Getting British citizenship for children
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Os ydych chi eisiau i’ch plentyn gael dinasyddiaeth Brydeinig, gallwch wneud cais i 'gofrestru' eich plentyn fel dinesydd Prydeinig. Mae cofrestru yn ffordd o wneud cais am ddinasyddiaeth Brydeinig.
Mae angen dinasyddiaeth Brydeinig ar eich plentyn er mwyn gallu cael pasbort y DU.
Os yw eich plentyn dros 18 oed, bydd angen i’ch plentyn wneud cais fel oedolyn – gweld y meini prawf cymhwysedd ar gyfer dinasyddiaeth i oedolion.
Os yw eich plentyn o dan 18 oed, mae'n bwysig gwneud yn siŵr mai cais am ddinasyddiaeth yw'r peth iawn i’w wneud i’ch plentyn. Mae’n gallu costio dros £1,000, a fyddwch chi ddim yn cael eich arian yn ôl os bydd eich cais yn cael ei wrthod, neu os yw eich plentyn yn ddinesydd Prydeinig yn barod.
Os na allwch chi fforddio'r ffi
Gallwch wneud cais am gael hepgor eich ffi (fee waiver). Os bydd eich ffi yn cael ei hepgor, fydd dim rhaid i chi dalu’r ffi.
I wneud cais am gael hepgor y ffi, mae’n rhaid i chi ddangos nad oes gennych ddigon o incwm a chynilion i dalu am y ffi ac am gostau hanfodol fel bwyd a rhent. Bydd angen i chi anfon dogfennau sy’n dangos eich incwm a’ch gwariant ar gyfer y chwe mis diwethaf, er enghraifft:
eich slipiau cyflog
cyfriflenni banc eich holl gyfrifon
datganiad ysgrifenedig o’ch contract meddiannaeth
biliau cyfleustodau
If social services give you money to help you look after your child, you’ll automatically get a fee waiver - you’ll need to send documents to prove this.
Gweld a yw eich plentyn yn ddinesydd Prydeinig yn barod
Efallai fod eich plentyn wedi cael dinasyddiaeth Brydeinig yn awtomatig os cafodd ei eni yn y DU, neu os oes gan eich plentyn riant sy’n ddinesydd Prydeinig.
Os yw eich plentyn yn ddinesydd Prydeinig yn barod, does dim angen i chi wneud cais am ddinasyddiaeth ar ei gyfer, a gallwch fynd ati i wneud cais am basbort cyntaf eich plentyn ar GOV.UK.
Os nad ydych chi'n siŵr a yw'ch plentyn yn ddinesydd Prydeinig, siaradwch â chynghorydd.
Os ydych chi'n feichiog neu'n bwriadu cael plentyn
Os oes gennych chi ganiatâd i fyw yn y DU yn barhaol pan fydd eich plentyn yn cael ei eni, bydd eich plentyn yn cael dinasyddiaeth Brydeinig yn awtomatig. Bydd angen i chi brofi bod gennych chi:
ddinasyddiaeth Brydeinig neu Wyddelig
statws preswylydd sefydlog gan y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE
caniatâd amhenodol i aros
hawl preswylio
preswyliad parhaol – os cafodd eich plentyn ei eni cyn 1 Gorffennaf 2021
Os cewch chi statws preswylydd sefydlog ar ôl i’ch plentyn gael ei eni, bydd eich plentyn yn dal yn ddinesydd Prydeinig os yw’r ddau amod canlynol yn berthnasol:
roeddech chi'n gymwys i gael statws preswylydd sefydlog ar 30 Mehefin 2021 – gweld a allwch chi wneud cais am statws preswylydd sefydlog
mae'ch plentyn wedi cael ei eni ar ôl 30 Mehefin 2021
Os oes gennych breswyliad parhaol, efallai nad oes gennych ddogfen i brofi hynny. Os ydych chi yn y sefyllfa hon, siaradwch â chynghorydd.
