Os cewch hysbysiad 'â sail'

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Os byddwch yn cael hysbysiad ‘â sail’ ar neu ar ôl 1 Rhagfyr 2022, dyma’r cam cyntaf y mae’n rhaid i’ch landlord ei gymryd er mwyn gwneud i chi adael eich cartref. Ni fydd yn rhaid i chi adael eich cartref ar unwaith.

Mae’n rhaid i’ch landlord roi rheswm dilys i chi dros roi hysbysiad â sail i chi. Gelwir y rhesymau hyn yn 'sail dros feddiant’.

Os yw eich hysbysiad â sail yn ddilys, bydd angen i'ch landlord fynd i'r llys i'ch troi allan.

Efallai y byddwch yn gallu herio eich troi allan ac aros yn hirach yn eich cartref. Bydd yn rhaid i'r llys dderbyn sail eich landlord dros feddiannu cyn iddynt benderfynu a oes rhaid i chi adael.

Pwysig

Os penderfynwch adael eich cartref

Os byddwch yn gadael eich cartref cyn y dyddiad ar eich hysbysiad â sail, gallech gael eich ystyried yn 'fwriadol ddigartref'. Gallai hyn ei gwneud yn anoddach i chi gael cymorth gan eich cyngor lleol.

Dylech siarad â chynghorydd cyn i chi benderfynu gadael eich cartref.

Gwiriwch pa fath o hysbysiad â sail sydd gennych chi

Os ydych yn rhentu gan landlord preifat, efallai y cewch naill ai Ffurflen RHW20 neu Ffurflen RHW23.

Mae pa un a gewch yn dibynnu ar pam fod eich landlord yn rhoi rhybudd i chi.

Gallwch wirio enghreifftiau o'r ffurflenni hyn ar wefan llywodraeth Cymru.

Os cawsoch hysbysiad cyn 1 Rhagfyr 2022 dylai fod yn fath gwahanol o hysbysiad - hysbysiad ‘adran 8’ neu ‘adran 21’ yn fwyaf tebygol.

Gallwch:

Os ydych yn rhentu gan eich cyngor lleol neu gymdeithas dai

Os oes gennych Ffurflen RHW21 neu Ffurflen RHW23, dylech ddarganfod beth i’w wneud os cewch hysbysiad troi allan. 

Pryd y gallwch gael hysbysiad â sail

Os yw eich landlord yn rhoi Ffurflen RHW20 i chi, mae hynny oherwydd bod gennych ôl-ddyledion rhent difrifol - er enghraifft, os ydych yn talu eich rhent yn fisol a bod arnoch o leiaf 2 fis o rent.

Os yw’ch landlord yn rhoi Ffurflen RHW23 i chi, mae hynny oherwydd eu bod nhw naill ai:

  • yn meddwl eich bod wedi ‘torri’ eich contract meddiannaeth – mae hyn yn golygu eich bod wedi gwneud rhywbeth sy’n mynd yn groes i’r hyn y cytunwyd arno, neu

  • angen i chi symud allan ar ‘seiliau rheoli ystad’ – mae hyn yn golygu bod angen iddynt eich symud i eiddo gwahanol

Mae’n bosibl y cewch hysbysiad â sail unrhyw bryd yn ystod eich contract meddiannaeth. Mae'n dibynnu ar y rheswm y mae eich landlord yn ei ddefnyddio i geisio gwneud i chi adael.

Dim ond os oes gennych un o'r mathau canlynol o gontract meddiannaeth safonol y bydd eich hysbysiad sail yn ddilys:

  • contract safonol cyfnodol

  • contract safonol cyfnodol wedi'i drosi

  • contract safonol cyfnod penodol

  • contract safonol cyfnod penodol wedi'i drosi

  • contract safonol â chymorth

Disodlodd contractau meddiannaeth denantiaethau ar 1 Rhagfyr 2022. Os dechreuodd eich tenantiaeth cyn 1 Rhagfyr 2022, mae bellach yn gontract ‘wedi’i drosi’.

Os nad ydych yn siŵr pa fath o gontract meddiannaeth sydd gennych, gwiriwch eich datganiad ysgrifenedig. Roedd datganiadau ysgrifenedig yn disodli cytundebau tenantiaeth ar 1 Rhagfyr 2022.

Gallwch siarad â chynghorydd os nad oes gennych ddatganiad ysgrifenedig neu os ydych yn dal yn ansicr.

Os cewch 2 hysbysiad

Gall eich landlord roi 2 hysbysiad â sail i chi ar yr un pryd - er enghraifft, Ffurflen RHW20 ar gyfer ôl-ddyledion rhent difrifol a Ffurflen RHW23 am dorri eich contract.

Gallai eich landlord roi math gwahanol o hysbysiad o’r enw hysbysiad ‘dim bai’ i chi, yn ogystal â hysbysiad â sail. Nid oes angen rheswm arnynt i roi hysbysiad dim bai i chi.

