Gwneud cais am statws preswylydd sefydlog a chyn-sefydlog
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Y dyddiad cau i’r rhan fwyaf o bobl wneud cais am statws preswylydd sefydlog neu cyn-sefydlog o’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE oedd 30 Mehefin 2021.
Dim ond ar ôl y dyddiad cau hwn y gallwch wneud cais i’r cynllun:
os oes gennych reswm da dros wneud cais hwyr - holwch a allwch wneud cais hwyr
yn uwchraddio o statws preswylydd cyn-sefydlog i statws sefydlog
os ydych chi'n gwneud cais i ymuno ag aelod o'r teulu yn y DU - dysgwch fwy am ymuno â'r teulu
os oes gennych fisa gwaith, astudio neu deulu dilys
Fel arfer, rhaid i chi wneud cais i Gynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE ar-lein. Mae rhai sefyllfaoedd lle mae’n rhaid i chi ddefnyddio ffurflen bapur.
Does dim rhaid i chi fod yn y DU i wneud cais.
Cyn i chi ddechrau, casglwch bopeth sydd ei angen arnoch i wneud cais.
Os oes gennych chi aelodau o'r teulu a gyrhaeddodd y DU ar ôl 31 Rhagfyr 2020, mae dyddiadau cau gwahanol ar gyfer eu ceisiadau - dysgwch fwy am ddod â theulu i'r DU.
Os ydych chi'n cael trafferth gwneud cais i'r cynllun neu os oes angen i chi wneud cais hwyr, cysylltwch â chynghorydd.
Os ydych yn cael trafferth deall Saesneg
Gallwch gael help gyda'ch cais gan grwpiau a chanolfannau cymunedol lleol. Os oes angen help arnoch i ddod o hyd i ganolfan, cysylltwch ach canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf
Edrychwch i weld sut dylech chi wneud cais
Fel arfer, rhaid i chi wneud cais ar-lein. Rhaid i rai pobl ddefnyddio ffurflen bapur.
Rhaid i chi wneud cais ar ffurflen bapur os nad oes gennych basbort neu os na allwch gael gafael ar eich pasbort neu'ch cerdyn adnabod cenedlaethol. Os yw eich pasbort neu'ch cerdyn adnabod wedi dod i ben a'ch bod yn gwneud cais o'r tu allan i'r DU, gallwch wneud cais ar-lein yn lle hynny.
Rhaid i chi hefyd wneud cais ar ffurflen bapur os nad ydych yn ddinesydd yr UE, Ardal Economaidd Ewrop (AEE) neu'r Swistir a'ch bod:
yn ofalwr i ddinesydd yr UE, AEE neu'r Swistir
yn aelod o deulu dinesydd o'r UE, AEE neu'r Swistir sydd wedi dod yn ddinesydd Prydeinig
yn aelod o deulu dinesydd Prydeinig a'ch bod wedi byw gyda nhw y tu allan i'r DU mewn gwlad yn yr UE neu AEE neu'r Swistir - os ydych chi'n newid o statws preswylydd cyn-sefydlog i statws preswylydd sefydlog
yn ofalwr i ddinesydd Prydeinig - os ydych chi'n newid o statws preswylydd cyn-sefydlog i statws preswylydd sefydlog
Mae'r AEE yn cynnwys gwledydd yr UE a Gwlad yr Iâ, Liechtenstein a Norwy hefyd.
Cael ffurflen gais bapur
Ffoniwch Ganolfan Penderfyniadau Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE i ofyn am ffurflen bapur. Efallai y bydd yn cymryd ychydig o wythnosau i'r Swyddfa Gartref anfon ffurflen bapur atoch ar ôl i chi ofyn amdani.
Canolfan Penderfyniadau Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE
Rhif ffôn: 0300 123 7379
O’r tu allan i’r DU: +44 203 080 0010
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 8.30pm
Dydd Sadwrn a dydd Sul, 9.30am i 4.30pm
Gallwch ofyn cwestiwn am y cynllun ar GOV.UK - byddant yn ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.
