Beth allwch chi ei wneud gyda’ch pot pensiwn
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Cael help gyda Pension Wise
Mae Pension Wise yn wasanaeth diduedd am ddim i’ch helpu i ddeall beth yw eich opsiynau o ran pensiynau.
Gallwch gael gwybodaeth am Pension Wise ar wefan MoneyHelper.
Pensiynau cyfraniadau wedi’u diffinio
Mae’r dudalen hon yn berthnasol i bensiynau ‘cyfraniadau wedi’u diffinio’. Mae pensiynau ‘cyfraniadau wedi’u diffinio’ yn cronni dros amser pan fyddwch chi neu’ch cyflogwr yn gwneud taliadau rheolaidd iddynt. Mae cyfanswm yr arian sydd gennych ar gyfer eich ymddeoliad yn dibynnu ar faint a dalwyd i’r pot a sut mae buddsoddiad y gronfa wedi perfformio. Holwch ddarparwr eich pensiwn os nad ydych yn siŵr pa fath o bensiwn sydd gennych.
Pryd allwch chi gael eich pensiwn
Y cynharaf y gallwch ddechrau cael pensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio yw pan fyddwch yn 55 oed fel arfer - dylech holi darparwr eich pensiwn ynglŷn â hyn. Efallai y gallwch gael eich pensiwn yn gynt os ydych chi’n ymddeol oherwydd salwch.
Dylech gael cyngor ariannol cyn gwneud penderfyniadau am eich pensiwn personol neu eich pensiwn yn y gweithle. Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu am gyngor ariannol ond gall arbed arian i chi yn y pen draw..
Cymryd eich pensiwn: eich opsiynau
Mae gennych nifer o opsiynau o ran sut i gael gafael ar yr arian yn eich pot pensiwn. Dyma eich opsiynau ar gyfer cymryd eich pensiwn personol:
cymryd rhywfaint neu’r cyfan o’ch pot pensiwn fel cyfandaliad arian parod, waeth beth yw ei faint
prynu blwydd-dal - gallwch gymryd cyfandaliad arian parod hefyd
cymryd arian yn uniongyrchol o’r gronfa bensiwn, a buddsoddi’r gweddill (incwm a dynnir i lawr) - ni fydd unrhyw gyfyngiadau ar faint y gallwch ei gymryd
cymysgedd o’r opsiynau hyn
Mae’n bwysig gwybod beth yw’r rheolau treth gwahanol ar gyfer pob opsiwn.
Cymryd cyfandaliadau arian parod
Gallwch gymryd eich pot pensiwn cyfan fel arian parod ar unwaith os dymunwch, waeth beth yw ei faint. Gallwch hefyd gymryd symiau llai fel arian parod pryd bynnag y bydd angen i chi wneud hynny.
Bydd 25% o gyfanswm eich pot pensiwn yn ddi-dreth. Byddwch yn talu treth ar y gweddill fel petai’n incwm.
Mae eich pot yn £60,000. Os byddwch yn cymryd y pot cyfan ar unwaith, byddwch yn cael £15,000 (25% o £60,000) yn ddi-dreth. Bydd y £45,000 sy’n weddill yn cael ei drin fel incwm, felly byddwch yn talu treth incwm arno.
Os byddwch yn cymryd symiau llai o arian ar wahanol adegau, bydd 25% o bob swm yn ddi-dreth.
Mae eich pot yn £60,000. Os byddwch yn tynnu £1000 o arian parod allan bob mis. Bydd £250 (25% o £1,000) yn ddi-dreth bob tro. Bydd y £750 sy’n weddill yn drethadwy bob tro.
Bydd unrhyw arian trethadwy y byddwch yn ei gymryd o’ch pensiwn yn cael ei ychwanegu at eich incwm arall ar gyfer y flwyddyn honno ac yn cael ei drethu ar y band treth incwm perthnasol. Efallai y bydd hyn yn eich rhoi mewn categori treth uwch na’r arfer.
Prynu blwydd-dal
Gallwch ddefnyddio eich pot pensiwn i brynu blwydd-dal gan gwmni yswiriant.
Mae blwydd-dal yn incwm blynyddol a fydd yn cael ei dalu i chi am weddill eich oes.
Gallwch gymryd rhywfaint o’ch cronfa bensiwn fel swm arian parod di-dreth a phrynu blwydd-dal gyda’r gweddill.
Mae sawl math o flwydd-dal ar gael i’w brynu - dylech siopa o gwmpas i ddod o hyd i’r un mwyaf addas i chi.
Cymerwch gip ar y canllawiau ar brynu blwydd-dal ar MoneyHelper.
