Gwiriwch i weld a allwch chi dalu llai o dreth gyngor
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Yn ddibynnol ar eich amgylchiadau, efallai y gallwch dalu llai o dreth gyngor neu beidio â'i thalu o gwbl.
Efallai y byddwch chi’n gallu cael:
gostyngiadau - er enghraifft, ar gyfer un person neu eiddo gwag
Gostyngiad yn y Dreth Gyngor (CTR) - os oes gennych incwm isel
gostyngiad gwahanol os na allwch gael llawer o CTR
Gwiriwch a allwch gael gostyngiad ar eich treth gyngor
Efallai y cewch ostyngiad yn awtomatig ar eich bil treth gyngor. Os nad ydych chi'n siŵr a ydych chi eisoes yn cael gostyngiad, gwiriwch eich bil neu gysylltwch â'r cyngor. Mae manylion cyswllt eich cyngor ar gael ar GOV.UK.
Os nad ydych yn cael gostyngiad, efallai y bydd gennych hawl i un o hyd. Mae’n dibynnu pwy sy’n byw yn yr eiddo.
Gwiriwch a allwch chi gael disgownt i berson sengl
Os mai chi yw'r unig oedolyn yn eich cartref, fe gewch chi ostyngiad o 25% ar eich bil treth gyngor.
Wrth gyfrifo faint o bobl sy’n byw mewn eiddo, nid yw rhai pobl yn cael eu cyfrif - maen nhw’n cael eu galw’n ‘bobl a ddiystyrwyd’.
Os caiff pawb sy’n byw yn yr eiddo ei ddiystyru, mae bil treth gyngor yn dal i fod, ond bydd yn destun disgownt o 50%.
Ni fyddwch yn talu unrhyw dreth gyngor os yw pawb yn eich cartref yn fyfyriwr, â nam meddyliol difrifol neu'n 'ymadawyr gofal'. Mae ymadawyr gofal yn bobl penodol a arferai fyw mewn gofal.
Os oes gennych hawl i gael gostyngiad oherwydd bod rhywun wedi symud allan, dywedwch wrth y cyngor. Mae gennych hawl i'r gostyngiad o'r adeg y symudodd y person allan, hyd yn oed os ydych wedi dweud wrth y cyngor yn ddiweddarach.
Person ifanc yn byw gartref
Bydd rhywun yn cael ei ddiystyru os ydyn nhw:
o dan 18 oed
yn 18 neu 19 oed, ac mae gan rywun hawl i gael Budd-dal Plant ar eu cyfer
yn 18 neu 19 oed, ac yn dal mewn addysg ar 30 Ebrill
Os ydyn nhw’n gadael ysgol neu goleg yn 18 neu 19 oed, a’u bod wedi gadael ar ôl 30 Ebrill, byddan nhw’n cael eu diystyru tan 1 Tachwedd.
Mewn addysg neu hyfforddiant
Bydd rhywun yn cael ei ddiystyru os ydyn nhw:
yn fyfyriwr amser llawn ar gwrs lefel gradd neu ôl-raddedig
yn 19 oed neu'n iau, ar gwrs cyn lefel gradd - er enghraifft, cymwysterau Safon Uwch neu GNVQ lefel 3
yn fyfyriwr nyrsio
yn berson ifanc ar gynllun hyfforddi gan y llywodraeth
yn dilyn rhai mathau o brentisiaeth
yn Gynorthwyydd Iaith Dramor ar raglen swyddogol y Cyngor Prydeinig
Efallai y bydd rhywun yn cael ei ddiystyru hefyd os yw’n perthyn i fyfyriwr ac nad yw’n ddinesydd Prydeinig ei hun.
