Sut i ddefnyddio ombwdsmon yng Nghymru

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Beth yw ombwdsmon

Mae ombwdsmon yn golygu rhywun sydd wedi cael ei benodi i ymchwilio i gwynion am sefydliad. Fel arfer, mae’r ombwdsmon yn gyfreithiwr, a bydd yn ymchwilio o safbwynt annibynnol.

Mae mwy nag un ombwdsmon:

I gael gwybodaeth am Wasanaethau’r Ombwdsmon: Ynni, gweler Cyflenwad nwy a Cyflenwad trydan.

Ni chodir tâl am ymchwiliadau sy’n cael eu gwneud gan yr ombwdsmon. Dylai unrhyw arian y byddwch yn ei wario wrth wneud y gŵyn, er enghraifft, costau teithio, gael ei hawlio’n ôl o swyddfa’r ombwdsmon perthnasol.

Hyd yn oed pan fydd yr ombwdsmon yn cytuno bod modd cyfiawnhau’r gŵyn, yn y rhan fwyaf o achosion, ni all orchymyn i’r sefydliad wneud dim byd i’ch digolledu. Yn ogystal, gall ymchwiliad gan ombwdsmon gymryd llawer o amser. Oherwydd hyn, dim ond fel dewis olaf y dylid ystyried cwyno wrth yr ombwdsmon.

Pa fathau o gwynion y gall yr ombwdsmon ymchwilio iddynt

Gwaith yr ombwdsmon yw ymchwilio i achosion o gamweinyddu. Mae hyn yn golygu sut mae sefydliad wedi delio â sefyllfa, er enghraifft, a oedd y gweithdrefnau a ddefnyddiwyd gan y sefydliad yn deg neu’n rhesymol.

Gall yr ombwdsmon hefyd ymchwilio i gwynion bod aelod o gorff llywodraeth leol, gan gynnwys cynghorwyr ac aelodau awdurdodau tân a heddlu, wedi torri eu cod ymddygiad – er enghraifft, os yw cynghorydd wedi dwyn anfri ar y cyngor neu wedi defnyddio ei swydd er budd iddo ef ei hun.

Dim ond pan fydd unigolyn (neu grŵp o unigolion mewn rhai achosion) wedi dioddef anghyfiawnder personol, caledi neu golled ariannol oherwydd gweithredu neu ddiffyg gweithredu gan y sefydliad y bydd yr ombwdsmon yn ymchwilio i achos. Rhaid i’r gŵyn gael ei chyflwyno gan y sawl sydd wedi dioddef yr anghyfiawnder, y caledi neu’r golled sydd dan sylw.

Ni all yr ombwdsmon ymchwilio i benderfyniad y mae sefydliad wedi'i wneud, dim ond i’r ffordd y cafodd penderfyniad ei wneud. I gael gwybodaeth fanylach am y mathau o gwynion y gallai ombwdsmon eu derbyn, darllenwch y wybodaeth sy’n dilyn.

Dylech ofyn am gyngor gan weithiwr cynghori profiadol, er enghraifft mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth neu yn swyddfa’r ombwdsmon perthnasol, i weld a fyddai ombwdsmon yn gallu mynd ar drywydd cwyn benodol. I chwilio am fanylion eich canolfan CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n gallu rhoi cyngor dros e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.

Dim ond os ydych chi wedi rhoi cyfle i’r sefydliad wneud sylwadau ar y gŵyn a datrys unrhyw broblemau y dylech chi gwyno wrth yr ombwdsmon. I gael rhagor o wybodaeth am yr hyn y dylech ei wneud cyn cyflwyno cwyn i’r ombwdsmon, darllenwch y wybodaeth sy'n dilyn.

Ni wnaiff yr ombwdsmon ymchwilio i achos os yw ar fin mynd i’r llys neu os oes achos llys yn cael ei ystyried. Mewn rhai achosion, ni fydd yr ombwdsmon yn ymchwilio i achosion y gallai llys neu dribiwnlys ddelio â nhw.

Sut i gwyno wrth yr ombwdsmon

Mae’r drefn ar gyfer dechrau’r ymchwiliad gan yr ombwdsmon yn dibynnu ar ba ombwdsmon yr ydych yn cwyno wrtho. Mae’r rhan fwyaf o swyddfeydd yr ombwdsmyn yn darparu ffurflen gais ar gyfer gwneud cwyn. Fodd bynnag, does dim rhaid i chi ddefnyddio ffurflen gais. Gallwch anfon llythyr sy’n cynnwys y wybodaeth ganlynol:

  • eich enw a'ch cyfeiriad

  • enw a chyfeiriad y sefydliad rydych yn cwyno amdano

  • manylion y gŵyn, hynny yw, beth mae’r sefydliad wedi’i wneud o’i le neu heb ei wneud

  • pa anghyfiawnder personol, colled ariannol neu galedi a ddioddefwyd

  • beth ddylai’r sefydliad ei wneud i unioni’r sefyllfa

  • manylion ynghylch sut yr aethpwyd ar drywydd y gŵyn cyn i chi gysylltu â’r ombwdsmon

  • y dyddiad pan wnaethoch chi nodi’r digwyddiad rydych chi’n cwyno amdano am y tro cyntaf.

