Os yw'ch cyflogwr eisiau eich diswyddo oherwydd salwch tymor hir
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Os ydych wedi cael llawer o amser o'r gwaith oherwydd salwch, efallai y byddai'n rhesymol i'ch cyflogwr eich diswyddo oherwydd nad ydych yn gallu gwneud eich gwaith mwyach.
Os ydych wedi bod yn gweithio i'ch cyflogwr am 2 flynedd neu fwy, rhaid iddo ddilyn y broses ddisgyblu gywir cyn eich diswyddo.
Gallai eich salwch tymor hir gyfrif fel anabledd yn ôl y gyfraith. Os felly, efallai y gallwch ddadlau y gwahaniaethwyd yn eich erbyn. Does dim gwahaniaeth ers faint rydych chi wedi bod yn gweithio i’ch cyflogwr os ydych chi eisiau hawlio gwahaniaethu. Dylech wirio a ydych chi’n anabl dan y Ddeddf Cydraddoldeb.
Gwirio a wnaeth eich cyflogwr gynnal ymchwiliad rhesymol i'ch cyflwr
Dylai eich cyflogwr:
eich rhybuddio y gallai eich diswyddo
dangos copïau i chi o unrhyw dystiolaeth feddygol
rhoi cyfle i chi ymateb i unrhyw dystiolaeth feddygol a'i asesiad o'r sefyllfa
Dylai eich cyflogwr hefyd ymchwilio i'ch cyflwr meddygol er mwyn ceisio canfod a fyddwch chi'n gallu gweithio eto, a pha bryd, cyn iddo eich diswyddo. Dylai:
edrych am ba hyd yr oeddech i ffwrdd o'r gwaith ac a oes ganddo gofnod cywir o'ch absenoldeb salwch
cael gwybodaeth am eich cyflwr meddygol
edrych beth mae unrhyw dystiolaeth feddygol yn ei ddweud am eich cyflwr, gan gynnwys eich gallu i wneud gwaith arall neu pa bryd y gallech ddychwelyd i’r gwaith
holi a ydych chi i fod i gael unrhyw driniaeth bellach a allai wella'ch siawns o ddychwelyd i'r gwaith
Mae'n fwy tebygol y bydd yn rhesymol i'ch cyflogwr gyfiawnhau eich diswyddo os byddwch yn absennol am gyfnod hir neu os na fyddwch yn gallu mynd yn ôl i'r gwaith o gwbl.
Os oeddech yn rhy sâl i fynychu cyfarfod disgyblu
Dylai eich cyflogwr ofyn i chi fynd i gyfarfod disgyblu cyn iddo eich diswyddo. Os ydych chi'n rhy sâl i fynd, dylai'ch cyflogwr feddwl am y canlynol:
gohirio’r cyfarfod
cynnal y cyfarfod yn rhywle sy’n fwy cyfleus i chi
cytuno y gallech ddarparu tystiolaeth ysgrifenedig
Gwirio a yw eich cyflogwr yn gwneud ymdrechion rhesymol i'ch helpu i ddychwelyd i'r gwaith
Dylai eich cyflogwr geisio'i gwneud yn haws i chi ddychwelyd i'r gwaith. Gallai hyn gynnwys:
dod o hyd i waith arall i chi, fel dyletswyddau ysgafn, gwaith rhan-amser neu swydd arall
gwneud addasiadau i'r gweithle i'ch helpu i wneud eich gwaith os oes gennych anabledd
Efallai y byddai'n rhesymol i'ch cyflogwr eich diswyddo os y gall ddangos ei fod wedi gwneud y pethau hyn a'u trafod gyda chi ond na wnaethoch dderbyn y cynnig o waith arall.
Os nad yw eich cyflogwr yn cynnig gwneud y pethau hyn a'ch bod yn meddwl y byddai wedi bod yn bosibl, dylech geisio dangos y byddai hyn wedi gwneud gwahaniaeth i chi o ran dychwelyd i'r gwaith.
Dim ond ymdrech resymol y mae’n rhaid i gyflogwr ei gwneud. Bydd yr hyn sy’n rhesymol yn dibynnu ar y canlynol:
maint eich cyflogwr - disgwylir i gwmni mawr wneud mwy nag un bach
pa mor hawdd fyddai gwneud y newidiadau
pa mor ddrud fyddai gwneud y newidiadau - mae hyn yn cynnwys costau fel hyfforddiant ychwanegol
Os gwrthododd eich cyflogwr wneud addasiadau rhesymol i’ch helpu i ddychwelyd i'r gwaith, efallai y gallech hefyd wneud hawliad am wahaniaethu.
Gwirio a oedd eich diswyddiad yn rhesymol
Os byddwch yn gwneud hawliad am ddiswyddo annheg, bydd tribiwnlys yn penderfynu a allai cyflogwr rhesymol fod wedi'ch diswyddo. Bydd y tribiwnlys yn edrych ar y pethau canlynol i benderfynu a oedd yn rhesymol eich diswyddo.
Ers faint o amser ydych chi wedi bod yn gweithio i'ch cyflogwr
Gallai fod yn rhesymol i'ch cyflogwr roi blwyddyn o absenoldeb salwch i chi os ydych wedi gweithio yno am 10 mlynedd, ond gallai hyn fod yn llai rhesymol os mai dim ond am 2 flynedd yr ydych wedi bod yno.
Sut mae eich absenoldeb yn effeithio ar y busnes ac ar staff eraill
Dylai eich cyflogwr edrych ar sut y gallai eich gwaith gael ei wneud yn ystod eich absenoldeb. Er enghraifft, gallai:
ofyn i staff eraill wneud eich gwaith neu weithio goramser
cyflogi gweithiwr dros dro neu ddefnyddio staff asiantaeth
Pa mor bwysig yw hi i'ch cyflogwr gael gweithiwr parhaol
Yn dibynnu ar eich gwaith, gallai fod yn anoddach i'ch cyflogwr ymdopi heboch chi. Er enghraifft, os ydych chi’n gwneud gwaith medrus, gallai fod yn anodd iddo ddod o hyd i rywun addas i wneud y gwaith. Os ydych chi'n un o nifer o bobl sy'n gwneud swydd led-fedrus neu anfedrus debyg, efallai y byddai'n haws dod o hyd i bobl eraill i lenwi'r bwlch.
Eich siawns o wella
Efallai na fydd yn rhesymol eich diswyddo os ydych yn debygol o wella'n fuan, hyd yn oed os oes angen triniaeth bellach arnoch.
Maint eich cyflogwr
Efallai y byddai cyflogwr mawr wedi gallu ymdopi'n well â'ch absenoldeb na chyflogwr llai. Neu efallai y byddai wedi bod yn fwy abl i allu dod o hyd i waith arall addas i chi.
Ai ar eich cyflogwr y mae’r bai eich bod yn absennol o'r gwaith oherwydd salwch
Efallai y bydd hi'n dal yn rhesymol i'ch cyflogwr eich diswyddo os ydych chi'n annhebygol o fod yn ddigon iach i ddychwelyd i'r gwaith ac na all gynnig cyflogaeth arall addas i chi. Disgwylir i'ch cyflogwr wneud popeth o fewn ei allu rhesymol i'ch helpu.
Efallai y byddwch hefyd yn gallu hawlio iawndal am eich anaf personol, ond bydd yn rhaid i chi wneud hyn ar wahân i'ch hawliad yn y tribiwnlys cyflogaeth.
Os ydych am ddwyn achos o ddiswyddo annheg
Gallwch wirio sut mae herio’r diswyddiad.
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.