Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Sut rydym yn defnyddio cwcis

Pan fyddwch chi'n defnyddio ein gwefan, rydym yn ychwanegu cwcis at eich dyfais er mwyn:

  • gwneud yn siŵr bod y wefan yn gweithio’n dda i chi – er enghraifft, cofio os ydych chi eisiau gweld cynnwys ar gyfer Cymru, Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon

  • darganfod sut rydych chi'n defnyddio ein gwefan fel y gallwn ei gwella

  • ein helpu i redeg ymgyrchoedd codi arian yn effeithiol

Trwy ddefnyddio ein gwefan, rydym yn cymryd yn ganiataol eich bod yn cytuno i ni ychwanegu cwcis at eich dyfais. Os ydych chi am analluogi, rhwystro neu ddileu cwcis, gallwch wneud hyn unrhyw bryd.

Dileu neu analluogi cwcis

Os byddwch yn dileu pob cwcis ni fyddwch yn gallu:

  • cofio eich dewisiadau, fel ym mha wlad rydych yn byw

  • llenwi ffurflenni ar ein gwefan

  • efallai defnyddio gwe-sgwrs na gweld cynnwys gan gwmnïau eraill fel fideos Youtube neu ffurflenni adborth SurveyMonkey

  • mewngofnodi - os ydych yn gweithio neu'n gwirfoddoli i Gyngor ar Bopeth

I rwystro cwcis, dylech newid y gosodiadau yn eich porwr gwe. Gallwch hefyd ddileu cwcis sydd eisoes wedi'u gosod. Cliciwch ar 'Help' yn eich porwr gwe a chwiliwch am 'cwcis'.

Mae cwcis o Google Analytics neu Mouseflow yn dweud wrthym sut rydych chi'n defnyddio ein gwefan. Gallwch optio allan os nad ydych am i'r cwcis hyn gael eu hychwanegu at eich dyfais.

Optio allan o gwcis Google Analytics.

Optio allan o gwcis Mouseflow.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am gwcis a sut i'w dileu ar wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO).

Sicrhau bod ein gwefan yn gweithio’n iawn

Rydym yn ychwanegu cwcis at eich dyfais fel bod gennych brofiad da pan fyddwch yn defnyddio ein gwefan - er enghraifft:

  • cofio eich dewisiadau

  • atal yr hysbysiad cwcis rhag dangos drwy'r amser

  • sicrhau bod ein ffurflenni ar-lein yn gweithio

Cofio eich dewisiadau

Mae’r cwcis yn cofio ym mha ran o’r DU y mae’n well gennych weld gwybodaeth - Cymru, Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon.

Mae hyn yn golygu na fydd yn rhaid i chi ddewis lleoliad bob tro y byddwch yn ymweld â'n gwefan.

Enw'r cwcisPa mor hir y caiff ei gadw ar eich dyfais
CABExtent 1 mis

Rhoi'r gorau i ddangos yr hysbysiad cwcis

Mae'r cwci hwn yn atal y neges naid am gwcis rhag ymddangos ar bob tudalen rydych chi'n ymweld â hi - yn lle hynny, dim ond ar y 3 tudalen gyntaf y mae'n cael ei dangos neu nes i chi ei chau.

Enw'r CwcisPa mor hir y caiff ei gadw ar eich dyfais
eprivacy 1 mlynedd

Gwneud i'n ffurflenni ar-lein weithio

Mae'r cwcis hyn yn golygu bod ein ffurflenni ar-lein yn gweithio. Maen nhw'n cael eu rhoi ar eich dyfais p'un a ydych chi'n defnyddio ffurflen ai peidio.

Enw'r CwcisBeth mae'n cael ei ddefnyddio ar gyferPa mor hir y caiff ei gadw ar eich dyfais
AWSELB a AWSELBCORES Os ydych chi'n llenwi ffurflen ar ein gwefan, mae'r cwci hwn yn sicrhau bod y wybodaeth yn cael ei chofio fel ei bod yn gweithio pan fyddwch chi'n ei chyflwyno. 5 munud (AWSELB) a hyd nes y byddwch chi'n gadael ein gwefan trwy gau eich porwr (AWSELBCORES)
ASP.NET_SessionId Os byddwch chi'n llenwi ffurflen ar ein gwefan, mae'r cwci hwn yn sicrhau bod y manylion rydych chi'n eu nodi yn aros yn y ffurflen tra byddwch chi'n ei llenwi. Hyd nes i chi adael ein gwefan trwy gau eich porwr
__AntiXsrfToken Mae'r cwci hwn yn sicrhau bod ffurflenni a gyflwynir ar y wefan gan ddefnyddwyr dilys ac nad ydynt yn faleisus. Hyd nes i chi adael ein gwefan trwy gau eich porwr

Ymgyrchoedd codi arian

Pan fyddwn yn cynnal ymgyrch codi arian ar Facebook ac Instagram, rydym yn defnyddio cwci (a elwir hefyd yn picsel) ar nifer fach iawn o dudalennau sy'n ymwneud â chodi arian ar ein gwefan. Rydym yn adnabod y tudalennau hyn trwy ychwanegu blwch testun statig sy'n rhybuddio defnyddwyr ein bod yn defnyddio cwci ar y dudalen ac sy'n cynnwys dolen i'n polisi preifatrwydd am ragor o wybodaeth.