Dylech hefyd anfon copïau o unrhyw waith papur sy’n berthnasol i’r gŵyn.

Gallwch gael help i gysylltu â’r ombwdsmon a dechrau’r drefn gwyno gan gynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich canolfan CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n gallu rhoi cyngor dros e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.

Yr Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth Iechyd

Pa fathau o gwynion y gall yr Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth Iechyd ddelio â nhw

Gall yr Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth Iechyd ymdrin â chwynion am y ffordd y mae unigolyn wedi cael ei drin gan un o adrannau’r llywodraeth neu gorff cyhoeddus arall. Bydd yr ombwdsmon yn ymchwilio i gamweinyddu gan gorff cyhoeddus, er enghraifft, sut caiff gweithdrefnau eu defnyddio. Dyma enghreifftiau o’r mathau o gwynion y gallai’r ombwdsmon ddelio â nhw:

  • ymatebion araf ac anfoddhaol i lythyrau at adrannau'r llywodraeth

  • gwybodaeth a chyngor anghywir neu gamarweiniol gan swyddogion y llywodraeth

  • swyddogion y llywodraeth yn gwrthod rhoi gwybodaeth

  • swyddogion y llywodraeth wedi bod yn ddigywilydd, wedi gwahaniaethu neu ddim yn barod i helpu

  • achosion o fethu dilyn rheolau rhesymol mewn gweithdrefnau a threfniadau gweinyddol.

Ni all yr ombwdsmon ymchwilio i’r mathau canlynol o gwynion:

  • cwynion am ddiwydiannau sydd wedi cael eu gwladoli

  • cwynion am y gwasanaeth iechyd yng Nghymru

  • problemau y mae modd mynd â nhw i’r llys fel arfer

  • cwynion am y ffordd y mae camau cyfreithiol yn cael eu cymryd, er enghraifft, cwynion am staff gweinyddol y llysoedd, oni bai fod y staff yn gweithredu ar awdurdod y barnwr neu’r ynad

  • cwynion am yr heddlu

  • cwynion am bethau sydd heb achosi caledi na dioddefaint i chi

  • cwynion am bolisïau'r llywodraeth

  • cwynion y rhoddwyd gwybod i AS amdanynt dros ddeuddeg mis ar ôl i chi ddod yn ymwybodol bod gennych reswm i gwyno.

Beth i’w wneud gyntaf

Dylech gwyno’n gyntaf wrth adran y llywodraeth neu’r corff cyhoeddus arall sydd dan sylw, gan fod yn rhaid rhoi cyfle iddynt ymchwilio i’r broblem. Dylech anfon llythyr yn esbonio beth yw’r broblem i’r adran berthnasol. Dylech bob amser gadw copi o unrhyw lythyr a anfonir ac unrhyw atebion sy'n dod i law. Os nad yw adran y llywodraeth neu’r corff cyhoeddus yn ymateb yn foddhaol, ystyriwch gyflwyno cwyn i’r Ombwdsmon.

Sut i gwyno

Ni all yr ombwdsmon fod o gymorth oni bai fod AS yn gofyn iddo wneud hynny. Yn gyntaf, dylech ysgrifennu llythyr yn dweud beth yw’r broblem at unrhyw AS yn gofyn iddo gyfeirio’r achos at yr ombwdsmon. Dylech anfon yr holl waith papur perthnasol at yr AS. Efallai y bydd yr AS yn dymuno ymchwilio i’r broblem cyn ei chyfeirio at yr ombwdsmon ac efallai y bydd yn penderfynu peidio ag anfon eich cwyn ymlaen. Edrychwch o dan y pennawd Sut i gwyno wrth yr ombwdsmon i gael gwybod beth i’w roi yn y llythyr. Gallwch gysylltu â swyddfa’r ombwdsmon yn uniongyrchol i gael cyngor ynghylch a yw’r achos yn un y gallai ei ystyried.

Cyfeiriad yr Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth Iechyd yw:

Millbank Tower Millbank London SW1P 4AP

Llinell gymorth: 0345 015 4033 Ffôn testun: 0300 061 4298 Ffacs : 0207 217 4000 E-bost: phso.enquiries@ombudsman.gov.uk Gwefan: www.ombudsman.org.uk

Beth all yr ombwdsmon ei wneud

Os bydd yr ombwdsmon yn cytuno i ymchwilio i’r gŵyn, bydd ymchwiliad preifat yn cael ei gynnal. Efallai y bydd rhywun o swyddfa’r ombwdsmon yn eich cyfweld yn eich cartref.

Os bydd yr ombwdsmon yn cytuno bod cyfiawnhad dros y gŵyn, gofynnir i’r adran yn y llywodraeth gywiro’r broblem. Bydd adroddiad yr ombwdsmon yn cael ei anfon at yr adran, yr AS a’r sawl sy’n gwneud y gŵyn.

