Cael fisâu ar gyfer eich partner a'ch plant i fyw yn y DU
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Dod ag aelodau o’r teulu o Wcráin i’r DU
Mae rheolau arbennig ar gyfer aelodau o’r teulu sy’n wladolion Wcráin. Darllenwch y rheolau ynghylch dod ag aelodau o’r teulu o Wcráin i’r DU.
Efallai y bydd eich partner yn gallu cael fisa partner i naill ai:
ymuno â chi yn y DU
aros yn y DU os ydyn nhw eisoes yma
Os oes gan eich partner blant dan 18 oed, fel arfer gall eich partner wneud cais iddynt gael fisa plentyn.
Os bydd eich partner yn gwneud cais am fisa partner, fe'ch gelwir yn 'noddwr' iddo. Os bydd yn gwneud cais am fisa ar gyfer ei blant, chi fydd noddwr y plant hefyd.
Mae fisâu partneriaid a phlant yn fathau o fisa teulu. I weld a all eich partner a'i blant gael fisa teulu, bydd angen i chi edrych ar y canlynol:
a yw fisâu partner a phlant yn addas ar gyfer eich sefyllfa
a allwch chi fod yn noddwr
pwy all wneud cais am fisâu partner a phlant
y rheolau ynghylch eich incwm a'ch cynilion
bod lle rydych chi’n byw yn ddiogel ac yn addas
a oes angen i'ch partner sefyll prawf Saesneg
Gweld a yw fisâu partner a phlant yn addas ar gyfer eich sefyllfa
Gall eich partner wneud cais:
am fisa partner iddyn nhw eu hunain
am fisâu partner a phlant ar yr un pryd
am fisa plentyn yn unig - fel y gall ei blentyn ymuno ag ef pan fydd ganddo fisa partner yn barod
Fel arfer, bydd yn costio rhwng £1,500 a £5,000 i bob unigolyn gael fisa teulu, yn dibynnu ar ei sefyllfa.
Bydd fisa eich partner fel arfer yn para am 2 flynedd a 9 mis - neu 2 flynedd a 6 mis os yw eisoes yn y DU pan fydd yn gwneud cais. Bydd fisa plentyn yn para nes bydd y fisa partner yn dod i ben - hyd yn oed os dechreuodd yn ddiweddarach.
Fel arfer gall eich partner wneud cais:
i ymestyn y ddau fath o fisa cyn iddynt ddod i ben
iddyn nhw a'u plant aros yn y wlad yn barhaol ar ôl iddyn nhw gael fisa partner am 5 mlynedd
Os mai dim ond noddi eich plant ydych chi
Fel arfer, dim ond os oes gan eich rhiant fisa partner - neu os yw'n gwneud cais am un - y gall eich plant gael fisa plentyn.
Efallai y gallwch wneud cais i'ch plentyn fyw yn y DU yn barhaol yn lle hynny - 'caniatâd amhenodol i aros' yw'r enw ar hyn. Gall eich plentyn gael caniatâd amhenodol i aros:
os chi sy'n llwyr gyfrifol amdano ac mae gennych hawl parhaol i fyw yn y DU
os oes gennych chi a'i riant arall hawl parhaol i fyw yn y DU - rhaid i'r ddau ohonoch fod yn y DU neu'n symud i'r DU gyda'ch plentyn
Mae gennych hawl barhaol i fyw yn y DU os ydych, er enghraifft, yn ddinesydd Prydeinig neu os oes gennych ganiatâd amhenodol i aros.
Edrychwch i weld a allwch chi gael caniatâd amhenodol i aros ar gyfer eich plentyn.
Gweld a allwch chi fod yn noddwr
Gallwch noddi eich partner a’i blant os oes gennych un o’r canlynol:
Dinasyddiaeth Brydeinig
Dinasyddiaeth Wyddelig - rhaid i chi fod yn byw neu wedi byw yn y DU
caniatâd amhenodol i aros neu hawl preswylio
statws preswylydd sefydlog o’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE
statws preswylydd cyn-sefydlog o’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE - mae’n rhaid eich bod wedi dod i’r DU erbyn 31 Rhagfyr 2020
Os ydych chi’n ffoadur neu os oes gennych ddiogelwch dyngarol, mae hyn hefyd yn gadael i chi noddi eich partner a’i blant. Os dechreuodd eich perthynas â'ch partner cyn i chi orfod gadael eich gwlad, gall eich partner a'ch plant wneud cais i ymuno â chi dan reolau 'aduno teulu' ffoaduriaid yn lle hynny. Mae'n rhad ac am ddim ac yn haws na gwneud cais am fisâu teulu. Edrychwch ar GOV.UK i weld sut gall eich partner a’ch plant wneud cais am aduniad teuluol.