Pan fydd y ffurflen bapur yn cyrraedd
Bydd eich ffurflen yn cyrraedd gyda rhai o'ch manylion wedi'u llenwi. Dylech gywiro unrhyw gamgymeriadau - er enghraifft, os yw eich enw wedi'i sillafu'n anghywir. Dylech roi gwybod i Ganolfan Penderfyniadau’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE am unrhyw newidiadau a wnewch.
Dylech ddychwelyd y ffurflen drwy’r post ynghyd ag unrhyw ddogfennau a’ch llun pasport.
Os nad oes gennych basbort neu ddogfen adnabod arall neu os na allwch gael gafael arnyn nhw, holwch pa ddogfennau y gallwch eu defnyddio.
Siaradwch â chynghorydd os oes angen help arnoch i wneud cais ar ffurflen bapur.
Dechrau’r cais ar-lein
Yn gyntaf, rhaid i chi brofi pwy ydych chi gan ddefnyddio eich dogfen adnabod.
Eich dogfen adnabod yw:
pasbort neu gerdyn adnabod cenedlaethol os ydych chi'n ddinesydd o'r UE, AEE neu'r Swistir
pasbort, 'cerdyn preswylio biometrig' neu 'drwydded preswylio biometrig' os ydych chi'n dod o'r tu allan i'r UE, AEE neu'r Swistir
Cael gwybod pa ddogfen y dylech ei defnyddio yn dibynnu ar eich amgylchiadau.
Y ffordd hawsaf o wneud hyn yw sganio eich dogfen adnabod. Mae hyn yn golygu na fydd yn rhaid i chi ei anfon at y Swyddfa Gartref.
Rhaid i’ch dogfen gael sglodyn biometrig i’w sganio. Os oes ganddo sglodyn, bydd y symbol hwn arno:
Os nad oes gan eich dogfen adnabod sglodyn biometrig, bydd yn rhaid i chi ddechrau eich cais ar-lein ac anfon eich dogfen i'r Swyddfa Gartref.
Os ydych chi’n gwneud cais o'r tu allan i’r DU
Rhaid i chi ddefnyddio ‘EU Exit: ID Document Check’ y Swyddfa Gartref i sganio eich dogfen ar ffôn Android neu iPhone 7 neu uwch. Allwch chi ddim anfon eich dogfen adnabod atom.
Mae rhagor o wybodaeth am wneud cais o’r tu allan i’r DU ar gael ar GOV.UK.
Sganio eich dogfen adnabod
Gallwch sganio eich dogfen adnabod:
gan ddefnyddio ffôn Android
gan ddefnyddio iPhone 7 neu uwch
mewn canolfan sganio dogfennau
Sganio eich dogfen ar ffôn Android neu iPhone
Gallwch ddefnyddio eich ffôn chi neu ffôn rhywun arall. Nid yw'r ffôn yn storio manylion eich dogfen adnabod.
Defnyddiwch ap ‘EU Exit’:ID Document Check y Swyddfa Gartref i sganio eich dogfen.
Ar ôl i chi sganio’r ddogfen, byddwch yn mynd i’r ffurflen gais ar-lein i barhau â’ch cais. Gallwch barhau ar eich ffôn neu ar gyfrifiadur.
Os nad yw'r ap yn sganio eich dogfen adnabod
Mae angen i’ch ffôn gael ‘cyfathrebu agosfaes’ (‘NFC’) i ddarllen y sglodyn biometrig yn eich dogfen adnabod.
I gael rhagor o wybodaeth am wirio a oes gan eich ffôn NFC ar GOV.UK.
If the app doesn’t scan your identity document
Ffoniwch Ganolfan Penderfyniadau’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE os na allwch gael yr ap i sganio eich dogfen adnabod. Gallant eich tywys drwy sut i wneud hyn.
