Cael cyngor am gostau a gwasanaethau iechyd
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu am rai o wasanaethau GIG Cymru – mae rhai eraill ar gael am ddim.
Os oes angen cymorth arnoch gyda chostau iechyd
Os ydych wedi cofrestru gyda meddyg teulu yng Nghymru, gallwch gael presgripsiynau am ddim gan fferyllwyr yng Nghymru.
Os ydych yn byw yng Nghymru a’ch bod wedi cofrestru gyda meddyg teulu yn Lloegr, gallwch barhau i gael presgripsiynau am ddim – ond bydd angen cerdyn hawlio arnoch. Os na fyddwch yn dangos eich cerdyn hawlio i’r fferyllfa, efallai y codir tâl arnoch.
Os ydych wedi gorfod talu am bresgripsiwn, gallwch gael ad-daliad drwy gysylltu â Phartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru.
Os oes gennych gyflyrau penodol, gallwch gael presgripsiynau am ddim unrhyw le yn y DU gan ddefnyddio tystysgrif eithrio feddygol. Gallwch weld a allwch gael tystysgrif eithrio feddygol ar wefan llywodraeth Cymru.
Cael help gyda chostau iechyd eraill
Efallai y gallwch gael triniaeth ddeintyddol, profion llygaid am ddim a help gyda chostau eraill y GIG.
Gwiriwch i weld a allwch gael help gyda chostau iechyd ar wefan Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG.
Os oes angen cyngor arnoch am wasanaethau iechyd
Gallwch gael cyngor am gyflyrau iechyd a thriniaethau ar wefan 111 GIG Cymru.
Mae yna sefydliadau annibynnol a all eich helpu:
cael cyngor am wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol
gwneud cwyn am wasanaeth iechyd neu ofal cymdeithasol
Cael cyngor am iechyd meddwl
Mind (National Association for Mental Health)
2 Redman Place
London
E20 1JQ
Llinell gymorth: 0300 123 3393,
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 6pm
Gwasanaeth Cyngor Cyfreithiol: 0300 466 6463
Ffôn (ymholiadau cyffredinol): 020 8519 2122
E-bost (llinell gymorth): info@mind.org.uk
E-bost (gwasanaeth cyngor cyfreithiol): legal@mind.org.uk
E-bost (ymholiadau cyffredinol): contact@mind.org.uk
Gwefan: www.mind.org.uk
Mae eich galwad yn debygol o fod am ddim os oes gennych gytundeb ffôn sy’n cynnwys galwadau am ddim i linellau tir – dysgwch fwy am ffonio rhifau 030.
Mae Mind yn elusen iechyd meddwl sy’n darparu cyngor ar:
rheoli eich iechyd meddwl
lle i gael help
meddyginiaeth
y gyfraith ynglŷn ag iechyd meddwl
YoungMinds
Suite 11
Baden Place
Crosby Row
London
SE1 1YW
Llinell destun am ddim i bobl ifanc: Tecstiwch ‘YM’ i 85258
Llinell Gymorth i Rieni: 0808 802 5544, 9.30am i 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener
Ffôn: 020 7089 5050
Ffacs: 020 7407 8887
E-bost (Llinell Gymorth i Rieni): parents@youngminds.org.uk
E-bost (ymholiadau cyffredinol): ymenquiries@youngminds.org.uk
Gwefan: www.youngminds.org.uk
Mae galwadau am ddim o ffonau symudol a llinellau tir.
Mae YoungMinds yn elusen iechyd meddwl sy’n helpu plant, pobl ifanc a’u rhieni.
Cwyno am wasanaeth iechyd
Os oes gennych broblem gydag un o wasanaethau’r GIG, yna dylech wneud cwyn yn uniongyrchol iddyn nhw. Gallwch gael gwybodaeth am sut i wneud cwyn neu roi adborth i GIG Cymru ar wefan llywodraeth Cymru.
Gallwch ddweud wrth Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) am eich pryder gydag unrhyw wasanaeth gofal iechyd. Gall AGIC wirio bod gwasanaethau gofal iechyd yn cyflawni safonau cywir o ansawdd a diogelwch. Ni allant eich helpu’n uniongyrchol gyda’ch problem – er enghraifft, ni allant eich helpu i gael iawndal. Mae AGIC yn rhan o lywodraeth Cymru ac nid yw’n cael ei redeg gan y GIG.