Pwysig

Os cewch hysbysiad dim bai

Peidiwch ag anwybyddu eich hysbysiad dim bai. Bydd angen i chi ddelio ag ef yn ogystal â'ch hysbysiad â sail - mae'r camau'n wahanol.

Gwiriwch ein cyngor ar beth i'w wneud os oes gennych hysbysiad dim bai. 

Os oeddech yn arfer bod â thenantiaeth sicr

Os cafodd eich tenantiaeth sicr ei throsi i gontract, mae rhai rhesymau eraill y gall eich landlord roi hysbysiad i chi gan ddefnyddio Ffurflen RHW23.

Mae enghreifftiau o resymau eraill yn cynnwys:

  • eu bod eisiau'r eiddo yn ôl er mwyn iddynt allu byw ynddo eu hunain

  • mae benthyciwr morgais eich landlord yn adfeddiannu’r eiddo

Os nad ydych yn siŵr a oedd gennych denantiaeth sicr ai peidio, gwiriwch eich hen gytundeb tenantiaeth. Gallwch hefyd siarad â chynghorydd. 

Faint o rybudd a gewch

Mae faint o rybudd a gewch yn dibynnu ar ba ffurflen y mae eich landlord wedi’i defnyddio – a’r rheswm y mae wedi’i roi dros ei ddefnyddio.

Os ydych yn cael Ffurflen RHW20, dylai eich landlord roi 14 diwrnod o rybudd i chi.

Os ydych yn cael Ffurflen RHW23, dylai eich landlord roi 1 mis o rybudd i chi fel arfer.

Pwysig

Os ydych yn cael Ffurflen RHW23 ar gyfer ymddygiad gwrthgymdeithasol

Efallai na fydd yn rhaid i'ch landlord roi unrhyw rybudd i chi. Gallant gymryd camau cyfreithiol i wneud i chi adael eich cartref ar unwaith. Bydd y llys yn penderfynu a all hyn ddigwydd - dim ond os ydych wedi cyflawni ymddygiad gwrthgymdeithasol y dylai ddigwydd.

Gwiriwch a yw eich hysbysiad â sail yn ddilys

Dylech wirio bod eich hysbysiad â sail yn ddilys. Os nad ydyw, efallai y gallwch ei herio ac aros yn eich cartref.

Os nad yw’ch landlord wedi rhoi eich hysbysiad â sail yn gywir

Ni fydd eich hysbysiad yn ddilys os nad yw eich landlord wedi ei roi i chi yn ysgrifenedig, gan ddefnyddio y ffurflen cywir.

Dylai eich landlord fod wedi rhoi eich hysbysiad i chi gan ddefnyddio Ffurflen RHW20 neu Ffurflen RHW23.

Gallwch ddod o hyd i'r ffurflenni ar wefan llywodraeth Cymru.

Dim ond os yw'n cynnwys pob un o'r canlynol y bydd eich hysbysiad yn ddilys:

  • eich enw

  • enw eich landlord

  • cyfeiriad yr eiddo

  • y 'sail dros feddiannu' - dyma'r rhesymau y mae eich landlord am i chi adael eich cartref

  • y dyddiad y daw eich hysbysiad i ben - bydd angen i’ch landlord gael gorchymyn adennill meddiant gan y llys os na fyddwch yn gadael erbyn y dyddiad hwnnw

Os nad yw'ch landlord wedi rhoi'r hysbysiad yn gywir i chi, gallai ofyn i'r llys eich gorchymyn i adael eich cartref o hyd. Byddwch yn cael cyfle i gyflwyno eich achos a bydd y llys yn gwneud penderfyniad.

Os cawsoch eich hysbysiad fwy na 6 mis yn ôl

Nid yw eich hysbysiad yn ddilys os cawsoch ef fwy na 6 mis yn ôl ac nad yw eich landlord wedi cymryd unrhyw gamau pellach ers hynny.

Gallai eich landlord ofyn i’r llys eich gorchymyn i adael eich cartref o hyd. Byddwch yn cael cyfle i gyflwyno eich achos a bydd y llys yn gwneud penderfyniad.

Os nad yw’ch landlord wedi cofrestru neu wedi cael trwydded gyda Rhentu Doeth Cymru

Efallai na fydd eich hysbysiad â sail yn ddilys os:

  • nid yw eich landlord wedi cofrestru ei fanylion

  • nid oes gan eich landlord neu asiant gosod drwydded ar gyfer eich cartref

Gallwch chwilio’r gofrestr gyhoeddus ar wefan Rhentu Doeth Cymru i ddarganfod a yw’ch landlord wedi cofrestru ac wedi cael trwydded.

Os yw eich cartref yn cael ei reoli gan asiant gosod tai, bydd angen i chi wirio a oes ganddo drwydded. Y cyfan sydd ei angen arnoch yw eich cyfeiriad neu fanylion eich landlord neu asiant gosod tai.

