Cymryd camau am wahaniaethu yn y gwaith
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Gallwch gymryd camau drwy:
wneud cwyn anffurfiol – dylech geisio datrys y broblem drwy wneud hyn gyntaf
gwneud cwyn ffurfiol sy’n cael ei alw’n ‘gŵyn gyflogaeth’
mynd i dribiwnlys
Dylech benderfynu pa gam sydd orau i’ch sefyllfa cyn i chi ddechrau cymryd camau.
Bydd y dull gorau yn seiliedig ar bethau fel y math o broblem, faint o amser sydd ers i’r broblem godi a’r canlyniad rydych chi ei eisiau.
Cyn i chi gymryd camau
Os nad ydych chi wedi edrych yn barod, gwnewch yn siŵr bod y broblem yn dod o dan y Ddeddf Cydraddoldeb - gwiriwch fod eich problem yn achos o wahaniaethu.
Os nad ydych chi wedi gwneud hynny eisoes, dechreuwch gasglu tystiolaeth i gefnogi’ch cwyn.
Meddyliwch am gael cymorth cyn i chi gwyno.
Cyfrifo iawndal
Mae’n syniad da cyfrifo faint o iawndal y gallai’ch achos fod werth.
Bydd hyn yn helpu mewn 2 sefyllfa:
os ydych chi eisiau gofyn am iawndal, er enghraifft, fel rhan o gymryd camau cyfreithiol
os yw’ch cyflogwr y cynnig arian i chi yn gyfnewid am gytuno i dynnu’ch cwyn yn ôl – setlo yw’r enw ar hyn
Gwneud cwyn anffurfiol
Cyn i chi wneud eich cwyn anffurfiol, gwiriwch eto mai dyma sydd orau i chi. Fel rheol, bydd hi’n werth i chi wneud hyn os:
ydych chi angen penderfyniad cyflym gan eich cyflogwr
nad yw’r gwahaniaethu’n cael effaith wael arnoch ar hyn o bryd
rydych chi’n poeni am sut gallai’ch cyflogwr ymateb i gŵyn mwy ffurfiol
I wneud cwyn anffurfiol, siaradwch â rhywun yn y gwaith rydych chi’n meddwl allai helpu. Hwyrach fod gan eich cyflogwr bolisi sy’n dweud wrthych wrth bwy i gwyno – eich rheolwr llinell fydd hwn gan amlaf, ond gallwch siarad â rhywun arall os yw’ch cwyn yn ymwneud â’r sawl rydych chi fod i siarad ag ef.
Gofalwch eich bod chi’n glir am yr hyn rydych chi eisiau ei ddweud – ysgrifennwch nodiadau os ydych chi’n poeni y byddwch chi’n anghofio rhywbeth.
Gallech drefnu cyfarfod fel na fydd rhywun yn torri ar eich traws.
Gallwch ofyn a all rhywun fynd i’r cyfarfod gyda chi i fod yn gefn i chi neu i gymryd nodiadau. Gallai hwn fod yn gydweithiwr neu’ch cynrychiolydd undeb. Nid oes rhaid i’ch cyflogwr gytuno i hyn.
Efallai y byddwch angen i rywun ddod i’r cyfarfod am reswm arbennig – er enghraifft, oherwydd anabledd neu am resymau iaith. Eglurwch pam wrth eich cyflogwr. Os bydd yn gwneud na, gallai hyn fod yn wahaniaethu.
Yn y cyfarfod, dywedwch wrth eich cyflogwr:
beth ddigwyddodd a pham eich bod chi’n credu ei fod yn wahaniaethu
unrhyw dystiolaeth sydd gennych, er enghraifft, e-bost bygythiol gan eich rheolwr
sut hoffech i’r broblem gael ei datrys
Cadwch gofnod o’r hyn sy’n digwydd yn y cyfarfod – yn enwedig os yw’ch cyflogwr yn cytuno i wneud rhywbeth. Gofalwch ei fod yn pennu dyddiad ar gyfer ei wneud fel y gallwch ei atgoffa os oes angen.
