Gwybodaeth am faint o dâl dileu swydd y gallwch ei dderbyn
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Os yw eich swydd yn cael ei dileu, mae'n bosibl y bydd gennych hawl i dâl dileu swydd.
Dim ond mewn achosion o ddileu swyddi gwirioneddol y byddwch yn derbyn tâl dileu swydd - dylech gadarnhau a yw eich swydd wedi'i dileu yn deg
Mae 2 fath o dâl dileu swydd y gallech eu derbyn:
tâl dileu swydd 'statudol' - yr hyn y mae gennych hawl iddo yn ôl y gyfraith
tâl dileu swydd 'contractiol' - arian ychwanegol ar ben y swm statudol y mae gennych hawl iddo yn ôl eich contract
Os oes gennych hawl i'r naill fath neu'r llall o dâl dileu swydd, bydd yn cael ei dalu gan eich cyflogwr.
Pwy sy'n gymwys i dderbyn tâl dileu swydd statudol
Byddwch yn derbyn tâl dileu swydd statudol os ydych:
wedi'ch cyflogi gan eich cyflogwr am 2 flynedd yn ddi-dor
wedi colli eich swydd oherwydd bod angen gwirioneddol dileu swyddi yn eich gweithle
yn fath arbennig o weithiwr a elwir yn 'weithiwr cyflogedig' - mae hyn yn cynnwys gweithwyr cyflogedig rhan-amser
Ewch i GOV.UK i gael mwy o wybodaeth am bwy sy'n cael ei ystyried yn weithiwr cyflogedig.
Os oes gennych gontract cyfnod penodol
Bydd gennych hawl i dâl dileu swydd statudol os nad yw eich cyflogwr yn adnewyddu eich contract cyfnod penodol gan nad yw'r swydd yn bodoli mwyach a bod gennych naill ai:
contract cyfnod penodol am 2 flynedd neu fwy
contractau byrrach a oedd yn dilyn ei gilydd am gyfnod o hyd at 2 flynedd neu fwy
Pobl nad ydynt yn gymwys i dderbyn tâl dileu swydd statudol
Ni fyddwch yn derbyn tâl dileu swydd statudol os ydych:
wedi gweithio yn eich swydd am lai na 2 flynedd
yn hunangyflogedig
yn swyddog heddlu neu'n aelod o'r lluoedd arfog
yn was y Goron, yn aelod o staff seneddol neu'n ddeiliad swydd gyhoeddus (er enghraifft, yn Ustus Heddwch)
yn bysgotwr sy'n rhannu incwm o werthu pysgod
yn aelod staff domestig sy'n gweithio i'ch teulu agos
yn weithiwr cyflogedig llywodraeth dramor
Hyd yn oed os na allwch dderbyn tâl dileu swydd statudol, gallech dderbyn tâl dileu swydd contractiol. Dylech sicrhau eich bod yn darllen y wybodaeth am dâl dileu swydd yn eich contract.
O dan ba amodau allech chi golli eich hawl i dâl dileu swydd statudol?
Hyd yn oed os oes gennych hawl i dâl dileu swydd statudol, gallech golli eich hawl iddo os ydych:
yn gwrthod cynnig swydd amgen addas gan eich cyflogwr heb reswm da
eisiau gadael cyn bod y swydd yn dod i ben - er enghraifft, oherwydd eich bod wedi dod o hyd i swydd arall
yn cael eich diswyddo am gamymddwyn difrifol cyn bod eich swydd yn dod i ben
Darllenwch fwy am gael cynnig swydd arall.
Gwybodaeth am faint o dâl dileu swydd y gallwch ei dderbyn
Mae'r gyfrifiannell tâl dileu swydd ar GOV.UK yn dangos faint o dâl dileu swydd y byddech yn ei dderbyn.
Mae tâl dileu swydd yn seiliedig ar eich enillion cyn treth (a elwir yn dâl gros).
Ar gyfer pob blwyddyn lawn rydych wedi gweithio i'ch cyflogwr, byddwch yn derbyn:
hyd at 22 oed - hanner wythnos o gyflog
22 i 40 oed - 1 wythnos o gyflog
41 oed a throsodd - 1.5 wythnos o gyflog
Os cawsoch eich pen-blwydd yn 22 neu'n 41 oed wrth weithio i'ch cyflogwr, mae'r cyfraddau uwch ond yn berthnasol i'r blynyddoedd llawn pan oeddech dros 22 neu 41 oed.
