Rhoi gwybod am newidiadau os ydych yn cael Gostyngiad yn y Dreth Gyngor

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Mae rhai newidiadau y bydd angen i chi roi gwybod amdanynt i'ch cyngor lleol os ydych yn cael Gostyngiad yn y Dreth Gyngor (CTR). Gallai newid olygu eich bod yn cael mwy neu lai o CTR - bydd eich cyngor yn dweud wrthych os bydd hynny’n digwydd.

Os na fyddwch yn rhoi gwybod am y newidiadau hyn, efallai:

  • y byddwch yn cael y swm anghywir o CTR - os nad yw'r cyngor yn codi digon o dreth gyngor arnoch, bydd angen i chi dalu'r arian ychwanegol yn y dyfodol

  • y byddwch yn gorfod talu cosb

  • y byddwch yn cael eich dwyn i’r llys gan y cyngor

Gwiriwch ba reolau sy'n berthnasol i chi

Fel arfer, bydd pa reolau sy'n berthnasol i chi yn dibynnu ar a ydych chi wedi cyrraedd oed Pensiwn y Wladwriaeth ai peidio. Gallwch wirio eich oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar GOV.UK.

Os ydych chi dan oed Pensiwn y Wladwriaeth, mae'r 'rheolau oedran gweithio' yn berthnasol.

Os ydych chi wedi cyrraedd oed Pensiwn y Wladwriaeth, mae'r 'rheolau oedran pensiwn’ fel arfer yn berthnasol.

Hyd yn oed os ydych chi wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth, bydd y rheolau oedran gweithio yn berthnasol os ydych chi neu'ch partner yn cael:

  • Credyd Cynhwysol

  • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar Incwm (JSA)

  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar Incwm (ESA)

  • Cymhorthdal Incwm

Gwiriwch beth sydd angen i chi adrodd

Mae angen i chi ddweud wrth eich cyngor am unrhyw beth a allai effeithio ar faint o CTR gewch chi. Eich cyngor lleol sy'n pennu'r union reolau.

Dylai eich cyngor fod wedi anfon llythyr atoch pan wnaethoch hawlio CTR am y tro cyntaf i ddweud wrthych faint yr ydych yn ei gael. Mae’r llythyr hwn hefyd yn dweud wrthych ba newidiadau y mae angen i chi eu hadrodd.

Fel arfer, bydd angen i chi roi gwybod am y canlynol:

  • os bydd eich incwm chi neu incwm eich partner yn newid

  • os bydd eich cynilion wedi cynyddu

  • os ydych yn stopio cael budd-daliadau

  • os bydd rhywun yn ymuno â’ch cartref neu’n gadael eich cartref

  • os byddwch yn symud tŷ - os byddwch yn symud i ardal cyngor newydd, dylech ddweud wrth eich hen gyngor a gwneud cais am CTR gyda'ch cyngor newydd

Os byddwch yn stopio cael budd-daliadau

Fel arfer, rhaid i chi ddweud wrth eich cyngor lleol os byddwch chi neu'ch partner yn stopio cael unrhyw fudd-daliadau.

Does dim rhaid i chi ddweud wrth y cyngor am newidiadau i'ch budd-daliadau os ydych chi'n dal i gael yr elfen gwarant o’r Credyd Pensiwn.

Os bydd eich budd-daliadau'n dod i ben oherwydd eich bod yn ennill mwy o arian

Efallai y byddwch yn gallu parhau i gael yr un faint o CTR am 4 wythnos - gallai fod am gyfnod hirach na 4 wythnos, yn dibynnu ar bolisi eich cyngor lleol. 

Fel arfer, gallwch gael cyfnod CTR ychwanegol os oeddech chi neu'ch partner yn cael un o'r budd-daliadau hyn am o leiaf 26 wythnos:

  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA)

  • Cymhorthdal Incwm

  • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar Incwm (JSA)

  • Lwfans Anabledd Difrifol (SDA)

  • Budd-dal Analluogrwydd 

Os byddwch yn symud i ardal cyngor arall yn ystod eich cyfnod ychwanegol o CTR, dylech gael y CTR ychwanegol o hyd gan eich hen gyngor lleol. Efallai y byddant yn ei dalu'n uniongyrchol i chi, yn hytrach nag i'ch cyfrif treth gyngor newydd.

Os bydd eich budd-daliadau'n dod i ben oherwydd eich bod chi neu'ch partner yn symud i Gredyd Pensiwn

Os oes gennych hawl o hyd i CTR ond ei fod yn llai nag o'r blaen, byddwch yn dal i gael y swm uwch am 4 wythnos. 

Os byddwch yn symud i ardal cyngor arall yn ystod eich cyfnod ychwanegol o CTR, dylech gael y CTR ychwanegol o hyd gan eich hen gyngor lleol. Efallai y byddant yn ei dalu'n uniongyrchol i chi, yn hytrach nag i'ch cyfrif treth gyngor newydd.

Does dim angen i chi wneud cais am y CTR ychwanegol hwn - dylech ei gael yn awtomatig. Os ydych chi'n meddwl y dylech fod wedi'i gael, ond nad ydych wedi’i dderbyn, holwch eich cyngor lleol.

Os nad ydych chi gartref

Fel arfer, dim ond pan fyddwch yn byw yn eich cartref y gallwch gael CTR.