Gweld a allwch chi wneud cais am ddinasyddiaeth ar gyfer eich plentyn
Os nad yw eich plentyn yn ddinesydd Prydeinig yn barod, efallai y gallwch wneud cais am ddinasyddiaeth ar ei gyfer. Mae'n dibynnu ar ble cafodd ei eni a'ch statws mewnfudo chi.
Os ydych chi hefyd yn gwneud cais am ddinasyddiaeth i chi'ch hun, gallwch wneud cais ar gyfer eich plentyn ar yr un pryd. Bydd angen i chi lenwi ffurflen wahanol ar gyfer eich plentyn.
Os yw eich plentyn yn hŷn na 10 oed, rhaid i’ch plentyn fodloni amodau ‘cymeriad da’. Fel arfer, ystyrir bod gan eich plentyn gymeriad da oni bai:
bod gan eich plentyn euogfarn droseddol
bod eich plentyn wedi teithio i’r DU heb fisa neu awdurdodiad teithio electronig
bod eich plentyn wedi teithio i'r DU ar daith beryglus – er enghraifft, ar gwch bach neu wedi'i guddio mewn cerbyd
Os nad ydych chi’n siŵr a yw eich plentyn yn bodloni amodau cymeriad da ai peidio, siaradwch â chynghorydd.
Os cafodd eich plentyn ei eni yn y DU
Gallwch wneud cais i gofrestru eich plentyn i gael dinasyddiaeth Brydeinig:
os cawsoch chi ganiatâd i fyw yn y DU yn barhaol ar ôl i'ch plentyn gael ei eni
os oedd tad eich plentyn yn ddinesydd Prydeinig neu'n preswylio’n sefydlog yn y DU pan gafodd eich plentyn ei eni
os gwnaethoch chi ymuno â lluoedd arfog y DU ar ôl i'ch plentyn gael ei eni
os yw’ch plentyn wedi byw yn y DU nes ei fod yn 10 oed
Os cawsoch chi ganiatâd i fyw yn y DU yn barhaol ar ôl i’ch plentyn gael ei eni
Gallwch gofrestru eich plentyn ar gyfer dinasyddiaeth os oeddech chi neu ei riant arall wedi dechrau ‘preswylio’n sefydlog yn y DU’ ar ôl i’ch plentyn gael ei eni, er enghraifft:
os oes gennych chi ddinasyddiaeth Brydeinig
os oes gennych chi ganiatâd amhenodol i aros (neu ddod i mewn)
os oes gennych chi breswyliad parhaol
ydych chi’n ddinesydd Gwyddelig sy’n byw yn y DU
os ydych chi wedi cael statws preswylydd sefydlog gan y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE
You can apply to register your child for British citizenship using form MN1 on GOV.UK.
If you got settled status from the EU Settlement Scheme after your child was born
Your child will automatically be a British citizen if both of the following apply:
they were born after 30 June 2021
you were eligible for settled status on 30 June 2021 - even if you hadn’t applied by that date
If you’re in this situation, you don’t need to register your child as British - you can just apply for your child's first passport on GOV.UK.
Os gwnaethoch chi ymuno â lluoedd arfog y DU ar ôl i'ch plentyn gael ei eni
Os oedd tad eich plentyn yn ddinesydd Prydeinig neu'n preswylio’n sefydlog yn y DU
Bydd eich plentyn fel arfer yn ddinesydd Prydeinig os oedd gan ei dad biolegol ddinasyddiaeth Brydeinig neu os oedd yn preswylio’n sefydlog yn y DU pan gafodd y plentyn ei eni. Rydych chi’n preswylio’n sefydlog yn y DU:
os oes gennych chi ddinasyddiaeth Brydeinig
os ydych chi wedi cael statws preswylydd sefydlog gan y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE
os oes gennych chi ganiatâd amhenodol
os oes gennych chi hawl preswylio
os oes gennych chi breswyliad parhaol
os ydych chi’n ddinesydd Gwyddelig sy’n byw yn y DU
Mewn rhai sefyllfaoedd fydd eich plentyn ddim yn ddinesydd Prydeinig, hyd yn oed os oedd y tad biolegol yn ddinesydd Prydeinig neu’n preswylio’n sefydlog yn y DU pan gafodd y plentyn ei eni. Ni fydd eich plentyn yn ddinesydd Prydeinig:
os cafodd ei eni ar 1 Gorffennaf 2006 neu ar ôl hynny a bod y fam yn briod â rhywun arall
os cafodd ei eni cyn 1 Gorffennaf 2006 ac nad oedd y rhieni yn briod
Os yw un o'r sefyllfaoedd hyn yn berthnasol i’ch plentyn, efallai y byddwch chi’n gallu ei gofrestru fel dinesydd Prydeinig – does dim rhaid i chi dalu ffi y cais dinasyddiaeth.