Dylech herio eich troi allan os nad yw eich landlord wedi cofrestru neu os nad oes gan yr asiant gosod tai sy’n rheoli’r eiddo drwydded.

Os ydych wedi torri eich contract meddiannaeth

Mae eich contract meddiannaeth yn cynnwys ‘telerau’ – dyma’r pethau y gwnaethoch gytuno iddynt pan wnaethoch ei lofnodi.

Os byddwch yn gwneud rhywbeth sy’n mynd yn groes i’r hyn y cytunwyd arno, rydych wedi ‘torri’ eich contract meddiannaeth - mae hyn yn golygu eich bod wedi torri eich cytundeb.

Dylai eich landlord roi manylion sut rydych wedi torri eich contract ar y ffurflen.

Rhaid i’ch landlord brofi yn y llys eich bod wedi torri eich contract. Bydd y llys yn penderfynu a yw’n rhesymol i chi symud allan.

Os oes gennych chi ôl-ddyledion rhent

Mae'n syniad da dangos i'r llys eich bod wedi ceisio gostwng eich ôl-ddyledion rhent. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw cofnod o'r hyn rydych wedi'i dalu.

Dylech dalu cymaint ag y gallwch ei fforddio i leihau eich ôl-ddyledion rhent. Gallai olygu y bydd y llys yn penderfynu y gallwch aros yn eich cartref. Dysgwch fwy am ddelio ag ôl-ddyledion rhent. 

Bydd yn rhaid i'ch landlord brofi swm yr ôl-ddyledion sydd gennych i'r llys. Bydd angen iddynt hefyd ddangos bod gennych yr ôl-ddyledion pan gawsoch y rhybudd â sail.

Gwiriwch pa fath o hysbysiad sydd gennych am ôl-ddyledion rhent

Gall eich landlord roi naill ai Ffurflen RHW20 neu RHW23 i chi - neu gallent roi'r ddau i chi os oes gennych ôl-ddyledion rhent difrifol.

Os oes gennych Ffurflen RHW20 ar gyfer ôl-ddyledion rhent difrifol

Dim ond ar gyfer ôl-ddyledion rhent ‘difrifol’ y gall eich landlord roi Ffurflen RHW20 i chi. Y mae ôl-ddyledion rhent yn cyfrif fel rhai difrifol dim ond os ydynt o leiaf yn:

  • 2 fis - os ydych yn talu eich rhent yn fisol

  • 8 wythnos - os ydych yn talu eich rhent yn wythnosol, bob pythefnos neu bob 4 wythnos

  • 3 mis - os ydych yn talu eich rhent yn chwarterol neu'n flynyddol

Bydd yn rhaid i'ch landlord brofi'r ddau o'r canlynol yn y llys:

  • roedd gennych ôl-ddyledion rhent difrifol pan gawsoch eich rhybudd

  • mae gennych chi ôl-ddyledion rhent difrifol o hyd pan fyddwch chi'n mynd i'r llys

Fel arfer bydd yn rhaid i chi adael eich cartref os bydd eich landlord yn profi bod gennych ôl-ddyledion rhent difrifol a bod gennych rai o hyd.

Os gallwch leihau eich ôl-ddyledion rhent fel nad ydynt bellach yn cyfrif fel ‘difrifol’ pan fyddwch yn mynd i’r llys, ni fydd eich landlord yn gallu profi bod gennych ôl-ddyledion rhent difrifol. Bydd y llys yn penderfynu a yw'n rhesymol i chi adael eich cartref.

Enghraifft

Mae Joe yn talu ei rent yn wythnosol ac mae 9 wythnos ar ei hôl hi gyda'i rent. Mae ei landlord wedi rhoi Ffurflen RHW20 iddo, sy'n hysbysiad â sail ar gyfer ôl-ddyledion rhent difrifol.

Mae bod ag ôl-ddyledion rhent difrifol yn sail 'orfodol' ar gyfer meddiant. Os gall landlord Joe brofi ei fod o leiaf 8 wythnos ar ei hôl hi gyda’i rent pan gafodd y rhybudd a phan aeth i’r llys, bydd yn rhaid i’r llys orchymyn y gellir ei droi allan.

Os yw Joe yn gallu ad-dalu 2 wythnos o ôl-ddyledion rhent cyn dyddiad y gwrandawiad llys, dim ond 7 wythnos o ôl-ddyledion rhent fydd ganddo.

Mae hyn yn golygu na all landlord Joe brofi bod ganddo ôl-ddyledion rhent difrifol yn y llys. Gall ei landlord ddal i brofi bod gan Joe ôl-ddyledion rhent ond gall y llys benderfynu a all aros yn ei gartref.

Os oes gennych Ffurflen RHW23 am dor-cytundeb oherwydd eich ôl-ddyledion rhent

Gall eich landlord roi Ffurflen RHW23 i chi ar gyfer ôl-ddyledion rhent, oherwydd bod peidio â thalu eich rhent yn torri amodau eich contract.