Os oes gennych fath arall o fisa
Fel arfer, ni all eich partner a'i blant wneud cais am fisa teulu.
Gallai eich fisa adael i'ch partner a'i blant wneud cais i ymuno â chi fel 'dibynyddion'. Bydd angen i chi wirio rheolau eich fisa. Er enghraifft:
edrychwch ar y rheolau os oes gennych chi fisa gweithiwr medrus ar GOV.UK
edrychwch ar y rheolau os oes gennych chi fisa myfyriwr ar GOV.UK
Os oes gennych fath arall o fisa, dylech allu dod o hyd i'r rheolau ar gyfer eich fisa ar GOV.UK.
Os cafodd eich plentyn ei eni yn y DU neu os oes gan un o’i rieni ddinasyddiaeth Brydeinig
Efallai y bydd gan eich plentyn ddinasyddiaeth Brydeinig yn awtomatig.
Os nad yw eich plentyn yn ddinesydd Prydeinig yn barod, efallai y gallwch wneud cais am ddinasyddiaeth iddo. Mae'n dibynnu ar ble cafodd ei eni a'ch statws mewnfudo chi. Mae’n costio llai na gwneud cais am ganiatâd amhenodol i aros.
Holwch a oes gan eich plentyn ddinasyddiaeth Brydeinig neu a all wneud cais am un.
Os ydych chi'n ddinesydd yr UE, Norwy, y Swistir, Gwlad yr Iâ neu Liechtenstein
Efallai y bydd eich partner a’ch plant yn gallu gwneud cais am statws preswylydd cyn-sefydlog neu sefydlog o’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE. Mae'n rhad ac am ddim ac yn haws na gwneud cais am fisa teulu.
Gall eich partner a’ch plant wneud cais i Gynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE os oeddech chi’n byw yn y DU erbyn 31 Rhagfyr 2020 ac mae un o’r canlynol yn berthnasol:
gwnaethoch chi a’ch partner briodi neu gofrestru partneriaeth sifil erbyn 31 Rhagfyr 2020
roeddech chi a’ch partner yn byw gyda’ch gilydd am 2 flynedd erbyn 31 Rhagfyr 2020
rydych chi'n ddinesydd o'r Swistir ac rydych chi a'ch partner yn briod - bydd hyn yn berthnasol os byddwch yn priodi ar unrhyw adeg tan 31 Rhagfyr 2025
Gallwch weld a all eich partner a'ch plant wneud cais i'r Cynllun Preswylio'n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE.
Gallwch weld pa wledydd sydd yn yr UE ar GOV.UK.
Os gwnaethoch gyrraedd y DU ar ôl 31 Rhagfyr 2020
Os gwnaethoch gais a bod gennych statws cyn-sefydlog fel aelod o'r teulu, ni all eich partner a'i blant wneud cais am fisa teulu na gwneud cais i'r Cynllun Preswylio'n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE.
Os ydych chi yn y sefyllfa hon, bydd angen i chi aros nes i chi gael statws sefydlog cyn y gall eich partner a'i blant wneud cais am fisa teulu. Gwiriwch y rheolau ynghylch newid o statws preswylydd cyn-sefydlog i statws preswylydd sefydlog.
Os cawsoch eich geni yng Ngogledd Iwerddon
Efallai y bydd eich partner a’ch plant yn gallu gwneud cais am statws preswylydd cyn-sefydlog neu sefydlog o’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE. Mae'n rhad ac am ddim ac yn haws na gwneud cais am fisa.
Gall eich partner a'ch plant wneud cais am statws preswylydd cyn-sefydlog neu sefydlog os oes gennych ddinasyddiaeth Brydeinig neu Wyddelig - neu'r ddau. Pan gawsoch eich geni, rhaid i un o’ch rhieni fod wedi cael naill ai:
dinasyddiaeth Brydeinig neu Wyddelig - neu’r ddwy
statws mewnfudo sy'n gadael iddynt fyw yn y DU yn barhaol - er enghraifft, caniatâd amhenodol
Rhaid i chi fod wedi bod yn byw yn y DU erbyn 31 Rhagfyr 2020 a rhaid i chi a’ch partner fod naill ai:
wedi priodi neu fod wedi cofrestru partneriaeth sifil erbyn 31 Rhagfyr 2020
wedi bod yn byw gyda’ch gilydd am 2 flynedd erbyn 31 Rhagfyr 2020
Gweld a all eich partner wneud cais am fisa partner
Gall eich partner wneud cais am fisa partner os yw’n un o'r canlynol:
gŵr, gwraig neu bartner sifil
dyweddi neu bartner sifil arfaethedig
eich partner y buoch mewn perthynas ag ef/hi ers o leiaf 2 flynedd
Rhaid i chi fod wedi cwrdd â’ch partner yn bersonol, a rhaid i chi fwriadu byw gyda’ch gilydd yn barhaol. Os mai dyma eich dyweddi neu’ch partner sifil arfaethedig, mae’n iawn os dim ond ar ôl eich priodas neu bartneriaeth sifil yr ydych yn bwriadu byw gyda’ch gilydd.
