Gwneud Cais am Ostyngiad yn y Dreth Gyngor (CTR)

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Bydd yn rhaid i chi wneud cais i'ch cyngor lleol i gael Gostyngiad yn y Dreth Gyngor (CTR) neu Ad-daliad Ail Oedolyn.

Cyn i chi wneud cais, mae angen i chi wirio a ydych yn gymwys ar gyfer CTR neu'r Ad-daliad Ail Oedolyn.

Mae dwy set o reolau CTR. Dylech wirio pa reolau sy'n berthnasol i chi - mae'n effeithio ar bethau fel faint o CTR y gallwch ei gael a phryd y gallwch wneud y cais.

Gwiriwch pa reolau CTR sy'n berthnasol i chi

Fel arfer, bydd pa reolau sy'n berthnasol i chi yn dibynnu ar a ydych chi wedi cyrraedd oed Pensiwn y Wladwriaeth ai peidio.

Gallwch wirio eich oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar GOV.UK.

Os ydych chi dan oed Pensiwn y Wladwriaeth, mae'r 'rheolau CTR oedran gweithio' yn berthnasol.

Os ydych chi wedi cyrraedd oed Pensiwn y Wladwriaeth, mae'r 'rheolau CTR oedran pensiwn' yn berthnasol.

Hyd yn oed os ydych chi wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth, bydd y rheolau CTR oedran gweithio yn berthnasol os ydych chi neu'ch partner yn cael:

  • Credyd Cynhwysol

  • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar Incwm (JSA)

  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar Incwm (ESA)

  • Cymhorthdal Incwm

Mae rheolau CTR oedran pensiwn fel arfer yn fwy hael na rheolau CTR oedran gweithio. Os oes gennych bartner a bod un ohonoch o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth, fel arfer mae'n well i'r sawl sydd wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth wneud cais.

Gwiriwch pryd i wneud cais ar gyfer CTR

Os ydych chi'n gymwys ar gyfer CTR, mae'n well gwneud cais cyn gynted â phosibl.

Gallwch wneud cais yn gynnar os ydych yn gwybod pryd y byddwch yn gymwys. Os byddwch yn gwneud cais yn gynnar, ni fydd yn rhaid i chi aros mor hir i gael CTR pan fyddwch yn dod yn gymwys.

Gallwch wneud cais hyd at 13 wythnos cyn i chi ddod yn gymwys - er enghraifft, os ydych wedi cael gwybod yn ddiweddar y byddwch yn colli eich swydd.

Gwiriwch sut i wneud cais am CTR

Gallwch lenwi ffurflen neu wneud cais ar-lein. Efallai y bydd eich cyngor lleol hefyd yn gadael i chi wneud cais dros y ffôn. Gallwch ddod o hyd i wefan eich cyngor lleol ar GOV.UK - bydd yn dweud wrthych sut i wneud cais.

Os ydych yn byw gyda phartner, dim ond un ohonoch sydd angen gwneud cais.

Gwiriwch a allwch chi ôl-ddyddio eich CTR

Os ydych eisoes yn gymwys ar gyfer CTR pan fyddwch yn gwneud y cais, efallai y gallwch ei ôl-ddyddio. Mae'r rheolau'n dibynnu ar p'un a yw'r rheolau CTR oedran gweithio neu'r rheolau CTR oedran pensiwn yn berthnasol.

Gallwch ofyn i'ch CTR gael ei ôl-ddyddio am hyd at 3 mis cyn i chi wneud y cais. Os yw'r rheolau oedran gweithio'n berthnasol, edrychwch ar bolisi CTR eich cyngor lleol - efallai y bydd yn gadael i chi ôl-ddyddio eich CTR am fwy na 3 mis. 

Os yw'r rheolau oedran gweithio'n berthnasol, fel arfer bydd angen rheswm da arnoch nad oedd modd i chi wneud cais yn gynt - er enghraifft oherwydd eich bod yn sâl. Os yw rheolau CTR oedran pensiwn yn berthnasol, does dim angen i chi roi rheswm pam na wnaethoch y cais yn gynharach.

Gofynnwch i'ch CTR gael ei ôl-ddyddio ar y ffurflen gais CTR. Efallai y bydd gan y ffurflen adran am ôl-ddyddio - weithiau fe'i gelwir yn 'gais hwyr'. Os nad oes adran am ôl-ddyddio neu geisiadau hwyr, ysgrifennwch ar ddarn o bapur ar wahân a'i anfon at y cyngor gyda'ch ffurflen. Eglurwch pryd y dylid ôl-ddyddio eich CTR i, a pham.

Anfon tystiolaeth gyda'ch cais

Dylai gwefan eich cyngor lleol ddweud pa dystiolaeth y mae angen i chi ei hanfon. Er enghraifft, efallai y bydd yn rhaid i chi anfon tystiolaeth o'ch incwm a'ch cynilion.

Os oes angen mwy o amser arnoch i gael y dystiolaeth, ysgrifennwch ‘tystiolaeth i ddilyn’ ar y ffurflen gais a’i hanfon cyn gynted â phosibl.

