Gweld a yw'ch problem yn y gwaith yn achos o wahaniaethu

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Gallai fod yn erbyn y gyfraith i chi gael eich trin yn annheg neu’n wahanol yn y gwaith oherwydd pwy ydych chi, er enghraifft, os ydych chi’n anabl neu’n fenyw. Os yw’n anghyfreithlon, gallwch gwyno i’ch cyflogwr neu ddwyn achos yn ei erbyn mewn tribiwnlys cyflogaeth.

Y brif ddeddf sy’n ymwneud â gwahaniaethu yn y gwaith yw Deddf Cydraddoldeb 2010 – mae rhan 5 yn berthnasol i’r byd gwaith.

Mae’n bosibl na fydd y driniaeth annheg yn cael ei hanelu atoch chi’n bersonol – gallai fod yn rheol neu’n bolisi i bawb sy’n effeithio arnoch chi’n waeth na phobl eraill.

Bydd angen i chi ddilyn 3 cham i benderfynu a yw’ch problem yn achos o wahaniaethu. Dylech sicrhau eich bod yn cwblhau pob cam. Os nad ydych yn gwneud hynny, rydych yn llai tebygol o allu herio’r gwahaniaethu. 

Go to step 1

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.

Adolygwyd y dudalen ar 28 Ionawr 2019