Ni fyddwch yn talu unrhyw dreth ar eich tâl dileu swydd statudol.
Mae rhai cyfyngiadau ar faint o arian y byddwch yn ei dderbyn:
yr uchafswm wythnosol y gallwch ei dderbyn yw £538 - hyd yn oed os ydych yn ennill mwy bob wythnos
dim ond am uchafswm o 20 mlynedd o waith y gallwch dderbyn tâl dileu swydd (er enghraifft, os ydych wedi gweithio yn eich swydd am 23 o flynyddoedd, dim ond am 20 mlynedd y byddwch yn derbyn tâl dileu swydd)
Dylech gadarnhau am faint o amser rydych wedi gweithio i'ch cyflogwr
Y term a ddefnyddir i nodi am faint o amser rydych wedi gweithio i'ch cyflogwr yw hyd eich gwasanaeth. Gallwch gyfrifo hyn drwy gyfrif nifer y blynyddoedd llawn rydych wedi gweithio i'ch cyflogwr. Dylai hyd eich gwasanaeth ddechrau ar eich diwrnod cyntaf yn y gwaith a gorffen ar y diwrnod pan ddaw eich cyflogaeth i ben.
Mae'n bosibl y byddwch yn ansicr am hyd eich gwasanaeth yn y sefyllfaoedd canlynol:
ni chawsoch y cyfnod rhybudd statudol roedd gennych hawl iddo
cawsoch dâl yn lle rhybudd
Yn y sefyllfaoedd hyn gallwch gyfrifo hyd eich gwasanaeth drwy ychwanegu faint o rybudd statudol y dylech fod wedi'i dderbyn. Er enghraifft, os oedd gennych hawl i 4 wythnos o rybudd statudol ond mai dim ond pythefnos o rybudd a gawsoch gan eich cyflogwr, ychwanegwch bythefnos arall i gyfrifo'ch dyddiad gorffen. Ni allwch ychwanegu unrhyw rybudd ychwanegol y mae eich contract yn dweud bod gennych hawl iddo.
Problemau cyffredin gyda thâl dileu swydd statudol
Rydych chi'n derbyn tâl salwch
Peidiwch â phoeni os ydych yn derbyn tâl salwch sy'n llai na'ch cyflog arferol pan fyddwch yn colli eich swydd. Bydd eich tâl dileu swydd yn seiliedig ar eich cyflog arferol cyn i chi fynd yn absennol o'r gwaith oherwydd salwch.
Rydych chi ar absenoldeb mamolaeth
Os yw eich swydd yn cael ei dileu tra eich bod ar absenoldeb mamolaeth, bydd eich tâl dileu swydd yn seiliedig ar eich cyflog arferol. Nid yw'n gwneud gwahaniaeth os ydych chi'n ennill llai nag arfer adeg dileu'ch swydd.
Mae eich oriau'n newid bob wythnos
Os nad yw eich contract yn nodi eich 'oriau gwaith arferol' (faint o oriau y mae'n rhaid i chi weithio bob wythnos), bydd eich cyflog wythnosol yn cael ei gyfrifo fel cyfartaledd.
Bydd y cyfartaledd yn seiliedig ar yr hyn a enillwyd gennych yn y 12 wythnos cyn i chi gael gwybod bod eich swydd yn cael ei dileu. Mae hyn yn cynnwys unrhyw gomisiwn a enillwyd gennych yn y cyfnod hwnnw.
Coronafeirws - os ydych wedi cael eich rhoi ar y cynllun ffyrlo
Os yw eich cyflogwr yn cyfrifo eich cyflog wythnosol cyfartalog, dylai ei seilio ar y 12 wythnos diwethaf y buoch yn gweithio. Ni ddylai eich cyflogwr gynnwys unrhyw wythnosau pan oeddech ar y cynllun ffyrlo.
Gallai pobl sydd â chontractau dim oriau fod â hawl i dâl dileu swydd - ond mae'n gallu bod yn gymhleth iawn i'w gyfrifo, felly cofiwch gysylltu â'ch Canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf am gymorth.
