Gwirio os oes rhaid i chi dalu dyled
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Chi sy’n gyfrifol am ddyled os yw'n rhywbeth y mae'r gyfraith yn dweud bod yn rhaid i chi ei dalu, fel y dreth gyngor neu gostau dŵr.
Mae’n debyg y bydd yn rhaid i chi dalu dyled hefyd os ydych chi wedi llofnodi contract i ddweud eich bod chi’n cytuno i roi arian i rywun. Gallai hyn fod yn rhywbeth fel:
cytundeb credyd, er enghraifft os ydych chi wedi prynu peiriant golchi neu wedi cael cerdyn credyd
cytundeb tenantiaeth, os ydych chi’n rhentu
Os ydych chi'n gyfrifol am ddyled, caiff ei alw’n 'fod yn atebol'. Mae'n golygu y bydd gennych ddyletswydd gyfreithiol i'w thalu. Os nad ydych chi'n atebol, dylech chi allu herio'r credydwr. Credydwr yw unrhyw berson neu sefydliad y mae arnoch chi arian iddynt.
Dyledion nad ydych chi’n gyfrifol amdanynt
Efallai na fydd yn rhaid i chi dalu dyled os:
oes chwe blynedd neu fwy wedi mynd heibio ers i chi wneud taliad neu fod mewn cysylltiad â'r credydwr
oedd problem pan lofnodwyd y cytundeb, er enghraifft os oeddech chi o dan bwysau i'w lofnodi neu os nad oedd y cytundeb yn glir
na wnaeth y credydwr wirio'n iawn y gallech chi fforddio'r ad-daliadau pan lofnodwyd y cytundeb
Os oeddech chi’n ddeiliad ychwanegol ar gerdyn
Os oeddech chi'n ddeiliad ychwanegol awdurdodedig ar gyfrif cerdyn credyd rhywun arall, er enghraifft priod neu bartner, ni all cwmni cerdyn credyd ofyn i chi ad-dalu unrhyw ddyledion ar y cerdyn. Cyfrifoldeb prif ddeiliad y cerdyn yw'r dyledion hyn bob tro.
Dyled os ydych chi o dan 18 oed
Os ydych chi o dan 18 oed, dim ond ar gyfer rhywbeth sydd ei angen arnoch chi o ddydd i ddydd y gallwch chi fod yn gyfrifol am ddyled. Gallai hyn gynnwys contract ffôn symudol, dillad neu fwyd. Os ydych chi o dan 18 oed ac yn ansicr os ydych yn atebol am ddyled, cysylltwch â’ch Cyngor ar Bopeth agosaf.
Delio â dyledion ar ôl i rywun farw
Os ydych chi’n delio â dyledion rhywun sydd wedi marw, mae’n bwysig dilyn y broses gywir. Os na wnewch chi, gallech chi fod yn atebol am eu dyledion. Nid ydych chi'n atebol yn awtomatig am ddyledion rhywun sydd wedi marw hyd yn oed os oeddech chi'n ŵr, yn wraig neu’n bartner sifil iddynt, neu'n byw gyda nhw.
Gallech chi fod yn atebol am ddyledion sy'n gysylltiedig â'r eiddo a rannwyd gennych, er enghraifft y dreth gyngor neu ddŵr. Os oedd gennych ddyledion ar y cyd, byddwch yn atebol am y swm llawn.
Gwiriwch sut i ddelio â materion ariannol rhywun sydd wedi marw.
Gwirio os yw eich dyled wedi'i chynnwys gan Yswiriant Diogelu Taliadau
Os oes gennych chi forgais, benthyciad neu ddyled credyd, efallai fod gennych chi Yswiriant Diogelu Taliadau (PPI). Os oes, efallai y bydd y cwmni yswiriant yn talu eich ad-daliadau dyled os byddwch chi'n mynd yn sâl, yn ddi-waith neu'n cael damwain. Gwiriwch eich cytundeb credyd neu ddogfennau morgais i weld os oes gennych chi PPI.
Dim ond am gyfnod penodol o amser y bydd PPI yn talu eich taliadau. Bydd eich polisi PPI yn dweud wrthych chi beth rydych chi wedi'ch diogelu amdano a sut a phryd y dylech chi hawlio.