Os yw eich partner eisoes yn y DU, dim ond os oes ganddo fisa a oedd yn fwy na 6 mis ar ôl iddo ei gael y gall wneud cais. Ni all wneud cais os yw yn y DU ar fisa ymwelydd.
Ni all eich partner wneud cais os oes arno £500 neu fwy i’r GIG.
Rhaid i chi a’ch partner fod wedi dod ag unrhyw berthynas â phobl eraill yn y gorffennol i ben. Os oeddech mewn priodas neu bartneriaeth sifil gyda rhywun arall cyn hyn, rhaid iddi fod wedi dod â hynny i ben yn gyfreithiol.
Os yw eich dyweddi neu bartner sifil arfaethedig yn gwneud cais
Os ydych chi wedi bod mewn perthynas ers o leiaf 2 flynedd, fel arfer mae'n well i'ch partner ddefnyddio hynny fel sail i'w gais. Mae hyn yn golygu y bydd:
yn cael fisa am 2 flynedd a 9 mis - neu 2 flynedd a 6 mis os yw eisoes yn y DU
ganddo hawl i weithio yn y DU
ni fydd yn rhaid iddo wneud cais arall a thalu ffi arall ar ôl priodi
Os nad ydych wedi bod mewn perthynas ers 2 flynedd, dim ond am 6 mis y gall eich dyweddi neu bartner sifil arfaethedig wneud cais i ddod i'r DU. Rhaid i chi briodi neu gofrestru partneriaeth sifil yn ystod y cyfnod hwnnw.
Os bydd eich partner yn cael y fisa 6 mis, ni fydd yn cael gweithio. Ar ôl eich seremoni priodas neu bartneriaeth sifil, gall wneud cais am fisa partner fel gŵr, gwraig neu bartner sifil - bydd hyn yn caniatáu iddo weithio.
Dim ond os yw’r tu allan i'r DU y gall eich partner wneud cais am y fisa 6 mis.
Os ydych chi a'ch partner am briodi neu gofrestru partneriaeth sifil yn y DU ond nad ydych yn bwriadu byw yma, gall ddod i'r DU ar fath gwahanol o fisa o'r enw fisa ymwelydd priodas. Mae hyn yn golygu y bydd yn rhaid iddo adael y DU ar ddiwedd 6 mis. Ewch i GOV.UK i weld sut mae cael fisa ymwelydd priodas.
Gweld a all plant eich partner wneud cais am fisâu plant
Pan fydd eich partner yn gwneud cais am fisa partner, gall hefyd wneud cais i’w blant dan 18 oed gael fisa plentyn ar yr un pryd.
Os oes gan eich partner fisa partner yn barod, gall wneud cais am fisâu plant ar gyfer ei blant.
Bydd y fisâu plant yn para tan ddiwedd y fisa partner.
Does dim angen iddyn nhw fod yn blant biolegol i'ch partner - er enghraifft, fe allan nhw fod yn llysblant.
Os nad ydych yn rhiant arall i blentyn, ni all eich partner wneud cais am fisa plentyn oni bai mai ef/hi sy’n llwyr gyfrifol amdano/amdani. Maen nhw’n llwyr gyfrifol os mai nhw yw’r unig un sy’n gyfrifol am fagwraeth a lles y plant.
Ni all eich partner wneud cais am blentyn sy’n annibynnol, er enghraifft:
os yw'n byw gyda phartner
os yw wedi gadael cartref - oni bai ei fod wedi gadael ei gartref i astudio
Nid oes angen i'ch partner wneud cais am blant sydd eisoes â hawl i fod yn y DU - er enghraifft, os ydynt yn ddinasyddion Prydeinig neu os oes ganddynt ganiatâd amhenodol.
