Cadarnhau eich hawliau fel lletywr

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Rydych yn lletywr os yw’r ddau bwynt canlynol yn berthnasol:

  • rydych yn byw gyda’ch landlord ac yn rhannu ‘gofod byw’ gyda nhw – er enghraifft, cegin, ystafell fyw neu ystafell ymolchi

  • roedd eich landlord eisoes yn byw yno fel eu prif gartref pan wnaethoch symud i mewn

Nid yw gofod byw yn cynnwys coridorau, grisiau, ardaloedd storio neu fynedfeydd.

Fel arfer bydd gennych eich ystafell eich hun – efallai eich bod yn byw rhywle arall yn yr eiddo, er enghraifft yn yr ystafell fyw.

Efallai eich bod yn byw yno am ddim neu eich bod yn talu rhent. Gallai eich rhent gynnwys pethau fel biliau, prydau bwyd neu lanhau.

Rydych yn lletywr hyd yn oed os ydych yn byw gyda ffrind neu aelod o’ch teulu – er enghraifft eich rhieni neu bartner. Nhw yw eich landlord hyd yn oed os nad oes gennych gytundeb ffurfiol gyda nhw.

Efallai bod eich landlord wedi rhoi cytundeb ysgrifenedig i chi pan wnaethoch symud i mewn, ond nid oes rhaid iddynt wneud hyn.

Fel lletywr, nid oes gennych lawer o hawliau cyfreithiol.

Os bydd eich landlord wedi rhoi contract meddiannaeth i chi

Mae gennych fwy o hawliau na’r rhan fwyaf o letywyr. Mae gennych yr un hawliau â’r rhan fwyaf o bobl sy’n rhentu gan landlord ac nad ydynt yn lletywr.

Mae’n anarferol i landlordiaid roi contract meddiannaeth i letywr.

Gallwch wirio beth yw eich hawliau os:

  • oes angen i chi hawlio budd-daliadau neu gael cymorth digartrefedd

  • bydd eich landlord yn dod i mewn i’ch ystafell

  • ydych wedi talu blaendal

  • yw eich rhent yn cynyddu

Os dywedwyd wrthych i symud allan o’r eiddo, gallwch wirio eich hawliau os ydych yn cael eich troi allan fel lletywr.

Gwirio pa fudd-daliadau y gallwch eu cael

Efallai y gallwch gael eich rhent cyfan neu ran ohono wedi’i dalu drwy hawlio elfen tai y Credyd Cynhwysol neu Fudd-dal Tai.

Os ydych yn byw gydag aelodau agos eich teulu, ni allwch hawlio’r budd-daliadau hyn – hyd yn oed os ydych yn talu rhent. Ni allwch hawlio’r budd-daliadau hyn os ydych yn byw gyda:

  • eich rhieni, llys-rieni neu rieni-yng-nghyfraith

  • eich plant, llysblant neu blant-yng-nghyfraith

  • eich brodyr neu chwiorydd

  • eich hanner brodyr neu chwiorydd

  • partner unrhyw rai o’r aelodau teulu uchod

Os ydych yn byw gydag unrhyw aelod arall o’ch teulu, efallai y gallwch hawlio elfen tai y Credyd Cynhwysol neu Fudd-dal Tai.

Os na allwch hawlio’r budd-daliadau hyn, efallai y gallwch barhau i hawlio’r Credyd Cynhwysol i dalu costau eraill. Gwiriwch i weld a allwch gael y Credyd Cynhwysol.

Gwiriwch i weld a allwch gael Credyd Cynhwysol

Os ydych yn talu rhent, gallech fod yn gymwys i gael elfen tai y Credyd Cynhwysol – hyd yn oed os ydych yn byw gyda ffrind.

Bydd angen i chi ddangos tystiolaeth eich bod yn rhentu ac yn talu rhent – er enghraifft cytundeb ysgrifenedig gan eich landlord.

Byddwch fel arfer yn cael un taliad Credyd Cynhwysol bob mis i dalu eich costau byw.

Gallwch gael elfen tai y Credyd Cynhwysol hyd yn oed os ydych eisoes yn hawlio Credyd Cynhwysol ar gyfer rhywbeth arall. Er enghraifft os ydych yn ei gael am eich bod wedi colli eich swydd ac nid oes gennych incwm.

Gwiriwch i weld a allwch gael Credyd Cynhwysol.

Os ydych eisoes yn cael elfen tai Credyd Cynhwysol

Os yw eich sefyllfa tai wedi newid, efallai y gallwch hawlio mwy o arian – er enghraifft os ydych yn symud i le newydd gyda swm newydd o rent.

Gelwir yr uchafswm taliad budd-dal y gallwch ei gael fel arfer yn ‘gyfradd Lwfans Tai Lleol’. Mae’n dibynnu ar bethau fel:

  • lle rydych yn byw

  • eich sefyllfa – er enghraifft os oes gennych blant

Os yw eich rhent yn fwy na’r gyfradd lwfans tai lleol, rhaid i chi dalu’r gweddill eich hun.

