Hawliau rhieni yn y gwaith
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Hawliau rhieni yn y gwaith
Pan fyddwch chi’n rhiant newydd neu os ydych chi’n disgwyl babi, mae gennych chi hawliau ychwanegol yn y gwaith. Gallai fod gennych chi neu’ch partner hawl i:
hawliau mamolaeth
absenoldeb a thâl tadolaeth
absenoldeb rhiant a rennir
absenoldeb a thâl mabwysiadu
absenoldeb di-dâl i ofalu am eich plentyn
mynychu apwyntiadau cynenedigol gyda’ch partner
Mae’r holl hawliau hyn gennych chi os ydych chi mewn perthynas gyda pherson o’r un rhyw neu mewn perthynas gyda pherson o’r rhyw arall.
Cysylltwch â’ch Canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf os ydych chi angen cymorth gydag unrhyw un o’r hawliau hyn.
Coronafeirws – os ydych chi wedi cael eich rhoi ar y cynllun ffyrlo
Dylech ddefnyddio’ch cyflog llawn, rheolaidd wrth gyfrifo os oes gennych chi hawl i dderbyn:
tâl mamolaeth a thadolaeth statudol
tâl mabwysiadu
tâl rhiant a rennir
Pan fydd angen i chi ennill swm penodol i fod yn gymwys, mae hyn yn golygu bod hynny’n seiliedig ar yr hyn y byddech wedi bod yn ei ennill pe na baech chi wedi cael eich rhoi ar ffyrlo.
Hawliau mamolaeth
Gallech fod â hawl i absenoldeb mamolaeth a thâl mamolaeth.
Mae gennych hefyd hawliau mamolaeth ychwanegol tra byddwch chi’n feichiog yn y gwaith a hawliau tra byddwch chi ar absenoldeb mamolaeth.
Bwydo ar y fron yn y gwaith
Os ydych chi’n bwydo ar y fron neu wedi rhoi genedigaeth lai na 26 wythnos yn ôl, mae gennych chi’r un amddiffyniad iechyd a diogelwch â phan oeddech chi’n feichiog yn y gwaith. Mae’n rhaid i’ch cyflogwr asesu’r risgiau iechyd a diogelwch i chi a naill ai dileu’r risgiau hynny neu newid eich amodau fel nad ydyn nhw’n peri risg i chi.
Mae’n bosibl eich bod chi wedi dioddef gwahaniaethu yn eich erbyn os nad yw eich cyflogwr yn gadael i chi fwydo ar y fron yn y gwaith.
Mae gan Maternity Action fwy o wybodaeth am fwydo ar y fron pan fyddwch chi’n dychwelyd i’r gwaith.
Absenoldeb a thâl tadolaeth
Os ydych chi’n dad i fabi neu’n bartner i’r fam, mae gennych chi hawl i 1 neu 2 wythnos o absenoldeb tadolaeth pan fyddwch chi a’ch partner yn cael babi. Gallwch hefyd gymryd absenoldeb tadolaeth pan fyddwch chi’n mabwysiadu plentyn.
Mae’n rhaid i chi gymryd absenoldeb tadolaeth mewn bloc o 1 neu 2 wythnos.