Caniateir i chi dreulio amser i ffwrdd o'ch cartref a pharhau i gael CTR os:

  • rydych yn bwriadu dychwelyd adref

  • nad ydych yn gosod neu'n isosod eich cartref tra byddwch i ffwrdd

  • nad ydych yn bwriadu bod oddi cartref am fwy na 13 wythnos 

Os ydych chi i ffwrdd am fwy na 13 wythnos

Bydd angen i chi ddweud wrth eich cyngor lleol os ydych chi'n debygol o fod i ffwrdd am fwy na 13 wythnos.

Gallwch barhau i gael CTR am hyd at flwyddyn os ydych:

  • yn garcharor neu ar fechnïaeth yn aros am eich treial neu ddedfryd

  • yn glaf mewn ysbyty neu leoliad arall ble rydych chi’n cael gofal

  • yn aros gyda'ch partner neu blentyn dibynnol sy'n cael triniaeth feddygol neu'n gwella yn yr ysbyty

  • ar gwrs hyfforddi

  • yn darparu gofal wedi’i gymeradwyo’n feddygol i rywun

  • yn gofalu am blentyn y mae ei riant neu warcheidwad i ffwrdd yn derbyn triniaeth feddygol

  • yn fyfyriwr

  • oddi cartref oherwydd ofn trais

Os oes angen i chi fod oddi cartref am ryw reswm arall, efallai y byddai'n werth meddwl a allai rhywun arall sy'n byw yn eich eiddo wneud cais am CTR yn hytrach na chi.

Os ydych chi'n aros mewn cartref gofal am gyfnod prawf

Gallwch barhau i gael CTR am hyd at 13 wythnos, cyn belled:

  • ag eich bod yn bwriadu dychwelyd adref os nad yw'r cartref gofal preswyl yn addas i chi

  • nad ydych yn gosod neu'n isosod eich cartref tra byddwch i ffwrdd

  • nad ydych chi wedi bod oddi cartref am fwy na 52 wythnos

Rhoi gwybod am newid

Dylech roi gwybod am newidiadau cyn gynted â phosibl ar ôl iddynt ddigwydd. Os bydd y newid yn cynyddu eich CTR, efallai y byddwch yn colli allan ar arian ychwanegol os byddwch yn dweud wrth y cyngor yn hwyr.

Dylech ddweud wrth y cyngor o hyd os ydych yn meddwl y gallai newid leihau eich CTR - ni fyddwch yn arbed arian drwy roi gwybod amdano yn nes ymlaen. Os na fyddwch yn dweud wrth y cyngor pan fydd y newid yn digwydd, efallai na fyddant yn codi digon o dreth gyngor arnoch a bydd angen i chi dalu'r arian ychwanegol yn nes ymlaen.

Gallwch ddod o hyd i’ch cyngor lleol ar GOV.UK.

Gwnewch nodyn o’r dyddiad a’r amser y byddwch yn rhoi gwybod am y newid.

Os byddwch chi’n rhoi gwybod am newid dros y ffôn, gallwch hefyd wneud nodyn o bwy wnaethoch chi siarad â nhw. Mae’n syniad da dilyn eich galwad ffôn yn ysgrifenedig.

Os nad ydych yn rhoi gwybod am newid

Efallai y bydd eich cyngor lleol yn:

  • gofyn i chi dalu cosb

  • mynd â chi i’r llys 

Ni ddylech orfod talu cosb os oes gennych esgus rhesymol dros beidio â dweud wrth eich cyngor am y newid. Er enghraifft, gallai fod yn esgus rhesymol os ydych chi neu rywun yn eich teulu wedi bod yn sâl neu os nad ydych chi'n siarad llawer o Saesneg.

Os bydd eich cyngor lleol yn dweud eu bod yn eich ymchwilio am dwyll

Gallent ofyn i chi fynd i ‘gyfweliad dan rybudd’. Gallwch ganfod beth i'w wneud os ydych chi wedi cael gwahoddiad i gyfweliad dan rybudd.

Os bydd eich cyngor lleol yn gofyn i chi dalu cosb

Os byddwch yn talu'r gosb, ni fydd eich cyngor yn mynd â chi i'r llys. 

Os cawsoch chi fwy o CTR nag y dylech chi ei gael a bod eich cyngor yn penderfynu ei fod yn dwyll, bydd y gosb yn hanner y CTR ychwanegol. Bydd y gosb yn lleiafswm o £100 ac yn uchafswm o £1,000. Bydd yn rhaid i chi hefyd ad-dalu'r CTR ychwanegol a gawsoch cyn i chi roi gwybod am y newid.

Os byddwch yn cael trafferth talu'r gosb, gwiriwch i weld pa gymorth arall y gallwch ei gael gyda chostau byw.

Enghraifft

Enghraifft - talu cosb CTR

Ni wnaeth Anna roi gwybod i’w chyngor pan symudodd ei phartner mewn i’w thŷ. Mae ei phartner yn ennill arian, felly roedd hi’n gwybod y byddai’n cael llai o CTR na phan oedd hi’n byw ar ei phen ei hun. 

Mae cyngor lleol Anna yn darganfod ei bod yn byw gyda'i phartner, ac yn cyfrifo y dylent fod wedi rhoi £300 yn llai o CTR i Anna dros y flwyddyn ddiwethaf. 

Efallai y bydd cyngor lleol Anna yn gofyn iddi ad-dalu'r £300 ychwanegol o CTR, yn ogystal â chosb. Y gosb yw hanner £300, sef £150. Felly, mae’n rhaid i Anna dalu cyfanswm o £450 i’r cyngor, sef £300 + £150.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.

Adolygwyd y dudalen ar 13 Gorffennaf 2021