Apelio yn erbyn tocyn parcio pan roedd rhywun arall yn gyrru
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Efallai y cewch chi docyn yn y post os gwnaeth rhywun arall a oedd yn gyrru eich car barcio yn rhywle na ddylent fod wedi parcio.
Dylech apelio os yw unrhyw resymau ar y dudalen hon yn berthnasol i chi, gan nad oeddech chi’n gyfrifol am y car pan gafodd ei barcio.
Efallai y byddwch chi’n dal i allu apelio os oeddech chi wedi benthyg eich car i rywun a’u bod wedi cael tocyn parcio – mae’n dibynnu ar ba fath o docyn a roddwyd. Hyd yn oed os na allwch apelio, gallwch ofyn i’r person a oedd yn gyrru dalu’r tocyn.
Os oedd rhywun wedi benthyg eich car
Yr unigolyn a gafodd fenthyg y car gennych chi sy’n gyfrifol am y tocyn parcio os yw’n:
Hysbysiad Tâl Parcio gan dirfeddiannwr neu gwmni parcio - a roddwyd ar dir preifat, fel maes parcio archfarchnad
Hysbysiad Cosb Penodol gan yr heddlu (neu Transport NI yng Ngogledd Iwerddon)- a roddwyd ar lwybrau coch, llinellau igam-ogam gwyn neu ble mae’r heddlu yn rheoli parcio
Nhw sy’n gyfrifol hyd yn oed os ydych chi’n rhannu’ch car gyda nhw.
Os anfonir Hysbysiad Tâl Parcio atoch
Dylech yn sicr apelio oherwydd fe ddylid diddymu’r hysbysiad yn eich erbyn. Peidiwch â’i anwybyddu am ei fod wedi’i anfon atoch chi ac nid at y gyrrwr. Mae’n golygu bod y cwmni parcio wedi defnyddio rhif cofrestru’r car i gael cyfeiriad y ceidwad cofrestredig gan y DVLA.
Dylech gysylltu â’r cwmni a rhoi enw a chyfeiriad llawn yr unigolyn a oedd yn gyrru. Bydd manylion cyswllt y cwmni parcio ar yr hysbysiad a anfonwyd atoch chi – neu gallwch ddod o hyd i’w manylion ar eu gwefan.
Gofalwch eich bod yn nodi enw’r unigolyn sy’n siarad â chi a dyddiad ac amser eich galwad - efallai y bydd angen i chi gyfeirio at y sgwrs yn ddiweddarach yn eich apêl.
Os ydych chi’n ysgrifennu i’r cwmni parcio, dylech anfon y dogfennau gan ddefnyddio gwasanaeth ‘Recorded Delivery’ drwy swyddfa’r post. Yna, byddwch yn gallu profi eu bod wedi cyrraedd gan y bydd y derbynnydd wedi llofnodi amdanynt.
Mae’n rhaid i’r cwmni parcio ddiddymu’r tocyn parcio yn eich erbyn os ydych chi wedi anfon enw a chyfeiriad llawn yr unigolyn a oedd yn gyrru. Yna, bydd yr hysbysiad parcio yn cael ei roi i’r unigolyn a oedd yn gyrru – sef ‘trosglwyddo atebolrwydd’.
Does dim rhaid i chi roi manylion yr unigolyn a oedd yn gyrru i’r cwmni parcio. Gallwch ddewis talu’r tocyn eich hun.
Dylech ond rhoi eu manylion os ydych chi am i’r tocyn yn eich erbyn chi gael ei ddiddymu.
Os rhoddwyd Hysbysiad Tâl Parcio ar eich cerbyd
Yr unigolyn sy’n gyrru sy’n gyfrifol ac ef neu hi ddylai dalu’r tocyn parcio. Os yw’r unigolyn a gafodd fenthyg eich car yn dweud wrthych chi am y tocyn ond yn gwrthod talu, cysylltwch â’r cwmni parcio. Rhowch enw a chyfeiriad yr unigolyn a oedd yn gyrru iddynt. Mae’n rhaid iddynt ddiddymu’r tocyn parcio yn eich erbyn. Bydd yn cael ei roi i’r unigolyn a oedd yn gyrru - sef ‘trosglwyddo atebolrwydd’.