Rydych chi'n gweithio goramser
Ni fydd eich goramser yn cael ei gynnwys yn eich cyflog wythnosol fel arfer, oni bai ei fod yn digwydd yn rheolaidd ac yn ofynnol fel rhan o'ch swydd.
Cysylltwch â'ch Canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf i gael cymorth gyda chyfrifo beth y dylid ei gynnwys yn eich tâl dileu swydd.
Os ydych wedi cytuno i ostyngiad dros dro yn eich cyflog
Os ydych wedi cytuno i dderbyn llai o gyflog gan fod y busnes rydych yn gweithio iddo yn wynebu problemau, gallai eich tâl dileu swydd gael ei effeithio. Mae'n dibynnu a wnaethoch chi gytuno i newid eich contract ai peidio.
Gallai fod yn anodd cyfrifo hyn, felly cysylltwch â'ch Cyngor ar Bopeth agosaf am gymorth.
Os ydych wedi cael eich diswyddo dros dro neu'n gweithio amser byr
Os ydych wedi cael eich diswyddo dros dro neu wedi dechrau gweithio amser byr, ac mae eich swydd yn cael ei dileu, bydd eich tâl dileu swydd yn seiliedig ar eich tâl wythnosol arferol pan oeddech chi'n gweithio'ch oriau arferol.
Yr unig adeg na fydd hyn yn berthnasol yw os gwnaethoch gytuno i newid parhaol yn nifer yr oriau rydych yn gweithio.
Os yw eich cwmni wedi'i brynu gan gwmni arall
Os yw'r cwmni rydych yn gweithio iddo wedi'i brynu drwy drosglwyddo ymgymeriad (TUPE), mae cyfrifo tâl dileu swydd yn gallu bod yn gymhleth.
Cysylltwch â'ch Canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf i drafod eich opsiynau.
Os yw'r busnes rydych chi'n gweithio iddo wedi cau
Gallwch gymryd camau i hawlio arian sy'n ddyledus i chi gan eich cyflogwr - gan gynnwys tâl dileu swydd statudol.
Mae'r hyn y mae angen i chi ei wneud yn dibynnu ar a yw eich cyflogwr yn 'fethdalwr’. Mae hon yn broses gyfreithiol y mae cyflogwr yn mynd trwyddi os nad yw'n gallu talu ei ddyledion a'i fod yn gorfod cau. Hefyd, cyfeirir at y broses hon fel 'diddymu' neu fynd i 'ddwylo’r gweinyddwyr’.
Os yw eich cyflogwr yn fethdalwr, dylai rhywun gysylltu â chi i ddweud wrthych beth sydd angen i chi ei wneud i hawlio eich tâl dileu swydd statudol.
Hefyd, gallwch hawlio arian arall sy'n ddyledus i chi os yw eich cyflogwr yn fethdalwr - er enghraifft, tâl gwyliau neu dâl rhybudd. Gallwch hawlio'r arian hwn hyd yn oed os ydych wedi gweithio yno am lai na 2 flynedd ac na allwch dderbyn tâl diswyddo statudol.
Dylech geisio cadarnhau a yw eich cyflogwr wedi mynd yn fethdalwr os yw:
wedi cau ond na allwch gysylltu ag ef
wedi dweud ei fod yn fethdalwr ond nad oes neb wedi dweud wrthych beth i'w wneud i hawlio'ch arian - mae hyn yn golygu nad yw'n fethdalwr o bosibl
Os yw eich cyflogwr yn fethdalwr
Bydd pwy bynnag sy'n ymdrin â methdaliad eich cyflogwr yn cysylltu â chi. Cyfeirir at yr unigolyn hwn fel 'ymarferydd ansolfedd’.
Bydd yn dweud wrthych sut i wneud cais i'r llywodraeth am eich tâl dileu swydd statudol, yn ogystal ag arian arall sy'n ddyledus i chi gan eich cyflogwr. Byddwch yn hawlio'r arian hwn drwy'r 'Gwasanaeth Taliadau Dileu Swyddi’.
Ewch i GOV.UK i gael gwybodaeth am eich hawliau a'r hyn y gallwch ei hawlio.