Os ydynt yn perthyn i fyfyriwr, byddant yn cael eu diystyru dim ond os:
nhw yw gwraig, gŵr, partner sifil neu ddibynnydd y myfyriwr
nad ydynt yn gallu gweithio neu'n methu hawlio budd-daliadau yn y DU
Oddi cartref dros dro
Bydd rhywun yn cael ei ddiystyru os ydyn nhw:
yn glaf tymor hir mewn ysbyty neu'n byw mewn cartref gofal
yn byw mewn hostel sy'n darparu gofal neu driniaeth oherwydd eu hoedran, anabledd corfforol neu feddyliol, dibyniaeth ar alcohol neu gyffuriau yn y gorffennol neu'r presennol, neu salwch meddwl yn y gorffennol neu'r presennol
yn aros mewn hostel neu loches nos
yn garcharor, neu’n unigolyn sydd yn y ddalfa, yn aros i gael ei allgludo neu o dan ddeddfwriaeth iechyd meddwl
yn byw mewn hostel prawf neu fechnïaeth
Pobl ag anableddau dysgu neu nam meddyliol difrifol
Bydd rhywun yn cael ei ddiystyru ar gyfer y dreth gyngor os yw ei gyflwr yn barhaol - er enghraifft, os oes ganddo ddementia. Bydd angen tystysgrif meddyg arnynt, a ddylai fod yn rhad ac am ddim. Mae angen i’r dystysgrif ddweud pryd y dechreuodd eu cyflwr iechyd meddwl.
Yn ogystal, rhaid eu bod yn hawlio un o’r budd-daliadau canlynol:
Credyd Cynhwysol gyda gallu cyfyngedig ar gyfer gwaith neu weithgaredd sy'n gysylltiedig â gwaith
Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
Lwfans Gweini
cyfradd safonol neu uwch elfen bywyd bob dydd y Taliad Annibyniaeth Personol (PIP)
elfen gofal ar gyfradd ganolig neu uwch y Lwfans Byw i'r Anabl (DLA)
Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog
elfen anabledd Credyd Treth Gwaith
Budd-dal Analluogrwydd
Lwfans Anabledd Difrifol
cynnydd mewn Pensiwn Anabledd gan fod angen gweini cyson
Atodiad i’r Anghyflogadwy
Lwfans Gweini Cyson a delir o'r cynllun anafiadau diwydiannol
lwfans anghyflogadwy a delir o Gynlluniau Pensiwn Rhyfel
Cymhorthdal Incwm, gan gynnwys premiwm anabledd oherwydd analluedd i weithio
Dinasyddion Wcráin
Mae rhywun yn cael ei ddiystyru os ydyn nhw yn y DU o dan y cynllun ‘Cartrefi i Wcráin’ ac maen nhw’n byw gyda noddwr.
Os nad ydynt yn byw gyda noddwr, dim ond os yw'r ddau o'r canlynol yn berthnasol y byddant yn cael eu diystyru:
maent yn byw gyda phobl eraill
mae'r holl bobl y maent yn byw gyda hwy yn fyfyrwyr, yn ymadawyr gofal neu â nam meddyliol difrifol
Pobl sy’n gadael gofal
Os ydych chi'n byw gyda rhywun sydd dan 24 oed ac a arferai fod mewn gofal, fe'u diystyrir ar gyfer y dreth gyngor.
Efallai y bydd rhai pobl eraill yn cael eu diystyru hefyd – er enghraifft, rhai gweithwyr gofal sy’n byw yn y cartref. Bydd eich cyngor lleol yn dweud wrthych a ydynt yn cael eu diystyru pan fyddwch yn gwneud cais.
Enghraifft 1
Mae gan Dan anableddau dysgu ac mae’n byw mewn eiddo gyda’i ofalwr. Mae’r ddau ohonynt yn bobl sy’n cael eu diystyru. Mae ganddynt hawl i ostyngiad o 50% ar eu treth gyngor.
Os oes gennych gartref arall
Efallai y bydd eich cyngor lleol yn rhoi gostyngiad i chi os oes gennych gartref arall nad ydych yn byw ynddo - er enghraifft, os nad yw'n ddiogel byw ynddo neu os yw wedi’i gysylltu â'ch prif gartref.
Os oes gennych eiddo gwag
Efallai y bydd eich cyngor lleol yn cynnig gostyngiad ar eich eiddo os yw'n wag am resymau penodol.
Os yw eich eiddo'n wag a bod ganddo ychydig neu ddim dodrefn, ni fydd yn rhaid i chi dalu'r dreth gyngor am 6 mis. Gallwch aros yn yr eiddo am un cyfnod am hyd at 6 wythnos tra byddwch yn cael y gostyngiad treth gyngor.
