Talu'r dreth gyngor os ydych chi'n fyfyriwr

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Mae eich eiddo wedi'i 'eithrio' o'r dreth gyngor os mai dim ond myfyrwyr prifysgol neu goleg amser llawn sy'n ei feddiannu. Mae neuaddau preswyl myfyrwyr wedi'u heithrio'n awtomatig.

Os nad yw eich eiddo wedi'i eithrio, mae rhai pobl, gan gynnwys myfyrwyr amser llawn, yn cael eu 'diystyru'. Mae hyn yn golygu bod y dreth gyngor yn cael ei chyfrifo fel pe na baech yn byw yno. Gallai hyn olygu y gall pwy bynnag sy’n gorfod talu’r dreth gyngor gael gostyngiad.

Gwiriwch a ydych chi'n fyfyriwr amser llawn

At ddibenion treth gyngor, rydych chi'n fyfyriwr amser llawn os yw eich cwrs:

  • yn para o leiaf un flwyddyn galendr neu academaidd am o leiaf 24 wythnos o'r flwyddyn, a

  • fel arfer yn cynnwys o leiaf 21 awr o astudio, hyfforddiant neu brofiad gwaith yr wythnos yn ystod y tymor.

Efallai y bydd y cyngor lleol yn gofyn am brawf eich bod yn fyfyriwr amser llawn. Gallwch ofyn am dystysgrif gan eich prifysgol neu'ch coleg, ac mae’n rhaid iddynt ei darparu, oni bai bod mwy na blwyddyn wedi mynd heibio ers i'ch cwrs ddod i ben.  

Gallwch ddarllen mwy am ostyngiadau y dreth gyngor i fyfyrwyr ar GOV.UK.

Sut mae bil treth gyngor yn cael ei gyfrifo

Mae bil treth gyngor llawn yn seiliedig ar o leiaf 2 oedolyn sy'n byw mewn eiddo.

Rhoddir disgownt i bobl sy'n byw ar eu pen eu hunain, ac i'r rheini sy'n byw gyda phobl nad ydynt yn cyfrif fel oedolion at ddibenion y dreth gyngor, er enghraifft, myfyrwyr amser llawn.

Os nad yw rhywun rydych chi'n rhannu â nhw yn fyfyriwr amser llawn

Ni fydd yr eiddo wedi'i eithrio rhag talu'r dreth gyngor a byddwch yn cael bil. Fodd bynnag, gallai pwy bynnag sy’n atebol i dalu’r dreth gyngor fod yn gymwys i gael disgownt.

Er enghraifft, os ydych yn rhannu gyda pherson cyflogedig neu fyfyriwr rhan-amser, mae'n debyg y byddant yn atebol am 75% o fil y dreth gyngor. Mae disgownt o 25% oherwydd dim ond 1 oedolyn cymwys sydd yn yr eiddo. Fel y myfyriwr amser llawn, cewch eich diystyru wrth gyfrif nifer yr oedolion cymwys yn yr eiddo at ddibenion disgownt.

Os ydych yn rhannu gyda 2 neu fwy o bobl cyflogedig nad ydynt yn fyfyrwyr, maent yn debygol o fod yn atebol am 100% o fil y dreth gyngor, oni bai fod 1 neu'r ddau ohonynt yn gymwys fel person a ddiystyrir at ddibenion disgownt y dreth gyngor. Yn y sefyllfa hon, dim ond y rhai nad ydynt yn fyfyrwyr y gall y cyngor lleol erlyn ar gyfer talu bil y dreth gyngor.

Mae rheolau arbennig yn berthnasol os ydych chi'n byw gyda chymar, partner neu ddibynnydd o'r tu allan i Brydain yn unig. Cysylltwch â’ch canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf i siarad â chynghorydd os ydych chi yn y sefyllfa hon.

Os ydych yn byw mewn tŷ amlfeddiannaeth (HMO)

Mae perchennog yr eiddo yn atebol i dalu’r dreth gyngor os ydych yn byw mewn tŷ amlfeddiannaeth (HMO). 

Fel arfer, rydych yn byw mewn HMO os ydych yn byw mewn tŷ a rennir, fflat un ystafell neu hostel gyda 2 neu fwy o bobl nad ydynt yn rhan o'r un teulu.

Mae’n gallu bod yn anodd dweud os yw eiddo yn HMO. Os nad ydych chi'n siŵr, gallwch holi'ch cyngor lleol. Gallwch ddod o hyd i’ch cyngor lleol ar GOV.UK.

Os yw eich cartref wedi'i eithrio ond eich bod yn dal i gael bil treth gyngor

Os ydych chi'n derbyn bil treth gyngor ond nad ydych chi'n meddwl y dylech fod wedi ei gael, gallwch wneud cais am eithriad.

Mae rhagor o wybodaeth am eithriadau'r dreth gyngor ar gael ar LLYW.CYMRU.

Os ydych yn cymryd amser i ffwrdd o'ch cwrs

Fel myfyriwr amser llawn, efallai y bydd angen i chi gymryd rhywfaint o seibiant o'ch cwrs, er enghraifft, oherwydd salwch neu ymrwymiadau teuluol. 

Os byddwch yn gohirio eich cwrs ond yn parhau i fod wedi'ch cofrestru am eich bod yn bwriadu mynd yn ôl, dylech gael eich ystyried yn fyfyriwr o hyd at ddibenion y dreth gyngor.

Os ydych chi rhwng cyrsiau

Os ydych chi wedi gorffen cwrs ac yn aros i ddechrau cwrs arall, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu'r dreth gyngor - er enghraifft, os ydych chi wedi cwblhau gradd israddedig ac yn bwriadu dechrau cwrs ôl-radd yn y flwyddyn academaidd nesaf.

Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu'r dreth gyngor dan yr amgylchiadau hyn oherwydd nad ydych o fewn cyfnod ffurfiol y naill gwrs na'r llall.

Os ydych yn fyfyriwr ôl-raddedig

Efallai y byddwch yn cael trafferth profi eich bod yn fyfyriwr at ddibenion y dreth gyngor os nad yw eich astudiaethau, eich hyfforddiant neu’ch gwaith yn digwydd ar gampws y brifysgol neu’r coleg, neu os ydych chi yng ngham ‘ysgrifennu’ traethawd ymchwil eich cwrs.

Fodd bynnag, dim ond am y cyfnod angenrheidiol y bydd angen i chi 'gymryd rhan' mewn cwrs, a does dim rhaid i chi fod yn mynychu'r brifysgol neu'r coleg yn gorfforol am y cyfnod hwnnw. Os bydd hyn yn effeithio arnoch, efallai y gallwch herio penderfyniad y cyngor lleol a dylech gael cyngor gan undeb eich myfyrwyr neu ganolfan gyngor y brifysgol.

Cael help i dalu’r dreth gyngor

Os ydych chi neu rywun yr ydych yn byw gyda nhw yn atebol i dalu'r dreth gyngor, efallai y gallwch gael help.

Gallwch ddarllen mwy am gael help i dalu bil y dreth gyngor.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.

Adolygwyd y dudalen ar 10 Ionawr 2020