Efallai y byddwch yn derbyn tocyn parcio yn y post os nad yw’r person a gafodd fenthyg eich car yn talu’r tocyn - a dim ond os oes gan gwmni parcio'r awdurdod i ddefnyddio cofrestriad eich car i gael eich cyfeiriad gan y DVLA.
Os anfonir Hysbysiad Cosb Penodol atoch chi
Dylech yn sicr apelio yn erbyn Hysbysiad Cosb Penodol a anfonir atoch yn y post. Bydd yn cael ei anfon gyda llythyr, sef yr ‘hysbysiad o erlyniad arfaethedig’. Fyddwch chi ddim yn cael eich erlyn os ydych chi’n apelio, ond gellid mynd â chi i’r llys os ydych chi’n anwybyddu’r tocyn.
Gofalwch eich bod yn cysylltu â’r heddlu neu’r cyngor a anfonodd yr hysbysiad atoch chi gydag enw a chyfeiriad llawn yr unigolyn a oedd yn gyrru. Mae’n rhaid iddynt ddiddymu’r tocyn ac anfon un at yr unigolyn a oedd yn gyrru.
Cysylltwch â'ch canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf os nad yw’r tocyn yn cael ei ddiddymu – gallant eich helpu i gael cyngor cyfreithiol.
Os rhoddwyd Hysbysiad Cosb Penodol i’r gyrrwr
Dydych chi ddim yn gyfrifol am yr Hysbysiad Cosb Penodol a roddwyd i rywun arall a does dim rhaid i chi dalu’r ddirwy. Bydd enw a chyfeiriad y gyrrwr wedi’u cymryd pan gawsant yr hysbysiad a byddant yn cael eu gwysio i’r llys os nad ydynt yn talu neu’n apelio.
Fydd neb yn cysylltu â chi mewn perthynas â Hysbysiad Cosb Penodol a roddir i’r gyrrwr. Byddwch ond yn gwybod amdano os yw’r unigolyn a gafodd fenthyg eich car yn rhoi gwybod i chi.
Os yw’n Hysbysiad Tâl Cosb neu’n Hysbysiad Tâl Gormodol
Er nad oeddech chi’n gyrru, fel ceidwad cofrestredig y cerbyd, chi sy’n gyfrifol am Hysbysiad Tâl Cosb (PCN) neu Hysbysiad Tâl Gormodol (ECN) gan y cyngor – a roddir ar dir cyhoeddus, fel stryd fawr. Dylech ofyn i’r unigolyn a oedd yn gyrru dalu’r tocyn, ond efallai y bydd yn gwrthod.
Os na fydd yn talu, mae’n syniad da talu’r tocyn eich hun os gallwch chi. Yn aml, gallwch gael gostyngiad am dalu eich tocyn yn gynnar. Fel arfer, gallwch gael gostyngiad o 50% os ydych chi’n talu PCN neu ECN o fewn 14 diwrnod.
Gellid mynd â chi i’r llys os ydych chi’n anwybyddu’r ddirwy a bydd yn rhaid i chi dalu costau llys hefyd.
Os oedd eich car wedi’i ddwyn neu eich plât trwydded wedi’i gopïo
Efallai eich bod wedi derbyn tocyn parcio drwy’r post am nad oedd eich car wedi’i barcio’n gywir ar ôl cael ei ddwyn. Neu efallai bod rhywun wedi copïo eich plât trwydded a’i ddefnyddio ar gar arall – sef ‘clonio ceir’.
Nid chi sy’n gyfrifol am y tocyn hwn, felly dylech apelio.
Ysgrifennwch yn ôl at bwy bynnag gysylltodd â chi ynglŷn â’r drosedd barcio. Bydd eu manylion cyswllt ar yr hysbysiad neu’r llythyr a anfonwyd atoch chi. Eglurwch fod y car wedi’i ddwyn neu ei glonio pan ddigwyddodd y drosedd.
Efallai y byddwch ond yn sylwi bod eich plât trwydded wedi’i glonio pan fyddwch chi’n cael y tocyn yn y post.