Ni all yr ombwdsmon orfodi adran o’r llywodraeth na chorff cyhoeddus arall i gywiro problem. Nid oes modd apelio yn erbyn y canfyddiadau. Fodd bynnag, pan fydd yr ombwdsmon yn cytuno â’r gŵyn ac yn gofyn i’r corff cyhoeddus gywiro’r broblem, bydd y corff cyhoeddus fel arfer yn ymateb. Gallai’r ombwdsmon ofyn am y canlynol:

  • ymddiheuriad

  • ad-daliad o arian sy’n ddyledus, er enghraifft, treth neu fudd-daliadau

  • iawndal, er enghraifft, am oedi

  • gwell gweithdrefnau

  • gwell gweithdrefnau gweinyddol yn yr adran.

Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

Pa fathau o gwynion y gall yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus ddelio â nhw

Gall yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus ddelio â chwynion am gamweinyddu mewn gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Mae’r rhain yn cynnwys gwasanaethau a ddarperir gan y sefydliadau canlynol:

  • awdurdodau lleol

  • byrddau ar y cyd awdurdodau lleol

  • awdurdodau tân a’r heddlu (nid cwynion am swyddogion heddlu unigol)

  • Cynulliad Cenedlaethol Cymru

  • Llywodraeth Cymru

  • byrddau iechyd lleol

  • ymddiriedolaethau’r GIG

  • gwasanaethau meddyg teulu

  • Cynghorau Iechyd Cymuned

  • tai a ddarperir gan gymdeithasau tai ac awdurdodau lleol

  • awdurdodau parciau cenedlaethol

  • Paneli Apeliadau Addysg

  • Cyfoeth Naturiol Cymru

  • cyrff llywodraethu ysgolion (materion yn ymwneud â derbyn yn unig).

Dim ond cwynion am gamweinyddu sy’n achosi anghyfiawnder, dioddefaint neu galedi y gall yr ombwdsmon ymchwilio iddynt. Mae hyn yn golygu mai dim ond cwynion am y ffordd y mae sefydliad wedi gwneud rhywbeth neu beidio â gwneud rhywbeth y gall ddelio â nhw. Dyma enghreifftiau o’r mathau o gwynion y gall ymchwilio iddynt:

  • oedi neu esgeuluso wrth ymateb i ymholiadau neu ddarparu gwasanaeth

  • achosion o fethu dilyn y polisïau, y rheolau neu’r gweithdrefnau y mae’r sefydliad wedi penderfynu arnynt

  • swyddogion wedi bod yn ddigywilydd, wedi gwahaniaethu neu ddim yn barod i helpu

  • cyngor a gwybodaeth anghywir a/neu gamarweiniol gan swyddogion

  • swyddogion ddim wedi darparu cyngor a gwybodaeth.

Gall yr ombwdsmon hefyd ymchwilio i gwynion fod aelod o gorff llywodraeth leol wedi torri cod ymddygiad y corff. Er enghraifft, os yw cynghorydd wedi dwyn anfri ar y cyngor neu wedi defnyddio ei swydd i gael mantais iddo’i hun. Gall yr ombwdsmon ystyried cwyn am berson sy’n aelod o’r canlynol:

  • cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol

  • cyngor cymuned

  • awdurdod tân, awdurdod heddlu neu awdurdod parc cenedlaethol.

Yn ôl y gyfraith, ni all yr ombwdsmon ymchwilio i gwynion am rai pethau, gan gynnwys:

  • y rhan fwyaf o faterion sy’n ymwneud â staff, fel tâl neu ddisgyblu (fodd bynnag, gall ystyried cwynion am drefniadau recriwtio neu benodi)

  • addysgu, cwricwlwm, ymddygiad, disgyblaeth a rheolaeth mewn ysgolion a cholegau

  • y rhent a'r taliadau gwasanaeth a bennir gan landlord cymdeithasol

  • cwyn lle mae gennych chi, neu lle’r oedd gennych chi, hawl gyfreithiol i apelio neu’r hawl i fynd â’r mater i’r llys, oni bai ei fod yn fodlon nad yw’n rhesymol disgwyl i chi fod wedi gwneud hynny yn yr amgylchiadau penodol

  • cwynion ynghylch ymddygiad gweithwyr cyflogedig unigol awdurdod. Fodd bynnag, os credwch i chi gael eich trin yn annheg neu os cawsoch chi wasanaeth gwael o ganlyniad i’w hymddygiad, yna gallwch gwyno am yr awdurdod ei hun.

Beth i’w wneud gyntaf

Dylech gwyno wrth y sefydliad sydd dan sylw yn gyntaf. Ysgrifennwch lythyr at yr adran yn amlinellu’r broblem. Os na chewch ymateb boddhaol neu os na chewch ymateb o gwbl o fewn amser rhesymol, gofynnwch i’r ombwdsmon ymchwilio i’r gŵyn.

Sut i gwyno

Gallwch anfon eich cwyn yn uniongyrchol at yr ombwdsmon neu gallwch ofyn i gynghorydd lleol wneud hyn ar eich rhan. Os nad ydych chi’n siŵr sut i gyflwyno cwyn i’r ombwdsmon, gallwch gael help gan Dîm Cyngor ar Gwynion Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ar 0300 790 0203.

