Sut mae benthycwyr yn penderfynu p’un ai i roi credyd i chi neu beidio
Sut mae benthycwyr yn penderfynu p’un ai i roi credyd i chi neu beidio
Pan wnewch gais am fenthyciad neu fath arall o gredyd, megis cerdyn credyd, mae’n rhaid i’r benthyciwr benderfynu p’un ai i roi benthyciad i chi neu beidio. Mae credydwyr yn defnyddio gwahanol bethau i’w helpu i benderfynu p’un ai ei fod yn syniad da neu beidio.
Ar y dudalen hon, cewch hyd i’r wybodaeth ganlynol:
- sut caiff eich cofnod credyd ei bennu
- pa wybodaeth amdanoch sydd ar gael i gredydwyr i’w helpu i benderfynu p’un ai i roi benthyciad i chi neu beidio
- beth allwch ei wneud os gwrthodwyd rhoi credyd i chi, gan gynnwys sut i gywiro gwybodaeth anghywir ar eich ffeil credyd
- sut i gael copi o’ch ffeil credyd
- sut all twyll effeithio ar eich cofnod credyd
- sut i gael credyd os oes gennych sgôr credyd isel.
I wybod mwy am fenthyciadau neu fathau eraill o gredyd, gweler Cymorth a gwybodaeth ychwanegol.
Sgorio credyd
Defnyddir system sgorio credyd gan gredydwyr i benderfynu faint o risg byddai roi benthyciad i chi. Pan ydych yn gwneud cais am gredyd, rydych chi’n llenwi ffurflen gais sy’n rhoi gwybodaeth amdanoch i’r benthyciwr. Cewch bwyntiau am bob ffaith. Mae pob pwynt yn cael ei adio er mwyn creu sgôr. Gorau po fwyaf yw eich sgôr. Mae credydwyr yn gosod trothwy ar gyfer sgorio credyd. Os yw eich sgôr o dan y trothwy, gallan nhw benderfynu peidio â rhoi benthyciad i chi neu godi mwy o dâl arnoch am y benthyciad.
Mae gwahanol fenthycwyr yn defnyddio gwahanol systemau i gyfrifo eich sgôr. Ni fyddant yn dweud eich sgôr wrthych ond mae’n rhaid iddynt ddweud wrthych ba asiantaeth cyfeirio credyd a ddefnyddiont i gael gwybodaeth amdanoch. Gallwch wirio p’un ai bod y wybodaeth hon yn gywir neu beidio.
Gan fod credydwyr yn defnyddio gwahanol systemau i gyfrifo sgorau credyd, hyd yn oed os yw un credydwr yn gwrthod rhoi credyd i chi, mae’n bosib na chewch eich gwrthod gan un arall.
Mae’n bosib y gallwch wella eich sgôr credyd drwy gywiro unrhyw wall yn eich ffeil credyd.
Pa wybodaeth sy’n cael ei chadw gan asiantaeth cyfeirio credyd
Mae gan gwmnïau cyfeirio credyd yr hawl i gasglu a chadw gwybodaeth am ymddygiad ariannol eu defnyddwyr. Pan ydych yn ceisio am gredyd neu fenthyciad, rydych yn llofnodi ffurflen gais sy’n rhoi caniatâd i’r benthyciwr wirio’r wybodaeth sydd ar eich ffeil credyd. Mae benthycwyr yn defnyddio’r wybodaeth hon i benderfynu p’un ai i roi benthyciad i chi neu beidio.
Os bydd benthyciwr yn gwrthod credyd i chi ar ôl gwirio’r wybodaeth yn eich ffeil credyd, rhaid iddynt ddweud pam y gwrthodwyd rhoi credyd i chi a rhaid iddynt roi manylion yr asiantaeth cyfeirio credyd a ddefnyddiwyd.
Mae yna dair asiantaeth cyfeirio credyd - Experian, Equifax a CallCredit. Maen nhw i gyd yn cadw gwybodaeth amdanoch a gall benthyciwr ymgynghori ag un neu fwy ohonynt wrth benderfynu.