Dim ond os bydd y llys yn derbyn achos eich landlord a’u bod yn meddwl ei bod yn rhesymol eich troi allan y bydd yn rhaid i chi adael eich cartref.

Mae'r llys yn fwy tebygol o benderfynu y gallwch chi aros yn eich cartref os gallwch chi ddangos:

  • rydych yn delio â'ch ôl-ddyledion rhent

  • gallwch fforddio parhau i dalu eich rhent

Enghraifft

Mae Rae fel arfer yn talu ei rhent yn fisol, ond nid oedd yn gallu ei dalu’r mis diwethaf. Mae ei landlord wedi rhoi Ffurflen RHW23 iddi, sef hysbysiad â sail ar gyfer torri contract.

Mae Rae wedi torri ei chontract trwy beidio â thalu ei rhent a mynd i ôl-ddyledion. Mae tor-cytundeb yn sail 'dewisol' ar gyfer meddiant - mae hyn yn golygu y bydd y llys yn penderfynu a all Rae aros yn ei chartref.

Pan fydd y llys yn gwneud penderfyniad, bydd yn edrych ar bethau fel:

  • beth mae Rae wedi’i wneud i geisio talu ei hôl-ddyledion

  • faint y gall Rae fforddio ei dalu tuag at unrhyw ôl-ddyledion sydd ganddi o hyd

  • os gall Rae fforddio parhau i dalu ei rhent os ydyw’n dal i dalu eu hôl-ddyledion

Gwiriwch a oes ar eich landlord arian i chi

Os oes ar eich landlord arian i chi, gallwch ofyn i'r llys ei roi tuag at eich ôl-ddyledion.

Mae'n bosibl y bydd ar eich landlord arian i chi os yw:

Os oes gennych gontract safonol cyfnodol neu gyfnod penodol

Efallai y bydd ar eich landlord arian i chi os nad yw wedi rhoi’r naill neu’r llall o’r canlynol i chi o fewn 2 wythnos i’ch contract ddechrau:

  • datganiad ysgrifenedig

  • eu henw a chyfeiriad lle gallwch ysgrifennu atynt

Mae’n rhaid i’ch landlord ddefnyddio Ffurflen RHW2 i roi eu henw a’u cyfeiriad i chi pan fyddwch yn dechrau contract newydd.

Mae'n rhaid iddynt hefyd roi gwybod i chi os ydynt yn newid eu cyfeiriad, gan ddefnyddio naill ai Ffurflen RHW3 neu Ffurflen RHW4. Mae'n rhaid iddynt wneud hyn o fewn 2 wythnos i newid eu cyfeiriad.

Os nad yw'ch landlord wedi gwneud yr holl bethau hyn, gallwch hawlio iawndal. Gallech gael hyd at 2 fis o rent yn ôl.

Os gallwch chi brofi bod eich landlord wedi torri'r gyfraith yn fwriadol, efallai y gallwch hawlio mwy o arian.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am hawlio iawndal. 

Os oes gennych gontract wedi'i drosi

Yn y rhan fwyaf o sefyllfaoedd roedd gan eich landlord tan 1 Mehefin 2023 i roi datganiad ysgrifenedig i chi a hysbysiad swyddogol o’u henw a’u cyfeiriad.

Mae dyddiad cau ychydig yn ddiweddarach os oedd newid deiliad contract rhwng 1 Rhagfyr 2022 a 31 Mai 2023. Yn y sefyllfa hon, roedd gan eich landlord tan 14 Mehefin 2023 i roi datganiad ysgrifenedig i chi.

Mae enghreifftiau o newid deiliad contract yn cynnwys os:

  • roedd gennych gontract ar y cyd a newidiodd i gontract unigol oherwydd bod rhywun arall wedi symud allan

  • roedd gennych gontract unigol a newidiodd i gontract ar y cyd oherwydd bod rhywun arall wedi symud i mewn

  • rydych wedi cymryd drosodd contract rhywun sydd wedi marw

  • daeth eich contract i ben a daeth yn fath arall o gontract - er enghraifft daeth eich cyfnod penodol i ben a daeth yn gontract cyfnodol

Os nad ydynt wedi gwneud hyn, byddwch yn gallu hawlio iawndal.

Os yw eich landlord yn eich troi allan ar sail rheoli ystad

Fel arfer gall eich landlord eich troi allan ar sail rheoli ystad. Dylech wirio eich datganiad ysgrifenedig - dim ond os yw'r datganiad yn dweud y gallant wneud hynny y gallant wneud i chi symud allan.

Bydd eich landlord yn rhoi Ffurflen RHW23 i chi os yw am i chi symud allan ar sail rheoli ystad.

Dylai’r ffurflen esbonio’n union pam mae angen i chi symud allan – nid yw hyn oherwydd unrhyw beth rydych wedi’i wneud.