Os yw'ch eiddo'n wag am fod angen atgyweiriadau neu addasiadau mawr i'w wneud yn ddiogel i fyw ynddo, ni fydd yn rhaid i chi dalu'r dreth gyngor am uchafswm o 12 mis. Pan fydd y gwaith ar eich eiddo wedi dod i ben, ni fydd yn rhaid i chi dalu'r dreth gyngor am 6 mis arall. Gallwch aros yn yr eiddo am un cyfnod am hyd at 6 wythnos tra byddwch yn cael y gostyngiad treth gyngor.
Os oes gennych garafán neu gwch, mae'r un rheolau'n berthnasol. I gael gostyngiad, rhaid i'ch carafán neu'ch cwch fod yn wag am 6 mis ond mae'n dal i gyfrif fel eich prif gartref pan fydd yn cael ei feddiannu. Gallwch aros yn yr eiddo am un cyfnod am hyd at 6 wythnos tra byddwch yn cael y gostyngiad treth gyngor.
Os oes gennych gartref gwyliau neu ail gartref
Os oes gennych gartref gwyliau neu ail gartref, bydd angen i chi dalu'r dreth gyngor arno. Mae rhai cynghorau weithiau'n cynnig 'gostyngiad ail gartref' oherwydd nad oes neb yn byw yno'n barhaol. Efallai mai dim ond am gyfnod byr y bydd y gostyngiad hwn, ond gallai arbed hyd at 50% i chi. Cysylltwch â'r cyngor lleol lle mae eich cartref gwyliau neu'ch ail gartref, a gofynnwch iddynt a allwch chi gael gostyngiad.
Rhaid i'r cyngor roi gostyngiad o 50% i chi os yw eich ail gartref naill ai:
yn berchen i rywun nad yw'n gallu byw yno oherwydd bod yn rhaid iddo fyw yn rhywle arall yng Nghymru, Lloegr neu'r Alban oherwydd ei swydd neu swydd ei bartner
yn llain gyda charafán arno neu angorfa a feddiannir gan gwch
Os yw eich eiddo'n cynnwys cartref ychwanegol ar gyfer aelod o'r teulu
Mae cartref ychwanegol sydd wedi’i gysylltu â'ch cartref yn cael ei alw'n 'anecs'.
Ni fyddwch yn talu unrhyw dreth gyngor ar yr anecs os yw aelod dibynnol o'r teulu yn byw yno. Efallai y bydd aelod o’ch teulu yn ddibynnol os yw’n 65 oed neu’n hŷn, neu os oes ganddo anabledd corfforol neu feddyliol.
Os yw eich anecs yn wag, does dim rhaid i chi dalu'r dreth gyngor arno.
Os ydych chi neu rywun sy'n byw gyda chi yn anabl
Efallai y bydd bil y dreth gyngor ar gyfer yr eiddo yn destun gostyngiad.
Rhaid i chi allu dangos bod person anabl yn byw yn yr eiddo i hawlio gostyngiad. Rhaid i’r eiddo hefyd gynnwys naill ai:
cegin neu ystafell ymolchi ychwanegol i ddiwallu anghenion person anabl
ystafell arall (ac eithrio toiled) a ddefnyddir yn bennaf gan berson anabl i ddiwallu ei anghenion
digon o ofod dan do i berson anabl ddefnyddio ei gadair olwyn
Os ydych chi neu rywun sy'n byw gyda chi yn anabl, bydd y cyngor yn codi'r gyfradd ar gyfer band isaf nesaf y dreth gyngor arnoch yn lle hynny.
Er enghraifft, os yw eich eiddo ym mand D, byddwch yn talu cyfradd treth gyngor band C. Os yw eich eiddo ym mand A, bydd eich bil treth gyngor yn cael ei ostwng 17% yn lle hynny - mae hyn oherwydd mai band A yw'r band isaf.
Gofynnwch i'ch cyngor lleol a allwch chi gael 'gostyngiad i berson anabl'. Mae manylion cyswllt eich cyngor ar gael ar GOV.UK.
Mae rhai cynghorau lleol yn gofyn am dystiolaeth ychwanegol - er enghraifft, llythyr gan feddyg.
Os ydych chi’n unigolyn sy’n gadael gofal dan 24 oed
Ni ddylai fod yn rhaid i chi dalu unrhyw dreth gyngor. Os ydych chi'n rhannu'ch cartref gyda phobl eraill sy'n gorfod talu'r dreth gyngor, nid chi sy'n gyfrifol am dalu unrhyw ran o'r bil.