Os nad yw eich cyflogwr yn fethdalwr
Mae'n bosibl y byddwch yn gallu hawlio eich tâl dileu swydd statudol gan y llywodraeth.
Cyn gallu gwneud hyn, bydd angen i chi fynychu tribiwnlys cyflogaeth i wneud cais am dâl dileu swydd. Bydd y tribiwnlys yn penderfynu a oes gennych hawl i dâl dileu swydd ai peidio.
Os yw'n cytuno bod gennych hawl iddo, gallwch wneud cais am eich tâl dileu swydd statudol drwy'r 'Gwasanaeth Taliadau Dileu Swyddi’.
Dylech gael cymorth gan gynghorydd os oes angen hawlio eich tâl dileu swydd statudol pan fydd eich cyflogwr yn fethdalwr.
Dim ond drwy'r Gwasanaeth Taliadau Dileu Swyddi y byddwch yn gallu hawlio tâl dileu swydd statudol. Ni fyddwch yn gallu hawlio unrhyw arian arall sy'n ddyledus i chi gan eich cyflogwyr - oni bai ei fod yn mynd i ddwylo'r gweinyddwyr yn nes ymlaen.
Os nad ydych yn gwybod a yw eich cyflogwr yn fethdalwr
Gallwch gadarnhau a yw eich cyflogwr yn fethdalwr drwy chwilio'r gofrestr o gwmnïau ar GOV.UK. Os yw cwmni ar y gofrestr yn fethdalwr, fe welwch dab sy'n dweud 'ansolfedd' ar y rhestr.
Os na allwch ddod o hyd i'r cwmni, gallai olygu bod gan y cwmni enw arall sy'n wahanol i'r 'enw masnachu' y mae'n ei ddefnyddio fel arfer. Gallech ddod o hyd i'r enw arall drwy:
wirio dogfennau a gawsoch gan y cwmni - fel eich contract, slipiau cyflog neu lythyrau
gofyn i landlord yr adeilad y buoch yn gweithio ynddo a oedd yr adeilad yn cael ei rentu
gofyn i bobl roeddech yn arfer gweithio gyda nhw
Os na allwch ddod o hyd i'r cwmni o hyd, gallai olygu nad yw busnes eich cyflogwr yn gwmni, a'i fod wedi'i gofrestru fel 'unig fasnachwr' neu 'bartneriaeth' o dan enw personol.
Gallwch chwilio'r cofrestri methdaliad ac ansolfedd ar GOV.UK gan chwilio am berson yn ôl ei enw, yn ogystal ag enw ei fusnes.
Cadarnhau a oes modd i chi dderbyn tâl dileu swydd contractiol
Gallai eich cyflogwr dalu arian ychwanegol i chi ar ben y swm statudol y mae gennych hawl iddo - yr enw am hyn yw tâl dileu swydd contractiol. Dylech sicrhau eich bod yn darllen eich contract yn ofalus.
Os nad ydych wedi derbyn contract neu os nad yw'n cynnwys y wybodaeth berthnasol, gofynnwch i'ch cyflogwr neu edrychwch yn eich llawlyfr staff neu'r fewnrwyd.
Coronafeirws - os ydych wedi cael eich rhoi ar y cynllun ffyrlo
Dylech wirio unrhyw gytundeb ysgrifenedig a wnaethoch gyda'ch cyflogwr pan gawsoch eich ffyrlo. Efallai ei fod wedi cynnwys cytundeb i leihau eich cyflog.
Os yw'ch cyflogwr yn gweithio allan eich tâl diswyddo yn seiliedig ar eich tâl gostyngedig, dylech gysylltu â'ch Cyngor ar Bopeth agosaf.
Dylai eich cyflogwr ddweud wrthych sut cyfrifir unrhyw dâl dileu swydd contractiol a phryd y byddwch yn derbyn eich taliad.
Yn ôl y gyfraith, ni all tâl dileu swydd contractiol eich cyflogwr fod yn llai na'r swm statudol.
Talu treth ar dâl dileu swydd contractiol
Bydd rhaid i chi dalu treth ar daliad dileu swydd os yw'n fwy na £30,000. Bydd eich cyflogwr yn didynnu unrhyw dreth i chi.
