Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Costau a thaliadau cardiau credyd

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Gwybodaeth ar gostau a thaliadau cardiau credyd

Mae’r wybodaeth hon yn dweud wrthych am log a thaliadau eraill sy’n medru cael eu hychwanegu at eich cerdyn credyd, gan gynnwys taliadau pan fyddwch chi’n prynu pethau dramor neu os ydych yn colli taliadau. Mae’n cynnwys gwybodaeth ar drosglwyddo gweddill a’r mathau o yswiriant fedrwch chi eu cymryd gyda’ch cerdyn credyd.

Llog ar bwrcais

Os ydych yn ad-dalu’r swm cyfan (y gweddill) sy’n ddyledus ar eich cerdyn credyd ar y dyddiad y mae’n ddyledus, ni fyddwch yn gorfod talu llog ar eich pwrcais. Ond, efallai y bydd llog yn cael ei ychwanegu ar gyfer blaenswm ariannol.

Os fydd cwmni eich cerdyn credyd yn cynyddu’r gyfradd llog ar eich cerdyn, dylech gael 60 diwrnod i wrthod y cynnydd a thalu’r hyn sy’n weddill ar eich cerdyn ar y gyfradd llog bresennol.

Efallai y byddwch chi am drefnu taliadau rheolaidd i ad-dalu’r hyn sy’n ddyledus yn llawn neu i ad-dalu’r hyn fedrwch chi ei fforddio.

Os ydych yn talu llai na’r balans llawn sy’n ddyledus, fe fydd llog ar yr hyn sydd ar ôl, os nad ydych wedi cael dêl ddi-log. Fe fydd cytundeb credyd eich cerdyn yn dweud faint o log fydd yn cael ei godi arnoch, sut fydd yn cael ei ychwanegu at eich cyfrif, a phryd. Fe fydd y ddyled fwyaf drud ar eich cerdyn credyd yn cael ei had-dalu’n gyntaf bob tro.

Os nad ydych yn medru ad-dalu’r balans cyfan, fel arfer bydd yn rhaid i chi dalu taliad lleiaf. Mae talu’r isafswm bob mis yn cynyddu’r swm y mae’n rhaid i chi ei dalu ar y cyfan. Efallai bod y taliad lleiaf yn llai na’r llog sy’n cael ei ychwanegu, sy’n golygu na fyddwch chi fyth yn ei ad-dalu. Ceisiwch dalu mwy na’r isafswm os fedrwch chi, i ad-dalu’r gweddill yn gyflymach.

O Ebrill 2011 fe fydd yr ad-daliad lleiaf ar bob cyfrif cerdyn credyd newydd yn cael ei ailosod. Os ydych ond yn talu’r ad-daliad lleiaf fe fyddwch hefyd yn ad-dalu un y cant o’r hyn sy’n weddill yn ogystal â llog, ffioedd a thaliadau.

Rydych yn medru defnyddio’r cyfrifydd ad-daliadau ar wefan Which? www.which.co.uk i’ch helpu i gyfrifo pryd fyddwch chi’n debygol o ad-dalu bil eich cerdyn credyd a faint yn gyflymach fedrwch chi ei ad-dalu trwy ad-dalu mwy bob mis.

Os ydych yn gweld yn rheolaidd eich bod ond yn medru fforddio’r taliad lleiaf, efallai y byddwch yn mynd i drafferthion ariannol. Dylai eich cwmni cerdyn credyd gysylltu â chi i’ch rhybuddio ynghylch yr hyn fedrai ddigwydd os ydych ond yn talu’r taliadau lleiaf.

Am fwy o wybodaeth ynghylch cyllidebu arian eich cartref, gweler Cynyddu eich incwm, Sut i wario llai ac, yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, gweler Help gyda dyled. Yn yr Alban, gweler Help gyda dyled.

Mae cynghorydd profiadol yn medru eich helpu i gyllidebu eich arian ac i sicrhau eich bod yn cael yr holl fudd-daliadau lles fedrwch chi eu cael. Dylai hyn helpu datrys unrhyw broblemau ariannol. Mae cynghorwyr profiadol mewn canolfannau Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.