Cyfeiriad Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yw:

Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 1 Ffordd yr Hen Gae Pencoed CF35 5LJ

Ffôn: 0300 790 0203 Ffacs: 01656 641 199 E-bost: ask@ombudsman-wales.org.uk Gwefan : www.ombudsman-wales.org.uk

Beth all yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus ei wneud

Os yw’r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus yn credu bod hynny’n briodol, bydd yn ymchwilio i’r achos. Efallai y bydd rhywun o swyddfa’r ombwdsmon yn ymweld â chi. Bydd yr ombwdsmon wedyn yn llunio adroddiad, a fydd yn cael ei anfon at y sefydliad dan sylw ac atoch chi. Ni fyddwch yn cael eich enwi yn yr adroddiad. Yn y rhan fwyaf o achosion, rhaid i’r sefydliad y cwynir amdano wneud yn siŵr ei fod yn darparu’r adroddiad i’r cyhoedd. Weithiau, bydd cwynion yn cael eu datrys cyn diwedd yr ymchwiliad.

Os bydd yr ombwdsmon yn teimlo mai’r sefydliad sy’n gyfrifol am achosi’r broblem, bydd yr ombwdsmon yn cynnwys ei argymhellion ar gyfer ateb addas i’r broblem yn yr adroddiad. Dyma rai o’r pethau y gallai’r ombwdsmon ofyn amdanynt:

  • ymddiheuriad

  • iawndal

  • gwell gweithdrefnau gweinyddol

  • datrys y broblem.

Nid oes gan yr ombwdsmon bŵer i orfodi’r sefydliad i gymryd unrhyw un o’r camau hyn, ond mae sefydliadau fel arfer yn cytuno i wneud yr hyn a ddywed yr ombwdsmon. Os nad yw sefydliad yn cymryd y camau a argymhellwyd gan yr ombwdsmon, rhaid iddo gyhoeddi ei resymau am hynny yn y wasg leol.

Yr Ombwdsmon Ewropeaidd

Pa fathau o gwynion y gall yr Ombwdsmon Ewropeaidd ddelio â nhw

Gall yr Ombwdsmon Ewropeaidd ymchwilio i gamweinyddu yng ngweithgareddau sefydliadau a chyrff y gymuned Ewropeaidd. Mae’r cyrff hyn yn cynnwys y Comisiwn Ewropeaidd, Cyngor yr Undeb Ewropeaidd a’r Llys Cyfiawnder.

Mae’r problemau y gall yr Ombwdsmon Ewropeaidd ymchwilio iddynt yn cynnwys oedi gweinyddol, gwrthod gwybodaeth, gwahaniaethu a chamddefnyddio pŵer.

Beth i’w wneud gyntaf

Cyn y gallwch wneud cwyn i’r Ombwdsmon Ewropeaidd, dylid rhoi cyfle i’r sefydliad Ewropeaidd ymchwilio i’r broblem a cheisio’i datrys.

Sut i gwyno

Mae cyfyngiad amser ar gyfer cwynion, sef dwy flynedd o’r dyddiad pan oeddech yn gwybod ffeithiau’r broblem. Nid oes angen i chi gyfeirio’r broblem drwy gyfrwng Aelod o Senedd Ewrop. Ni chodir ffi am wneud cwyn i’r Ombwdsmon Ewropeaidd a rhaid i chi gyflwyno’r gŵyn yn ysgrifenedig. Mae ffurflen y gallwch ei llwytho i lawr oddi ar wefan yr Ombwdsmon Ewropeaidd. Gallwch ei llenwi a’i hanfon dros e-bost, ond nid oes raid i chi ddefnyddio’r ffurflen hon i wneud eich cwyn.

Cyfeiriad yr Ombwdsmon Ewropeaidd yw:

1, Avenue du President Robert Schuman CS 30403 F-67001 Strasbourg Cedex France

Ffôn : 00 33 388 172313 Ffacs : 00 33 388 179062 E-bost: eo@ombudsman.europa.eu Gwefan : www.ombudsman.europa.eu

Beth all yr Ombwdsmon Ewropeaidd ei wneud

Bydd yr Ombwdsmon Ewropeaidd yn ymchwilio i’r gŵyn. Nid yw cwynion yn cael eu trin yn gyfrinachol fel arfer, ond os byddwch yn gofyn i’ch cwyn gael ei thrin yn gyfrinachol, bydd hyn yn cael ei barchu mewn amgylchiadau unigol os oes modd.

Bydd yr Ombwdsmon Ewropeaidd yn ceisio dod o hyd i ateb drwy gymodi er mwyn unioni pethau a bodloni’r unigolyn sy’n gwneud y gŵyn. Os na fydd yr ymgais i gymodi yn llwyddiannus, gall yr Ombwdsmon Ewropeaidd wneud argymhellion i’r sefydliad i ddatrys y broblem. Os na fydd y sefydliad yn derbyn argymhellion yr ombwdsmon, gall yr ombwdsmon gyflwyno adroddiad arbennig ar y mater i Senedd Ewrop.

Gwasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol

Beth all Gwasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol ddelio ag ef

Gall Gwasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol ddelio â chwynion defnyddwyr am y rhan fwyaf o faterion ariannol personol, gan gynnwys:

  • cyngor ariannol

  • gwasanaethau bancio

  • polisïau gwaddol

  • morgeisi

  • cynlluniau pensiwn personol

  • gwasanaethau cymdeithas adeiladu

  • yswiriant.