Mae cyfrifo faint o dreth sydd angen ei thalu ar eich tâl dileu swydd yn gallu bod yn gymhleth, felly cofiwch gysylltu â'ch Canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf os oes angen cymorth arnoch.
Derbyn cyngor am dâl dileu swydd contractiol
Os ydych yn aelod o undeb, siaradwch â'ch cynrychiolydd undeb yn y lle cyntaf - dylai'r undeb fod wedi cymryd rhan yn y trafodaethau dileu swyddi.
Os nad oes undeb yn eich gweithle, mae'n bosibl y bydd gennych gynrychiolydd gweithwyr cyflogedig i'ch helpu i ddeall y cytundeb dileu swydd.
Os nad oes gennych unrhyw gynrychiolwyr yn y gweithle, cysylltwch â'ch Canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf. Gofynnwch i'ch cyflogwr am gopi o'ch cytundeb dileu swydd fel bod cynghorydd yn gallu cael golwg arno.
Derbyn eich tâl dileu swydd
Dylai eich cyflogwr dalu eich tâl dileu swydd ar y dyddiad y byddwch yn gadael y gwaith, neu ar ddyddiad y cytunwyd arno yn fuan ar ôl hynny.
Bydd eich cyflogwr yn defnyddio'r un dull talu ag y defnyddiwyd i dalu'ch cyflog, er enghraifft i'ch cyfrif banc.
Hefyd, dylech dderbyn datganiad ysgrifenedig yn nodi sut cyfrifwyd eich taliad.
Os nad ydych yn derbyn eich tâl dileu swydd
Dylai eich cyflogwr dalu eich tâl dileu swydd yn yr un modd ag y talodd eich cyflog. Os nad yw'n gwneud hynny, gallwch gymryd camau i dderbyn eich cyflog.
Os oes angen rhagor o gymorth arnoch ar unrhyw adeg, cysylltwch â'ch Canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf.
Cymerwch y camau canlynol:
Cam 1: ysgrifennu llythyr at eich cyn-gyflogwr
Rhoi gwybod iddo am yr hyn y mae gennych hawl iddo a chynnwys unrhyw dystiolaeth sydd gennych i gefnogi'ch dadl.
Cam 2: cymodi cynnar
Os nad ydych yn derbyn eich taliad ar ôl anfon eich llythyr, mae angen i chi gysylltu ag Acas.
Mae Acas yn darparu cymorth annibynnol i helpu i ddatrys anghydfodau cyflogaeth. Bydd Acas yn gofyn i'ch cyflogwr gytuno i broses a elwir yn 'gymodi cynnar' - ffordd o ddatrys anghydfodau heb fynd i dribiwnlys.
Y ffordd gyflymaf o ddechrau yw cwblhau ffurflen cymodi cynnar ar wefan Acas neu ffonio tîm cymodi cynnar Acas ar 0300 123 1122.
Cam 3: mynd â'ch cyflogwr i dribiwnlys
Eich dewis olaf yw mynd â'ch cyflogwr i dribiwnlys. Gall mynd i dribiwnlys fod yn ddrud ac achosi straen, felly mae'n syniad da derbyn cyngor gan eich Canolfan Cyngor ar Bopeth leol cyn parhau.
Eich dyddiad cau ar gyfer hawlio unrhyw dâl dileu swydd sy'n ddyledus i chi yw 6 mis namyn diwrnod o'r diwrnod olaf y cawsoch eich cyflogi. Os ydych yn hawlio am ddiswyddiad annheg neu dâl rhybudd hefyd, mae gennych 3 mis namyn diwrnod.
Mae eich cyflogwr yn fethdalwr neu mae'r busnes wedi darfod
Os yw busnes eich cyflogwr wedi darfod a'i fod yn fethdalwr, ac nad ydych wedi derbyn eich tâl dileu swydd, defnyddiwch y Gwasanaeth 'Hawlio ar gyfer dileu swydd ac arian sy'n ddyledus' ar GOV.UK.
Os yw busnes eich cyflogwr wedi darfod ond nad yw'n fethdalwr, mae angen i chi wneud hawliad tâl dileu swydd i dribiwnlys cyflogaeth - cysylltwch â'ch Canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf i gael cymorth gyda hyn.
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.