Darllenwch y rheolau ynghylch eich incwm a'ch cynilion
Rhaid i chi ddangos bod gennych swm penodol o incwm neu gynilion. Gelwir hyn yn ‘ofyniad ariannol’.
Y ffordd arferol o fodloni’r gofyniad ariannol yw dangos bod eich incwm yn swm penodol o arian o leiaf bob blwyddyn.
Os yw eich partner eisoes yn y DU, gallwch ychwanegu ei incwm at eich incwm chi. Os nad yw wedi dod i’r DU eto, dim ond incwm y bydd yn dal i'w gael ar ôl iddo symud y gallwch ei gynnwys.
Byddwch yn bodloni’r gofyniad ariannol:
os nad ydych yn y lluoedd arfog a bod eich incwm ar y cyd o leiaf £29,000 bob blwyddyn cyn treth
os ydych yn y lluoedd arfog a bod eich incwm ar y cyd o leiaf £23,496 bob blwyddyn cyn treth
Nid yw eich incwm yn cynnwys budd-daliadau, ond mae'n cynnwys:
enillion o gyflogaeth neu hunangyflogaeth yn y DU
pensiwn
tâl mamolaeth, tadolaeth, mabwysiadu neu salwch
incwm arall - er enghraifft o rent neu gyfranddaliadau
Os nad yw eich incwm yn ddigon
Efallai y byddwch yn dal i allu bodloni’r gofyniad ariannol:
os oes gennych chi a'ch partner dros £16,000 mewn cynilion rhyngoch chi
os ydych chi'n cael rhai budd-daliadau anabledd penodol megis y Taliad Annibyniaeth Personol (PIP) neu'r Lwfans Gofalwr
Os oes gennych chi a'ch partner dros £16,000 mewn cynilion rhyngoch chi
Gallwch ychwanegu at eich incwm gydag unrhyw gynilion sydd gennych chi a'ch partner dros £16,000 - rhaid i chi fod wedi'u cael am o leiaf 6 mis.
Bydd angen £16,000 a £2.50 arnoch am bob £1 y mae eich incwm yn is na’r gofyniad ariannol. Y rheswm am hyn yw bod y fisa partner yn para 2 flynedd a hanner.
Allwch chi ddim defnyddio cynilion i ychwanegu at incwm o hunangyflogaeth.
I weld a ydych chi’n bodloni’r gofyniad ariannol:
Cyfrifo faint sydd gennych mewn cynilion
Tynnwch £16,000
Rhannwch y swm sy’n weddill gyda 2.5
Ychwanegwch y cyfanswm terfynol at eich incwm
Edrychwch i weld a ydych chi’n bodloni’r gofyniad ariannol erbyn hyn
Mae gwraig Erika yn gwneud cais am fisâu er mwyn iddi hi a’i phlentyn ddod i’r DU. Y gofyniad ariannol yw £29,000 gan nad yw Erika yn y fyddin.
Mae Erika yn ennill £27,000 y flwyddyn o gyflogaeth - mae ei hincwm yn is na'r gofyniad ariannol.
Mae gan Erika £18,000 o gynilion, ac mae hi wedi’u cael dros y 6 mis diwethaf. Mae gan wraig Erika £8,000 o gynilion, ac mae hi wedi’u cael dros y 6 mis diwethaf.
Mae £18,000 a £8,000 yn £26,000.
£26,000 llai £16,000 ydy £10,000.
£10,000 wedi’i rannu â 2.5 yw £4,000.
Gall Erika ychwanegu’r £4,000 at ei hincwm. Mae £27,000 a £4,000 yn £31,000.
Mae £31,000 yn fwy na £29,000, felly mae Erika yn bodloni'r gofyniad ariannol.
Siaradwch â chynghorydd os oes angen help arnoch i gyfrifo a ydych chi’n bodloni’r gofyniad ariannol.
Os ydych chi'n cael budd-daliadau anabledd
Mae rheolau arbennig yn berthnasol os ydych chi'n cael unrhyw un o'r budd-daliadau canlynol:
Taliad Annibyniaeth Personol (PIP)
Lwfans Gweini
Lwfans Byw i'r Anabl (DLA)
Lwfans Gofalwr
Lwfans Anabledd Difrifol
Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol
Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog neu Daliad Incwm Gwarantedig o dan Gynllun Iawndal y Lluoedd Arfog
Lwfans Gweini Cyson, Atodiad Symudedd neu Bensiwn Anabledd Rhyfel dan y Cynllun Pensiwn Rhyfel
Pensiwn Anaf yr Heddlu
Er mwyn bodloni'r gofyniad ariannol, dim ond dangos y bydd gennych ddigon o incwm i ofalu am eich partner ac unrhyw blant y bydd angen i chi ei wneud. Gelwir hyn yn brawf ‘cynnal a chadw digonol’.