Mae Gwasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol yn ddiduedd ac yn rhad ac am ddim. Yn bennaf, gall ddelio â chwynion defnyddwyr am gwmnïau sydd wedi’u hawdurdodi gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol. Fodd bynnag, mae hefyd yn gallu delio â rhai cwmnïau sydd heb gael eu hawdurdodi. Dylech gysylltu â llinell gymorth defnyddwyr Gwasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol yn uniongyrchol i gael gwybod a all ddelio â'ch cwyn.

Sut i gwyno

Cyn i chi gwyno wrth Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol, rhaid i chi gwyno wrth y cwmni gan ddefnyddio ei drefn gwyno ffurfiol. Os nad ydych chi’n hapus â’r canlyniad, gallwch wneud cwyn i Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol. Mae cyfyngiad amser, sef chwe mis ar ôl i chi gael penderfyniad terfynol gan y cwmni ynghylch sut y bydd yn delio â’r mater. Gallwch gael ffurflen gwyno oddi ar wefan Gwasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol neu drwy ffonio'r llinell gymorth i ddefnyddwyr. Gallwch gysylltu â Gwasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol yn uniongyrchol i gael gwybodaeth am sut i wneud cwyn.

Cyfeiriad Gwasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol yw:

Financial Ombudsman Service South Quay Plaza 183 Marsh Wall London E14 9SR Llinell defnyddwyr: 0800 023 4567 (am ddim i bobl sy'n ffonio o linell dir) neu 0300 123 9123 (am ddim i ddefnyddwyr ffôn symudol sy’n talu ffi fisol ar gyfer galwadau i rifau sy’n dechrau gyda 01 neu 02) (Llun-Gwener 8.00am-6.00pm; Sadwrn 9.00am-1.00pm) E-bost: complaint.info@financial-ombudsman.org.uk Gwefan : www.financial-ombudsman.org.uk

Beth all yr Ombwdsmon Ariannol ei wneud

Bydd Gwasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol yn ymchwilio i’r gŵyn ac yn rhoi cyngor ar sut i’w datrys. Os na cheir canlyniad boddhaol, bydd Gwasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol yn dechrau ymchwiliad ffurfiol. Bydd y penderfyniad terfynol a roddir ar ddiwedd yr ymchwiliad hwn yn rhwymol ar y cwmni. Fodd bynnag, os nad ydych chi’n cytuno â’r penderfyniad, gallwch fynd â’r gŵyn i’r llys.

Yr Ombwdsmon Cyfreithiol

Beth all yr Ombwdsmon Cyfreithiol ddelio ag ef

Mae’r Ombwdsmon Cyfreithiol yn delio â chwynion am wasanaethau a ddarperir gan gynghorwyr cyfreithiol. Mae cynghorwyr cyfreithiol yn cynnwys:

  • cyfreithwyr

  • bargyfreithwyr

  • gweithredwyr cyfreithiol

  • trawsgludwyr trwyddedig

  • drafftsmyn costau'r gyfraith

  • noteriaid

  • twrneiod patentau

  • ymarferwyr profiant

  • cyfreithwyr Ewropeaidd cofrestredig

  • twrneiod nodau masnach

  • unrhyw fusnes sy’n gyfrifol am y bobl hyn.

Beth i’w wneud gyntaf

Rhaid i chi geisio datrys y gŵyn yn gyntaf drwy ei thrafod gyda’ch cynghorydd cyfreithiol. Rhaid i bob cwmni cyfreithiol gael trefn gwyno ysgrifenedig a bydd y cwmni'n dweud wrthych pwy i gysylltu â nhw os oes gennych broblem gyda'r cynghorydd cyfreithiol sy'n delio gyda'r achos. Rhaid i’r cynghorydd cyfreithiol roi copi o’r drefn gwyno i chi os byddwch yn gofyn amdani.

Sut i gysylltu â’r Ombwdsmon Cyfreithiol

Os nad yw hyn yn datrys y mater, dylech gysylltu â’r Ombwdsmon Cyfreithiol. Mae gan yr Ombwdsmon Cyfreithiol linell gymorth a fydd yn gallu rhoi cyngor i chi ynghylch a allant ddelio â’ch cwyn ai peidio.

Rhaid i chi gysylltu â’r Ombwdsmon Cyfreithiol o fewn chwe mis i’ch cyswllt diwethaf â’ch cynghorydd cyfreithiol. Rhaid i chi ddarparu:

  • manylion am enw a chyfeiriad eich cynghorydd cyfreithiol

  • y dyddiad y gwnaethoch chi ddweud wrth eich cynghorydd cyfreithiol am eich cwyn

  • manylion am yr ymateb a gawsoch.

Beth all yr Ombwdsmon Cyfreithiol ei wneud

Yn gyntaf oll, bydd yr Ombwdsmon Cyfreithiol yn ceisio datrys eich cwyn yn anffurfiol. Os nad yw hyn yn bosibl, bydd yr Ombwdsmon Cyfreithiol yn ymchwilio i’ch cwyn yn ffurfiol a chewch gyfle i gyflwyno’ch achos yn ysgrifenedig.