Canolfan Penderfyniadau Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE
Rhif ffôn: 0300 123 7379
O’r tu allan i’r DU: +44 203 080 0010
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 8.30pm
Dydd Sadwrn a dydd Sul, 9.30am i 4.30pm
Gallwch ofyn cwestiwn am y cynllun ar GOV.UK - byddant yn ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.
Mae eich galwad yn debygol o fod am ddim os oes gennych chi gytundeb ffôn sy'n cynnwys galwadau am ddim i linellau tir - dysgwch fwy am ffonio rhifau 030.
Os na allwch chi ddefnyddio ffôn Android neu iPhone
Os nad oes gennych chi ffôn Android nac iPhone 7 neu uwch ac nad ydych chi’n gallu benthyg ffôn rhywun arall, mae gennych chi 2 opsiwn:
Mynd i ganolfan sganio dogfennau - fel arfer mae'n rhaid i chi dalu am y gwasanaeth hwn
Dechreuwch y cais ar-lein a llenwch fanylion eich dogfen adnabod. Rhaid i chi lwytho llun digidol ohonoch chi eich hun i fyny a phostio eich dogfen adnabod i’r Swyddfa Gartref ar ddiwedd y cais
Dechreuwch eich cais ar-lein ar GOV.UK.
Os oes angen help arnoch i ddefnyddio cyfrifiadur neu ddyfais symudol
Gallwch gael help gan wasanaeth digidol â chymorth y Swyddfa Gartref os ydych chi:
ddim yn hyderus wrth ddefnyddio dyfais symudol neu gyfrifiadur
heb fynediad at ddyfais symudol na chyfrifiadur
heb fynediad i’r rhyngrwyd
Darperir y gwasanaeth gan We Are Group.
Gallan nhw eich helpu dros y ffôn. Efallai y byddwch yn gallu ymweld â rhywun neu efallai y byddan nhw’n gallu ymweld â chi gartref - bydd hyn yn dibynnu ar ble rydych chi’n byw. Mae rhagor o wybodaeth ar gael am sut mae cael help gan We Are Group ar GOV.UK.
We Are Group
Ffôn: 0333 344 5675 (dydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9am a 6pm)
Testun: 07537 416 944 - tecstiwch y gair VISA
Ffôn testun (gan ddefnyddio Testun y Genhedlaeth Nesaf): 18001 0333 344 5675
E-bost: visa@we-are-digital.co.uk
Mae eich galwad yn debygol o fod am ddim os oes gennych chi gytundeb ffôn sy'n cynnwys galwadau am ddim i linellau tir - dysgwch fwy am ffonio rhifau 030.
Os nad oes gennych fynediad i'r rhyngrwyd
Gallwch ddefnyddio’r rhyngrwyd yn rhad ac am ddim yn:
eich cyngor lleol - dewch o hyd i'ch cyngor lleol ar GOV.UK
eich llyfrgell leol - dewch o hyd i'ch llyfrgell leol ar GOV.UK
Llenwi’r ffurflen gais ar-lein
Does dim rhaid i chi wneud y cais ar-lein ar unwaith - gallwch gadw eich atebion a dod yn ôl yn nes ymlaen. Mae gennych 70 diwrnod i lenwi eich cais. Os na fyddwch yn ei orffen yn ystod y cyfnod hwnnw, bydd yn cael ei dynnu’n ôl a bydd yn rhaid i chi wneud cais eto. Ni fydd eich cais yn cael ei ystyried nes i chi ei gwblhau.
Gwneud cais fel teulu
Os yw eich plentyn, eich ŵyr/wyres neu'ch gor-ŵyr/wyres dan 21 oed a hefyd yn gwneud cais, gallant gysylltu eu cais â'ch cais chi. Byddant yn cael yr un statws â chi yn awtomatig. Gwiriwch sut i gysylltu eich ceisiadau.
