ffi ymgeisio lawn eto

Mae’r rheolau’n gymhleth. Gofynnwch am help gan gynghorydd mewnfudo arbenigol i weld beth ddylai aelod o'ch teulu ei wneud.

Dylai'r llythyr penderfyniad gan y Swyddfa Gartref ddweud beth yw'r terfyn amser i’r aelod o'ch teulu apelio. Mae angen iddo apelio o fewn 14 diwrnod os yw yn y DU neu 28 diwrnod os yw’r tu allan i'r DU.

Os na allwch chi weld cynghorydd mewnfudo cyn diwedd y terfyn amser, gall aelod o'ch teulu ddechrau apêl ac yna cael cyngor. Bydd yn rhaid iddo dalu ffi o £80 neu £120.

Os yw aelod o’ch teulu y tu allan i’r DU, mae’r ffurflen apêl a’r canllawiau ar gael ar GOV.UK.

Os yw’r aelod o’ch teulu yn y DU, mae’r ffurflen apêl a’r canllawiau ar gael ar GOV.UK.

Os caiff y cais ei dderbyn

Os gwnaeth aelod o’ch teulu gais yn y DU, bydd yn cael:

  • trwydded breswylio fiometrig (BRP) - mae hyn yn brawf o'i hawl i aros yn y DU

  • e-bost neu lythyr yn gofyn iddo sefydlu cyfrif ar gyfer ei statws mewnfudo ar-lein

Mae statws mewnfudo ar-lein yn disodli’r BRPs. Dim ond tan fis Hydref 2024 y bydd BRP eich aelod o’r teulu yn ddilys. Ar ôl y dyddiad hwn, bydd angen iddo ddefnyddio ei gyfrif ar-lein i brofi ei statws mewnfudo. Gall aelod o’ch teulu gael help i sefydlu statws ar-lein.

Os gwnaeth aelod o’ch teulu gais y tu allan i’r DU

Bydd yn cael caniatâd mynediad sy'n rhoi 30 diwrnod iddo ddod i'r DU. Os na fydd yn cyrraedd y DU o fewn y cyfnod 30 diwrnod, bydd angen iddo wneud cais am drwydded mynediad arall a thalu ffi.

Ar ôl i’r aelod o’ch teulu gyrraedd y DU, bydd yn rhaid iddo gasglu BRP o fewn 10 diwrnod. Bydd yn rhaid iddo wneud y canlynol:

  • gosod cyfrif ar-lein ar gyfer ei statws mewnfudo ar-lein

  • casglu trwydded breswyl fiometrig (BRP) o fewn 10 diwrnod

Bydd yn rhaid iddo gasglu'r BRP o swyddfa bost - bydd wedi dewis swyddfa bost fel rhan o'r broses ymgeisio. Mae’n bwysig casglu’r BRP o fewn 10 diwrnod – efallai y caiff ddirwy neu y bydd ei fisa’n cael ei ganslo oni fydd yn gwneud hynny.

Gwneud cais am fisa neu ganiatâd amhenodol

Mae'r hyn y mae angen i chi neu’r aelod o'ch teulu ei wneud yn dibynnu ar p'un ai a yw y tu mewn neu'r tu allan i'r DU. Maen nhw’n gallu:

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.

Adolygwyd y dudalen ar 11 Gorffennaf 2022