I fod yn gymwys ar gyfer absenoldeb tadolaeth, mae angen i chi fod:
wedi bod yn gweithio i’r un cyflogwr am o leiaf 26 wythnos erbyn diwedd y 15fed wythnos cyn y dyddiad mae’r babi i fod i gael ei eni, neu erbyn i chi gael eich paru â phlentyn i’w fabwysiadu
yn dad biolegol i’r plentyn, neu’n bartner i fam y babi – does dim rhaid i chi fod yn briod
yn gyfrifol am fagwraeth y plentyn ac yn dymuno cymryd amser i ffwrdd i ofalu am y plentyn neu gefnogi’r fam
wedi rhoi’r rhybudd cywir am gymryd absenoldeb tadolaeth i’ch cyflogwr
Mae 2 reol ychwanegol os ydych chi’n mabwysiadu plentyn:
ni allwch fod yn adnabod y plentyn yn barod – er enghraifft, ni all y plentyn fod yn llysblentyn i chi
ni allwch fod yn cymryd absenoldeb mabwysiadu – os ydych chi a’ch partner yn mabwysiadu, gall un ohonoch chi gymryd absenoldeb mabwysiadu a gall y llall gymryd absenoldeb tadolaeth
Gwirio a oes modd i chi gael tâl tadolaeth
Os oes gennych chi hawl i absenoldeb tadolaeth, mae’n debygol y bydd gennych hawl i dâl tadolaeth statudol am yr un faint o ddyddiau. I fod yn gymwys, rhaid i chi hefyd:
barhau i weithio i’ch cyflogwr hyd at y dyddiad geni
ennill o leiaf £120 yr wythnos ar gyfartaledd
Gwirio faint o dâl tadolaeth gewch chi
Byddwch yn derbyn pa bynnag swm sydd isaf o’r canlynol:
£151.97 yr wythnos
90% o’ch enillion wythnosol cyfartalog
Pryd gallwch chi gymryd absenoldeb tadolaeth
Gall eich absenoldeb tadolaeth ddechrau ar:
y diwrnod y caiff y babi ei eni
y diwrnod y caiff plentyn ei leoli gyda chi i’w fabwysiadu
dyddiad ar ôl yr enedigaeth neu’r mabwysiadu sydd wedi’i gytuno ymlaen llaw rhyngoch chi a’ch cyflogwr
Os ydych chi’n cytuno ar ddyddiad gyda’ch cyflogwr, bydd angen i chi gwblhau eich absenoldeb o fewn 56 diwrnod i’r enedigaeth neu’r mabwysiadu.
Dweud wrth eich cyflogwr am eich absenoldeb tadolaeth
Bydd angen i chi roi rhybudd i’ch cyflogwr eich bod am gymryd absenoldeb tadolaeth. Dylech wneud hyn 15 wythnos cyn y dyddiad mae eich babi i fod i gael ei eni, neu o fewn 7 diwrnod o gael eich paru â phlentyn i’w fabwysiadu.
Pan fyddwch chi’n rhoi rhybudd, bydd angen i chi ddweud wrth eich cyflogwr:
bod gennych chi hawl i absenoldeb tadolaeth a’ch bod chi’n cymryd absenoldeb i gefnogi’r fam neu ofalu am y plentyn
pryd mae’r babi i fod i gael ei eni neu ddyddiad yr enedigaeth (os ydych chi’n mabwysiadu, rhowch y dyddiad rydych chi’n cael eich paru â’ch plentyn neu’r dyddiad pan fydd y plentyn yn cael ei leoli gyda chi)
pryd yr hoffech chi ddechrau eich absenoldeb a thâl tadolaeth
os ydych chi’n cymryd 1 wythnos neu 2 wythnos o absenoldeb tadolaeth
Gallwch roi’r wybodaeth hon i’ch cyflogwr gan ddefnyddio tystysgrifau Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi ar gyfer plentyn biolegol neu ar gyfer plentyn mabwysiedig.
Gallwch newid y dyddiad pan fyddwch chi eisiau cymryd absenoldeb tadolaeth – rhowch 28 diwrnod o rybudd i’ch cyflogwr o’r dyddiad newydd.
Mwy o wybodaeth am absenoldeb tadolaeth
Mae gan wefan GOV.UK fwy o wybodaeth am absenoldeb tadolaeth. Mae tudalen hefyd i’ch helpu i gyfrifo absenoldeb a thâl tadolaeth.
Cael absenoldeb a thâl rhiant a rennir
Os ydych chi neu’ch partner yn disgwyl babi (neu fod plentyn yn cael ei leoli gyda chi i’w fabwysiadu), mae’n bosibl y byddwch chi’n gallu newid yr absenoldeb a thâl mamolaeth (neu fabwysiadu) yn absenoldeb a thâl rhiant a rennir.
Gallwch rannu hyd at 50 wythnos o absenoldeb a hyd at 37 wythnos o dâl. Mae gennych ddewis o naill ai:
rhannu eich absenoldeb a thâl rhyngoch chi
un ohonoch yn cymryd yr holl absenoldeb a thâl ar y cyd i rieni
Gwiriwch a allwch gael absenoldeb a thâl rhiant a rennir gan ddefnyddio’r adnodd cyfrifo ar GOV.UK.