Gallwch hefyd roi adborth am wasanaeth gofal iechyd ar wefan AGIC.
Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru
Llywodraeth Cymru
Parc Busnes Rhyd-y-car
Merthyr Tudful
CF48 1UZ
Ffôn: 0300 062 8163
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am to 5pm
Ac eithrio gwyliau cyhoeddus
E-bost: hiw@gov.wales
Gwefan: www.hiw.org.uk
Mae eich galwad yn debygol o fod am ddim os oes gennych gytundeb ffôn sy’n cynnwys galwadau am ddim i linellau tir – dysgwch fwy am ffonio rhifau 030.
Codi pryder am eich cyflogwr
Os ydych yn aelod o staff mewn gwasanaeth gofal, gallwch ddysgu sut i godi pryder ar wefan AGIC. Bydd angen i chi agor y ddogfen ‘Codi pryderon am Ofal Iechyd yng Nghymru’ ar waelod y dudalen.
Cwyno am wasanaethau gofal cymdeithasol i bobl hŷn neu agored i niwed
Age UK
Tavis House
1-6 Tavistock Square
London
WC1H 9NA
E-bost: Defnyddiwch y ffurflen cysylltu ar eu gwefan
Twitter: @age_uk
Gwefan: www.ageuk.org.uk
Llinell Gyngor: 0800 678 1602
Bob dydd, 8am i 7pm.
Mae galwadau am ddim o ffonau symudol a llinellau tir.
Gall Age UK roi cyngor am opsiynau a chwynion gofal cymdeithasol i oedolion.
Hourglass
Office 8, Unit 5, Stour Valley Business Centre
Brundon Lane, Sudbury
Suffolk
CO10 7GB
Rhadffon: 0808 808 8141
Ffôn testun am ddim 078 6005 2906
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm
E-bost: enquiries@wearehourglass.org
Gwefan: www.wearehourglass.org
Mae galwadau am ddim o ffonau symudol a llinellau tir.
Mae Hourglass yn sefydliad sy’n gallu helpu os bydd person hŷn yn cael eu cam-drin neu eu hesgeuluso mewn gofal.
Disability Rights UK
Plexal
14 East Bay Lane
Here East
Queen Elizabeth Olympic Park
Stratford
London
E20 3BS
Ffôn: 0330 995 0400
Dydd Llun i ddydd Gwener, 10am i 4pm
Llinell Gymorth Myfyrwyr Anabl: 0330 995 0414
Dydd Mawrth a dydd Iau, 11am i 1pm
E-bost: enquiries@disabilityrightsuk.org
E-bost: students@disabilityrightsuk.org
Gwefan: www.disabilityrightsuk.org
Mae eich galwad yn debygol o fod am ddim os oes gennych gytundeb ffôn sy’n cynnwys galwadau am ddim i linellau tir – dysgwch fwy am ffonio rhifau 03.
Gall Disability Rights UK eich helpu i wneud cwyn am y gofal cymdeithasol sy’n cael ei ddarparu gan eich cyngor lleol.
Arolygiaeth Gofal Cymru
Swyddfa Llywodraeth Cymru
Sarn Mynach
Cyffordd Llandudno
LL31 9RZ
Ffôn: 0300 7900 126
Dydd Llun i ddydd Iau, 9am i 5pm
Dydd Gwener, 9am i 4.30pm
E-bost: ciw@gov.wales
Gwefan: www.arolygiaethgofal.cymru
Mae eich galwad yn debygol o fod am ddim os oes gennych gytundeb ffôn sy’n cynnwys galwadau am ddim i linellau tir – dysgwch fwy am ffonio rhifau 030.
Gallwch hysbysu Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) o’ch pryder gyda gwasanaethau gofal cymdeithasol. Gallwch wneud cwyn am:
gwasanaeth gofal cofrestredig
gwasanaeth cymdeithasol awdurdod lleol
eich cyflogwr gofal neu wasanaeth cymdeithasol cofrestredig
Ni all AGC helpu’n uniongyrchol gyda’ch problem – er enghraifft, ni allant eich helpu i gael iawndal. Mae AGC yn sefydliad annibynnol.
Gallwch hefyd godi pryder am wasanaeth gofal cymdeithasol ar wefan AGC.
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.