Problemau gyda’ch penderfyniad statws preswylydd sefydlog
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Ar ôl i chi wneud cais i Gynllun Preswylio'n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE, bydd y Swyddfa Gartref yn anfon llythyr penderfyniad atoch i ddweud wrthych ba statws y mae wedi'i roi i chi. Bydd yn cysylltu â chi os bydd angen rhagor o wybodaeth arni cyn iddi wneud penderfyniad.
Gall gymryd peth amser i'r Swyddfa Gartref brosesu eich cais, felly peidiwch â phoeni os ydych chi'n dal i aros am eich llythyr penderfyniad. Edrychwch i weld faint o amser mae’n ei gymryd i gael penderfyniad ar GOV.UK.
Os gwnaeth aelod o’ch teulu gais hefyd, efallai y bydd yn cael penderfyniad o’ch blaen - hyd yn oed os ydych chi wedi cysylltu eich ceisiadau.
Gallwch gysylltu â Chanolfan Penderfyniadau Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE i weld sut mae eich cais yn dod yn ei flaen.
Canolfan Penderfyniadau Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE
Rhif ffôn: 0300 123 7379
O’r tu allan i’r DU: +44 203 080 0010
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 8.30pm
Dydd Sadwrn a dydd Sul, 9.30am i 4.30pm
Gallwch ofyn cwestiwn am y cynllun ar GOV.UK - byddant yn ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.
Mae eich galwad yn debygol o fod am ddim os oes gennych chi gytundeb ffôn sy'n cynnwys galwadau am ddim i linellau tir - dysgwch fwy am ffonio rhifau 030.
Os na chawsoch chi'r statws roeddech chi ei eisiau
Os ydych chi wedi cael statws preswylydd cyn-sefydlog heb statws preswylydd sefydlog, neu heb gael statws o gwbl, bydd eich llythyr penderfyniad gan y Swyddfa Gartref yn dweud pam.
Bydd eich llythyr penderfyniad hefyd yn dweud wrthych a allwch wneud cais eto neu apelio yn erbyn y penderfyniad.
Os yw’r dyddiad ar eich llythyr penderfyniad cyn 5 Hydref 2023, efallai y byddwch hefyd yn gallu gofyn i’r Swyddfa Gartref edrych ar y penderfyniad eto. Gelwir hyn yn 'adolygiad gweinyddol'. Gwiriwch a yw eich llythyr penderfyniad yn dweud y gallwch ofyn am adolygiad gweinyddol.
Os cawsoch statws preswylydd cyn-sefydlog ond eich bod yn disgwyl cael statws preswylydd sefydlog
Os nad yw eich llythyr yn dweud eich bod wedi gwneud cais am statws preswylydd sefydlog, efallai eich bod wedi gwneud cais neu wedi derbyn statws preswylydd cyn-sefydlog drwy gamgymeriad wrth wneud cais ar-lein. Cysylltwch â Chanolfan Penderfyniadau Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE i gael gwybod a wnaethoch chi hyn.
Os ydych chi wedi derbyn statws preswylydd cyn-sefydlog mewn camgymeriad, gallwch wneud cais i Gynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE eto i’w newid i statws preswylydd sefydlog.
Canolfan Penderfyniadau Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE
Rhif ffôn: 0300 123 7379
O’r tu allan i’r DU: +44 203 080 0010
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 8.30pm
Dydd Sadwrn a dydd Sul, 9.30am i 4.30pm
Gallwch ofyn cwestiwn am y cynllun ar GOV.UK - byddant yn ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.
Mae eich galwad yn debygol o fod am ddim os oes gennych chi gytundeb ffôn sy'n cynnwys galwadau am ddim i linellau tir - dysgwch fwy am ffonio rhifau 030.
Gwneud cais i newid statws cyn-sefydlog i statws sefydlog
Dylech wneud cais i newid eich statws os gallwch sicrhau’r canlynol:
rhoi gwybodaeth newydd - er enghraifft, enwau eraill yr ydych wedi cael eich adnabod wrthynt neu wahanol sillafiadau o'ch enw
darparu tystiolaeth newydd i ddangos eich bod wedi byw yn y DU ers 5 mlynedd yn olynol
Mae'n rhad ac am ddim ac nid oes terfyn ar sawl gwaith y gallwch wneud cais. Gwiriwch pa dystiolaeth y gallwch ei defnyddio i wneud cais eto.
Gallwch gael help gan eich canolfan Cyngor ar Bopeth leol cyn gwneud cais eto.
Os yw’r dyddiad ar eich llythyr penderfyniad cyn 5 Hydref 2023
Os nad oes gennych dystiolaeth newydd a'ch bod yn meddwl bod y Swyddfa Gartref wedi gwneud camgymeriad, dylech ofyn am adolygiad gweinyddol.
Mae gennych 28 diwrnod o ddyddiad eich llythyr penderfyniad i ofyn am adolygiad. Mae adolygiad gweinyddol yn costio £80. Cewch ad-daliad gan y Swyddfa Gartref os bydd yn newid ei phenderfyniad am ei bod wedi gwneud camgymeriad.