Os cafodd eich plentyn ei eni ar neu ar ôl 1 Gorffennaf 2006
Gallwch ddarllen canllawiau ffurflen UKF(M) ar GOV.UK i weld pa ofynion y mae’n rhaid i’ch plentyn eu bodloni er mwyn cofrestru fel dinesydd Prydeinig.
Os yw’ch plentyn yn gymwys, gallwch wneud cais i gofrestru eich plentyn ar gyfer dinasyddiaeth Brydeinig gan ddefnyddio ffurflen UKF(M) ar GOV.UK.
Os cafodd eich plentyn ei eni cyn 1 Gorffennaf 2006
Os yw’ch plentyn yn gymwys, gallwch wneud cais i gofrestru eich plentyn ar gyfer dinasyddiaeth Brydeinig gan ddefnyddio ffurflen UKF ar GOV.UK.
Os gwnaethoch chi ymuno â lluoedd arfog y DU ar ôl i'ch plentyn gael ei eni
Gallwch wneud cais i gofrestru eich plentyn fel dinesydd Prydeinig:
os gwnaethoch chi, neu riant arall y plentyn, ymuno â lluoedd arfog y DU ar ôl i'ch plentyn gael ei eni
os cafodd eich plentyn ei eni ar neu ar ôl 13 Ionawr 2010
Os yw eich plentyn wedi bod yn byw yn y DU am y 10 mlynedd diwethaf
Mae’r hyn y gallwch ei wneud yn dibynnu ar p’un a oedd eich plentyn wedi bod yn byw yn y DU o’r adeg y cafodd ei eni nes troi’n 10 oed.
Os yw’ch plentyn wedi byw yn y DU nes ei fod yn 10 oed
Os nad yw eich plentyn yn ddinesydd Prydeinig yn barod, bydd fel arfer yn gymwys ar gyfer dinasyddiaeth – hyd yn oed os nad oes gennych chi na'ch plentyn yr hawl i fyw'n barhaol yn y DU.
Gallwch wneud cais i gofrestru eich plentyn ar gyfer dinasyddiaeth gan ddefnyddio ffurflen T ar GOV.UK.
Os nad oedd eich plentyn wedi bod yn byw yn y DU nes ei fod yn 10 oed
Gallwch wneud cais i gofrestru eich plentyn fel dinesydd Prydeinig:
os ydych chi, eich plentyn, a rhiant arall eich plentyn i gyd yn y DU yn gyfreithlon
os yw eich plentyn wedi bod yn byw yma am y 10 mlynedd diwethaf
Os ydych chi yn y DU yn gyfreithlon ac nad oes gan eich plentyn gyswllt rheolaidd â’i riant arall, does dim ots ble mae’r rhiant arall yn byw.
Bydd angen i chi wneud cais i gofrestru eich plentyn fel dinesydd Prydeinig gan ddefnyddio ffurflen MN1. Cyn gwneud cais, darllenwch holl ganllawiau ffurflen MN1 ar GOV.UK. Mae’n costio dros £1,000 i wneud cais os na fydd eich ffi yn cael ei hepgor. Os bydd eich cais yn cael ei wrthod, fyddwch chi ddim yn cael eich arian yn ôl.
Os cafodd eich plentyn ei eni y tu allan i’r DU
Mae'r rheolau ynghylch cael dinasyddiaeth Brydeinig ar gyfer eich plentyn yn dibynnu ar eich statws chi, ac ar statws eich plentyn.