Gwneud cais am statws preswylydd sefydlog neu cyn-sefydlog
Gofynnir i chi a ydych wedi byw yn y DU am 5 mlynedd neu fwy, neu lai na 5 mlynedd. Os byddwch yn dewis 5 mlynedd neu fwy, rydych yn gwneud cais am statws preswylydd sefydlog. Os byddwch yn dewis llai na 5 mlynedd, rydych yn gwneud cais am statws cyn-sefydlog.
Profi pa mor hir rydych chi wedi byw yn y DU
Os byddwch yn rhoi rhif Yswiriant Gwladol, bydd eich cofnodion yn cael eu harchwilio'n awtomatig yn ystod eich cais i weld ers faint rydych chi wedi byw yn y DU.
Byddwch yn cael gwybod canlyniad yr archwiliad ar unwaith.
Os nad ydych chi'n rhoi rhif Yswiriant Gwladol, bydd angen i chi lwytho dogfennau i fyny i brofi pa mor hir rydych chi wedi byw yn y DU.
Os gwnaethoch gais am statws preswylydd sefydlog ond eich bod yn cael statws preswylydd cyn-sefydlog
Efallai na chewch y canlyniad yr oeddech yn ei ddisgwyl:
os na all yr archwiliad awtomatig ddod o hyd i'ch cofnod
os oes gennych fylchau yn eich cofnod Yswiriant Gwladol - er enghraifft os nad oeddech yn gweithio am gryn amser
Gallai'r archwiliad ddweud eich bod wedi byw yn y DU am lai na 5 mlynedd. Os nad yw hyn yn wir, edrychwch ar y sgrin yn ofalus. Yna dewiswch yr opsiwn sy'n dweud eich bod wedi byw yn y DU am fwy na 5 mlynedd.
Yna, bydd gofyn i chi lwytho dogfennau i fyny i brofi pa mor hir rydych chi wedi byw yn y DU. Gallwch wneud hynny ar unwaith neu gallwch gadw eich cais a dychwelyd ato yn nes ymlaen ar ôl i chi ddod o hyd i'r dogfennau.
Darganfod pa ddogfennau y gallwch eu defnyddio i brofi pa mor hir rydych wedi byw yn y DU.
Trefnu apwyntiad biometrig
Pan fyddwch yn gwneud cais am statws preswylydd cyn-sefydlog neu sefydlog, gofynnir i chi am eich olion bysedd a’ch llun os yw’r ddau o’r canlynol yn berthnasol:
os ydych chi'n dod o'r tu allan i'r UE, AEE neu'r Swistir
nid oes gennych gerdyn preswylio biometrig neu drwydded preswylio fiometrig yn barod
Gofynnir i chi fynd i un o’r mannau canlynol:
pwynt gwasanaeth Gwasanaethau Ceisiadau Fisa a Dinasyddiaeth y DU (UKVCAS)
canolfan cefnogi a gwasanaeth
canolfan gwneud cais am fisa - os ydych chi'n gwneud cais o dramor
Os oes angen i chi fynd i bwynt gwasanaeth UKVCAS, mae apwyntiadau rhydd ar gael. Os na allwch chi weld apwyntiad rhydd, edrychwch ychydig ar ôl 9am bob dydd. Dyna pryd y bydd apwyntiadau newydd ar gael bythefnos ymlaen llaw.
Mae rhagor o wybodaeth am roi eich olion bysedd a’ch llun ar gael ar GOV.UK.
Os ydych chi'n cael trafferth gorffen eich cais
Cysylltwch â’ch canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf os ydych chi’n poeni am y canlynol:
ateb cwestiynau ar y ffurflen gais
pa dystiolaeth y dylech ei llwytho i fyny
Os ydych chi’n cael trafferth llwytho dogfennau i fyny
Gallwch lwytho hyd at 10 dogfen i fyny yn ystod y cais ar-lein. Rhaid i faint pob dogfen fod yn 6MB neu lai.