Mae'n werth gofyn am adolygiad gweinyddol os ydych chi'n meddwl y dylech fod wedi cael statws preswylydd sefydlog oherwydd:
eich bod wedi ymddeol ac wedi byw yn y DU am lai na 5 mlynedd
eich bod wedi rhoi'r gorau i weithio oherwydd eich bod yn sâl neu wedi'ch anafu a'ch bod wedi byw yn y DU am lai na 5 mlynedd
eich bod wedi llwytho tystiolaeth i fyny sy'n dangos eich bod wedi byw yn y DU am 5 mlynedd yn olynol a'ch bod yn meddwl bod y Swyddfa Gartref wedi gwneud camgymeriad
Os ydych chi wedi methu’r dyddiad cau o 28 diwrnod i ofyn am adolygiad gweinyddol, dylech wneud cais i Gynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE eto. Mae croeso i chi wneud cais eto a gallwch wneud cais gynifer o weithiau ag y dymunwch.
Gofynnwch am help gan eich canolfan Cyngor ar Bopeth leol cyn gofyn am adolygiad gweinyddol.
Mae rhagor o wybodaeth am ofyn am adolygiad gweinyddol ar gael ar GOV.UK.
Appealing the decision to give you pre-settled status
Os gwnaethoch gais i Gynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE ar ôl 11pm ar 31 Ionawr 2020, gallwch apelio yn erbyn penderfyniad y Swyddfa Gartref i roi statws preswylydd cyn-sefydlog i chi yn hytrach na statws preswylydd sefydlog. Os gwnaethoch gais cyn hyn, ni allwch apelio ond gallwch wneud cais eto.
Os yw’r dyddiad ar eich llythyr penderfyniad cyn 5 Hydref 2023, gallwch hefyd ofyn am adolygiad gweinyddol.
Mae apêl ysgrifenedig yn costio £80 neu mae gwrandawiad apêl yn costio £140. Bydd y Swyddfa Gartref yn ad-dalu eich ffi os byddwch yn ennill yr apêl. Gall apelio gymryd amser hir, felly fel arfer mae'n well gwneud cais i'r Cynllun Preswylio'n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE eto - neu ofyn am adolygiad gweinyddol os gallwch.
Dylech ystyried apelio:
os gwnaethoch gais am adolygiad gweinyddol a bod eich cais wedi'i wrthod
os nad oes gennych chi dystiolaeth ddogfennol, ond mae gennych chi dystion neu dystiolaeth arall
os nad yw'r Swyddfa Gartref yn derbyn bod y gyfraith yn anghywir
Os ydych chi yn y DU, mae gennych 14 diwrnod i apelio o'r dyddiad ar eich llythyr penderfyniad. Gallwch apelio o’r DU ar-lein neu drwy ddefnyddio ffurflen IAFT-5 ar GOV.UK. Byddwch yn apelio yn erbyn penderfyniad i ‘ amrywio hyd neu gyflwr eich arhosiad o dan y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE’.
Os ydych chi’r tu allan i’r DU, mae gennych 28 diwrnod i apelio o'r dyddiad y cawsoch eich llythyr penderfyniad. Gallwch apelio o’r tu allan i’r DU ar-lein neu drwy ddefnyddio ffurflen IAFT-6 ar GOV.UK. Byddwch yn apelio yn erbyn penderfyniad i ‘ amrywio hyd neu gyflwr eich arhosiad o dan y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE’.
Mynnwch gyngor arbenigol ar fewnfudo os oes angen help arnoch gyda’ch apêl. Gallwch:
gysylltu â’ch canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf i gael argymhelliad
chwilio am gynghorydd mewnfudo yn eich ardal chi
chwilio am gyfreithiwr yn eich ardal chi
I gael rhagor o wybodaeth am apelio yn erbyn penderfyniad mewnfudo, ewch i GOV.UK.
Os gwrthodwyd unrhyw statws i chi
Bydd eich llythyr penderfyniad yn dweud wrthych pam eich bod wedi cael eich gwrthod. Gallwch apelio yn erbyn y penderfyniad. Os yw’r dyddiad ar eich llythyr penderfyniad cyn 5 Hydref 2023, gallwch hefyd ofyn am adolygiad gweinyddol.
Gallwch hefyd wneud cais i'r Cynllun Preswylio'n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE eto - ond bydd eich cais fel arfer yn cael ei wrthod os yw'r dyddiad cau ar gyfer gwneud cais i'r cynllun wedi mynd heibio. Mae’r dyddiad cau wedi mynd heibio i unrhyw un a oedd yn byw yn y DU erbyn 31 Rhagfyr 2020.
Gofynnwch am gymorth gan eich canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf os gwrthodwyd unrhyw statws i chi.
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.
Adolygwyd y dudalen ar 31 Ionawr 2020