Cael absenoldeb rhiant a rennir
Os ydych chi am gymryd unrhyw gyfran o’r absenoldeb rhiant a rennir, rhaid i chi:
rannu gofal y plentyn gyda’ch priod, partner sifil neu gydfabwysiadwr, rhiant arall y plentyn, neu’ch partner (os yw’n byw gyda chi a’r plentyn)
bod yn gyflogai i’r un cyflogwr am o leiaf 26 wythnos erbyn diwedd y 15fed wythnos cyn y dyddiad mae’r babi i fod i gael ei eni (neu’r dyddiad y mae’r plentyn yn cael ei baru â chi)
dal i gael eich cyflogi gan eich cyflogwr tan yr wythnos cyn i chi gymryd unrhyw absenoldeb rhiant a rennir
Hefyd, yn y 66 wythnos cyn i’r babi fod yn ddyledus (neu cyn i’r plentyn gael ei baru â chi), rhaid i’ch partner fod:
wedi bod yn gweithio am o leiaf 26 wythnos – nid oes rhaid i’r rhain fod yn barhaus, ac mae hyn yn cynnwys hunangyflogaeth
wedi ennill o leiaf £30 yr wythnos ar gyfartaledd mewn 13 o’r 66 wythnos
Cael tâl rhiant a rennir
Os ydych chi am gymryd unrhyw gyfran o’r tâl rhiant a rennir, mae’r rheolau’n bennaf yr un fath ag ar gyfer cymryd absenoldeb rhiant a rennir. Y gwahaniaethau yw, cyn y 15fed wythnos cyn y dyddiad mae’r babi i fod i gael ei eni (neu’r dyddiad lleoli):
rhaid i chi hefyd fod wedi ennill o leiaf £120 yr wythnos ar gyfartaledd am 8 wythnos
nid oes angen i chi fod wedi bod yn gyflogai – cyn belled â’ch bod wedi talu Yswiriant Gwladol drwy gynllun Talu Wrth Ennill am o leiaf 26 wythnos
Mae’r rheolau ar gyfer eich partner yr un fath â’r rheolau ar gyfer absenoldeb rhiant a rennir.
Gallwch gael rhagor o fanylion am y cynllun absenoldeb a thâl rhiant a rennir ar GOV.UK.
Absenoldeb a thâl mabwysiadu
Os ydych chi’n rhiant sy’n gweithio ac wedi cael eich paru â phlentyn i’w fabwysiadu neu os oes plentyn wedi’i leoli gyda chi i’w fabwysiadu, mae’n bosibl y bydd gennych chi hawl i absenoldeb mabwysiadu. Mae angen i chi fod yn gyflogai, ac mae’n bosibl y bydd angen i chi roi prawf i’ch cyflogwr o’r mabwysiadu.
Dim ond os ydych chi wedi cael eich paru â phlentyn drwy asiantaeth fabwysiadu neu, yn achos mabwysiadu tramor, wedi derbyn hysbysiad swyddogol, y cewch chi’r hawliau hyn. Ni allwch gymryd absenoldeb mabwysiadu ar ôl mabwysiadu’n breifat.
Fel arfer, nid oes isafswm amser y mae’n rhaid i chi fod wedi gweithio i’ch cyflogwr. Yr eithriad yw os byddwch chi’n mabwysiadu plentyn o dramor. Yn yr achos hwnnw, bydd angen i chi fod wedi gweithio i’ch cyflogwr am o leiaf 26 wythnos erbyn diwedd yr wythnos pan gewch chi hysbysiad swyddogol.
Mae gennych chi neu’ch partner hawl i hyd at 52 wythnos o absenoldeb mabwysiadu. Dim ond un ohonoch all gymryd absenoldeb mabwysiadu – gall y llall gymryd absenoldeb tadolaeth neu absenoldeb rhiant a rennir. Mae hyn yn cynnwys cyplau o’r un rhyw.
