Stopio cael eich erlid am docyn parcio
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Ddylech chi ddim derbyn llythyrau yn mynnu eich bod yn talu os ydych chi’n apelio yn erbyn tocyn parcio neu eisoes wedi talu. Gall llythyrau fel hyn fod yn aflonyddu, felly gallwch gymryd camau i’w hatal.
Peidiwch â chael eich temtio i anwybyddu llythyr am docyn parcio – hyd yn oed os ydych chi wedi talu – fe all hyn arwain at ganlyniadau difrifol.
Os oes beilïaid wedi cysylltu â chi
Dylech weithredu’n gyflym os ydych chi’n derbyn llythyr gan feili yn dweud eu bod am gymryd eich eiddo – sef ‘hysbysiad gorfodi’.
Dylech wrthod gadael i’r beilïaid ddod i mewn os nad oes ganddynt y gorchymyn llys cywir - dydyn nhw ddim yn cael cymryd eich eiddo heb un. Mae’n rhaid iddyn nhw aros 7 diwrnod - heb gynnwys dydd Sul a gŵyl banc - o anfon yr hysbysiad gorfodi atoch chi cyn dod i’ch cartref. Darllenwch ein cyngor ar atal gweithredu gan feili.
‘Gwarant rheoli’ yw’r enw ar y gorchymyn llys ac mae’n rhaid iddo gynnwys:
eich enw
eich cyfeiriad cywir
enw’r beili a’u manylion cyswllt
dyddiad gwneud y gorchymyn llys - dylech fod wedi derbyn llythyr gan y llys yn dweud wrthych chi am y gorchymyn llys
Gallwch drafod gyda beili sy’n casglu Hysbysiad Tâl Cosb (PCN) drwy gynnig talu rhywfaint o’r hyn sy’n ddyledus gennych chi nawr a’r gweddill yn ddiweddarach. Os ydynt yn cytuno i’r cynllun talu rydych chi’n ei awgrymu, mae’n rhaid iddyn nhw adael eich cartref.
Rhagor o wybodaeth am beth ddylid ei wneud os yw beilïaid yn eich poeni
Diddymu neu newid gorchymyn llys
O bryd i’w gilydd gallwch ddiddymu neu newid gorchymyn llys sy’n caniatáu i feilïaid gymryd eich eiddo. Os ydych chi’n derbyn Hysbysiad Tâl Cosb (PCN), mae’n rhaid ei ddiddymu:
os na chawsoch chi’r PCN neu ‘hysbysiad i’r perchennog’, er enghraifft, cafodd ei anfon i’r cyfeiriad anghywir
os oeddech chi wedi apelio i’r llys mewn pryd, ond heb gael ‘hysbysiad gwrthod’
os oeddech chi wedi apelio i’r Tribiwnlys Cosb Traffig neu Dribiwnlys Llundain mewn pryd, ond heb gael ateb
os ydych chi eisoes wedi talu’r PCN
I gael y gorchymyn llys wedi'i ganslo, bydd angen i chi lenwi ffurflen TE9. Gallwch lawrlwytho ffurflen TE9 o Gov.uk. Bydd angen i chi e-bostio'r ffurflen i'r cyfeiriad ar waelod y ffurflen. Os na allwch chi e-bostio'r ffurflen, anfonwch hi drwy'r post i'r cyfeiriad ar ddiwedd y ffurflen.
Cadwch gopi fel y gallwch weld beth ddywedoch chi, a gofynnwch i Swyddfa'r Post am brawf postio - efallai y bydd angen i chi ddangos pryd anfonoch chi'ch TE9.
Ceisiwch ei hanfon erbyn y dyddiad talu - bydd hwn i'w weld ar y llythyr gan y llys, ac mae 21 diwrnod ar ôl y gorchymyn llys fel rheol.
Os byddwch chi'n colli'r dyddiad hwn, bydd angen i chi lenwi ffurflen TE7 i esbonio'r oedi. Er enghraifft, esboniwch ar y ffurflen os nad oeddech chi'n gwybod am y gorchymyn llys nes i'r beilïaid gyrraedd. Anfonwch y ffurflen hon drwy'r e-bost neu'r post gyda ffurflen TE9.
Os byddwch angen help i lenwi'r ffurflenni, cysylltwch â'ch Cyngor ar Bopeth agosaf i gael help.
