Cymryd seibiant yn y gwaith
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Mae'n debyg y bydd gennych hawl i gymryd seibiant yn ystod eich diwrnod gwaith, yn ogystal â seibiant dyddiol ac wythnosol. Mae gan y rhan fwyaf o weithwyr hawl i seibiant ond mae rhai swyddi'n golygu nad oes gennych hawl gyfreithiol awtomatig i gael seibiant.
Darllenwch fwy am weithwyr nad oes ganddynt hawl i seibiant yn GOV.UK.
Efallai na chewch chi eich talu am eich seibiant – bydd eich contract cyflogaeth yn nodi a ydych chi’n cael eich talu ai peidio.
Seibiant cydadferol
Mae seibiant cydadferol yn golygu y gallwch gymryd seibiant yn nes ymlaen. Dylid ei gymryd o fewn cyfnod rhesymol o’r adeg y colloch chi’r seibiant a dylai bara cyhyd ag y byddai seibiant penodol wedi para.
Mae’n bosibl y bydd gennych hawl i gael seibiant cydadferol:
os ydych chi'n gweithio shifftiau
os ydych chi’n gweithio mewn swydd lle mae’n rhaid cael rhywun wrth gefn bob amser, fel ysbyty
os ydych chi’n swyddog diogelwch
Darllenwch fwy am bwy sydd â hawl i seibiant cydadferol yn GOV.UK.
Seibiant os ydych chi’n 18 oed neu’n hŷn
Os ydych chi'n 18 oed neu'n hŷn, mae gennych hawl i'r canlynol:
11 awr o seibiant rhwng pob diwrnod gwaith
1 diwrnod gorffwys yn ystod pob wythnos waith – gallai hyn fod dros bythefnos ar gyfartaledd, felly byddai gennych hawl i 2 ddiwrnod i ffwrdd mewn pythefnos
Os ydych yn gweithio am fwy na 6 awr y dydd, mae gennych hawl i gael seibiant di-dor o 20 munud o leiaf – er enghraifft, amser paned neu ginio. Rhaid i chi allu cymryd y seibiant yn ystod y dydd yn hytrach nag ar ddechrau neu ddiwedd y diwrnod.
Mae’n bosibl y bydd eich contract yn dweud bod gennych chi hawl i gael mwy o seibiant na hyn – er enghraifft, awr yn ystod amser cinio.
Seibiant os ydych chi dros oedran gadael yr ysgol ond o dan 18 oed
Os ydych chi dros oedran gadael yr ysgol ond dan 18 oed, fel arfer chewch chi ddim gweithio mwy nag 8 awr y dydd neu 40 awr yr wythnos. Fel arfer, mae gennych hawl i'r canlynol:
12 awr o seibiant rhwng pob diwrnod gwaith
2 ddiwrnod gorffwys bob wythnos
Os ydych yn gweithio am fwy na 4 awr a hanner y dydd, mae gennych hawl i gael seibiant o 30 munud o leiaf – er enghraifft, amser paned neu ginio. Dylai hwn fod yn un seibiant parhaus os yw’n bosibl. Rhaid i chi allu cymryd y seibiant yn ystod y dydd yn hytrach nag ar ddechrau neu ddiwedd y diwrnod.
Os ydych chi dros oedran gadael yr ysgol ond o dan 18 oed, mae cyfyngiadau ar yr oriau y cewch chi weithio’n ystod y nos.
Fel arfer, chewch chi ddim gweithio rhwng:
10pm a 6am – os yw eich contract yn dweud bod yn rhaid i chi weithio ar ôl 10pm, rhaid i chi orffen erbyn 11pm a pheidio â dechrau eto tan 7am
hanner nos a 4am
Mae rhai eithriadau, er enghraifft ar gyfer pobl sy’n gweithio mewn ysbytai, y sector amaethyddiaeth, gwaith manwerthu, gwestai, arlwyo, pobi, post/newyddion neu bobl sy’n gweithio mewn cysylltiad â gweithgareddau diwylliannol, artistig, chwaraeon neu hysbysebu.
Os na fydd eich cyflogwr yn fodlon i chi gymryd seibiant
Yn ôl y gyfraith, mae'n rhaid i'ch cyflogwr adael i chi gymryd y seibiant y mae gennych hawl iddo. Os nad ydynt, siaradwch â nhw i weld a allwch chi ddatrys y mater.
Os nad yw hyn yn gweithio, dylech wneud cwyn ysgrifenedig. Gofynnwch i’r adran Adnoddau Dynol os nad ydych chi’n siŵr sut i wneud hyn. Dylech hefyd gael cyngor gan eich cynrychiolydd undeb – os oes gennych chi un.
Os oes angen i chi fynd â'r mater ymhellach, gallech wneud cais i dribiwnlys cyflogaeth. Ni allwch wneud hyn heb fynd drwy broses cymodi cynnar Acas yn gyntaf. Mae terfyn amser o 3 mis ar gyfer mynd drwy broses gymodi. Mae hyn yn dechrau o'r dyddiad nad oedd eich cyflogwr wedi caniatáu seibiant i chi.
Cysylltwch â’ch canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf i gael cymorth arbenigol.
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.