Rhaid i'ch landlord brofi yn y llys bod ganddo:

  • rheswm da dros wneud i chi symud allan - er enghraifft, oherwydd bod angen iddynt wneud atgyweiriadau ac na allant eu gwneud tra byddwch yn byw yno

  • cartref arall sydd ar gael i chi - ni allant wneud i chi symud allan heb gynnig rhywle arall i chi fyw

Bydd y llys yn penderfynu a yw’n rhesymol gwneud i chi symud allan – ac a yw’r cartref a gynigir i chi yn addas. Os yw’r rhent yn y cartref a gynigir i chi yn uwch na’r hyn rydych yn ei dalu nawr, efallai y bydd y llys yn penderfynu nad yw’n addas.

Os byddwch yn symud i gartref arall sy’n cael ei gynnig gan eich landlord, bydd yn rhaid i chi lofnodi contract newydd.

Heriwch eich troi allan

Mae'n bosibl y byddwch yn gallu herio'ch troi allan os nad yw'ch hysbysiad â sail yn ddilys neu os oes gennych reswm da pam na ddylech adael eich cartref. Gelwir hyn yn ‘amddiffyn meddiant’.

Mae'n syniad da siarad â'ch landlord os teimlwch y gallwch. Efallai y byddant yn penderfynu gadael i chi aros yn eich cartref os gallwch ddangos y gallwch ad-dalu eich ôl-ddyledion, er enghraifft.

Os na fyddwch chi'n gadael eich cartref

Os na fyddwch yn gadael erbyn y dyddiad sydd ar eich hysbysiad â sail, bydd yn rhaid i'ch landlord fynd i'r llys i wneud i chi adael. Gelwir hyn yn ddechrau hawliad meddiant. Ni all eich landlord fynd i'r llys tan ar ôl y dyddiad a nodir ar eich hysbysiad â sail.

Mae’n rhaid i’ch landlord ddechrau hawliad meddiant o fewn 6 mis i’r dyddiad ar eich hysbysiad â sail.

Os cewch bapurau llys

Byddwch yn cael papurau llys pan fydd eich landlord yn dechrau hawliad meddiant.

Bydd y papurau’n cynnwys copi o’r ffurflen a lenwodd eich landlord pan ddechreuodd yr hawliad – gelwir hyn yn ‘ffurflen hawlio’. Mae'r ffurflen hawlio yn dweud wrthych pam mae eich landlord yn ceisio gwneud i chi adael eich cartref.

Bydd y papurau hefyd yn cynnwys ffurflen i herio’r troi allan – gelwir hyn yn ‘ffurflen amddiffyn’.

Efallai y byddwch yn gallu herio eich troi allan ac aros yn eich cartref. Dylech weithredu ar unwaith os byddwch yn cael papurau llys.

Cael cymorth gyda chostau llys

Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu costau llys eich landlord os bydd eich landlord yn dechrau hawliad meddiant. Gall costau llys fod yn ddrud.

Efallai y gallwch gael cymorth cyfreithiol i’ch helpu gyda’ch achos, er enghraifft os ydych ar incwm isel neu’n cael budd-daliadau.

Os ydych yn cael cymorth cyfreithiol, efallai y byddwch yn cael eich amddiffyn rhag talu costau eich landlord os na allwch fforddio eu talu.

Dysgwch fwy am gael cymorth gyda chostau cyfreithiol. 

Ysgrifennwch pam rydych chi'n herio'r troi allan

Gallwch herio eich troi allan os er enghraifft:

  • mae'r manylion ar eich hysbysiad â sail yn anghywir

  • nid yw'ch landlord wedi rhoi rheswm priodol i chi

Os gallwch chi, siaradwch â chynghorydd cyn herio eich troi allan.

Os rhoddodd eich landlord yr hysbysiad i chi cyn 1 Rhagfyr 2022, byddwch yn cael ffurflen amddiffyn ‘N11R’ gyda phapurau’r llys. Gallwch ddod o hyd i gopi o’r ffurflen amddiffyn N11R ar GOV.UK.

Os rhoddodd eich landlord yr hysbysiad i chi ar neu ar ôl 1 Rhagfyr 2022, byddwch yn cael ffurflen amddiffyn ‘N11R Cymru’. Gallwch ddod o hyd i gopi o’r ffurflen amddiffyn N11R Cymru ar GOV.UK.

Os ydych chi'n ei chael hi'n anodd defnyddio'r ffurflen amddiffyn, ysgrifennwch yr hyn rydych chi am ei ddweud ar ddarn o bapur yn lle hynny. Ysgrifennwch rif eich achos ar y darn o bapur – gallwch ddod o hyd i rif eich achos ar y ffurflen hawlio.

Mae’n well rhoi cymaint o fanylion â phosibl - bydd y llys yn edrych ar yr hyn a ddywedwch i benderfynu a allwch chi aros yn eich cartref.