Tynnu arian allan ar eich cerdyn

Mae tynnu arian allan ar eich cerdyn credyd yn medru bod yn ddrud. Fel arfer, mae’r gyfradd llog ar gyfer blaensymiau ariannol yn uwch na’r gyfradd llog ar bwrcais.

Pan fyddwch chi’n tynnu arian allan ar eich cerdyn credyd, mae llog yn cael ei ychwanegu at eich cyfrif ar unwaith, hyd yn oed os ydych yn ad-dalu’r gweddill erbyn y dyddiad y mae’n ddyledus. Efallai hefyd y bydd tâl trafod arian o tua 2% ar y swm yr ydych yn ei dynnu allan.

Defnyddio’ch cerdyn dramor

Fe fydd y rhan fwyaf o gwmnïau cardiau credyd yn codi tâl comisiwn arnoch pan fyddwch chi’n defnyddio’ch cerdyn dramor. Mae’n werth holi darparwr eich cerdyn credyd cyn i chi deithio, er mwyn i chi fedru cynllunio’r ffordd orau o dalu am bethau tra’ch bod i ffwrdd.

Os ydych yn tynnu arian allan ar eich cerdyn credyd dramor, efallai y codir ffi trafodion tramor ar ben eich ffi blaenswm ariannol arferol. Fe fydd y gyfradd gyfnewid hefyd yn effeithio ar y swm yr ydych yn ei dalu am eitem.

Mae rhai darparwyr cardiau’n gofyn i chi roi gwybod iddynt os ydych yn mynd dramor, am resymau diogelwch. Mae’n werth holi cyn i chi fynd, oherwydd os yw’r cwmni cerdyn credyd yn amau bod y cerdyn yn cael ei ddefnyddio mewn ffordd anarferol, efallai y bydd yn rhewi’ch cerdyn.

Sieciau cerdyn credyd

Nid yw bellach yn gyfreithlon i ddarparwyr cardiau credyd anfon sieciau allan yr ydych yn medru eu defnyddio i dynnu arian allan neu i dalu am nwyddau neu wasanaethau, os nad ydych wedi gofyn iddyn nhw anfon y sieciau hyn atoch.

Os ydych yn defnyddio sieciau cwmni cerdyn credyd, fe fydd y swm yr ydych yn ei roi ar y siec yn cael ei ychwanegu at y gweddill ar gyfrif eich cerdyn credyd. Yn aml, mae taliadau llog am wario ar sieciau cerdyn credyd yn uwch na’r llog ar wariant arferol ar eich cerdyn, felly holwch cyn i chi eu defnyddio.

Gofalwch wrth daflu unrhyw sieciau nad ydych wedi eu defnyddio, oherwydd efallai y bydd manylion cyfrif eich cerdyn credyd arnynt. Ceisiwch eu malu os fedrwch chi.

Trosglwyddo gweddill

Mae trosglwyddo gweddill neu gyfnewid yn golygu symud y swm sy’n ddyledus o un cerdyn credyd i un arall, i gael manteision cyfradd llog is neu well telerau. Mae trosglwyddo’r gweddill yn medru bod yn ffordd dda o ad-dalu’ch cerdyn yn gyflymach.

Mae sawl dêl ar drosglwyddo gweddill yn cynnig peidio â chodi llog ar y swm yr ydych yn ei drosglwyddo. Ond os ydych yn mynd i barhau i ddefnyddio’r cerdyn credyd newydd i wario yn y dyfodol, holwch os oes cyfradd llog wahanol ar gyfer unrhyw wariant newydd. Efallai y bydd yn ddrutach yn y pendraw.

Os ydych yn symud y gweddill o un cerdyn i gerdyn arall, mae’n debygol y bydd yn rhaid i chi dalu ffi trafod o tua 2% o’r gweddill.

Os oes gennych gerdyn credyd, rydych yn medru defnyddio’r cyfrifydd trosglwyddo gweddill ar wefan Which? www.which.co.uk i weld, yn fras, faint fedrech chi ei arbed trwy newid at gerdyn credyd gwahanol.

Taliadau am ddiffygdalu neu daliad hwyr

Mae eich cyfriflen yn nodi’r dyddiad y mae’r taliad yn ddyledus. Gan ddibynnu sut fyddwch chi’n talu, efallai y bydd yn cymryd sawl diwrnod i’r taliad gyrraedd eich cyfrif, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn talu ar amser. Mae hyn yn bwysig, oherwydd fe fydd unrhyw log yr ydych yn ei dalu yn cael ei rhoi ar eich gweddill ar y dyddiad y mae’r taliad yn ddyledus.