I weld a allwch chi basio'r prawf cynnal a chadw digonol, rhaid i chi gyfrifo'n gyntaf faint o incwm y mae'r llywodraeth yn dweud bod ei angen arnoch bob wythnos. Yna bydd angen i chi wirio a oes gennych ddigon o incwm.
Cyfrifwch faint o incwm sydd ei angen arnoch bob wythnos
I gyfrifo faint o incwm y mae'r llywodraeth yn dweud bod ei angen arnoch bob wythnos, adiwch y canlynol at ei gilydd:
£142.25 - mae hyn i chi a’ch partner
£83.24 ar gyfer pob plentyn dan 18 oed a fydd yn byw gyda chi - hyd yn oed os nad ydynt yn rhan o'r cais
eich costau tai - eich taliadau rhent neu forgais ynghyd â'ch treth gyngor yw'r rhain
Pan fyddwch yn cyfrifo eich costau tai, peidiwch â chynnwys unrhyw ran o'r costau a fydd yn cael eu talu gan y Gostyngiad yn y Dreth Gyngor, y Budd-dal Tai neu elfen dai'r Credyd Cynhwysol.
Bydd y Swyddfa Gartref yn edrych ar y dreth gyngor y bydd yn rhaid i chi ei thalu pan fydd eich partner yn byw gyda chi. Er enghraifft, os ydych yn cael gostyngiad i un person ar hyn o bryd, bydd fel arfer yn dod i ben pan fydd eich partner yn dechrau byw gyda chi.
Mae partner Henrik yn gwneud cais am fisâu er mwyn iddi hi a’i phlentyn ddod i’r DU. Mae Henrik yn cael PIP.
Cyfanswm yr incwm wythnosol sydd ei angen ar Henrik i noddi ei bartner a’i blentyn yw £142.25 ynghyd ag £83.24 ynghyd â’i gostau tai.
Mae rhent Henrik yn dod o dan elfen dai’r Credyd Cynhwysol. Mae hyn yn golygu mai’r dreth gyngor yw ei unig gost o ran tai.
Pan fydd partner a phlentyn Henrik yn byw gydag ef, bydd ei dreth gyngor yn £30 yr wythnos. Mae’n cael Gostyngiad o £10 yn y Dreth Gyngor bob wythnos. £30 llai £10 ydy £20. Mae hyn yn golygu bod angen £20 o incwm arno ar gyfer y dreth gyngor bob wythnos.
Cyfanswm yr incwm sydd ei angen ar Henrik bob wythnos yw £142.25 ynghyd ag £83.24 ynghyd ag £20. Mae hyn yn £245.49.
Gweld a oes gennych chi ddigon o incwm
Cyfrifwch faint o incwm y byddwch yn ei gael bob wythnos ar ôl tynnu treth. Gallwch gynnwys enillion, pensiynau ac incwm o bethau fel rhent neu gyfranddaliadau.
Os yw eich partner eisoes yn y DU, gallwch ychwanegu ei incwm at eich incwm chi. Os nad yw wedi dod i’r DU eto, dim ond incwm y bydd yn dal i'w gael ar ôl iddo symud y gallwch ei gynnwys. Os bydd yr incwm ychwanegol yn gwneud i'ch budd-daliadau ostwng, bydd angen i chi gyfrifo cyfanswm eich incwm yn seiliedig ar y budd-daliadau a gewch pan fyddant yn byw gyda chi.
Os oes gennych chi a'ch partner unrhyw gynilion, gallwch eu hychwanegu at eich incwm - rhaid i chi fod wedi cael y cynilion am o leiaf 6 mis. Rhannwch swm eich cynilion gyda 130 - dyma faint y gallwch ei ychwanegu at eich incwm wythnosol.
Os yw cyfanswm eich incwm yn ddigon uchel, byddwch yn pasio'r prawf cynnal a chadw digonol.
Mae partner Henrik yn gwneud cais am fisa er mwyn iddi hi a’i phlentyn ddod i’r DU. Mae Henrik yn cael PIP. Cyfanswm yr incwm wythnosol sydd ei angen arno i noddi ei bartner a’i blentyn yw £245.49.
Enillion wythnosol Henrik ar ôl treth yw £200.