Os cawsoch chi ddinasyddiaeth Brydeinig ar ôl i'ch plentyn gael ei eni
Gallwch wneud cais i gofrestru eich plentyn fel dinesydd Prydeinig os ydych chi’n bodloni holl feini prawf y Swyddfa Gartref. Byddant yn ystyried pethau fel hyn:
ydych chi a'ch plentyn yn bwriadu byw yn y DU – os ydych chi neu'ch plentyn yn bwriadu byw dramor, mae'n bosibl y bydd cais eich plentyn yn cael ei wrthod
ers faint mae'ch plentyn wedi bod yn byw yn y DU – os yw’n hŷn nag 13 oed, fel arfer bydd angen iddo fod wedi bod yn byw yn y DU am ddwy flynedd cyn i chi wneud cais
statws mewnfudo eich plentyn – os nad oes gan eich plentyn ganiatâd amhenodol i aros neu breswyliad parhaol, fel arfer bydd ei gais yn cael ei wrthod
cenedligrwydd a statws mewnfudo chi’ch hun yn ogystal â’ch plentyn a rhiant arall eich plentyn
Eich cenedligrwydd a'ch statws mewnfudo chi
Gallwch wneud cais i gofrestru eich plentyn fel dinesydd Prydeinig os yw un o'i rieni'n ddinesydd Prydeinig neu'n gwneud cais i fod yn ddinesydd Prydeinig.
Rhaid i riant arall eich plentyn naill ai fod yn ddinesydd Prydeinig neu’n preswylio’n sefydlog yn y DU. Os oes gan riant arall y plentyn statws mewnfudo a fydd yn arwain at breswylio’n sefydlog, byddai cais eich plentyn yn dal yn gallu bod yn llwyddiannus.
Rydych chi’n preswylio’n sefydlog yn y DU os oes gennych chi un o'r canlynol:
statws preswylydd sefydlog gan y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE
caniatâd amhenodol
hawl preswylio
dinasyddiaeth Wyddelig a'ch bod chi’n byw yn y DU
Os ydych chi'n ddinesydd Prydeinig ac os nad oes gan eich plentyn gysylltiad rheolaidd â'i riant arall, does dim ots beth yw statws mewnfudo'r rhiant arall.
Os ydych chi’n gwneud cais am ddinasyddiaeth ar gyfer chi’ch hun ac nad ydych chi’n siŵr a fydd eich cais yn llwyddiannus, siaradwch â chynghorydd.
Gwnewch gais i gofrestru eich plentyn
Bydd angen i chi wneud cais i gofrestru eich plentyn fel dinesydd Prydeinig gan ddefnyddio ffurflen MN1. Mae’n bwysig i chi ddarllen holl ganllawiau ffurflen MN1 ar GOV.UK cyn i chi wneud cais. Mae’n costio dros £1,000 i wneud cais os na fydd eich ffi yn cael ei hepgor. Os bydd eich cais yn cael ei wrthod, fyddwch chi ddim yn cael eich arian yn ôl.
Gallwch wneud cais i gofrestru eich plentyn ar gyfer dinasyddiaeth gan ddefnyddio MN1 ar GOV.UK.
Os oedd tad eich plentyn yn ddinesydd Prydeinig pan gafodd eich plentyn ei eni
Fel arfer, bydd eich plentyn yn ddinesydd Prydeinig os yw'r ddau amod canlynol yn berthnasol i’r tad biolegol:
roedd ganddo ddinasyddiaeth Brydeinig pan gafodd eich plentyn ei eni
roedd wedi cael ei eni yn y DU, neu wedi gwneud cais am ddinasyddiaeth Brydeinig
Mewn rhai sefyllfaoedd fydd eich plentyn ddim yn ddinesydd Prydeinig, hyd yn oed os oedd y tad biolegol yn ddinesydd Prydeinig pan gafodd y plentyn ei eni. Ni fydd eich plentyn yn ddinesydd Prydeinig:
os cafodd ei eni ar 1 Gorffennaf 2006 neu ar ôl hynny a bod y fam yn briod â rhywun arall
os cafodd ei eni cyn 1 Gorffennaf 2006 ac nad oedd y rhieni yn briod
Os yw un o'r sefyllfaoedd hyn yn berthnasol i’ch plentyn, efallai y byddwch chi’n gallu ei gofrestru fel dinesydd Prydeinig – does dim rhaid i chi dalu ffi y cais dinasyddiaeth.