Tâl mabwysiadu statudol
Os ydych chi’n cael cymryd absenoldeb mabwysiadu, mae’n debygol y bydd gennych chi hawl hefyd i dâl mabwysiadu statudol. Bydd angen i chi fod wedi gweithio i’ch cyflogwr am o leiaf 26 wythnos erbyn diwedd yr wythnos lle cewch chi hysbysiad swyddogol.
Mae tâl mabwysiadu statudol yn cwmpasu cyfnod o 39 wythnos. Am y 6 wythnos gyntaf, fe gewch chi’ch talu 90% o’ch enillion wythnosol gros cyfartalog. Am yr wythnosau ar ôl hynny, fe gewch chi’ch talu pa bynnag swm sydd isaf o’r canlynol:
90% o’ch enillion wythnosol arferol
£151.97 yr wythnos
Mae’n bosibl y bydd gennych chi hawl hefyd i gael rhywfaint o dâl mabwysiadu o dan eich contract cyflogaeth.
Dweud wrth eich cyflogwr am eich absenoldeb mabwysiadu
Mae’n rhaid i chi ddweud wrth eich cyflogwr eich bod am gymryd absenoldeb mabwysiadu – dylech wneud hyn o fewn 7 diwrnod o glywed eich bod wedi cael eich paru â phlentyn i’w fabwysiadu, neu cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl hyn. Dywedwch wrth eich cyflogwr pryd rydych chi’n disgwyl i’r plentyn gael ei leoli gyda chi a phryd rydych chi eisiau i’ch absenoldeb mabwysiadu statudol ddechrau.
Gallwch gyfrifo eich absenoldeb a thâl mabwysiadu ar GOV.UK, neu gael rhagor o wybodaeth am absenoldeb mabwysiadu.
Absenoldeb i ofalu am eich plentyn
Os ydych chi wedi gweithio i’ch cyflogwr am flwyddyn, mae gennych chi hawl i absenoldeb di-dâl o’r gwaith i ofalu am eich plant.
Gallwch gymryd hyd at 18 wythnos o absenoldeb di-dâl cyn i’ch plentyn fod yn 18 oed.
Gallwch hefyd gymryd amser di-dâl i ffwrdd o’r gwaith i ddelio â phroblemau annisgwyl – er enghraifft, lle mae trefniadau gwarchod plant yn methu.
Mynychu apwyntiadau cynenedigol gyda’ch partner
Mae gan fenyw feichiog hawl i amser i ffwrdd â thâl i fynd i apwyntiadau cynenedigol. Os mai chi yw partner y fam, gallwch chi hefyd gymryd amser i ffwrdd o’r gwaith i fynd i 1 neu 2 o’r apwyntiadau hyn – nid oes angen i chi fod yn briod.
Gallwch fynychu apwyntiadau gyda’ch partner o’ch diwrnod cyntaf yn eich swydd, oni bai eich bod yn weithiwr asiantaeth. Os ydych chi’n gweithio i asiantaeth, bydd angen i chi fod wedi treulio 12 wythnos yn eich swydd bresennol.
Rydych chi hefyd yn cael yr hawl hon os ydych chi’n bodloni’r amodau ar gyfer, ac yn bwriadu gwneud cais am, orchymyn rhiant ar gyfer plentyn sy’n cael ei eni drwy drefniant benthyg croth.
Trefnu amser i ffwrdd gyda’ch cyflogwr
Nid oes rhaid i’ch cyflogwr eich talu yn ystod amser i ffwrdd ar gyfer apwyntiadau. Gallwch gymryd hyd at 6.5 awr ar gyfer pob apwyntiad, er y gall eich cyflogwr roi mwy o amser i chi.
Mae’n bosibl y bydd angen i chi arwyddo rhywbeth ar gyfer eich cyflogwr, yn cadarnhau eich bod chi’n mynd gyda’ch partner i apwyntiad sydd wedi’i argymell gan ei meddyg neu fydwraig. Ni all eich cyflogwr ofyn am weld tystiolaeth o’r apwyntiad, gan mai gwybodaeth breifat eich partner yw’r gwaith papur.
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.