Rheolwr Gweithrediadau

Gwneud cais cyn 5yh ar 20 Mehefin 2025.

Crynodeb o'r swydd

Cyflog
£25,430 - £27,523 (yn gymesur â phrofiad)
Lleoliad
Sir Ddinbych
Gweithle
Yn y swyddfa
Cytundeb
Parhaol
Oriau gwaith
30

Sut i wneud cais

Gallwch gysylltu am ragor o wybodaeth a sut i wneud cais.

Am y rôl

Manylion amdanom ni

Mae CAB wedi bod yn gweithredu yn Sir Ddinbych ers 1949. Daeth Cyngor ar Bopeth Sir Ddinbych i fodolaeth ym mis Medi 2005, yn dilyn uno’r gwasanaethau a oedd yn bodoli eisoes yng ngogledd a de’r sir.

Rydym ni’n wasanaeth prysur sy’n gweithredu ledled y sir gyda dwy brif swyddfa. Mae’r swyddfeydd yn y Rhyl a Dinbych ac mae ein staff wedi’u lleoli yno. Rydym ni hefyd yn gweithredu gwasanaethau brysbennu cyngor yn y safleoedd hyn ac mewn lleoliadau allgymorth a digwyddiadau ar draws y sir.

Y swydd

Rydym yn chwilio am Reolwr Gweithrediadau sy’n drefnus a blaengar i ymuno â’n tîm rheoli yng Nghyngor ar Bopeth Sir Ddinbych. Mae’r rôl hon yn cymryd lle ein swydd Rheolwr Prosiect a Pherfformiad hirsefydlog ac yn adlewyrchu’r ffordd y mae ein gwasanaeth yn cael ei ddarparu’n strategol ac mewn ffordd wedi’i foderneiddio.

Mae hon yn rôl hanfodol bwysig sy’n sicrhau bod y prosiectau cynghori niferus, goruchwyliaeth y staff ac adroddiadau manwl gywir am fetrigau perfformiad, oll yn rhedeg yn esmwyth. Byddwch yn gweithio’n agos â’r Prif Swyddog Gweithredol a rheolwyr eraill i ddarparu gwasanaethau effeithlon, cydsyniol ac effeithiol yn un o ranbarthau Cymru lle mae’r heriau mwyaf economaidd-gymdeithasol.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus:

  • Yn unigolyn llawn hunan-gymhelliant sy’n medru gweithio’n dda dan bwysau gyda’r isafswm o oruchwyliaeth.

  • Yn ymrwymo i wella ansawdd gyda phrofiad o ddefnyddio systemau ansawdd ffurfiol.

  • Mae manylion llawn am y swydd yn y pecyn swydd.

Anfonwch ffurflenni cais wedi’u llenwi i clairewilliams@dcab.co.uk os gwelwch yn dda.

Disgwylir cynnal y cyfweliadau yn ystod yr wythnos yn dechrau 30 Mehefin 2025.

Rydym yn Hyderus o ran Anabledd

Mae Hyderus o ran Anabledd yn gynllun gan y llywodraeth sy'n cefnogi cyflogwyr i wella'r ffordd y maent yn recriwtio, cadw a datblygu pobl anabl.