Enghraifft

Mae Aisha yn hawlio Credyd Cynhwysol sydd ag elfen tai o £400. Mae’n symud i ystafell newydd lle mae’r rhent yn £450.

Y gyfradd lwfans tai lleol ar gyfer yr ardal lle mae Aisha yn byw yw £425. Mae hyn £25 yn llai na rhent Aisha.

Pan mae’n hysbysu Credyd Cynhwysol am ei rhent newydd, bydd elfen tai Aisha ond yn cynyddu i £425 – yr uchafswm cyfradd lwfans budd-daliadau. Mae rhent Aisha yn £450 felly bydd yn rhaid iddi dalu’r £25 sy’n weddill ei hun.

Os oes gennych gyfrif ar-lein, mewngofnodwch i’ch cyfrif Credyd Cynhwysol i adrodd newid i’ch sefyllfa tai ar GOV.UK.

Gallwch hefyd ffonio’r llinell gymorth Credyd Cynhwysol, ond gallai gymryd mwy o amser.

Llinell Gymorth Credyd Cynhwysol

Ffôn: 0800 328 5644

Ffôn (Cymraeg): 0800 328 1744

Ffôn testun: 0800 328 1344

Relay UK – Os na allwch glywed neu siarad ar y ffôn, gallwch deipio’r hyn rydych eisiau ei ddweud: 18001 yna 0800 328 5644

Gallwch ddefnyddio Relay UK gydag ap neu ffôn testun. Nid oes unrhyw dâl ychwanegol i’w ddefnyddio. Dysgwch sut i ddefnyddio Relay UK ar wefan Relay UK.

Fideo relay – os ydych yn defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL).

Gallwch ddysgu sut i ddefnyddio fideo relay ar YouTube.

Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm

Mae galwadau am ddim o ffonau symudol a llinellau tir.

Gwiriwch i weld a allwch gael Budd-dal Tai

Efallai y gallwch hawlio Budd-dal Tai os ydych ar incwm isel neu os ydych eisoes yn hawlio budd-daliadau penodol eraill.

Ni all y rhan fwyaf o bobl wneud cais newydd am Fudd-dal Tai.

Gallwch hawlio Budd-dal Tai os ydych wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Gallwch wirio eich oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar GOV.UK.

Os ydych yn byw gyda phartner, mae’n rhaid eu bod hwy hefyd wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth i chi allu gwneud hawliad.

Gwiriwch i weld a allwch hawlio Budd-dal Tai ar GOV.UK.

Os na allwch wneud hawliad newydd am Fudd-dal Tai, efallai y gallwch wneud cais am elfen tai y Credyd Cynhwysol yn lle hynny. Gwiriwch i weld a allwch gael Credyd Cynhwysol.

Os ydych eisoes yn cael Budd-dal Tai

Os bydd eich rhent yn newid, efallai y gallwch hawlio mwy o arian. Bydd angen i chi ddweud wrth eich cyngor lleol am eich rhent newydd.

Os ydych yn symud i eiddo gwahanol, efallai y gallwch barhau i dderbyn Budd-dal Tai os ydych naill ai:

Os nad ydych yn siŵr a allwch hawlio Budd-dal Tai neu barhau i’w hawlio, siaradwch â chynghorydd.

Gwirio i weld a allwch wneud cais am gymorth digartrefedd

Gallwch wneud cais i’ch cyngor am le i fyw os byddwch yn ddigartref neu os byddwch yn dod yn ddigartref o fewn 8 wythnos. Er enghraifft, os yw eich ffrind wedi gofyn i chi symud allan ac nid oes gennych unrhyw le arall i aros.

Gallwch wneud cais am gymorth digartrefedd hyd yn oed os ydych yn byw gyda’ch teulu a’u bod wedi gofyn i chi symud allan.

Gwiriwch i weld a allwch wneud cais am gymorth digartrefedd.

Hawl eich landlord i fynd i mewn i’ch ystafell

Ni ddylai eich landlord fynd i mewn i’ch ystafell heb eich caniatâd chi.

Gall eich landlord fynd i mewn i’ch ystafell heb eich caniatâd os, er enghraifft:

  • os ydych wedi cytuno eu bod yn gwneud pethau i chi – fel glanhau eich ystafell

  • mae angen iddynt wneud gwaith atgyweirio

  • mae argyfwng – fel dŵr yn gollwng yn yr ystafell

Os yw eich landlord yn aflonyddu arnoch

Mae gennych hawl i fwynhau eich ystafell mewn heddwch, ni waeth pa fath o gytundeb a wnaethoch gyda’ch landlord.

Os bydd eich landlord yn dod i mewn i’ch ystafell ac ni ddylent fod yn gwneud hyn, mae hyn yn aflonyddu.