Os byddwch yn cael gorchymyn ildio meddiant, fel arfer bydd yn rhaid i chi dalu unrhyw gostau llys o fewn 14 diwrnod. Gofynnwch i’r llys a ydych am dalu costau’r llys dros gyfnod hwy – er enghraifft drwy wneud taliad llai bob mis.

Os ydych yn meddwl bod eich landlord wedi gwahaniaethu yn eich erbyn

Os yw eich landlord wedi eich trin yn annheg oherwydd pwy ydych chi, efallai y gallwch atal eich troi allan. Er enghraifft, efallai eu bod wedi aflonyddu arnoch oherwydd eich rhyw neu wedi gwrthod gwneud newidiadau ar gyfer eich anabledd.

Gallai’r llys atal y troi allan neu ddyfarnu iawndal i chi er mwyn gostwng unrhyw ôl-ddyledion rhent sy’n ddyledus gennych.

Gwiriwch a yw eich problem yn cyfrif fel gwahaniaethu i ddarganfod a allwch chi ei hychwanegu at eich amddiffyniad troi allan.

Os yw'r rheswm pam rydych chi'n cael eich troi allan yn gysylltiedig â'ch anabledd

Efallai y gallwch chi herio'r troi allan. Er enghraifft, os ydych yn cael eich troi allan oherwydd ôl-ddyledion rhent, ond y rheswm pam yr aethoch i ôl-ddyledion rhent oedd oherwydd bod eich anhawster dysgu yn ei gwneud yn anodd dilyn polisi talu eich landlord.

Efallai y gallwch amddiffyn eich troi allan gan ddefnyddio cyfraith gwahaniaethu - gwiriwch a yw eich problem tai yn wahaniaethu. 

Os ydych yn cael eich troi allan oherwydd eich bod wedi cwyno am wahaniaethu o'r blaen

Gallai hyn fod yn fath o wahaniaethu a elwir yn erledigaeth. Efallai y gallwch amddiffyn eich troi allan gan ddefnyddio cyfraith gwahaniaethu. 

Os oedd taliadau dŵr wedi'u cynnwys yn eich rhent

Os yw eich landlord wedi codi gormod arnoch am ddŵr, efallai y byddwch yn gallu eu hatal rhag eich troi allan.

Gwiriwch a wnaeth eich landlord godi gormod arnoch am ddŵr a beth allwch chi ei wneud.

Eglurwch sut rydych chi'n gwella'r sefyllfa

Efallai y byddwch yn gallu amddiffyn eich hysbysiad â sail os byddwch yn esbonio i'r llys beth rydych yn ei wneud i unioni pethau. Er enghraifft, os ydych wedi talu rhywfaint o'ch ôl-ddyledion rhent neu os ydych wedi trwsio unrhyw ddifrod a achoswyd gennych. Dylech hefyd esbonio pam na fydd yn digwydd eto.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn ysgrifennu ar eich ffurflen amddiffyn pam eich bod yn meddwl y dylech gael caniatâd i aros yn eich cartref.

Gohirio'r dyddiad y bydd angen i chi adael

Dylech ddefnyddio’r ffurflen amddiffyn i esbonio i’r llys pam y credwch y dylech gael mwy o amser yn eich cartref. Bydd angen i chi egluro eich sefyllfa mor fanwl ag y gallwch.

Gallai'r llys ohirio'r dyddiad y bydd angen i chi adael eich cartref. Mae faint o amser ychwanegol y gall y llys ei roi i chi yn dibynnu ar y rheswm, neu’r sail, y mae eich landlord yn ei ddefnyddio.

Yn dibynnu ar y rheswm y mae eich landlord wedi’i roi ar eich hysbysiad â sail, gallai’r llys naill ai:

  • gadael i chi aros yn eich cartref os byddwch yn dilyn eu gorchmynion, er enghraifft os ydych yn cytuno i dalu eich ôl-ddyledion - gallai hyn ddigwydd os ydych wedi cael rhybudd RHW23 am dorri eich contract oherwydd bod gennych ôl-ddyledion rhent

  • gohirio’r dyddiad y bydd angen i chi adael hyd at 6 wythnos os byddai gadael o fewn y 14 diwrnod arferol yn achosi problemau i chi - gallai hyn ddigwydd os ydych wedi cael rhybudd RHW20 am ôl-ddyledion rhent difrifol

Bydd angen i chi gael rheswm da dros ohirio’r dyddiad y byddwch yn gadael, er enghraifft os oes gennych salwch difrifol neu anabledd.

Bydd y llys yn penderfynu a allwch chi aros yn eich cartref ac am ba hyd.

Anfonwch yr amddiffyniad i'r llys

Dylech anfon y ffurflen amddiffyn neu'r hyn rydych wedi'i ysgrifennu yn ôl i'r llys o fewn 14 diwrnod - bydd y cyfeiriad ar y ffurflen. Os byddwch yn methu'r dyddiad cau, dylech ei anfon cyn gynted â phosibl.

Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n cadw copi - bydd angen i chi gofio beth rydych chi wedi'i ysgrifennu yn nes ymlaen.

Gwiriwch beth sy'n digwydd ar ôl i chi anfon eich ffurflen amddiffyn

Bydd y llys yn dweud wrthych pryd y bydd yn edrych ar eich achos - gelwir hyn yn ‘wrandawiad meddiant’.

Fel arfer gallwch siarad â chynghorydd cyfreithiol rhad ac am ddim ar ddiwrnod eich gwrandawiad meddiant – fe’i gelwir yn ‘gynghorydd ar ddyletswydd’. Cyn y gwrandawiad, darllenwch y llythyrau gan y llys a gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod sut i gysylltu â'r cynghorydd ar ddyletswydd ar y diwrnod.

Paratowch ar gyfer eich gwrandawiad meddiant

Bydd y llys yn dweud wrthych pryd fydd eich gwrandawiad a ble mae angen i chi fynd.

Dylech fynd i’r gwrandawiad meddiannu – dyma’ch cyfle i gyflwyno’ch achos yn y llys a rhoi rhesymau pam y dylech aros yn eich cartref.

Os na allwch fynd i’r gwrandawiad meddiannu, dywedwch wrth y llys cyn gynted â phosibl. Eglurwch pam na allwch chi fynd – er enghraifft oherwydd bod yn rhaid i chi hunanynysu. Efallai y bydd y llys yn:

  • trefnu i'r gwrandawiad ddigwydd dros y ffôn neu drwy alwad fideo

  • newid dyddiad y gwrandawiad

Gallwch wirio sut i baratoi os bydd y llys yn penderfynu trefnu gwrandawiad dros y ffôn neu alwad fideo. 

Darllenwch yr holl ddogfennau sydd gennych chi gan y llys a'ch landlord. Ewch ag unrhyw dystiolaeth gyda chi i'r llys, er enghraifft:

  • copi o'ch contract

  • llythyr gan eich meddyg teulu os na allech dalu eich rhent oherwydd eich bod yn sâl ac yn methu gweithio

  • cyfriflen banc neu slip cyflog i ddangos faint y gallwch fforddio ei ad-dalu os oes gennych ôl-ddyledion rhent

Cael cymorth cyfreithiol

Gallwch gael cyfreithiwr i'ch cynrychioli yn y llys. Os nad oes gennych unrhyw incwm neu incwm isel, efallai y gallwch gael cymorth cyfreithiol i helpu gyda’r gost. Gwiriwch a allwch chi gael help gyda chostau cyfreithiol ar GOV.UK.

Ar ddiwrnod y gwrandawiad, byddwch hefyd yn gallu cysylltu â’r cynghorydd ar ddyletswydd – does dim ots faint o incwm sydd gennych. Cyn dyddiad y gwrandawiad meddiant, darllenwch y llythyrau gan y llys a gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod sut i gysylltu â'r cynghorydd ar ddyletswydd.

Os na allwch gysylltu â’r cynghorydd ar ddyletswydd ar ddiwrnod y gwrandawiad, dywedwch wrth y tywysydd neu’r barnwr cyn i’r gwrandawiad ddechrau – efallai y bydd y barnwr yn cytuno i ohirio’r gwrandawiad.

Siaradwch â chynghorydd i gael gwybod pa gyngor cyfreithiol y gallwch ei gael. 

Ewch i'ch gwrandawiad meddiant

Dylech sicrhau eich bod yn mynd i'r gwrandawiad meddiant hyd yn oed os nad ydych wedi anfon eich amddiffyniad. Dyma'ch cyfle i esbonio'ch sefyllfa i'r llys.

Gallech roi unrhyw dystiolaeth ychwanegol sydd gennych, er enghraifft os oes gennych swydd newydd ac y gallech fforddio ad-dalu rhai ôl-ddyledion.

Os ydych wedi anfon eich ffurflen amddiffyn ac nad ydych yn mynd i’r gwrandawiad, gallai’r llys ei hanwybyddu a dibynnu ar y dystiolaeth y mae eich landlord wedi’i rhoi iddynt.

Gallwch fynd â rhywun gyda chi i gael cymorth, er enghraifft ffrind neu aelod o'r teulu. Efallai na fyddant yn gallu siarad ar eich rhan yn y llys.

Cael dyfarniad gan y llys

Bydd y llys yn dweud wrthych os gallwch aros yn eich cartref neu os bydd yn rhaid i chi adael.

Fel arfer byddant yn dweud wrthych beth yw eu penderfyniad ar ddiwrnod y gwrandawiad.

Os oes angen rhagor o wybodaeth ar y llys, efallai y bydd yn penderfynu gwrando ar yr achos ar ddiwrnod arall.

Os na fyddwch chi'n mynd i'r gwrandawiad, fe allech chi ddarganfod penderfyniad y llys trwy eu ffonio neu siarad â'ch landlord. Bydd y llys hefyd yn anfon llythyr yn dweud wrthych a oes rhaid gadael eich cartref.