Mae asiantaethau cyfeirio credyd yn cadw’r wybodaeth ganlynol:
- Y Gofrestr Etholiadol. Mae’n dangos y cyfeiriadau lle cawsoch eich cofrestru i bleidleisio a’r dyddiadau pan gawsoch eich cofrestru
- Cofnodion cyhoeddus. Mae hyn yn cynnwys dyfarniadau’r llys, methdaliadau ac yn Lloegr, Cymru a Gogledd Iwerddon, Trefniadau Gwirfoddol Unigol (IVAs), Gorchmynion Rhyddhad Dyledion a Gorchmynion Gweinyddu. Yn Yr Alban, mae’n cynnwys archddyfarniadau, gorchmynion atafaelu, Rhaglenni Talu Dyledion DAS a Gweithredoedd Ymddiriedolaeth
- Gwybodaeth am gyfrifon. Dengys hyn sut ydych yn rheoli eich cyfrifon presennol megis eich cyfrif banc a benthyciadau eraill. Mae’n dangos i fenthycwyr p’un ai eich bod yn ad-dalu’n brydlon
- Adfeddiannu cartref. Rhoddir y wybodaeth hon gan aelodau Cyngor Benthycwyr Morgeisi am gartrefi sydd wedi cael eu hadfeddiannu
- Cysylltiadau ariannol. Mae hyn yn dangos manylion y bobl y mae gennych gysylltiadau ariannol â nhw. Er enghraifft, mae’n cynnwys pobl yr ydych wedi ceisio am gredyd ar y cyd â nhw neu gyda phwy y mae gennych gyfrif ar y cyd
- Chwiliadau blaenorol. Mae hyn yn dangos manylion cwmnïau a sefydliadau sydd wedi edrych ar eich ffeil yn y 12 mis diwethaf
- Cyfeiriadau cysylltiedig. Dengys hyn cyfeiriadau’r lleoliadau yr ydych wedi byw ynddynt.
Os ydych wedi dioddef o dwyll, er enghraifft, os yw rhywun wedi defnyddio eich hunaniaeth, mae’n bosib bod eich enw wedi cael ei farcio er mwyn eich diogelu. Gallwch weld hyn ar eich ffeil credyd.
Pa mor hir y mae asiantaethau cyfeirio credyd yn cadw gwybodaeth amdanoch
Fel arfer, cedwir gwybodaeth amdanoch ar eich ffeil am chwe blynedd. Mae’n bosib bydd peth gwybodaeth yn cael ei gadw’n hirach, er enghraifft, os yw llys wedi gorchymyn y dylai gorchymyn cyfyngu methdaliad bara mwy na chwe blynedd.
Os cedwir manylion am gyfnod hirach na ddylid, gallwch ofyn iddynt gael eu dileu.
Am fwy o wybodaeth am fethdaliad yn Lloegr a Chymru, gweler Methdaliad.
Sut i gael copi o’ch ffeil credyd
Gallwch ofyn i unrhyw un o’r asiantaethau cyfeirio credyd am gopi o’ch ffeil credyd. Os gwrthodwyd rhoi credyd i chi, gallwch ofyn i’r credydwr pa asiantaeth cyfeirio credyd a ddefnyddiodd wrth ddod i benderfyniad. Mae eich ffeil yn dangos manylion personol megis eich enw a’ch cyfeiriad, yn ogystal â’ch ymrwymiadau credyd cyfredol a’ch cofnodion talu.
Mae’n rhaid i chi dalu ffi fechan o £2.00 er mwyn cael eich ffeil credyd. Gelwir hwn yn adroddiad credyd statudol ac mae'n rhaid i asiantaeth cyfeirio credyd ei roi i chi os byddwch chi'n gofyn amdano.
Efallai y bydd asiantaethau cyfeirio credyd yn cynnig gwasanaethau drutach eraill lle gewch gopi o’ch ffeil credyd yn rheolaidd. Os oes gennych ddiddordeb yn y math hwn o wasanaeth, sicrhewch eich bod yn darllen y manylion ynglŷn â’r hyn fydd yn cael ei ddarparu a sicrhewch eich bod wir ei angen cyn llofnodi amdano.
Beth i’w wneud os yw’r wybodaeth ar ffeil credyd yn anghywir
Os ydych yn meddwl bod y wybodaeth ar eich ffeil credyd yn anghywir, gallwch ysgrifennu at yr asiantaethau cyfeirio credyd a gofyn a oes modd ei newid. Fodd bynnag, ni ellir newid manylion oherwydd nid ydych am i fenthycwyr eu gweld.
Gallwch hefyd ychwanegu gwybodaeth am eich sefyllfa. Er enghraifft, gallwch ychwanegu gwybodaeth os oedd gennych ddyled ond rydych erbyn hyn wedi’i ad-dalu’n llwyr. Gelwir hyn yn hysbysiad o gywiriad. Gallai hyn fod yn gynorthwyol os ydych yn ceisio am gredyd yn y dyfodol.