Fel arfer, chewch chi ddim newid eich meddwl ar ôl i chi brynu blwydd-dal.
Incwm a dynnir i lawr
Mae incwm a dynnir i lawr yn fodd i chi gael incwm o’ch pot pensiwn, tra bo’r gweddill yn cael ei fuddsoddi. Dylech holi darparwr eich pensiwn i weld a yw’n cynnig yr opsiwn hwn - nid yw pawb yn ei gynnig.
Nid oes unrhyw gyfyngiadau ar y swm y gallwch ei gymryd gan ddefnyddio incwm a dynnir i lawr.
Gallwch gymryd 25% o’ch pot pensiwn fel cyfandaliad di-dreth o hyd.
Cymysgu eich opsiynau o ran pensiynau
Byddwch yn gallu cymysgu unrhyw rai o’r opsiynau hyn o ran pensiwn ar wahanol adegau yn ystod eich ymddeoliad. Er enghraifft, gallwch gymryd rhywfaint o arian o’ch pot yn gyntaf a phrynu blwydd-dal wedyn..
Twyll pensiwn
Mae twyll pensiwn wedi dod yn fwy cyffredin ers mis Ebrill 2015, pan ddaeth rheolau newydd i rym i ganiatáu i bobl gymryd rhywfaint neu’r cyfan o’u pot pensiwn fel cyfandaliad. Mae’r sgamiau hyn yn fuddsoddiadau ffug sydd wedi’u cynllunio i’ch twyllo chi i gael eich arian. Maent yn aml yn argyhoeddiadol dros ben a gall unrhyw un gael ei dwyllo.
Cymerwch gip ar MoneyHelper i ddysgu am arwyddion twyll pensiwn.
Gallai cymryd arian o’ch potiau pensiwn effeithio ar eich budd-daliadau
Mae rhai budd-daliadau’n cael eu cyfrifo ar sail faint o incwm a chyfalaf sydd gennych chi - gelwir y rhain yn ‘fudd-daliadau prawf modd’. Ystyr cyfalaf yw arian sydd gennych chi yn eich cynilion a’ch buddsoddiadau. Mae budd-daliadau prawf modd yn cynnwys:
Budd-dal Tai
Cymhorthdal Incwm
Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm
Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm
Credyd Pensiwn
Gallai tynnu arian allan o’ch pensiwn effeithio ar eich cymhwysedd i gael y budd-daliadau hyn.
Mae’r rheolau’n wahanol yn dibynnu ar b’un a ydych chi wedi cyrraedd oed Pensiwn y Wladwriaeth ai peidio. Nid yw oed Pensiwn y Wladwriaeth yr un fath i bawb - mae’n dibynnu ar ba bryd y cawsoch eich geni a’ch rhyw. Gallwch gyfrifo pryd y byddwch yn cyrraedd oed Pensiwn y Wladwriaeth ar GOV.UK.
Os ydych chi’n oed Pensiwn y Wladwriaeth neu’n hŷn
Os byddwch yn gwneud cais am fudd-daliadau prawf modd, bydd arian o’ch pensiwn y byddai gennych hawl iddo (yn ogystal ag unrhyw arian y byddwch yn ei dynnu allan) yn cael ei ystyried wrth gyfrifo eich cyfalaf a’ch incwm.
Os ydych chi’n cael budd-daliadau prawf modd yn barod, gallai’r rhain leihau neu fe allent stopio os na fyddwch yn tynnu arian o’ch pensiwn y mae gennych hawl i’w gymryd. Os na fyddwch yn tynnu arian allan, byddwch yn cael eich trin fel petai gennych chi ‘incwm tybiannol’, sy’n golygu y bydd yr arian hwn yn effeithio ar eich hawl i gael budd-daliadau.
Os byddwch yn tynnu cyfandaliad o’ch pensiwn ac yn ei wario’n gyflym, yna’n gwneud cais am fudd-daliadau, efallai na fyddwch yn gymwys oherwydd gallai’r arian rydych chi wedi’i dynnu o’ch pensiwn gael ei ystyried yn ‘gyfalaf tybiannol’ - mae hyn yn golygu ei fod yn cael ei ystyried yn gyfalaf wrth gyfrifo a ydych chi’n gymwys i gael budd-daliadau ai peidio.