Os ydych chi’n credu bod eich bil yn anghywir
Os ydych chi'n meddwl y dylech chi gael gostyngiad ac nad yw eich bil yn dangos eich bod wedi cael un, dylech wneud cais i'ch cyngor lleol am ostyngiad cyn gynted â phosibl. Mae manylion cyswllt eich cyngor ar gael ar GOV.UK.
Os bydd eich bil yn dangos bod eich cyngor lleol wedi rhoi gostyngiad a'ch bod yn meddwl na ddylech chi fod wedi cael un, rhaid i chi ddweud wrth eich cyngor lleol o fewn 21 diwrnod. Os na wnewch chi hynny, efallai y bydd eich cyngor lleol yn anfon dirwy o £50 atoch.
Os oes gennych chi gŵyn am eich disgownt
Gallwch ysgrifennu at eich cyngor lleol ac esbonio'ch cwyn. Dylent ddod yn ôl atoch o fewn 2 fis. Os nad ydynt yn cytuno â chi neu os nad ydynt yn ymateb o fewn 2 fis, gallwch apelio i dribiwnlys prisio.
Mae rhagor o wybodaeth am sut y gallwch chi apelio penderfyniad y cyngor fan hyn.
Gwiriwch a allwch chi wneud cais am Ostyngiad i'r Dreth Gyngor
Os ydych chi ar incwm isel, efallai y bydd modd i chi gael gostyngiad ar eich treth gyngor. Os ydych yn cael budd-daliadau neu os oes gennych bobl eraill yn byw gyda chi, gallai hyn effeithio ar faint y gostyngir eich treth gyngor.
Bydd eich cyngor lleol yn gofyn i chi am fanylion eich incwm a'ch amgylchiadau, er mwyn iddynt allu gweld a oes gennych hawl i gael Gostyngiad yn y Dreth Gyngor (CTR). Byddant wedyn yn cyfrifo eich bil newydd ac yn dweud wrthych faint o dreth gyngor y mae angen i chi ei thalu.
Os oes gennych bobl eraill sy'n byw gyda chi sy'n 18 oed neu'n hŷn, efallai y bydd pob un ohonoch yn gyfrifol am dalu'r dreth gyngor. Dim ond un ohonoch sydd angen gwneud cais am CTR.
Os dyfernir CTR i chi, fel arfer ni fyddwch yn cael taliad gwirioneddol. Bydd y cyngor yn lleihau swm y dreth gyngor y mae'n rhaid i chi ei dalu.
Gwiriwch os ydych yn gallu hawlio budd-daliadau y DU
Bydd angen i chi ddangos mai'r DU, Iwerddon, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw yw eich prif gartref a'ch bod yn bwriadu aros - gelwir hyn yn 'preswylio'n barhaol'.
Os ydych wedi dychwelyd i'r DU yn ddiweddar ar ôl cyfnod o fyw neu weithio dramor, efallai y cewch anhawster i ddangos eich bod yn preswylio'n barhaol.
Os nad ydych yn ddinesydd Prydeinig, dim ond os yw eich statws mewnfudo yn caniatáu i chi hawlio 'arian cyhoeddus' y gallwch gael CTR. Gwiriwch a yw eich statws mewnfudo yn caniatáu i chi hawlio arian cyhoeddus.
Gwiriwch pa reolau CTR sy'n berthnasol
Fel arfer, bydd pa reolau sy'n berthnasol yn dibynnu ar a ydych chi wedi cyrraedd oed Pensiwn y Wladwriaeth ai peidio. Gallwch wirio eich oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar GOV.UK.
Os ydych chi dan oed Pensiwn y Wladwriaeth, mae'r 'rheolau oedran gweithio' yn berthnasol.
Os ydych chi wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth, mae'n dibynnu a ydych chi neu'ch partner yn cael budd-daliadau penodol.
Mae'r rheolau oedran gweithio yn dal i fod yn berthnasol os ydych chi wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth a'ch bod chi neu'ch partner yn cael:
Credyd Cynhwysol
Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar Incwm (JSA)
Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar Incwm (ESA)
Cymhorthdal Incwm
Os ydych chi wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ac nad ydych chi'n cael unrhyw un o'r budd-daliadau hyn, mae'r 'rheolau oedran pensiwn' yn berthnasol.