Os byddwch yn derbyn penderfyniad yr Ombwdsmon Cyfreithiol, bydd yn derfynol ac yn rhwymol.

Os bydd yr Ombwdsmon Cyfreithiol yn cytuno nad yw gwasanaeth eich cynghorydd cyfreithiol wedi bod yn foddhaol, gall ofyn i'ch cwmni cyfreithiol wneud unrhyw un o'r canlynol:-

  • ymddiheuro i chi

  • rhoi unrhyw ddogfennau y bydd eu hangen arnoch o bosibl yn ôl i chi

  • talu iawndal i chi am golled, anhwylustod neu drallod (hyd at £50,000)

  • unioni pethau os oes modd

  • ad-dalu neu ostwng ffioedd cyfreithiol.

Os yw’r cynghorydd cyfreithiol wedi torri unrhyw reolau ymddygiad proffesiynol, gall yr Ombwdsmon Cyfreithiol gyfeirio’ch cwyn at y corff rheoleiddio priodol. Mewn achosion eithafol, gallai’r cynghorydd cyfreithiol gael ei ddisgyblu neu ei ddiarddel, a fyddai’n golygu na fyddai modd iddo weithio fel cynghorydd cyfreithiol ddim mwy.

Os yw eich cynghorydd cyfreithiol wedi gwahaniaethu yn eich erbyn, efallai y gallwch gymryd camau cyfreithiol yn erbyn y cynghorydd cyfreithiol yn ogystal â chwyno wrth yr Ombwdsmon Cyfreithiol. Bydd angen i chi gael cyngor cyfreithiol. Efallai y bydd modd i chi gael cymorth cyfreithiol ar gyfer hyn.

Gallwch gysylltu â’r Ombwdsmon Cyfreithiol yn:

Legal Ombudsman PO Box 6806 Wolverhampton WV1 9WJ

Ffôn: 0300 555 0333 (Dydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8.30am a 5.30pm) Minicom: 0300 555 1777 E-bost: enquiries@legalombudsman.org.uk Gwefan : www.legalombudsman.org.uk

Cewch ragor o wybodaeth ynghylch sut i wneud cwyn ar wefan yr Ombwdsmon Cyfreithiol yn: www.legalombudsman.org.uk.

Yr Ombwdsmon Eiddo

Mae’r Ombwdsmon Eiddo yn delio gydag anghydfodau sy’n ymwneud â gwerthwyr tai, asiantau gosod eiddo, asiantau rheoli eiddo preswyl, priswyr, arwerthwyr ac unigolion proffesiynol eraill sy’n gweithio ym maes eiddo.

Rhaid i bob gwerthwr tai fod yn aelod o gynllun gwneud iawn cymeradwy ar gyfer delio â chwynion am brynu a gwerthu eiddo preswyl. Mae tri chynllun cymeradwy – un ohonynt yn cael ei redeg gan yr Ombwdsmon Eiddo. Dylech holi a yw eich gwerthwr tai yn aelod o’r cynllun hwn. Os nad ydyw, dylech edrych i weld a yw’n aelod o’r cynllun cymeradwy arall sy’n cael ei redeg gan y Cynllun Gwneud Iawn ar gyfer Eiddo.

Os nad yw gwerthwr tai wedi ymuno ag un o’r cynlluniau hyn, gall gael dirwy. Gallwch riportio gwerthwr tai sydd heb ymuno â chynllun i'r swyddfa safonau masnach leol.

Nid yw’n ofynnol ar hyn o bryd i asiantau gosod eiddo, asiantau rheoli eiddo preswyl a gweithwyr proffesiynol eraill ym maes eiddo gofrestru fel aelodau o gynllun gwneud iawn.

Pa gwynion y gall yr Ombwdsmon Eiddo ddelio â nhw

Bydd yr Ombwdsmon Eiddo yn ymchwilio i gwynion am gwmnïau cofrestredig (aelodau'r cynllun) os ydych chi wedi colli arian neu wedi wynebu anhwylustod oherwydd bod y cwmni hwnnw:

  • wedi mynd yn groes i’ch hawliau cyfreithiol

  • wedi eich trin yn annheg

  • wedi bod yn euog o gamweinyddu (gan gynnwys aneffeithlonrwydd ac oedi).

Pa gwynion nad oes modd i’r Ombwdsmon Eiddo ddelio â nhw

Ni all yr Ombwdsmon Eiddo ddelio â chwynion:

  • os nad yw'r gŵyn yn erbyn cwmni cofrestredig (aelod o'r cynllun)

  • os yw llys yn delio â’r gŵyn neu wedi delio â hi

  • os nad yw’r gŵyn wedi cael ei chodi yn ysgrifenedig gyda'r cwmni cofrestredig

  • os digwyddodd y digwyddiad rydych yn cwyno yn ei gylch fwy na deuddeg mis cyn i chi gwyno’n ffurfiol wrth y cwmni neu cyn i’r cwmni gofrestru fel aelod o’r cynllun.