Os cafodd eich plentyn ei eni ar neu ar ôl 1 Gorffennaf 2006
Gallwch ddarllen canllawiau ffurflen UKF(M) ar GOV.UK i weld pa ofynion y mae’n rhaid i’ch plentyn eu bodloni er mwyn cofrestru fel dinesydd Prydeinig.
Os yw’ch plentyn yn gymwys, gallwch wneud cais i gofrestru eich plentyn ar gyfer dinasyddiaeth gan ddefnyddio ffurflen UKF(M) ar GOV.UK.
Os cafodd eich plentyn ei eni cyn 1 Gorffennaf 2006
Os yw’ch plentyn yn gymwys, gallwch wneud cais i gofrestru eich plentyn ar gyfer dinasyddiaeth gan ddefnyddio ffurflen UKF ar GOV.UK.
Os cawsoch chi ddinasyddiaeth Brydeinig yn awtomatig pan gawsoch eich geni
Os cawsoch chi eich geni y tu allan i’r DU, rydych chi'n ‘ddinesydd Prydeinig drwy dras’. Mae hyn yn golygu na allwch drosglwyddo cenedligrwydd Prydeinig yn awtomatig i’ch plant os byddant yn cael eu geni y tu allan i’r DU.
Os ydych chi’n ddinesydd Prydeinig drwy dras, gallwch wneud cais i gofrestru eich plentyn fel dinesydd Prydeinig:
os oeddech chi wedi bod yn byw yn y DU am dair blynedd ar unrhyw adeg cyn i'ch plentyn gael ei eni, neu
os daeth eich teulu cyfan i fyw yn y DU am dair blynedd ar ôl i’ch plentyn gael ei eni
Os oeddech chi wedi bod yn byw yn y DU am dair blynedd cyn i’ch plentyn gael ei eni
Pan fyddwch yn cofrestru eich plentyn fel dinesydd Prydeinig, bydd eich plentyn hefyd yn ddinesydd Prydeinig drwy dras. Mae hyn yn golygu na fydd yn gallu trosglwyddo cenedligrwydd Prydeinig i unrhyw blant a fydd ganddo y tu allan i’r DU.
Os daw eich teulu cyfan i fyw yn y DU ar ôl i’ch plentyn gael ei eni
Gallwch wneud cais i gofrestru eich plentyn fel dinesydd Prydeinig ar ôl i chi fod yn byw yn y DU am dair blynedd. Pan fyddwch yn cofrestru eich plentyn, bydd yn ‘ddinesydd Prydeinig ac eithrio drwy dras’ – mae hyn yn golygu y gall drosglwyddo cenedligrwydd Prydeinig i unrhyw blant a fydd ganddo y tu allan i’r DU.
Mae eich teulu cyfan yn golygu eich plentyn a’i ddau riant. Os ydych chi wedi ysgaru neu wedi dod â'ch partneriaeth sifil i ben, neu os yw’r rhiant arall wedi marw, mae’ch teulu cyfan yn golygu chi’ch hun a'ch plentyn.
Gwneud cais i gofrestru eich plentyn
Gallwch wneud cais i gofrestru eich plentyn fel dinesydd Prydeinig gan ddefnyddio MN1 ar GOV.UK.
Os cawsoch chi eich geni yn y DU
Fel arfer, bydd eich plentyn yn ddinesydd Prydeinig yn awtomatig. Gallwch weld ar GOV.UK sut mae’r Swyddfa Gartref yn penderfynu a yw rhywun yn awtomatig yn ddinesydd Prydeinig.