Bydd eich cyflogwr yn siŵr o wneud nodiadau hefyd. Gofynnwch am gopi ohonynt i wirio beth i chi gytuno.
Bydd y nodiadau hyn yn helpu os oes rhaid i chi fynd â’r mater ymhellach. Er enghraifft, byddwch yn gallu eu defnyddio fel tystiolaeth os ydych chi’n cyflwyno cwyn gyflogaeth neu’n mynd i dribiwnlys.
Os na wnaeth gymryd nodiadau neu os yw’n gwrthod rhannu ei nodiadau gyda chi, dylech ysgrifennu ato yn dweud beth gytunwyd yn y cyfarfod. Dylech ofyn iddo gadarnhau yn ysgrifenedig ei fod yn cytuno gyda’ch nodiadau.
Os nad ydych chi wedi clywed gan eich cyflogwr ar ôl wythnos neu ddwy, anfonwch e-bost neu lythyr arall.
Hwyrach y dylech gyflwyno cwyn gyflogaeth os nad yw’ch cwyn anffurfiol yn cael unrhyw effaith. Os yw cwyno neu gyflwyno cwyn gyflogaeth yn cymryd amser hir, a’ch bod yn nesáu at y dyddiad cau, gallwch gysylltu ag Acas cyn i chi orffen siarad â’ch cyflogwr.
Cyflwyno cwyn gyflogaeth
Mae mwy o wybodaeth am gyflwyno cwyn gyflogaeth ac apelio yn erbyn canlyniad cwyn gyflogaeth yn ein deunyddiau manwl am wahaniaethu yn y gwaith.
Darllenwch fwy am beth i’w ddisgwyl pan fyddwch yn mynd i gyfarfod cwyn cyflogaeth.
Herio gwahaniaethu mewn tribiwnlys cyflogaeth
Os nad yw cwyno wrth eich cyflogwr yn datrys y broblem neu’ch bod yn agos at y terfyn amser ar gyfer cyflwyno hawliad, dylech ystyried dwyn achos cyfreithiol mewn tribiwnlys cyflogaeth.
Cysylltu ag ACAS am gymodi cynnar
Y cam cyntaf yw cysylltu ag Acas o fewn 3 mis llai un diwrnod i’r gwahaniaethu. Gallant eich helpu i geisio datrys y broblem gyda’ch cyflogwr – ‘cymodi cynnar’ yw hyn.
Os na all Acas eich helpu i gael cytundeb (neu os nad ydych chi eisiau iddynt roi cynnig arni) byddant yn rhoi tystysgrif i chi a fydd yn eich galluogi i gyflwyno hawliad i dribiwnlys cyflogaeth. Bydd gennych ddyddiad cau newydd ar gyfer mynd i’r tribiwnlys ar ôl i chi gael y dystysgrif hon – gofalwch weithio allan pryd fydd hyn.
Gweld sut mae cymodi cynnar yn gweithio.
Mwy o help gyda’ch hawliad i’r tribiwnlys cyflogaeth
Gallwch ddefnyddio’n deunyddiau manwl ar wahaniaethu yn y gwaith i’ch helpu gyda’ch hawliad i’r tribiwnlys cyflogaeth.
Trafod telerau a setlo’ch hawliad gwahaniaethu
Gwneud hawliad hwyr am wahaniaethu yn y tribiwnlys cyflogaeth
Adnodd cynghorwyr – casglu’r ffeithiau: camau cyntaf casglu a threfnu tystiolaeth
Asesu cryfderau hawliad gwahaniaethu a defnyddio cynllun achos
Adnodd cynghorwyr: Dadansoddi problem gwahaniaethu’ch cleient
Profi hawliad gwahaniaethu yn y tribiwnlys cyflogaeth
Dechrau hawliad gwahaniaethu: cwblhau'r ET1
ET3, rheoli achosion a gwrandawiadau cychwynnol
Cael tystiolaeth feddygol am wahaniaethu
Paratoi tystiolaeth ar gyfer tribiwnlys cyflogaeth
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.
Adolygwyd y dudalen ar 28 Ionawr 2019