Mae gan Henrik a'i bartner £7,150 o gynilion, y maen nhw wedi’u cael dros y 6 mis diwethaf. £7,150 wedi’i rannu â 130 yw £55. Mae hyn yn cael ei ychwanegu at ei incwm.
Mae £200 a £55 yn £255. Cyfanswm incwm wythnosol Henrik yw £255. Mae hyn yn fwy na’r hyn y dywed y llywodraeth sydd ei angen arno, felly gall Henrik noddi ei bartner a’i blentyn.
Os nad yw cyfanswm eich incwm yn ddigon uchel
Pan fyddwch yn cyfrifo cyfanswm eich incwm, efallai y gallwch gynnwys budd-daliadau eraill a gewch - er enghraifft rhai rhannau o'r Credyd Cynhwysol. Mae’n dibynnu ar eich amgylchiadau.
Os oes angen help arnoch i gyfrifo a allwch basio'r prawf cynnal a chadw digonol, siaradwch â chynghorydd.
Efallai y byddwch yn dal i allu cael fisa os yw'r ddau o'r canlynol yn wir:
eich bod yn bodloni'r gofynion eraill ar gyfer fisa partner
mae gennych amgylchiadau eithriadol - er enghraifft, byddech yn torri'r gyfraith os oeddech chi neu'ch plentyn yn byw gyda'ch partner yn ei wlad
Dylech gael cyngor arbenigol ar fewnfudo.
Gwnewch yn siŵr bod lle rydych chi’n byw yn ddiogel ac yn addas
Bydd yn rhaid i’ch partner ddangos bod lle rydych chi’n byw yn ddiogel, yn addas ac yn ddigon mawr ar gyfer nifer y bobl rydych chi eisiau iddyn nhw fyw yno gyda chi. Does dim angen i chi fod yn berchen ar eich cartref eich hun ond mae angen rhywle lle gallwch chi aros yn y tymor hir. Er enghraifft, efallai fod gennych gytundeb tenantiaeth neu ystafell eich hun yn nhŷ eich rhieni.
Os ydych yn byw mewn tŷ cyngor neu os yw eich landlord yn gymdeithas dai, gallwch weld faint o bobl sy'n cael byw yn eich cartref. Gelwir hyn yn ‘nifer y bobl a ganiateir’ (PNP). Fel arfer, mae'r PNP ar eich cytundeb tenantiaeth, neu gallwch ofyn i'ch landlord. Nid yw plant dan flwydd oed yn cael eu cynnwys yn y cyfanswm, ac mae plant rhwng 1 a 10 oed yn cyfrif fel hanner person.
Os nad yw eich landlord yn gyngor neu'n gymdeithas dai, edrychwch ar ganllawiau eich cyngor lleol am orlenwi. Gallwch ddod o hyd i’ch cyngor lleol ar GOV.UK.
Os bydd eich partner yn gwneud cais am fisa 6 mis fel dyweddi neu bartner sifil arfaethedig, gallwch chi a'ch partner fyw ar wahân pan fydd yn cyrraedd y DU am y tro cyntaf. Bydd angen i’ch partner roi tystiolaeth o’r canlynol:
ble bydd yn byw cyn y seremoni priodas neu bartneriaeth sifil - er enghraifft gyda theulu neu ffrindiau
ble bydd yn byw gyda chi ar ôl y briodas neu'r seremoni partneriaeth sifil
Edrychwch i weld a oes angen i'ch partner sefyll prawf Saesneg
Does dim angen i'ch partner sefyll prawf os yw un o'r canlynol yn berthnasol:
mae'n ddinesydd mewn gwlad sydd wedi'i heithrio oherwydd bod y Saesneg yn iaith swyddogol neu fwyafrifol yno - er enghraifft Jamaica neu UDA
mae ganddo radd prifysgol a gafodd ei haddysgu neu ei hymchwilio yn Saesneg
os yw dan 18 oed neu'n hŷn na 65 oed
Os oes gan eich partner gyflwr corfforol neu feddyliol sy’n ei atal rhag pasio’r prawf, efallai na fydd yn rhaid iddo wneud hynny. Bydd angen iddo ofyn i’w feddyg gadarnhau bod ei gyflwr:
yn annhebygol o newid
yn ei gwneud yn amhosibl iddo ddysgu digon o Saesneg - er enghraifft, anabledd dysgu neu anaf i'r ymennydd sy'n ei atal rhag dysgu'r iaith
Gallwch weld y rheolau llawn ynghylch pwy sydd angen sefyll prawf Saesneg ar GOV.UK.