Os yw'r rheolau oedran gweithio'n berthnasol
Bydd angen i'ch cyngor lleol gyfrifo'ch incwm i weld a oes gennych hawl i CTR a faint o arian CTR y gallech ei gael. Os oes gennych bartner, bydd y cyngor hefyd yn cynnwys ei incwm.
Bydd angen i chi hefyd gael llai na £16,000 mewn cynilion ac eiddo - gelwir hyn yn 'gyfalaf'.
Bydd eich cyfalaf yn ei gyfanrwydd yn cael ei anwybyddu os ydych chi neu eich partner yn cael un o’r canlynol:
Cymhorthdal Incwm
Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar Incwm
Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm
Os yw'r rheolau oedran pensiwn yn berthnasol
Bydd angen i'ch cyngor lleol gyfrifo'ch incwm i weld a oes gennych hawl i CTR a faint o arian CTR y gallech ei gael. Os oes gennych bartner, bydd y cyngor hefyd yn cynnwys ei incwm.
Bydd angen i chi hefyd gael llai na £16,000 mewn cynilion ac eiddo - gelwir hyn yn 'gyfalaf'.
Gallwch gael CTR gyda mwy nag £16,000 mewn cynilion ac eiddo os ydych yn cael yr elfen gwarant o’r Credyd Pensiwn.
Os ydych yn berchen ar gyfalaf ar y cyd
Os ydych chi'n berchen ar gyfalaf ar y cyd â rhywun arall nad yw'n bartner i chi, byddwch fel arfer yn cael eich trin fel pe baech yn berchen ar hanner. Er enghraifft, os oes gennych gyfrif cynilo ar y cyd gyda'ch mab sy'n werth £16,000, byddwch yn cael eich trin fel bod gennych gynilion o £8,000.
Os byddwch yn rhannu'r cyfrif gyda'ch partner, byddwch yn cael eich trin fel bod gennych gynilion o £16,000.
Os bydd oedolyn arall yn byw gyda chi, efallai y bydd y cyngor yn lleihau faint o CTR gewch chi. Y rheswm am hyn yw bod disgwyl i rai oedolion gyfrannu at filiau eich cartref.
Ni fydd y cyngor yn lleihau faint o CTR gewch chi os mai'r oedolyn arall yw eich partner, neu os yw hefyd yn gyfrifol am dalu'r dreth gyngor.
Gwneud cais am CTR
Rhagor o wybodaeth am wneud cais am CTR.
Os na allwch gael CTR
Gall eich cyngor lleol ddal i leihau eich bil treth gyngor neu ei ganslo'n gyfan gwbl. Gelwir hyn yn 'ostyngiad yn ôl disgresiwn'. Fel arfer, dim ond os gallwch ddangos eich bod yn dioddef caledi difrifol ac yn methu fforddio talu'r dreth gyngor y byddant yn gwneud hyn. Os ydych chi yn y sefyllfa hon, dylech ofyn i'ch cyngor lleol am help. Bydd angen i chi ddangos tystiolaeth o’ch amgylchiadau.
Os nad yw eich statws mewnfudo yn gadael i chi hawlio arian cyhoeddus, gallwch wneud cais am ostyngiad yn ôl disgresiwn o hyd. Nid yw gostyngiad yn ôl disgresiwn yn cyfrif fel arian cyhoeddus.
Mae manylion cyswllt eich cyngor ar gael ar GOV.UK.
Os na chewch chi ostyngiad yn ôl disgresiwn
Efallai y gallwch apelio i dribiwnlys prisio. Os bydd y tribiwnlys yn cytuno â chi, gall orchymyn i'ch cyngor leihau neu hyd yn oed ganslo eich bil treth gyngor.
Rhagor o wybodaeth am sut i apelio.
Os ydych yn dymuno cwyno am eich cyngor lleol
Dylech ddefnyddio proses gwyno eich cyngor lleol yn gyntaf. Mae manylion cyswllt eich cyngor ar gael ar GOV.UK.
Os nad ydych yn hapus ag ymateb y cyngor, efallai y gallwch gwyno wrth yr Ombwdsmon Llywodraeth Leol.
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.
Adolygwyd y dudalen ar 06 Awst 2021