Proses deg ar gyfer dileu swydd
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Mae'n rhaid i'ch cyflogwr ddilyn proses deg ar gyfer dileu swydd os ydych wedi gweithio iddo am o leiaf 2 flynedd cyn i'ch swydd ddod i ben.
Dylech gael eich gwahodd i o leiaf 1 cyfarfod unigol gyda'ch cyflogwr i drafod dileu'ch swydd.
Ar wahân i'ch cyfarfod unigol, nid oes proses benodol ar waith. Mae angen i'ch cyflogwr fod â phroses glir o hyd, ond nid oes unrhyw reolau ynglŷn â natur y broses.
Os ydych wedi gweithio i'ch cyflogwr am lai na 2 flynedd, nid oes angen proses dileu swydd ar eich cyflogwr ac nid oes rhaid iddo gyfarfod â chi'n unigol. Mae'n werth cadarnhau a oes ganddo broses beth bynnag, fel eich bod yn gwybod beth i'w ddisgwyl.
Dylech barhau i gadarnhau bod eich diswyddiad yn deg gan fod yn rhaid i'ch cyflogwr ddilyn rheolau newydd.
Gwirio proses eich cyflogwr
Mae'n bosibl bod proses eich cyflogwr wedi'i chynnwys yn eich contract neu lawlyfr staff, neu efallai bod eich cyflogwr wedi defnyddio'r broses ar gyfer diswyddiadau blaenorol. Os nad yw proses eich cyflogwr wedi'i hysgrifennu yn unrhyw le, mae'n rhaid iddo sicrhau eich bod yn gwybod pa broses y bydd yn ei dilyn.
Mae'n rhaid i'r broses esbonio:
sut bydd yn dewis pobl i'w diswyddo
pryd y bydd yn gwneud y penderfyniad
pa gyfarfodydd y gallwch eu mynychu a phryd
sut gallwch apelio os yw eich swydd yn cael ei dewis fel swydd i'w dileu
Fel arfer, mae'n rhaid i'ch cyflogwr ddilyn ei broses, ond mae'n gallu gwneud pethau'n wahanol os oes ganddo reswm da. Er enghraifft, os yw'n dweud y bydd yn cyfarfod â chi ar adeg benodol, ond bod eich rheolwr yn absennol oherwydd salwch, mae'n gallu aildrefnu'r cyfarfod.
Cyfarfod â'ch cyflogwr i drafod dileu swydd
Mae'n rhaid i'ch cyflogwr gyfarfod â chi'n unigol o leiaf unwaith cyn eich hysbysu am ei benderfyniad terfynol i ddileu swydd. Yn y cyfarfod hwn dylech gael cyfle i drafod:
pam mae angen i'r cyflogwr ddileu swyddi
pam mae'n ystyried dileu eich swydd chi
pa swyddi eraill sydd ar gael
unrhyw gwestiynau sydd gennych am yr hyn sy'n digwydd nesaf
Mae'r cyfarfod yn gyfle i egluro pam na ddylai'ch swydd gael ei dileu. Dylech ddweud wrth eich cyflogwr os nad ydych yn credu ei fod yn dilyn ei broses yn briodol neu os yw wedi'ch dewis chi'n annheg.
Mae'n well trafod annhegwch ar unwaith yn hytrach nag aros nes bod eich cyflogwr wedi gwneud penderfyniad terfynol. Drwy siarad â'ch cyflogwr yn gynnar, gallech ei berswadio i beidio â dileu'ch swydd.
Gallai eich cyflogwr adael i chi ddod â rhywun gyda chi i'ch cyfarfodydd dileu swydd - er enghraifft rhywun o'ch undeb neu GAD. Gallai fod yn ddefnyddiol os oes rhywun yno i gymryd nodiadau a'ch cefnogi. Os nad yw'r broses dileu swydd yn cyfeirio at hyn, gofynnwch i'ch cyflogwr a allwch ddod â rhywun i'r cyfarfod.
Os yw eich swydd yn cael ei dileu yn ystod gwyliau neu absenoldeb salwch
Gallai'ch swydd gael ei dileu, ond mae'n rhaid i'ch cyflogwr gyfarfod â chi'n unigol o hyd cyn gwneud ei benderfyniad. Fel arfer, mae hyn yn golygu y dylai aros nes eich bod yn dychwelyd i'r gwaith.
Os yw eich swydd yn cael ei dileu yn ystod absenoldeb mamolaeth
Gallai'ch swydd gael ei dileu, ond mae'n rhaid i'ch cyflogwr gyfarfod â chi'n unigol o hyd cyn gwneud ei benderfyniad.
Dylai eich cyflogwr drefnu cyfarfod ar adeg ac mewn lleoliad sy'n hwylus i chi, neu gytuno i'ch ffonio os nad ydych eisiau mynychu cyfarfod. Gallech ddefnyddio un o’ch diwrnodau cadw mewn cysylltiad er mwyn sicrhau eich bod yn cael eich talu am eich amser.
Dylai eich cyflogwr siarad â chi tua'r un adeg ag unrhyw un arall y mae'n ystyried dileu ei swydd. Os yw'n rhoi gwybod i bawb arall cyn eich hysbysu chi, gallai fod yn wahaniaethu ar sail mamolaeth, a gallech herio'r penderfyniad i ddileu'ch swydd.
Os nad yw eich cyflogwr yn dilyn ei broses
Gallai'ch cyflogwr fod yn dileu'ch swydd yn annheg yn y sefyllfaoedd canlynol:
nid oes ganddo broses
nid yw'n cyfarfod â chi'n unigol
nid yw'n cyfarfod â chi ac eithrio i'ch hysbysu ei fod yn dileu'ch swydd
bod ganddo broses nad yw'n cynnwys digon o wybodaeth
bod ganddo broses ond nad yw'n ei dilyn - oni bai bod ganddo reswm da dros wneud pethau'n wahanol
Cysylltwch â'ch Canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf os ydych yn credu bod proses eich cyflogwr yn annheg. Mae'n bosibl y byddwch yn gallu herio'r penderfyniad i ddileu'ch swydd.
Y camau nesaf
Ystyried rhesymau posibl eraill pam mae'ch swydd wedi'i dileu yn annheg.
Waeth a yw'r penderfyniad i ddileu'ch swydd yn deg ai peidio, mae'n werth paratoi ar gyfer y cyfnod ar ôl dileu'ch swydd er mwyn sicrhau eich bod yn derbyn eich holl gyflog a'ch hawliau.
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.
Adolygwyd y dudalen ar 30 Mawrth 2023