Mae’r cwci a ddefnyddiwn yn ein helpu i redeg yr ymgyrch codi arian mor effeithlon ac effeithiol â phosibl drwy ganiatáu inni:

  • Anfon ein hysbysebion codi arian at y bobl sydd fwyaf tebygol o fod â diddordeb yn ein gwaith
  • Adeiladu cynulleidfaoedd, er mwyn cyrraedd mwy o bobl sydd â diddordeb yn y gwaith a wnawn
  • Anfon ein hysbysebion codi arian at bobl sydd wedi ymgysylltu â'n cynnwys o'r blaen
Enw'r Cwcis Pa mor hir y caiff ei gadw ar eich dyfais
_fr 180 diwrnod

Cwcis y mae cwmnïau eraill yn eu hychwanegu at eich dyfais

Os ydych yn defnyddio offer neu wasanaethau ar ein gwefan sy'n cael eu darparu gan sefydliadau eraill, efallai y byddant yn rhoi cwcis ar eich dyfais pan fyddwch yn ei ddefnyddio.

Dyma’r offer a’r gwasanaethau sydd gennym ar ein gwefan gan sefydliadau eraill:

Os ydych yn defnyddio Gwe-sgwrs

Pan fyddwch chi'n defnyddio gwe-sgwrs, mae ein darparwr sgwrs LivePerson yn ychwanegu cwcis at eich dyfais i wneud i'r sgwrs weithio'n llyfn.

Ni allwch gael eich adnabod o unrhyw un o'r cwcis ac nid oes unrhyw gwybodaeth bersonol yn cael ei chymryd.

Enw'r CwcisBeth mae'n cael ei ddefnyddio ar gyferPa mor hir y caiff ei gadw ar eich dyfais
LPSessionID / LPSID Mae’r cwci hwn yn cofio beth rydych chi wedi’i wneud ar ein gwefan gan gynnwys sgwrsio ar-lein. Hyd nes y byddwch yn gadael ein gwefan drwy gau eich porwr
LPVisitorID / LPVID Mae'r cwci hwn yn gadael i'r system eich cofio pan fyddwch chi'n dod yn ôl. 2 mlynedd

Darganfod sut rydych chi'n defnyddio ein gwefan

Rydym yn defnyddio offer o'r enw Google Analytics a Mouseflow i'n helpu i ddeall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.

Maent yn casglu gwybodaeth trwy roi cwcis ar eich dyfais. Maen nhw'n rhannu'r data hwnnw gyda ni ac rydyn ni'n ei ddefnyddio i wella ein gwefan - er enghraifft, gwneud tudalennau poblogaidd yn haws dod o hyd iddynt.

Mae Google Analytics a Mouseflow yn casglu gwybodaeth am:

  • pa ddolenni rydych chi'n clicio arnyn nhw

  • ble byddwch yn symud y llygoden neu'r cyrchwr ar draws y dudalen

  • faint rydych chi'n sgrolio i fyny ac i lawr ar y dudalen

  • eich porwr, dyfais a system weithredu

  • yr iaith rydych chi'n ei defnyddio

  • cydraniad eich sgrin

  • faint o amser rydych chi ar ein gwefan

  • eich ‘ISP’ a'ch Lleoliad ‘ISP’ bras (Dinas, Rhanbarth, Gwlad)

  • sut wnaethoch chi gyrraedd ein gwefan

Mae'r data sy'n cael ei gasglu drwy gwcis i gyd yn ddienw - ni allwn eich adnabod o'r data.

Rydym yn storio'r wybodaeth am 6 mis ac yna'n ei dileu.

Darllenwch fwy am sut mae Google Analytics yn defnyddio cwcis.

Darllenwch fwy am sut mae Mouseflow yn defnyddio cwcis yn eu polisi preifatrwydd.

Mae’r polisi cwcis hwn ond yn berthnasol i citizensadvice.org.uk a’i is-barthau. Dylai gwefannau rydym a dolen iddynt gael eu polisi cwcis eu hunain.