Gall twyll effeithio ar eich cofnod credyd
Pan fod benthyciwr yn archwilio eich ffeil credyd, mae’n bosib y byddant yn dod o hyd i rybudd yn erbyn eich enw os yw rhywun wedi defnyddio eich manylion ariannol neu bersonol mewn ffordd dwyllodrus. Er enghraifft, mae’n bosib bod yna rybudd os yw rhywun wedi defnyddio eich enw i wneud cais am gredyd neu ffugio eich llofnod.
Mae hefyd yn bosib bod rhybudd yn erbyn eich enw os ydych wedi ymddwyn yn dwyllodrus.
I weld y rhybudd hwn, mae’n rhaid i’r benthyciwr fod yn aelod o CIFAS. Gwasanaeth Atal Twyll ydyw sy’n cael ei ddefnyddio gan gwmnïau ariannol ac awdurdodau cyhoeddus i rannu gwybodaeth am dwyll.
Nid yw CIFAS yn asiantaeth cyfeirio credyd. Mae’r wybodaeth a ddarpara yn cael ei ddefnyddio i atal twyll yn unig. Nid yw’n cael ei ddefnyddio i gynorthwyo penderfyniadau benthyca.
Os oes rhybudd yn erbyn eich enw, mae’n golygu bod yn rhaid i’r benthyciwr gyflawni gwiriadau ychwanegol cyn cymeradwyo’ch cais. Gall hyn gynnwys gofyn i chi ddarparu tystiolaeth ychwanegol o’ch hunaniaeth i gadarnhau pwy ydych chi. Er gall hyn oedi eich cais ac achosi anghyfleustra, mae’n sicrhau nad ydych yn cael eich erlyn am
If there is a warning against your name, it means that the lender needs to carry out further checks before agreeing your application. This may include asking you to provide extra evidence of your identity to confirm who you are. Although this may delay your application and cause you inconvenience, it is done to ensure that you don't end up being chased for money you don't owe.
Sut fyddwch yn gwybod am rybudd CIFAS
Os oes rhybudd CIFAS yn eich erbyn, byddwch yn gallu ei weld ar eich ffeil credyd.
Os ydych yn dioddef o dwyll, mae’n rhaid i aelodau CIFAS hefyd anfon llythyr atoch sy’n dweud bod yna rybudd CIFAS gyferbyn â’ch enw.
Nid oes hawl gan aelod o CIFAS wrthod cais neu ganslo gwasanaeth yr ydych yn ei dderbyn, megis cytundeb gorddrafft oherwydd bod gennych rybudd ar eich ffeil credyd. Mae’n rhaid iddynt wneud ymholiadau pellach i gadarnhau eich manylion personol cyn penderfynu.
Gallwch gael awgrymiadau a gwybodaeth ddefnyddiol gan CIFAS ar sut i osgoi lladrad hunaniaeth a beth i’w wneud os ydych yn dioddef ohono.
A allwch gael credyd os oes gennych sgôr credyd isel
Os oes gennych sgôr credyd isel, gallai benthyciwr ofyn am warantwr.
Gwarantwr yw ail berson sy’n llofnodi cytundeb credyd i ddweud y bydd yn ad-dalu’r arian os na allwch. Gall hyn fod yn ffordd y gallwch fenthyg arian neu gael credyd pan na allwch.
Os ydych yn defnyddio gwarantwr i fenthyg, mae hefyd yn rhaid iddynt roi gwybodaeth bersonol fel bod y credydwr yn gallu gwirio bod eu cofnod credyd yn dderbyniol. Ceisiwch ddewis gwarantwr sy’n debygol o gael sgôr credyd da.
Mae’r gwarantwr yn gyfrifol am ad-dalu’r arian os nad ydych chi yn gallu ac mae ganddynt yr un hawliau â chi yn ôl y cytundeb credyd. Er enghraifft, dylai’r gwarantwr dderbyn yr un wybodaeth cyn ac ar ôl llofnodi’r cytundeb.
Os ydych yn meddwl cytuno i fod yn warantwr i rywun arall, sicrhewch eich bod yn deall yr holl oblygiadau. Darllenwch y print mân cyn llofnodi’r cytundeb.
Am fwy o wybodaeth am eich hawliau pan ydych yn llofnodi cytundeb credyd, gweler Eich hawliau pan ydych yn benthyg.
Beth allwch wneud os gwrthodir rhoi credyd i chi
Os gwrthodir rhoi credyd i chi, mae’n bosib y gallwch wneud un o’r pethau canlynol.