Gallwch ofyn hefyd i’r cyngor dynnu’r warant beili yn ôl drwy gynnig talu’r cyngor mewn rhandaliadau.
Os ydych chi eisoes wedi talu’ch tocyn parcio
Ni fydd yn rhaid i chi dalu’r tocyn parcio eto – dim ond profi eich bod wedi talu. Mae profi eich bod wedi talu yn broses gyflym a hawdd.
Cysylltwch â phwy bynnag a roddodd docyn i chi a dweud wrthyn nhw faint rydych chi wedi’i dalu a phryd. Eglurwch fod yn rhaid iddyn nhw roi’r gorau i anfon llythyrau atoch chi gan fod aflonyddu yn drosedd o dan adran 40 Deddf Gweinyddu Cyfiawnder 1990 ac adran 2 o Ddeddf Diogelu rhag Aflonyddu 1997.
I brofi eich bod wedi talu, anfonwch un neu fwy o’r canlynol:
cyfriflen banc gyda’r swm a’r dyddiad talu wedi’i uwcholeuo neu ei danlinellu – am resymau diogelwch, cuddiwch rif a chod didoli eich cyfrif
eich derbynneb os i chi dalu’n bersonol – er enghraifft, mewn swyddfa’r post neu i swyddog heddlu am Hysbysiad Cosb Penodol yn y fan a’r lle
copi wedi’i argraffu o’r cadarnhad e-bost - neu sgrinlun o’r sgrin gadarnhau - os oeddech chi wedi talu ar-lein
Os cawsoch eich gorchymyn i dalu’r tocyn parcio i lys, cofiwch gynnwys derbynneb am unrhyw arian a dalwyd i Swyddfa Cronfeydd y Llys.
Anfonwch brawf eich bod wedi talu i bwy bynnag a roddodd y tocyn parcio i chi. Mae’n syniad da anfon copïau o dderbynebau neu ddatganiadau yn hytrach na fersiynau gwreiddiol, rhag ofn eu bod yn mynd ar goll yn y post.
Dylech anfon y dogfennau gan ddefnyddio gwasanaeth ‘Recorded Delivery’. Yna, byddwch yn gallu profi eu bod wedi cyrraedd.
Os ydych chi eisoes yn apelio yn erbyn eich tocyn
Does dim rhaid i chi dalu tocyn parcio os ydych chi’n aros am ateb i’ch apêl. Os ydych chi wedi derbyn llythyrau sy’n rhoi pwysau arnoch chi i dalu, ffoniwch neu ysgrifennwch at bwy bynnag sy’n eich erlid a gofyn iddyn nhw roi’r gorau iddi.
Eglurwch fod yn rhaid iddyn nhw roi’r gorau i anfon llythyrau atoch chi o dan adran 40 Deddf Gweinyddu Cyfiawnder 1990 ac adran 2 o Ddeddf Diogelu rhag Aflonyddu 1997 tan fod penderfyniad yn cael ei wneud am eich apêl. Dywedwch wrthynt:
ddyddiad eich apêl
at bwy yr anfonwyd yr apêl
cyfeirnod y tocyn parcio
Gofalwch eich bod yn nodi enw’r unigolyn a siaradodd gyda chi a dyddiad ac amser eich galwad - efallai y bydd angen i chi gyfeirio at y sgwrs yn ddiweddarach yn eich apêl.
Os ydych chi wedi anwybyddu tocyn parcio
Mae’n syniad da ystyried apelio yn erbyn eich tocyn parcio os oedd wedi’i roi i chi yn y 28 diwrnod diwethaf. Os oeddech chi wedi derbyn eich tocyn fwy na 28 diwrnod yn ôl, mae’n debyg na fyddwch chi’n gallu apelio – ond peidiwch ag anwybyddu’r tocyn.
Dylech dalu’ch tocyn parcio os gallwch chi. Os nad ydych chi’n talu:
gallai’r gost gynyddu gan y bydd yn rhaid i chi dalu costau llys o bosibl - ac mae PCN yn cynyddu 50% os nad ydych chi’n talu ar amser
gellid effeithio ar eich statws credyd
gallai’r llys anfon beilïaid i gasglu’ch eiddo
Cysylltwch â'ch canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf i weld beth yw’ch opsiynau os na allwch fforddio talu’r tocyn parcio.
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.