Dylech roi gwybod i’r heddlu a’r DVLA am y clonio ar unwaith.
Byddwch wedi cael cyfeirnod trosedd ar ôl rhoi gwybod i’r heddlu am y lladrad. Os ydych chi’n rhoi gwybod am glonio i’r heddlu, byddant hefyd yn rhoi cyfeirnod i chi. Cofiwch gynnwys y cyfeirnod yn eich apêl gan y bydd hyn yn profi nad oeddech chi’n gyrru’r car pan gafodd ei barcio’n anghywir.
Ar ôl i chi brofi nad oeddech chi’n gyrru, bydd yr hysbysiad yn eich erbyn yn cael ei ddiddymu.
Cysylltwch â'ch canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf os nad yw’r tocyn yn cael ei ddiddymu – gallant eich helpu i gael cyngor cyfreithiol.
Os ydych chi wedi prynu’ch car yn ddiweddar
Efallai eich bod wedi cael tocyn parcio yn y post gan fod perchnnog blaenorol eich car wedi’i barcio mewn man lle na ddylai fod wedi gwneud. Bydd hyn yn digwydd os yw’r tocyn wedi’i bostio ar ôl i’r perchennog blaenorol ddweud wrth y DVLA eu bod wedi gwerthu’r car i chi.
Nid chi sy’n gyfrifol am y tocyn hwn, felly dylech chi’n sicr apelio.
Ysgrifennwch ddatganiad byr yn egluro nad chi oedd y perchennog ar adeg y troseddau parcio. Anfonwch y datganiad at bwy bynnag a gysylltodd â chi ynglŷn â’r tocyn parcio. Bydd eu manylion cyswllt ar yr hysbysiad neu’r llythyr a anfonwyd atoch chi.
Dyma’r dystiolaeth y gallech chi ei chynnwys:
y dyddiad y prynwyd y car
enw a chyfeiriad llawn y perchennog blaenorol – neu’r cwmni a werthodd y car i chi
copi o dystysgrif cofrestru’r DVLA (V5C)
copi o’r dderbynneb neu’r anfoneb lle prynwyd y car, os oes un gennych chi
Cyhyd â’ch bod wedi anfon y dystiolaeth hon, mae’n rhaid diddymu’r hysbysiad yn eich erbyn. Yna, bydd yn cael ei roi i’r unigolyn a oedd yn gyrru – sef ‘trosglwyddo atebolrwydd’.
Cysylltwch â'ch canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf os nad yw’r tocyn yn cael ei ddiddymu – gallant eich helpu i gael cyngor cyfreithiol.
Os ydych chi wedi gwerthu’ch car yn ddiweddar
Efallai eich bod wedi derbyn tocyn parcio yn y post gan fod perchennog newydd eich car wedi pario mewn man lle na ddylai fod wedi gwneud. Bydd wedi’i anfon atoch chi os oedd oedi wrth gofrestru’r car yn eu henw.
Nid chi sy’n gyfrifol am y tocyn hwn, felly dylech chi’n sicr apelio.
Ysgrifennwch ddatganiad byr yn egluro nad chi yw perchennog y car bellach.
Anfonwch y datganiad at bwy bynnag a gysylltodd â chi ynglŷn â’r tocyn parcio. Bydd eu manylion cyswllt ar yr hysbysiad neu’r llythyr a anfonwyd atoch chi.
Dylech gynnwys:
y dyddiad y gwerthwyd y car
enw a chyfeiriad llawn y perchennog newydd - neu’r cwmni a werthodd eich car iddynt
copi o’r dderbynneb neu’r anfoneb ar gyfer y gwerthiant, os oes un gennych chi
Cyhyd â’ch bod wedi anfon y dystiolaeth hon, mae’n rhaid diddymu’r hysbysiad yn eich erbyn. Yna, bydd yn cael ei roi i’r unigolyn a oedd yn gyrru – sef ‘trosglwyddo atebolrwydd’.
Cysylltwch â'ch canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf os nad yw’r tocyn yn cael ei ddiddymu – gallant eich helpu i gael cyngor cyfreithiol.
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.