Hyd yn oed os oes rhaid i chi adael eich cartref, efallai y bydd y llys yn rhoi mwy o amser i chi ddod o hyd i rywle arall i fyw.

Os oes rhaid i chi adael

Fel arfer ni fydd yn rhaid i chi adael eich cartref ar unwaith - byddwch yn cael hysbysiad gan y llys yn dweud wrthych pryd rydych i fod i adael. Gelwir hyn yn ‘orchymyn ildio meddiant llwyr’.

Fel arfer byddwch yn cael 14 diwrnod i adael, ond gallai fod yn hirach.

Gallwch apelio yn erbyn penderfyniad y gorchymyn ildio meddiant, ond dim ond os gallwch brofi bod camgymeriadau wedi’u gwneud yn y gwrandawiad meddiant. Er enghraifft, os nad edrychodd y llys ar wybodaeth berthnasol neu ddefnyddio'r gyfraith anghywir.

Efallai y byddwch yn gallu atal gorchymyn ildio meddiant os bydd eich sefyllfa’n newid, er enghraifft os byddwch yn dechrau cael budd-daliadau ac yn gallu ad-dalu’ch ôl-ddyledion rhent. Gelwir hyn yn ‘atal' gorchymyn ildio meddiant. 

Ni fyddwch yn gallu atal gorchymyn ildio meddiant os ydych wedi cael:

  • hysbysiad RHW20 oherwydd ôl-ddyledion rhent difrifol, a

  • gorchymyn ildio meddiant gorfodol gan y llys

Siaradwch â chynghorydd os cewch orchymyn ildio meddiant.

Os na allech fynd i'r gwrandawiad llys

Os na allech fynd i'r gwrandawiad llys efallai y byddwch yn gallu cael y llys i edrych ar eich achos eto.

Siaradwch â chynghorydd am gymorth os na allech fynd i'r gwrandawiad llys. 

Os gallwch chi aros yn eich cartref

Os bydd y llys yn derbyn eich amddiffyniad, gallent benderfynu:

  • gadael i chi aros yn eich cartref os ydych yn bodloni amodau penodol, er enghraifft os ydych yn talu eich ôl-ddyledion - gelwir hyn yn ‘atal’ gorchymyn ildio meddiant

  • gwrthod achos eich landlord - mae hyn yn golygu y byddwch yn aros yn eich cartref ac ni fydd angen i chi fodloni unrhyw amodau

Dim ond os yw'ch landlord wedi defnyddio Ffurflen RHW23 am seiliau tor-contract neu reoli ystad y byddwch yn gallu atal gorchymyn ildio meddiant. Mae hyn oherwydd eu bod yn seiliau dewisol.

Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu costau llys - bydd y barnwr yn dweud wrthych faint.

Gallwch hefyd wneud cais i newid gorchymyn yn ddiweddarach, er enghraifft os na allwch gadw at delerau'r gorchymyn mwyach.

Os na fyddwch chi'n gadael eich cartref

Bydd yn rhaid i'ch landlord gael gwarant troi allan gan y llys os na fyddwch yn gadael eich cartref erbyn y dyddiad ar y gorchymyn ildio meddiant. Mae hyn yn golygu y gallant ofyn i'r llys anfon 'swyddogion gorfodi' i wneud i chi adael.

Gelwir swyddogion gorfodi hefyd yn feilïaid. Mae beilïaid yn cael eu cyflogi gan y llys i helpu landlordiaid i gael eu heiddo yn ôl.

Pwysig

Os bydd beilïaid yn dod

Siaradwch â chynghorydd ar unwaith os dywedwyd wrthych fod beilïaid yn dod i'ch cartref.

Mae’n rhaid i feilïaid roi hysbysiad troi allan i chi gyda dyddiad ac amser eich troi allan. Mae'n rhaid iddynt roi'r hysbysiad i chi o leiaf 14 diwrnod cyn iddynt eich troi allan.

Gan ddibynnu ar y sail y mae eich landlord wedi’i defnyddio, efallai y gallwch ofyn i’r llys eto ohirio’r dyddiad y bydd angen i chi adael. Er enghraifft, os gallwch nawr ad-dalu eich ôl-ddyledion o fewn amser rhesymol.

Os bydd eich landlord yn eich gorfodi i adael heb warant troi allan

Mae hyn yn debygol o fod yn achos o droi allan anghyfreithlon os bydd eich landlord yn gwneud ichi adael drwy:

  • newid y cloeon

  • eich atal rhag defnyddio rhan o'ch cartref

  • eich bygwth neu eich aflonyddu'n gorfforol 

  • diffodd y cyflenwad dŵr neu ynni

Os bydd hyn yn digwydd dylech gysylltu â'r heddlu.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.

Adolygwyd y dudalen ar 01 Rhagfyr 2022