Beth i’w wneud gyntaf

Yn gyntaf oll, dylech wneud cwyn ysgrifenedig ffurfiol i’r cwmni cofrestredig er mwyn dechrau ar drefn gwyno fewnol y cwmni.

Os ydych chi’n dal yn anfodlon ar ddiwedd y weithdrefn hon, gallwch gysylltu â’r Ombwdsmon Eiddo gan roi manylion eich cwyn. Rhaid i chi wneud hyn o fewn chwe mis i’r adeg pan fydd y cwmni’n cwblhau ei drefn gwyno fewnol.

Sut i gwyno

Gallwch gysylltu â’r Ombwdsmon Eiddo gan roi manylion llawn y gŵyn. Cyfeiriad yr Ombwdsmon Eiddo yw:

Milford House 43-55 Milford Street Salisbury Wiltshire SP1 2BP

Ffôn : 01722 333 306 Ffacs : 01722 332 296 E-bost : admin@tpos.co.uk Gwefan : www.tpos.co.uk

Beth all yr Ombwdsmon Eiddo ei wneud

Ar ôl ystyried y wybodaeth a ddarperir gennych chi a’r cwmni cofrestredig, bydd yr Ombwdsmon yn anfon penderfyniad at y ddwy ochr. Gall yr Ombwdsmon ganiatáu iawndal o hyd at £25,000. Gallwch dderbyn neu wrthod y penderfyniad. Os byddwch yn ei dderbyn, yn ôl y gyfraith, mae’n rhaid i’r cwmni cofrestredig dderbyn y penderfyniad.

Os byddwch yn penderfynu gwrthod penderfyniad yr Ombwdsmon, gallwch benderfynu pa gamau eraill (gan gynnwys camau cyfreithiol) yr hoffech eu cymryd.

Y Cynllun Gwneud Iawn ar gyfer Eiddo

Mae’r Cynllun Gwneud Iawn ar gyfer Eiddo yn delio â chwynion gan ddefnyddwyr am werthwyr tai, asiantau gosod eiddo, asiantau rheoli eiddo preswyl, cwmnïau syrfewyr siartredig, syrfewyr a gweithwyr proffesiynol eraill ym maes eiddo.

Rhaid i bob gwerthwr tai fod yn aelod o gynllun gwneud iawn cymeradwy ar gyfer delio â chwynion am brynu a gwerthu eiddo preswyl.

Mae tri chynllun cymeradwy – un ohonynt yn cael ei redeg gan y Cynllun Gwneud Iawn ar gyfer Eiddo. Dylech holi a yw eich gwerthwr tai yn aelod o’r cynllun hwn. Os nad ydyw, dylech edrych i weld a yw’n aelod o’r cynllun cymeradwy arall sy’n cael ei redeg gan yr Ombwdsmon Eiddo.

Os oes gennych gŵyn nad yw wedi cael ei datrys gan ddefnyddio trefn gwyno'r asiantaeth ei hun, gallwch gyflwyno cwyn i’r cynllun y mae'r asiantaeth honno'n perthyn iddi.

Pa gwynion y gall y Cynllun Gwneud Iawn ar gyfer Eiddo ddelio â nhw

Mae’r Cynllun Gwneud Iawn ar gyfer Eiddo yn delio â chwynion am driniaeth annheg, oedi y gellid ei osgoi, achosion o fethu dilyn gweithdrefnau priodol a gwasanaeth gwael, ymysg pethau eraill. Mae’n rhaid eich bod wedi dioddef colled ariannol, trallod neu anghyfleustra o ganlyniad. Dim ond os yw’r asiant neu’r gweithiwr proffesiynol yn aelod o’r Cynllun y gall edrych ar eich problem. Mae’n bwysig eich bod yn edrych ar wefan www.theprs.co.uk yn gyntaf er mwyn cadarnhau hyn.

Beth i’w wneud gyntaf

Yn gyntaf, dylech wneud cwyn ysgrifenedig i’r cwmni sy’n aelod a chaniatáu wyth wythnos ar gyfer ymateb.

Os nad ydych chi’n hapus ag ymateb terfynol y cwmni sy'n aelod, neu os oes wyth wythnos wedi mynd heibio ers i chi wneud eich cwyn, gallwch gyflwyno cwyn i’r Cynllun. Rhaid i chi gyflwyno cwyn i’r Cynllun o fewn chwe mis i’ch cwyn wreiddiol.

Sut i gwyno

Gallwch gysylltu â’r Cynllun Gwneud Iawn ar gyfer Eiddo yn:

The Property Redress Scheme Ground Floor Kingmaker House Station Road Barnet Herts EN5 1NZ

Ffôn : 0333 321 9418 (Dydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9.00am a 5.00pm) E-bost : info@theprs.co.uk Gwefan : www.theprs.co.uk

Cewch ragor o wybodaeth ynghylch sut i wneud cwyn ar wefan y Cynllun yn: www.theprs.co.uk

Beth all y Cynllun Gwneud Iawn ar gyfer Eiddo ei wneud

Ar ôl ystyried y wybodaeth a ddarperir gennych chi a’r cwmni cofrestredig, bydd yr Ombwdsmon yn anfon penderfyniad at y ddwy ochr. Gall yr Ombwdsmon ganiatáu iawndal o hyd at £25,000. Gallwch dderbyn neu wrthod y penderfyniad. Os byddwch yn ei dderbyn, bydd y cwmni sy'n aelod yn cadw at y penderfyniad terfynol ac yn cymryd y camau y mae’r Ombwdsmon wedi gofyn amdanynt.