Felly, dylech ystyried y canlynol wrth benderfynu a ddylid tynnu arian o’ch pot pensiwn ai peidio:
os byddwch yn cymryd incwm o’ch pot pensiwn, bydd y swm yn cael ei ystyried wrth gyfrifo a ydych chi’n gymwys i gael budd-daliadau prawf modd - felly bydd eich hawl yn lleihau neu gallech golli’ch cymhwysedd
os oes gennych hawl i gymryd incwm o’ch pensiwn ac yn dewis peidio â’i gymryd, byddwch yn cael eich trin fel rhywun sydd ag incwm tybiannol
y mwyaf o gyfalaf neu incwm y byddwch yn ei gymryd ar unwaith, y mwyaf y bydd yn effeithio ar eich hawl
gallai unrhyw arian y byddwch yn ei dynnu allan fel cyfandaliad olygu y bydd eich hawl yn cael ei ailasesu
os byddwch yn gwario cyfandaliad yn gyflym ac yn cael mwy o hawl i gael budd-dal o ganlyniad i hynny, gallai’r sawl sy’n gwneud y penderfyniad am y budd-dal benderfynu mai eich cymhelliant dros wario’r arian oedd gwneud yn siŵr nad oedd yn effeithio ar eich budd-daliadau prawf modd. Yn yr achos hwn, gellid ystyried bod yr arian yn dal i fod gennych chi ac fe allai eich budd-daliadau leihau neu fe allech eu colli
Os ydych chi o dan oed Pensiwn y Wladwriaeth
Dim ond yr arian rydych chi’n ei dynnu o’ch pensiwn sy’n cael ei gyfrif fel incwm neu gyfalaf, nid y swm llawn y mae gennych yr hawl i’w gymryd. Yr un yw’r rheolau fel arall. Mae hyn yn golygu:
bydd yr arian y byddwch yn ei dynnu o’ch pensiwn yn cael ei ystyried yn incwm neu’n gyfalaf wrth gyfrifo a ydych chi’n gymwys i gael budd-daliadau - po fwyaf y byddwch yn ei gymryd, y mwyaf y bydd yn effeithio ar eich hawl
os ydych chi eisoes yn cael budd-daliadau prawf modd, fe allent leihau neu stopio os byddwch chi’n cymryd cyfandaliad o’ch pot pensiwn
os ydych chi eisoes yn cael budd-daliadau, gallai unrhyw arian y byddwch yn ei dynnu allan a’i wario’n gyflym olygu y bydd eich hawl yn cael ei ailasesu
os bydd y sawl sy’n gwneud y penderfyniad am fudd-daliadau yn penderfynu mai eich cymhelliant dros wario’r arian oedd gwneud yn siŵr nad oedd yn effeithio ar eich budd-daliadau prawf modd, gellid ystyried bod yr arian yn dal i fod gennych chi ac fe allai eich budd-daliadau leihau neu fe allech eu colli.
Defnyddiwch gyfrifiannell budd-daliadau i weld a ydych chi’n gymwys i gael budd-daliadau
Gallwch ddefnyddio cyfrifiannell budd-daliadau Turn2us i weld pa fudd-daliadau y gallwch eu cael. Gallwch hefyd gael cyngor ariannol.
Cael help gyda Pension Wise
Mae Pension Wise yn wasanaeth diduedd am ddim i’ch helpu i ddeall beth yw eich opsiynau o ran pensiynau.
Gallwch gael gwybodaeth am Pension Wise ar wefan MoneyHelper.
Trefnu apwyntiad gydag arbenigwr arweiniad ar bensiynau
Gallwch drefnu apwyntiad am ddim gydag arbenigwr arweiniad ar bensiynau a fydd yn trafod eich opsiynau pensiwn gyda chi. Bydd apwyntiadau gydag arbenigwyr o’r Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau a Chyngor ar Bopeth yn cael eu cynnal naill ai dros y ffôn neu wyneb yn wyneb.
Bydd apwyntiad yn berthnasol i chi os:
oes gennych chi bot pensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio
ydych chi’n agosáu at eich oed ymddeoliad neu’ch bod yn 50 oed neu’n hŷn
Trefnwch apwyntiad Pension Wise ar wefan MoneyHelper, neu ffoniwch 030 0330 1001 rhwng 8am ac 8pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener. Gallwch hefyd drefnu apwyntiad drwy ymweld â’ch canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf.
Mathau eraill o gymorth gyda phensiynau
Dylech gael cyngor ariannol yn gwneud penderfyniad am sut i gymryd eich pot pensiwn. Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu am gyngor ariannol, ond gall arbed arian i chi yn y pen draw.
Cysylltwch â MoneyHelper i gael cyngor diduedd am ddim ar eich pensiwn.
MoneyHelper
Ffôn: 0800 011 3797
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm Ar gau ar wyliau banc.
Mae galwadau i’r rhif hwn yn rhad ac am ddim.
Gwe-sgwrs: www.moneyhelper.org.uk/PensionsChat/
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.