Sefyll prawf Saesneg
Os oes angen i'ch partner basio prawf, rhaid iddo fod ar lefel 'A1' o leiaf ar y raddfa 'Fframwaith Cyfeirio Ewropeaidd Cyffredin ar gyfer Ieithoedd' (CEFR). Mae hyn yn profi a yw’n gallu siarad Saesneg a deall Saesneg llafar – nid yw’n profi darllen nac ysgrifennu yn Saesneg.
Rhaid iddo ddefnyddio darparwr prawf cymeradwy. Gallwch ddod o hyd i ddarparwr prawf Saesneg cymeradwy ar GOV.UK.
Os yw eich partner yn gallu siarad Saesneg yn dda
Mae'n werth i'ch partner sefyll prawf lefel uwch nag A1 - mae hyn yn golygu y gall ddefnyddio'r canlyniad ar gyfer ceisiadau fisa diweddarach.
Bydd angen iddo basio prawf:
lefel ‘A2’ pan fydd yn gwneud cais i ymestyn ei fisa partner
lefel ‘B1’ pan fydd yn gwneud cais i fyw yn y DU yn barhaol - gelwir hyn yn 'ganiatâd amhenodol'
Os nad yw eich partner a'ch plant yn bodloni'r rheolau ar gyfer fisâu teulu
Efallai y bydd eich partner a'i blant yn gallu cael fisa os bydd eithriad yn berthnasol. Mae'r eithriadau'n dibynnu ar p'un ai a ydynt yn byw y tu mewn neu'r tu allan i'r DU pan fyddant yn gwneud cais.
Os yw eich partner a’i blant eisoes yn y DU
Dylai eich partner a'i blant allu cael fisa teulu os bydd ‘amgylchiadau eithriadol’. Mae amgylchiadau eithriadol os oes unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol:
byddai peidio â chael fisa teulu yn achosi 'canlyniadau llym heb gyfiawnhad' i chi, eich partner neu blentyn dan 18 oed - er enghraifft, os oes angen gofal arbennig arnynt y gallant ei gael dim ond yn y DU
byddai'n anodd i chi fyw gyda'ch partner a'ch plant yn unrhyw le arall yn y byd - er enghraifft, os nad oes gwlad lle mae'r ddau ohonoch yn cael byw
mae gan eich partner blentyn dan 18 oed sydd yn y DU ac sydd naill ai’n ddinesydd Prydeinig neu sydd wedi byw yn y DU ers o leiaf 7 mlynedd
Dylai eich partner a'i blant hefyd allu cael fisa petai gwrthod eu cais yn effeithio ar eu 'hawl i fywyd preifat neu deuluol'. Mae’n bosibl y bydd unrhyw un o’r canlynol yn effeithio ar eu hawl i fywyd preifat a theuluol:
byddai'n anodd iawn iddynt fyw yn y wlad y byddai'n rhaid iddynt ddychwelyd iddi neu symud iddi - er enghraifft oherwydd diffyg gwaith, addysg, teulu neu ffrindiau, neu pe na fyddent yn cael eu derbyn yn ôl yno
maen nhw wedi byw yn y DU ers 20 mlynedd neu fwy
maen nhw rhwng 18 a 25 oed ac wedi byw yn y DU am o leiaf hanner eu hoes
Gallai hefyd effeithio ar hawl y plentyn i fywyd preifat a bywyd teuluol os yw wedi byw yn y DU am o leiaf 7 mlynedd a byddai’n anodd iddo addasu i fyw yn rhywle arall. Po hynaf ydyn nhw, yr hawsaf yw dangos hyn.
Os yw eich partner a'i blant yn cael fisa teulu ar sail amgylchiadau eithriadol neu fywyd preifat a theuluol, dim ond ar ôl 10 mlynedd y gallant wneud cais i aros yn y DU yn barhaol.
Pan fydd eich partner yn gwneud cais am ei fisa, gall hefyd ofyn am fynediad at ‘gyllid cyhoeddus’ os oes ei angen arno. Mae hyn yn golygu y bydd yn cael hawlio budd-daliadau a gwneud cais am dŷ cyngor. Mae’n haws dangos bod angen arian cyhoeddus arno os bydd yn byw gyda’i blentyn.
Gofynnwch am help gan gynghorydd arbenigol os oes angen i'ch partner a'i blant wneud cais ar sail amgylchiadau eithriadol neu fywyd preifat a theuluol.