Os byddwch yn penderfynu gwrthod penderfyniad yr Ombwdsmon, gallwch benderfynu pa gamau eraill (gan gynnwys camau cyfreithiol) yr hoffech eu cymryd.

Yr Ombwdsmon Carchardai a Phrofiannaeth

Pa gwynion y gall yr Ombwdsmon Carchardai a Phrofiannaeth ddelio â nhw

Gall yr Ombwdsmon Carchardai a Phrofiannaeth ystyried cwynion am y rhan fwyaf o agweddau ar driniaeth carcharor yn y carchar, gan gynnwys gwrandawiadau disgyblu. Mae hefyd yn delio â chwynion gan bobl sydd ar brawf. Gall yr ombwdsmon ystyried a oedd penderfyniad a wnaed gan y Gwasanaeth Carchardai neu’r Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol yn gywir ac a ddilynwyd y gweithdrefnau priodol wrth wneud y penderfyniad. Mae hyn yn cynnwys camau gweithredu a gymerwyd gan staff carchardai a gyflogir gan gwmnïau preifat, swyddogion prawf ac aelodau’r Bwrdd Monitro Annibynnol. Mae’r ombwdsmon hefyd yn gyfrifol am ymchwilio i farwolaethau pob carcharor a phreswylwyr hosteli prawf a llety cadw ar gyfer mewnfudwyr..

Pa gwynion nad oes modd i’r Ombwdsmon Carchardai a Phrofiannaeth ddelio â nhw

Ni all yr Ombwdsmon Carchardai a Phrofiannaeth ymchwilio i gwynion am gamau gweithredu asiantaethau eraill, er enghraifft, yr heddlu, y llysoedd neu’r Adran Mewnfudo.

Beth i’w wneud gyntaf

Cyn i chi wneud cwyn i’r Ombwdsmon Carchardai a Phrofiannaeth, rhaid i chi yn gyntaf fod wedi defnyddio’r gweithdrefnau cwyno mewnol. Os nad ydych yn fodlon â’r ateb neu os nad yw Pencadlys y Gwasanaeth Carchardai neu Fwrdd Prawf yr Ardal wedi ymateb o fewn chwe wythnos, gallwch gwyno wrth yr ombwdsmon.

Sut i gwyno

Mae cyfyngiad amser ar gyfer gwneud cwyn, sef mis ar ôl cael ateb gan Bencadlys y Gwasanaeth Carchardai neu Fwrdd Prawf yr Ardal. Os nad ydych wedi cael ateb, gallwch gwyno unrhyw bryd ar ôl chwe wythnos. Mae gan yr Ombwdsmon Carchardai a Phrofiannaeth y disgresiwn i ymchwilio i gwynion a wneir y tu allan i’r cyfyngiad amser, er enghraifft, os oeddech yn sâl ac yn methu gwneud y gŵyn yn gynharach.

I gwyno, anfonwch lythyr at yr ombwdsmon. Os ydych chi’n garcharor, dylech anfon y llythyr mewn amlen wedi’i selio gyda’r geiriau ‘Mynediad cyfrinachol carcharorion’ arni. Dylai carcharor gynnwys ei rif carchar yn y llythyr cwyno. Gall ffrind, perthynas neu gynghorydd roi help a chymorth i wneud hyn. Dylid anfon y gŵyn at:

Prisons and Probation Ombudsman Ashley House 2 Monck Street London SW1P 2BQ

Ffôn: 020 7276 2876 neu 08450 0107938 Ffacs : 020 7276 2860 E-bost : mail@ppo.gsi.gov.uk Gwefan : www.ppo.gov.uk

Beth fydd yr Ombwdsmon Carchardai a Phrofiannaeth yn ei wneud

Fel arfer, bydd yr Ombwdsmon Carchardai a Phrofiannaeth yn cael copïau o unrhyw bapurau perthnasol gan y Gwasanaeth Carchardai neu’r Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol. Bydd yn trin y gŵyn yn gyfrinachol cymaint ag y bo modd. Fodd bynnag, mewn rhai achosion, bydd yn eich cyfweld chi a’r bobl eraill.

Bydd yr ombwdsmon yn anfon y penderfyniad a’r rhesymau drosto ar ffurf ysgrifenedig atoch chi a’r Gwasanaeth Carchardai neu’r Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol. Fel arfer, byddwch yn cael ateb gan yr ombwdsmon o fewn wyth wythnos ar ôl gwneud y gŵyn. Os bydd yr ymchwiliad yn cymryd mwy na deuddeg wythnos, byddwch yn cael adroddiadau cynnydd misol gan yr ombwdsmon.

Os bydd yr ombwdsmon yn cadarnhau eich cwyn, bydd yn argymell camau gweithredu y dylai’r Gwasanaeth Carchardai neu’r Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol eu cymryd.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.