Os ydych yn talu llai na’r isafswm, ystyrir eich bod ar ei hôl hi gyda’ch taliadau ac efallai y byddwch yn gorfod talu taliadau diffygdalu neu daliad hwyr. Ychwanegir llog ar y taliadau hyn yn ogystal â’ch gwariant, ac felly mae mynd ar ei hôl hi’n medru bod yn gostus. Efallai y bydd o gymorth i chi sefydlu debyd uniongyrchol o’ch cyfrif banc ar gyfer yr isafswm bob mis, i sicrhau na fyddwch yn hwyr gyda’ch taliad. Rydych yn medru talu mwy hefyd os fedrwch chi ei fforddio.

Am fwy o wybodaeth ynghylch debyd uniongyrchol, gweler Banciau a chymdeithasau adeiladu.

Gwiriwch eich cyfriflen am daliadau diffygdalu. Efallai y bydd taliadau o fwy na £12 am golli taliad ar eich cerdyn credyd yn cael eu gweld fel taliadau annheg. Efallai hefyd y byddwch yn medru herio’r taliadau a gofyn am ad-daliad. Mae yna ganllawiau ar adennill taliadau cardiau credyd ar wefan Money Saving Expert www.moneysavingexpert.com.

Yswirio’ch cerdyn credyd

Pan fyddwch chi’n ceisio am gerdyn credyd, efallai y cynigir yswiriant i chi. Mae yna ddau brif fath o yswiriant yr ydych yn debygol o gael eu cynnig gyda’ch cerdyn credyd, sef:

  • yswiriant diogelu taliadau
  • yswiriant diogelu cardiau.

Yswiriant diogelu taliadau

Mae yswiriant diogelu taliadau (PPI) yn talu’ch ad-daliadau os ydych yn colli eich swydd, yn mynd yn sâl neu’n marw.

Cyn i chi gymryd PPI, gwiriwch fanylion y polisi’n ofalus i sicrhau ei fod yn berthnasol i’ch sefyllfa a’ch anghenion, yn enwedig os ydych yn hunangyflogedig, yn gweithio’n rhan amser neu os oes salwch neu anabledd gennych yn barod.

Os ydych yn hawlio, fe fydd rhai polisïau ond yn talu swm penodol o arian neu’n ad-dalu am gyfnod penodol o amser.

Yng Nghymru a Lloegr, am fwy o wybodaeth ynghylch PPI gweler Yswiriant diogelu taliadau yn y Taflenni ffeithiau ar gredyd a debyd. Yn yr Alban, gweler y Taflenni ffeithiau ar ddyled.

Yswiriant diogelu cardiau

Mae yswiriant diogelu cardiau yn berthnasol i chi os yw’ch cerdyn yn cael ei golli neu ei ddwyn.

Nid oes gwahaniaeth os oes yswiriant diogelu cardiau gennych, dylech gysylltu â darparwr eich cerdyn credyd ar unwaith os yw’ch cerdyn wedi cael ei golli neu ei ddwyn.

Help a gwybodaeth bellach

Ar Adviceguide

Am fwy o wybodaeth ynghylch sut i ddelio gyda chardiau credyd, gweler Cardiau credyd.

Efallai y bydd yr wybodaeth ganlynol ar Adviceguide yn ddefnyddiol:

Y Gwasanaeth Cyngor Am Arian

Mae’r Gwasanaeth Cyngor Am Arian yn wasanaeth annibynnol, rhad ac am ddim. Ar ei wefan (www.moneyadviceservice.org.uk) mae yna lawer o wybodaeth ddefnyddiol ynghylch benthyg arian a rheoli eich arian.

Rhowch glic ar y wefan am fwy o wybodaeth ynghylch:

MoneySavingExpert

Am ganllawiau ar adennill taliadau cardiau credyd, rhowch glic ar: www.moneysavingexpert.com.

Which?

Cyfrifydd ad-daliadau www.which.co.uk.

Cyfrifydd trosglwyddo gweddill www.which.co.uk.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.