Os yw eich plentyn wedi bod yn byw yn y DU am y pum mlynedd diwethaf
Gallwch wneud cais i gofrestru eich plentyn fel dinesydd Prydeinig os ydych chi, eich plentyn a rhiant arall y plentyn i gyd yn preswylio’n sefydlog yn y DU. Mae’n rhaid i chi i gyd fod wedi bod yn byw yn gyfreithlon yn y DU am y pum mlynedd diwethaf, ac mae’n rhaid i’ch plentyn fod wedi bod yn preswylio’n sefydlog am flwyddyn.
Rydych chi’n preswylio’n sefydlog yn y DU os oes gennych chi un o'r canlynol:
statws preswylydd sefydlog gan y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE
caniatâd amhenodol
hawl preswylio
dinasyddiaeth Wyddelig – a'ch bod chi’n byw yn y DU
Os ydych chi’n preswylio’n sefydlog ac nad oes gan eich plentyn gyswllt rheolaidd â’i riant arall, does dim ots ble mae’r rhiant arall yn byw na beth yw ei statws mewnfudo.
Bydd angen i chi wneud cais i gofrestru eich plentyn fel dinesydd Prydeinig gan ddefnyddio ffurflen MN1. Cyn i chi wneud cais, darllenwch holl ganllawiau ffurflen MN1 ar GOV.UK. Mae’n costio dros £1,000 i wneud cais os na fydd eich ffi yn cael ei hepgor. Os bydd eich cais yn cael ei wrthod, fyddwch chi ddim yn cael eich arian yn ôl.
Os yw eich plentyn wedi bod yn byw yn y DU am y 10 mlynedd diwethaf
Gallwch wneud cais i gofrestru eich plentyn fel dinesydd Prydeinig os ydych chi, eich plentyn a rhiant arall y plentyn i gyd yn y DU yn gyfreithlon, a bod eich plentyn wedi bod yn byw yma am y 10 mlynedd diwethaf.
Os nad oes gan eich plentyn gyswllt rheolaidd â’i riant arall, does dim ots ble mae’r rhiant arall yn byw na beth yw ei statws mewnfudo.
Bydd angen i chi wneud cais i gofrestru eich plentyn fel dinesydd Prydeinig gan ddefnyddio ffurflen MN1. Cyn i chi wneud cais, darllenwch holl ganllawiau ffurflen MN1 ar GOV.UK. Mae’n costio dros £1,000 os na fydd eich ffi yn cael ei hepgor. Os bydd eich cais yn cael ei wrthod, fyddwch chi ddim yn cael eich arian yn ôl.
Os nad yw eich plentyn yn gymwys ar gyfer dinasyddiaeth mewn unrhyw wlad
‘Diwladwriaeth’ yw'r term am hyn. Gallwch weld ar GOV.UK sut mae’r Swyddfa Gartref yn penderfynu a yw rhywun yn gallu cael dinasyddiaeth oherwydd ei fod yn ddiwladwriaeth.
Os nad yw eich plentyn yn gymwys ar gyfer dinasyddiaeth
Efallai y bydd y Swyddfa Gartref yn rhoi dinasyddiaeth i'ch plentyn:
os oes angen i'ch plentyn fod yn ddinesydd Prydeinig ar gyfer ei swydd – er enghraifft, os yw'n bwriadu ymuno â'r Lluoedd Arfog neu os yw'n mynd i gynrychioli'r DU ym myd chwaraeon
am resymau tosturiol – er enghraifft, rydych chi’n ddinesydd Prydeinig ac yn gofalu am blentyn yn eich teulu y mae ei rieni wedi marw, ac rydych chi eisiau cael dinasyddiaeth ar gyfer y plentyn
os gallwch ddangos y byddai hynny er budd pennaf eich plentyn – er enghraifft, os yw cenedligrwydd y plentyn yn ei rwystro rhag mynd ar dripiau ysgol
Os ydych chi’n gwneud cais oherwydd bod angen i’ch plentyn fod yn ddinesydd Prydeinig ar gyfer ei swydd neu am resymau tosturiol, siaradwch â chynghorydd.
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.