Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Sut mae cardiau credyd yn gweithio

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Gwybodaeth ar sut mae cardiau credyd yn gweithio

Mae’r wybodaeth hon yn esbonio beth yw cerdyn credyd a sut mae’n gweithio. Mae’n dweud wrthych faint fedrwch chi ei wario a’r hyn sy’n ymddangos ar gyfriflen eich cerdyn credyd.

Beth yw cerdyn credyd

Mae cerdyn credyd yn gerdyn plastig yr ydych yn medru ei ddefnyddio i dalu am nwyddau neu wasanaethau neu i gael arian allan o beiriant arian. Mae cardiau credyd yn cael eu cyhoeddi gan fanciau, cwmnïau cyllid a rhai siopau, elusennau a chlybiau. Rydych yn medru defnyddio’r cerdyn ble bynnag mae’n cael ei dderbyn ac fel arfer mae siopau a chwmnïau cyflenwi’n arddangos arwydd sy’n dweud pa cardiau maen nhw’n eu cymryd.

Faint fedrwch chi ei wario

Rydych yn cael gwario hyd at swm penodol ar y cerdyn, a gelwir y swm yma’n derfyn credyd. Mae swm eich terfyn credyd yn dibynnu ar eich amgylchiadau.

Bob tro fyddwch chi’n prynu rhywbeth gan ddefnyddio’ch cerdyn credyd mae’r swm yn cael ei ychwanegu at eich cyfrif. Gelwir y cyfanswm sy’n ddyledus gennych yn weddill.

Cyfnod di-log

Mae gennych gyfnod penodol ble na fydd unrhyw log yn cael ei godi, fel arfer rhwng 20 a 55 diwrnod. Gelwir hyn yn gyfnod di-log. Wedi hynny, os nad ydych yn talu’r gweddill yn llawn, ar amser, efallai y bydd llog yn cael ei ychwanegu at y cyfrif.

Mae rhai cardiau’n cynnig dêl arbennig pan na fyddwch yn gorfod talu llog, hyd yn oed os nad ydych yn talu’r gweddill yn llawn. Mae’r cytundeb credyd yn dweud pa gyfradd llog sy’n cael ei chodi a phryd fydd yn cael ei ychwanegu at eich cyfrif.

Eich cyfriflen

Fe fydd darparwyr y cerdyn credyd yn anfon datganiad atoch bob mis. Mae’r datganiad yn dangos y canlynol i chi:

  • manylion pob swm a wariwyd ar eich cerdyn ers eich cyfriflen ddiwethaf
  • manylion y llog a thaliadau eraill a ychwanegwyd at y cyfrif
  • y swm sy’n ddyledus (y gweddill)
  • y dyddiad y mae’n rhaid i chi dalu eich taliad
  • faint yw’r lleiaf fedrwch chi ei dalu
  • sut fedrwch chi dalu a ble
  • sut i gysylltu â darparwr eich cerdyn credyd.

Mae’n bwysig eich bod edrych dros eich cyfriflen yn ofalus i sicrhau ei bod yn gywir ac yna’n dweud wrth eich darparwr ar unwaith os ydych yn credu bod unrhyw beth o’i le arni.

Help a gwybodaeth bellach

Ar Adviceguide

Am fwy o wybodaeth ynghylch sut i ddelio gyda chardiau credyd, gweler Cardiau credyd.

Efallai y bydd yr wybodaeth ganlynol ar Adviceguide hefyd yn ddefnyddiol i chi:

Y Gwasanaeth Cyngor Am Arian

Mae’r Gwasanaeth Cyngor Am Arian yn wasanaeth annibynnol, rhad ac am ddim. Ar ei wefan (www.moneyadviceservice.org.uk) mae yna lawer o wybodaeth ddefnyddiol ynghylch benthyg arian a rheoli eich arian.

Rhowch glic ar eu gwefan am fwy o wybodaeth ynghylch:

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.