Rhoi trefn ar eich ffeil credyd
Gwiriwch eich ffeil credyd cyn i chi wneud cais am gredyd neu fenthyciad fel eich bod yn gwybod p’un ai bod yna unrhyw ffeithiau amdanoch a allai effeithio eich sgôr credyd.[link to heading Sgorio credyd] Mae’r ffeithiau sy’n gallu effeithio ar eich cofnod credyd yn cynnwys dyfarniadau’r llys neu gofnod talu gwael. Dylech gael unrhyw wybodaeth anghywir ei newid neu ei ddileu ac ychwanegwch hysbysiad o gywiriad i esbonio unrhyw amgylchiadau arbennig.
Gwneud cais i fenthycwyr eraill
Os ydych yn gwneud cais i lawer o fenthycwyr, mae’n rhaid i chi fod yn ymwybodol y bydd cofnod ohono ar eich ffeil credyd. Gallai hyn effeithio ar eich sgor credyd oherwydd mae’n bosib y bydd benthycwyr yn credu bod gennych lawer o fenthyciadau neu fod credydwyr eraill wedi eich gwrthod.
Os ydych yn ei chael yn anodd benthyg o’r prif fenthycwyr, megis banciau neu gwmnïau cardiau credyd, gwiriwch os oes undeb credyd yn eich ardal. Peidiwch á benthyg gan fenthycwyr anghyfreithlon (siarcod benthyg).
Am fwy o wybodaeth am undebau credyd a siarcod benthyg, gweler Mathau o fenthyciadau.
Edrych am ffyrdd eraill o godi arian
Os oes rhaid i chi gael arian am reswm penodol, mae’n bosib bod yna ffyrdd eraill y gallwch godi’r arian. Er enghraifft, os ydych yn derbyn rhai budd-daliadau penodol, mae’n bosib y gallwch gael benthyciad di-log neu grant gan y Gronfa Gymdeithasol.
Am fwy o wybodaeth am y Gronfa Gymdeithasol, gweler Help i bobl ar incwm isel – y Gronfa Gymdeithasol.
Os ydych ar incwm isel a’ch bod yn ei chael yn anodd fforddio eitem hanfodol, megis oergell neu beiriant golchi, mae’n bosib y gallwch gael cymorth gan elusen neu sefydliad arall sy’n helpu pobl.
Cewch gymorth i wneud cais i elusen gan ymgynghorydd yn eich Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n rhoi cyngor drwy e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Cymorth a gwybodaeth ychwanegol
Yn Adviceguide
Am fwy o wybodaeth am fenthyg arian a chael credyd, gweler Benthyg.
Mae’n bosib y byddai’r wybodaeth ganlynol yn Adviceguide yn gynorthwyol:
- Banciau a chymdeithasau adeiladu
- Cynyddu eich incwm
- Sut i wario llai
- Help gyda dyled yn Lloegr, Cymru a Gogledd Iwerddon
- Help gyda dyled yn Yr Alban.
Y Gwasanaeth Cyngor Am Arian
Mae’r Gwasanaeth Cyngor Am Arian yn wasanaeth annibynnol, rhad ac am ddim. Ar ei wefan (www.moneyadviceservice.org.uk) mae yna lawer o wybodaeth ddefnyddiol ynghylch benthyg arian a rheoli eich arian.
Rhowch glic ar y wefan am fwy o wybodaeth ynghylch:
- cardiau a benthyciadau
- os bydd pethau’n mynd o le
- siopa i weld beth sydd ar gael
- cyngor ar reoli eich arian
Asiantaethau cyfeirio credyd
Mae gan asiantaethau cyfeirio credyd yr hawl i gasglu a chadw gwybodaeth am fenthyciadau ac ymddygiad ariannol defnyddwyr. Y tair asiantaeth cyfeirio credyd yw:
Experian
Equifax
CallCredit
CIFAS
Mae gan wefan CIFAS wybodaeth am ei waith yn ogystal â rhestr o’i aelodau a gwybodaeth am ei weithdrefn gwyno.
Card Watch
Mae gan wefan Card Watch awgrymiadau defnyddiol ar gyfer sut i amddiffyn eich hun rhag twyllwyr a sut i gadw manylion eich cerdyn yn ddiogel.
Y Swyddfa Gartref
Mae gan wefan lladrad hunaniaeth y Swyddfa Gartref wybodaeth ddefnyddiol am yr holl agweddau ar dwyll hunaniaeth gan gynnwys newyddion am waith y llywodraeth i leihau’r risg o dwyll.
Y ‘Registry Trust’
Mae’r ‘Registry Trust’ yn gweithredu cofrestrai cyhoeddus gorchmynion llys y DU. Gallwch ddefnyddio ei wefan i wirio p’un ai bod gennych orchymyn llys yn eich erbyn.