Os yw eich partner a’i blant yn gwneud cais o’r tu allan i’r DU
Dylai eich partner a'i blant allu cael fisa teulu os bydd ‘amgylchiadau eithriadol’.
Mae amgylchiadau eithriadol os byddai peidio â chael fisa teulu yn achosi 'canlyniadau llym heb gyfiawnhad' i chi, eich partner, neu blentyn dan 18 oed. Er enghraifft, efallai y bydd ar eich partner angen gofal arbennig nad yw ond yn gallu ei gael yn y DU.
Os yw eich partner a'i blant yn cael fisâu yn sgil amgylchiadau eithriadol, dim ond ar ôl 10 mlynedd y gallant wneud cais i aros yn y DU yn barhaol.
Pan fydd eich partner yn gwneud cais am ei fisa, dylai hefyd ofyn am fynediad at ‘gyllid cyhoeddus’ os oes ei angen arno. Mae hyn yn golygu y bydd yn cael hawlio budd-daliadau a gwneud cais am dŷ cyngor. Mae’n haws dangos bod angen arian cyhoeddus arno os bydd yn byw gyda’i blentyn.
Gofynnwch am help gan gynghorydd arbenigol os oes angen i'ch partner a'i blant wneud cais ar sail amgylchiadau eithriadol.
Gwiriwch hawliau eich partner os yw'n cael fisa
Os bydd eich partner a’i blant yn cael fisâu teulu, bydd ganddynt yr hawl i wneud y canlynol:
rhentu neu brynu rhywle i fyw
defnyddio’r GIG
mynd i'r ysgol
gadael y DU a dychwelyd cynifer o weithiau ag y dymunant
gweithio neu astudio - oni bai bod ganddynt fisa 6 mis fel dyweddi neu bartner sifil arfaethedig
Fel arfer, ni all eich partner a'i blant hawlio'r rhan fwyaf o fudd-daliadau na gwneud cais am dŷ cyngor. Gelwir hyn yn amod ‘dim cyllid cyhoeddus’. Edrychwch i weld pa fudd-daliadau y gallant eu cael pan mae ganddynt amod ‘dim cyllid cyhoeddus’.
Os yw eich partner a'i blant yn cael fisa teulu ar sail amgylchiadau eithriadol neu fywyd preifat a theuluol, mae'n bosib y bydd modd iddynt gael budd-daliadau a thŷ cyngor. Os nad ydych chi’n siŵr, holwch i weld a yw’n dweud ‘dim cyllid cyhoeddus’ ar eu dogfennau, eu trwydded breswyl fiometrig neu eu statws ar-lein.
Darllenwch y rheolau ynghylch aros yn y DU ar ddiwedd y fisa
Gall eich partner wneud cais i ymestyn ei fisa a fisa ei blant cyn iddynt ddod i ben. Bydd yr estyniad am 2 flynedd a 6 mis.
Os cafodd eich partner fisa 6 mis fel dyweddi neu bartner sifil arfaethedig, bydd angen iddo wneud cais ar ôl eich seremoni priodas neu bartneriaeth sifil.
Os na allwch briodi neu gofrestru partneriaeth sifil o fewn 6 mis, gall eich partner wneud cais am estyniad bach. Bydd yn rhaid iddo esbonio pam nad yw'r seremoni wedi digwydd eto a rhoi tystiolaeth i brofi y bydd yn digwydd yn fuan. Gofynnwch am gymorth gan gynghorydd arbenigol os oes angen i chi ymestyn fisa 6 mis.
Aros yn y DU yn barhaol
Pan fydd eich partner wedi bod yn y wlad ar fisa partner am 5 mlynedd, gall fel arfer wneud cais i aros yn y DU yn barhaol. Gelwir hyn yn 'ganiatâd amhenodol'. Nid yw’r 5 mlynedd yn cynnwys unrhyw adeg pan oedd yn y DU ar y fisa 6 mis fel dyweddi neu bartner sifil arfaethedig.
Os yw eich partner yn cael fisa partner ar sail amgylchiadau eithriadol neu fywyd preifat a theuluol, dim ond ar ôl 10 mlynedd y gall wneud cais am ganiatâd amhenodol.
Gall eich partner wneud cais i’w blant gael caniatâd amhenodol ar yr un pryd, neu pan fydd eisoes wedi’i gael. Does dim ots ers faint mae ei blant wedi bod yn y DU.
Gwneud cais am fisâu partner a phlant
Edrychwch i weld sut gall eich partner a’ch plant wneud cais am fisâu teulu.
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.
Adolygwyd y dudalen ar 11 Gorffennaf 2022