Herio'r penderfyniad i ddileu'ch swydd
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Gallwch herio'r penderfyniad i ddileu'ch swydd os:
rydych wedi gweithio i'ch cyflogwr am o leiaf 2 flynedd ac yn credu nad yw eich swydd wedi cael ei dileu yn ddilys neu nad oedd eich cyflogwr wedi dilyn proses deg ar gyfer dewis swyddi i'w dileu
rydych yn meddwl bod yna reswm ‘annheg yn awtomatig’ ar gyfer eich diswyddo
rydych o'r farn i chi ddioddef gwahaniaethu
Os oes gennych reswm gwirioneddol dros herio eich diswyddiad, gallech wneud hawliad i dribiwnlys cyflogaeth am ddiswyddo annheg neu wahaniaethu.
Cysylltwch â'ch Canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf ar unwaith os ydych yn ystyried herio tegwch y penderfyniad i ddileu'ch swydd - gall cynghorydd eich helpu i ganfod a oes gennych hawliad dilys.
Gan ddibynnu ar pam eich bod wedi cael eich diswyddo, mae'n bosibl y byddwch yn gallu gwneud hawliad gwahaniaethu hefyd.
Siarad â'ch cyflogwr
Dylech siarad â'ch cyflogwr os nad ydych yn credu ei fod yn dilyn proses dileu swydd deg neu os ydych yn credu eich bod wedi cael eich dewis yn annheg.
Gallech ysgrifennu llythyr yn egluro pam eich bod yn credu bod dileu'ch swydd yn annheg ac yn gofyn i'ch cyflogwr ailystyried ei benderfyniad.
Os nad ydych yn gyfforddus yn siarad â'ch cyflogwr eich hun, gallwch ofyn am gymorth gan sefydliad fel undeb llafur.
Os yw siarad â'ch cyflogwr yn methu dwyn ffrwyth
Os oes gan eich cwmni broses apelio, gallwch ei defnyddio i apelio'n ffurfiol yn erbyn y penderfyniad i ddileu eich swydd. Edrychwch ar eich mewnrwyd neu'ch llawlyfr staff, neu siaradwch ag Adnoddau Dynol i weld beth sydd angen i chi ei wneud.
Dylech ddechrau eich apêl cyn gynted ag y bo modd gan fod terfyn amser ar waith ar gyfer cymryd camau cyfreithiol. Y cam cyntaf tuag at gymryd camau cyfreithiol yw'r broses 'cymodi cynnar' - mae angen i chi ddechrau'r broses hon o fewn 3 mis namyn diwrnod i'r dyddiad y daw eich contract i ben. Os yw amser yn mynd yn brin, gallwch ddechrau'r broses cymodi cynnar hyd yn oed os nad yw eich apêl wedi gorffen.
Hyd yn oed os ydych yn ennill eich apêl, mae'n bosibl nad dychwelyd i'ch swydd fydd y canlyniad gorau i chi. Er enghraifft, gallai fod yn well gadael gyda geirda da nag aros mewn swydd lle nad ydych yn teimlo eich bod yn cael eich trin yn deg.
Gofyn i Acas am gymorth a chymodi cynnar
Os na allwch ddatrys y broblem, dylech gysylltu ag Acas. Mae'n darparu gwasanaeth diduedd am ddim i'ch helpu chi a'ch cyflogwr i ddod i gytundeb, fel nad oes rhaid i chi ddechrau hawliad tribiwnlys.
Cysylltwch ag Acas cyn gynted ag y gallwch - neu ar unwaith os yw eich swydd wedi'i dileu eisoes. Y dyddiad cau 3 mis namyn diwrnod o ddyddiad dileu'ch swydd.
Bydd Acas yn gofyn i'ch cyflogwr gytuno i broses a elwir yn 'gymodi cynnar' - bydd yn rhoi cymorth i chi siarad â'ch cyflogwr a cheisio datrys yr anghydfod heb fynd i dribiwnlys.
Mae'n rhaid i chi hysbysu Acas cyn gallu gwneud hawliad i dribiwnlys.
Gallwch gwblhau'r ffurflen cymodi cynnar ar wefan Acas a darllen mwy am baratoi ar gyfer cymodi cynnar.
Gwneud hawliad i dribiwnlys cyflogaeth
Mynd â'ch cyflogwr i dribiwnlys yw'r dewis olaf i herio'r penderfyniad i ddileu'ch swydd.
Mae tribiwnlysoedd yn gallu achosi straen, ac mae'n bosibl na fyddwch yn ennill eich achos.
Bydd angen sicrhau eich bod wedi gwneud y canlynol:
hysbysu Acas
wedi derbyn tystysgrif cymodi cynnar gan Acas
Darllenwch fwy am beth i'w ystyried cyn gwneud hawliad i dribiwnlys cyflogaeth.
Cysylltwch â'ch Canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf am gymorth i benderfynu a ddylech fynd â'ch cyflogwr i dribiwnlys.
Sut mae'r tribiwnlys yn asesu a yw'r penderfyniad i ddileu'ch swydd yn deg
Bydd y tribiwnlys yn ystyried:
a oedd angen gwirioneddol i ddileu swyddi yn eich gweithle
a yw eich cyflogwr wedi dilyn gweithdrefn deg ar gyfer ymgynghori â'r gweithlu a dewis swyddi i'w dileu
a oedd y penderfyniad i'ch dewis yn deg
a yw eich cyflogwr wedi gwneud ymdrechion rhesymol i ganfod swydd arall i chi yn rhywle arall yn y cwmni
Bydd angen i chi ddangos tystiolaeth i'r tribiwnlys nad oedd eich cyflogwr wedi dilyn y broses gywir neu nad oedd eich swydd wedi'i dileu mewn gwirionedd.
Darllenwch fwy am sut bydd y tribiwnlys yn asesu a yw'r penderfyniad i ddileu'ch yn annheg.
Cysylltwch â'ch Canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf am gyngor ar wneud hawliad yn erbyn eich cyflogwr mewn tribiwnlys cyflogaeth.
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.
Adolygwyd y dudalen ar 30 Mawrth 2023