Ymdrin â phroblem yn y gwaith
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Os oes gennych chi broblem yn y gwaith, mae yna ffyrdd y gallwch chi geisio ei datrys.
Bydd yr hyn sydd orau i’ch sefyllfa chi yn dibynnu ar bethau fel y broblem ei hun, pa mor ddifrifol yw hi, y ffordd y mae eich cyflogwr wedi ymdrin â chwynion tebyg yn y gorffennol, a pha mor llwyddiannus gallai cam penodol fod yn eich barn chi.
Mae’r dewisiadau a amlinellir yma’n amrywio rhwng yr anffurfiol a’r ffurfiol. Does dim rhaid i chi fynd drwyddyn nhw mewn trefn a gallwch chi gychwyn gydag unrhyw un ohonyn nhw.
Bydd angen i chi ddilyn proses wahanol os ydych chi wedi cael eich disgyblu, wedi cael eich diswyddo neu os yw eich swydd wedi cael ei dileu.
Os ydych chi’n credu y gallai fod yn wahaniaethu
Os oes rhywun wedi gwahaniaethu yn eich erbyn, efallai bydd modd i chi gymryd camau – gwiriwch a yw eich problem yn y gwaith yn achos o wahaniaethu.
Gallwch gael cyngor rhad ac am ddim gan eich canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf. Bydd yn helpu os gallwch chi ddod â’r canlynol gyda chi:
eich cofnod o’r hyn ddigwyddodd a’r canlyniad a ddymunwch
eich contract cyflogaeth neu gopi o bolisi eich cyflogwr ar ymdrin â phroblemau yn y gwaith
copïau o unrhyw negeseuon e-bost rydych chi wedi’u cael am eich cwyn neu nodyn o unrhyw sgyrsiau rydych chi wedi’u cael amdani
Paratoi’r hyn rydych chi am ei ddweud
Cyn i chi siarad â’ch cyflogwr, dylech chi feddwl yn ofalus am yr hyn rydych chi am ei ddweud.
Ysgrifennwch yr hyn y mae eich cyflogwr wedi’i wneud sydd wedi eich gwneud yn anhapus – bydd hynny’n eich helpu i gofio popeth rydych chi am ei ddweud.
Casglwch ynghyd unrhyw beth yn ymwneud â’ch cwyn – fel dyddiad ac amser y digwyddiad, unrhyw sgyrsiau rydych chi wedi’u cael amdano ers hynny ac unrhyw negeseuon e-bost neu lythyrau y gallwch ddod o hyd iddyn nhw sy’n ymwneud â’ch problem.
Gall hyn eich helpu i egluro beth yn union yw eich cwyn, a’i gwneud yn haws i’w thrafod pan fydd angen.
Dylech ystyried yr hyn rydych chi am i’ch cyflogwr ei wneud ynghylch y mater hefyd.
Efallai bydd yn ddefnyddiol i chi siarad â ffrindiau, cydweithwyr neu eich cynrychiolydd undeb (os ydych chi’n aelod o undeb llafur). Efallai bydd modd iddyn nhw ddweud wrthych chi sut y cafodd problem debyg ei thrin.
Siarad â’ch cyflogwr
Siaradwch â’ch rheolwr llinell, neu rywun arall os yw hynny’n well gennych – er enghraifft , rhywun o’r adran Adnoddau Dynol neu reolwr arall. Trefnwch gyfarfod â nhw i wneud yn siŵr nad oes neb yn tarfu arnoch chi.
Gallwch ofyn a oes modd i rywun fynd i’r cyfarfod gyda chi os nad ydych chi’n teimlo y gallwch chi fynd ar eich pen eich hun. Gall yr unigolyn hwn fod yn ffrind, yn gydweithiwr neu’n gynrychiolydd eich undeb. Fodd bynnag, does dim rhaid i’ch cyflogwr gytuno i hyn.
Yn y cyfarfod, dywedwch wrth eich cyflogwr am yr hyn nad ydych chi’n fodlon ag ef a gofynnwch iddyn nhw am y rhesymau dros eu gweithredoedd.
Dywedwch wrthyn nhw beth ddylai ddigwydd yn eich barn chi a dangoswch unrhyw dystiolaeth sydd gennych chi i gefnogi eich safbwynt. Er enghraifft, os na chawsoch chi dâl gwyliau, dangoswch iddyn nhw'r hyn sydd yn eich contract am hyn a’ch slipiau cyflog.