Ar ôl i chi wneud cais, efallai y bydd eich cyngor lleol yn cysylltu â chi ac yn dweud bod angen i chi anfon rhagor o dystiolaeth. Dylech fel arfer anfon tystiolaeth ychwanegol o fewn 1 mis. Dywedwch wrth eich cyngor lleol os:

  • na allwch gael y dystiolaeth maen nhw wedi gofyn amdani

  • oes angen mwy o amser arnoch - er enghraifft, os ydych chi'n sâl

Os byddwch yn rhoi’r wybodaeth anghywir ar eich ffurflen gais

Os gwnaethoch gamgymeriad, cysylltwch â'ch cyngor lleol a gofynnwch am gael newid eich cais cyn gynted â phosibl. Mae’n well gofyn yn ysgrifenedig er mwyn i chi allu cadw copi o’ch llythyr neu’ch e-bost.

Cael penderfyniad y cyngor

Pan fydd gan eich cyngor lleol yr holl wybodaeth a'r dystiolaeth sydd ei hangen arno, dylai wneud penderfyniad a dweud wrthych yn ysgrifenedig.

Fel arfer, dylai'r cyngor anfon eu rhesymau atoch o fewn 14 diwrnod.

Os ydych chi'n dal i fethu fforddio talu eich treth gyngor

Gallwch ofyn i'ch cyngor lleol ostwng eich treth gyngor am eich bod yn ei chael hi'n anodd. Gelwir hyn yn ‘ostyngiad yn ôl disgresiwn’.

Gallwch wneud cais am ostyngiad yn ôl disgresiwn p'un a ydych yn cael CTR ai peidio. Gallwch gael CTR a gostyngiad yn ôl disgresiwn ar yr un pryd. 

Os ydych ar ei hôl hi gyda thaliadau'r dreth gyngor, gallwch hefyd wneud cais am ostyngiad yn ôl disgresiwn i'w talu.

Gallwch ddod o hyd i wefan eich cyngor lleol ar GOV.UK - bydd yn dweud wrthych sut i wneud cais am ostyngiad yn ôl disgresiwn.

Os nad yw gwefan y cyngor yn dweud sut i wneud cais, cysylltwch â nhw a gofyn am ‘ostyngiad yn ôl disgresiwn o dan adran 13A(1)(c) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992’.

Eglurwch pam eich bod yn cael trafferth ac anfonwch dystiolaeth i’r cyngor, er enghraifft:

  • copi o lythyr gan eich meddyg - os ydych chi'n sâl neu os oes gennych anabledd

  • copi o lythyr gan eich landlord - os ydych chi ar ei hôl hi gyda thaliadau rhent

  • rhestr o'ch incwm a'ch gwariant bob mis - gallwch ddefnyddio adnodd cyllidebu i'ch helpu i wneud rhestr

Os ydych yn anghytuno â phenderfyniad ynghylch CTR neu ostyngiad yn ôl disgresiwn

Ysgrifennwch at eich cyngor lleol - esboniwch pam eich bod yn anghytuno a gofynnwch iddynt ailystyried.

Dylech ysgrifennu at y cyngor o fewn 1 mis o gael y penderfyniad - neu o fewn 1 mis i'r cyngor esbonio eu penderfyniad os gofynnoch iddynt wneud hynny.

Dylai'r cyngor anfon ateb ysgrifenedig atoch o fewn 2 fis. Dylent ddweud wrthych a fyddant yn newid eu penderfyniad a pham.

Os ydych yn dal i anghytuno â phenderfyniad y cyngor, efallai y gallwch apelio i Dribiwnlys Prisio Cymru.

Apelio i Dribiwnlys Prisio Cymru

Dim ond ar ôl i chi ddweud wrth eich cyngor lleol pam eich bod yn anghytuno â'u penderfyniad a gofyn iddynt ailystyried y cewch chi apelio. Gallwch apelio ar ôl iddynt ymateb - neu ar ôl 2 fis os nad ydynt yn ymateb.

Gallwch apelio os:

  • ydych chi'n credu nad yw'r cyngor wedi dilyn rheolau'r cynllun CTR - er enghraifft, os ydynt wedi gwrthod rhoi CTR i chi pan ddylent fod wedi gwneud hynny

  • gwrthododd y cyngor roi gostyngiad yn ôl disgresiwn i chi

Dylech apelio i’ch swyddfa ranbarthol o Dribiwnlys Prisio Cymru. Gallwch ddod o hyd i’ch swyddfa ranbarthol a gweld sut mae apelio yn y canllawiau ar wefan Tribiwnlys Prisio Cymru.

Dylech apelio o fewn 2 fis i ateb y cyngor. Os na wnaethant ateb, dylech apelio o fewn 4 mis i’r dyddiad y gofynasoch iddynt ailystyried.

Os na fyddwch yn apelio mewn pryd, cysylltwch â swyddfa ranbarthol y Tribiwnlys Prisio - efallai y byddant yn dal i adael i chi apelio. Gallwch ddod o hyd i’ch swyddfa ranbarthol a gweld sut mae cysylltu â nhw yn y canllawiau ar wefan Tribiwnlys Prisio Cymru.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.

Adolygwyd y dudalen ar 08 Gorffennaf 2021