Aflonyddu yw pan fo rhywun yn creu awyrgylch sy’n gwneud i chi deimlo’n anghyfforddus. Gallai hyn fod oherwydd eich bod yn teimlo eich bod wedi'ch tramgwyddo, eich dychryn neu eich bychanu.

Pwysig

Os ydych mewn perygl oherwydd eich landlord

Ffoniwch 999 i roi gwybod i’r heddlu am hyn.

Os nad ydych yn teimlo’n ddiogel ond nid yw’n argyfwng, ffoniwch 101.

Gallwch roi clo ar eich drws i atal eich landlord rhag dod i mewn. Gwnewch yn siŵr na fydd yn difrodi’r drws – bydd yn rhaid i chi ei adael yn yr un cyflwr pan fyddwch yn symud allan.

Os yw’r broblem yn ddifrifol, gallwch wneud cais am orchymyn llys yn erbyn eich landlord.  Os byddwch yn gwneud hyn, efallai y byddant yn gofyn i chi symud allan.

Dysgwch beth allwch ei wneud os bydd rhywun yn aflonyddu arnoch mewn tŷ.

Talu blaendal

Efallai y bydd angen i chi dalu blaendal cyn y gallwch symud i mewn – mae hyn yn un mis o rent fel arfer.

Defnyddir yr arian hwn rhag ofn y bydd problem yn ystod eich arhosiad – er enghraifft os bydd angen i’ch landlord dalu am unrhyw ddifrod y gallech ei achosi.

Fel arfer byddwch yn cael yr arian yn ôl pan fyddwch yn symud allan.

Cynnydd rhent

Os bydd gan eich cytundeb ddyddiad dod i ben, mae gennych gytundeb cyfnod penodol.

Os oes gennych gytundeb cyfnod penodol, bydd eich landlord ond yn gallu cynyddu eich rhent os bydd is-gymal sy’n caniatáu hynny. Gelwir hyn yn ‘is-gymal adolygu rhent’.

Os nad oes gennych gytundeb cyfnod penodol, gall eich landlord gynyddu eich rhent pryd bynnag y byddant yn dymuno. 

Os nad ydych yn cytuno â’r cynnydd, siaradwch â’ch landlord i geisio dod i gytundeb.

Os na allwch ddod i gytundeb, efallai y bydd eich landlord yn eich troi allan.

Mae’n syniad da edrych faint mae ystafelloedd tebyg yn ei gostio yn eich ardal. Os ydych yn credu y gallwch ganfod rhywle rhatach, gallech ddewis symud allan.

Os ydych yn cael budd-daliadau

Mae’n rhaid i chi roi gwybod am unrhyw newidiadau i’ch taliadau rhent. Mae sut y byddwch yn rhoi gwybod am hyn yn dibynnu ar pa fath o fudd-daliadau rydych yn eu cael.

Os ydych yn cael Credyd Cynhwysol

Os oes gennych gyfrif ar-lein, mewngofnodwch i’ch cyfrif Credyd Cynhwysol i roi gwybod am newid i’ch taliad rhent ar GOV.UK

Gallwch hefyd ffonio’r llinell gymorth Credyd Cynhwysol, ond gallai hyn gymryd mwy o amser.

Llinell Gymorth Credyd Cynhwysol

Ffôn: 0800 328 5644

Ffôn (Cymraeg): 0800 328 1744

Ffôn testun: 0800 328 1344

Relay UK – Os na allwch glywed neu siarad ar y ffôn, gallwch deipio’r hyn rydych eisiau ei ddweud: 18001 yna 0800 328 5644

Gallwch ddefnyddio Relay UK gydag ap neu ffôn testun. Nid oes unrhyw dâl ychwanegol i’w ddefnyddio. Dysgwch sut i ddefnyddio Relay UK ar wefan Relay UK.

Fideo relay – os ydych yn defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL).

Gallwch ddysgu sut i ddefnyddio fideo relay ar YouTube.

Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm

Os ydych yn cael Budd-dal Tai

Mae angen i chi ddweud wrth eich cyngor lleol am eich rhent newydd.

Efallai na fydd gennych hawl i fwy o arian hyd yn oed os bydd eich rhent yn cynyddu. 

Os yw eich taliad budd-dal presennol ond yn talu rhan o’ch rhent a’ch bod yn talu’r gweddill eich hun, mae’n annhebygol y byddwch yn cael mwy os bydd eich rhent yn cynyddu.

Os yw eich taliad budd-dal eisoes yn talu eich rhent cyfan, efallai y gallwch gael mwy o arian i dalu’r cynnydd.

Os oes angen cymorth arnoch i dalu eich rhent

Gallwch wirio beth y gallwch ei wneud os ydych yn parhau i gael anhawster i dalu eich rhent.

Gallwch hefyd gael cymorth gyda chostau byw.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.

Adolygwyd y dudalen ar 27 Medi 2019