Cofnodwch yr hyn a gafodd ei ddweud yn y cyfarfod, yn benodol, unrhyw gamau y mae eich cyflogwr yn cytuno i’w cymryd. Os oes rhywun gyda chi yn y cyfarfod, gallen nhw gofnodi’r pwyntiau ar eich rhan. Os yw eich cyflogwr yn cytuno i wneud rhywbeth, gwnewch yn siŵr eu bod yn pennu dyddiad ar gyfer gwneud hynny fel y gallwch chi eu hatgoffa nhw os oes angen.
Bydd eich nodiadau yn helpu os oes raid i chi fynd â’r mater ymhellach. Er enghraifft, byddwch chi’n gallu eu defnyddio fel tystiolaeth os ydych chi’n gwneud cwyn neu’n mynd i dribiwnlys.
Cysylltwch â'ch canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf os nad ydych chi’n siŵr beth i’w ddweud wrth eich cyflogwr.
Ysgrifennu at eich cyflogwr
Os nad yw siarad yn datrys y broblem, gallwch chi anfon e-bost neu lythyr anffurfiol at eich rheolwr llinell, rheolwr uwch neu eich adran AD.
Os nad ydych chi’n credu y bydd hyn yn gweithio, gallwch wneud cwyn ffurfiol yn syth.
Dylech nodi’r hyn sydd wedi digwydd, yn cynnwys yr hyn rydych chi eisoes wedi’i wneud er mwyn ceisio datrys y broblem a’r ffordd y gall eich cyflogwr ddatrys y broblem.
Dylech gynnwys copïau o unrhyw dystiolaeth, fel e-byst neu lythyrau gan eich rheolwr.
Gwneud cwyn
Os nad yw eich llythyr yn cael yr ymateb rydych chi’n gobeithio ei gael, neu os ydych chi am rywun ymdrin â’r broblem yn fwy ffurfiol neu mae’n fater mwy difrifol, gallech chi wneud cwyn.
Gwiriwch a oes gan eich cyflogwr weithdrefn ar gyfer gwneud cwyn. Gallai fod ar eu gwefan neu mewn llawlyfr staff, neu gofynnwch am gopi. Efallai bod yn well gennych chi ddilyn eu camau nhw os oes ganddyn nhw weithdrefn glir ar gyfer cwynion.
Does dim rhaid i chi wneud cwyn, ond os ydych chi’n ennill achos tribiwnlys, gallech weld eich iawndal yn cael ei ostwng os na wnaethoch chi heb reswm da.
Dylai eich llythyr cwyno gyfeirio at yr hyn a ddigwyddodd, yn cynnwys yr hyn rydych chi wedi ceisio’i wneud er mwyn datrys y broblem – er enghraifft a ydych chi wedi siarad â’r adran Adnoddau Dynol neu anfon llythyr at eich cyflogwr.
Dylai’r rheolwr sy’n ymwneud â’ch cwyn fod yn ddiduedd – golyga hyn na fyddan nhw wedi bod yn rhan o’r hyn sydd wedi digwydd hyd yma. Gallen nhw fod yn swyddogion uwch – fel rheolwr eich rheolwr – neu o adran wahanol, fel yr adran Adnoddau Dynol.
’Cysylltwch â’ch canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf os ydych chi angen cymorth gyda’ch cwyn.
Mynd i dribiwnlys neu wneud setliad
Os na allwch chi ddatrys eich problem drwy siarad â’ch cyflogwr neu drwy wneud cwyn, efallai bydd modd i chi:
fynd i dribiwnlys cyflogaeth – gallwch chi wirio a allwch chi fynd i dribiwnlys os nad ydych chi’n siŵr
Os hoffech chi wneud hawliad tribiwnlys, bydd angen i chi gymryd camau cymodi cynnar yn gyntaf.
Mae’n rhaid i chi gychwyn camau cymodi cynnar o fewn 3 mis namyn diwrnod i’r hyn rydych chi’n cwyno yn ei gylch, felly peidiwch â gadael i gwyn rygnu’n ei blaen. Os ydych chi’n agosáu at y terfyn amser, cychwynnwch gamau cymodi cynnar hyd yn oes os nad yw eich cwyn wedi’i datrys eto.
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.