Cysylltwch â Chanolfan Penderfyniadau’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE os oes angen i chi gyflwyno mwy o ddogfennau neu ddogfennau mwy.
Canolfan Penderfyniadau Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE
Rhif ffôn: 0300 123 7379
O’r tu allan i’r DU: +44 203 080 0010
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 8.30pm
Dydd Sadwrn a dydd Sul, 9.30am i 4.30pm
Gallwch ofyn cwestiwn am y cynllun ar GOV.UK - byddant yn ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.
Mae eich galwad yn debygol o fod am ddim os oes gennych chi gytundeb ffôn sy'n cynnwys galwadau am ddim i linellau tir - dysgwch fwy am ffonio rhifau 030.
Os na allwch fewngofnodi i'ch cais
Cysylltwch â Chanolfan Datrys y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE os ydych chi’n cael trafferth mewngofnodi eto i’ch cais.
Canolfan Penderfyniadau Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE
Rhif ffôn: 0300 123 7379
O’r tu allan i’r DU: +44 203 080 0010
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 8.30pm
Dydd Sadwrn a dydd Sul, 9.30am i 4.30pm
Gallwch ofyn cwestiwn am y cynllun ar GOV.UK - byddant yn ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.
Mae eich galwad yn debygol o fod am ddim os oes gennych chi gytundeb ffôn sy'n cynnwys galwadau am ddim i linellau tir - dysgwch fwy am ffonio rhifau 030.
Os ydych chi'n cael problemau gyda'ch ffurflen bapur
Efallai y bydd yn cymryd ychydig o wythnosau i'r Swyddfa Gartref anfon ffurflen bapur atoch ar ôl i chi ofyn am un. Os nad yw wedi cyrraedd, cysylltwch â Chanolfan Datrys y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE.
Bydd yn cyrraedd gyda rhai o'ch manylion wedi'u llenwi'n barod. Gallwch gywiro camgymeriadau ar y ffurflen - er enghraifft os yw eich enw wedi'i sillafu'n anghywir. Dylech gysylltu â Chanolfan Datrys y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE i ddweud wrthynt ba newidiadau rydych chi wedi’u gwneud.
Canolfan Penderfyniadau Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE
Rhif ffôn: 0300 123 7379
O’r tu allan i’r DU: +44 203 080 0010
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 8.30pm
Dydd Sadwrn a dydd Sul, 9.30am i 4.30pm
Gallwch ofyn cwestiwn am y cynllun ar GOV.UK - byddant yn ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.
Mae eich galwad yn debygol o fod am ddim os oes gennych chi gytundeb ffôn sy'n cynnwys galwadau am ddim i linellau tir - dysgwch fwy am ffonio rhifau 030.
Newid eich cais ar ôl i chi ei gyflwyno
Cysylltwch â Chanolfan Datrys y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE:
i gywiro camgymeriadau - er enghraifft, os ydych chi'n meddwl eich bod wedi gwneud cais am statws preswylydd cyn-sefydlog a'ch bod eisiau cael statws preswylydd sefydlog
i newid unrhyw rai o'ch manylion - er enghraifft, eich cyfeiriad cartref
Gallwch newid eich cyfeiriad e-bost a’ch rhif ffôn ar-lein ar GOV.UK.
Canolfan Penderfyniadau Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE
Rhif ffôn: 0300 123 7379
O’r tu allan i’r DU: +44 203 080 0010
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 8.30pm
Dydd Sadwrn a dydd Sul, 9.30am i 4.30pm
Gallwch ofyn cwestiwn am y cynllun ar GOV.UK - byddant yn ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.
Mae eich galwad yn debygol o fod am ddim os oes gennych chi gytundeb ffôn sy'n cynnwys galwadau am ddim i linellau tir - dysgwch fwy am ffonio rhifau 030.
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.
Adolygwyd y dudalen ar 01 Gorffennaf 2021