Os ydych chi'n credu y dylech fod wedi'ch cynnwys gan PPI ond bod y cwmni yswiriant yn dweud nad ydych chi, gwiriwch os gallwch chi gwyno am PPI a gafodd ei werthu ar gam.
Gwirio os yw’r terfyn amser ar ddyled wedi pasio
Ar gyfer y rhan fwyaf o ddyledion, os ydych chi’n atebol, mae’n rhaid i’ch credydwr gymryd camau yn eich erbyn o fewn terfyn amser penodol. Mae cymryd camau yn golygu eu bod yn anfon papurau’r llys atoch yn dweud wrthych eu bod yn mynd â chi i'r llys.
Weithiau mae’r terfyn amser yn cael ei alw’n gyfnod cyfyngu.
Ar gyfer y rhan fwyaf o ddyledion, y terfyn amser yw 6 blynedd ers y tro diwethaf i chi ysgrifennu atynt neu wneud taliad.
Mae'r terfyn amser yn hirach ar ddyledion morgais. Os yw eich cartref wedi'i adfeddu a bod dal arian i’w dalu ar eich morgais, y terfyn amser yw 6 blynedd ar gyfer llog y morgais a 12 mlynedd o ran y prif swm.
Os ydych chi eisoes wedi cael gorchymyn llys am ddyled
Nid oes terfyn amser i'r credydwr orfodi'r gorchymyn.
Os cafodd y gorchymyn llys ei wneud dros 6 blynedd yn ôl, mae'n rhaid i'r credydwr gael caniatâd y llys cyn y gallant ddefnyddio beilïaid.
Os ydych chi mewn cyfnod lle i anadlu pan ddaw'r terfyn amser i ben
Tra byddwch chi yn y cynllun Lle i Anadlu, ni all eich credydwyr gysylltu â chi na cheisio gwneud i chi dalu.
Mae'r terfyn amser i'ch credydwr gymryd camau yn eich erbyn yn cael ei ymestyn yn awtomatig. Bydd yn dod i ben 8 wythnos ar ôl i'ch cyfnod lle i anadlu ddod i ben.
Ar ôl i’r terfyn amser basio, efallai y bydd y ddyled yn ‘waharddedig trwy statud’ - mae hyn yn golygu nad oes rhaid i chi ei thalu.
Gallai eich dyled fod yn waharddedig trwy statud os, yn ystod y terfyn amser:
nad ydych chi (neu os yw’n ddyled ar y cyd, unrhyw un lle mae arnoch chi arian gyda nhw), wedi gwneud unrhyw daliadau tuag at y ddyled
nad ydych chi, neu rywun sy'n eich cynrychioli chi, wedi ysgrifennu at y credydwr yn dweud mai eich dyled chi yw hi
nad yw’r credydwr wedi mynd i’r llys am y ddyled
Gwiriwch ddyddiad y tro diwethaf i chi wneud taliad er mwyn gweld a yw eich dyled o fewn y terfyn amser.
Os ydych chi'n gwybod bod eich dyled yn dal i fod o fewn y terfyn amser ac nad yw’n waharddedig trwy statud, dylech chi wneud yn siŵr eich bod chi wedi casglu gwybodaeth am eich holl ddyledion.
Os yw eich dyled y tu allan i'r terfyn amser ac yn waharddedig trwy statud, dylech chi ddefnyddio hyn fel amddiffyniad os oes rhaid i chi fynd i'r llys. Os na fyddwch chi’n amddiffyn eich achos, bydd y llys yn gwneud dyfarniad. Bydd dyfarniad yn aros ar eich ffeil gredyd am 6 blynedd a gallai ei gwneud hi'n anoddach i chi gael credyd.
Gallwch chi ddod o hyd i fwy o wybodaeth am beth i’w wneud os ydych chi’n gorfod mynd i’r llys dros ddyled..
Cysylltu â’ch credydwyr
Os oes angen i chi wirio manylion dyled, gallwch ffonio'ch credydwr. Mae'n bwysig nad ydych chi'n cysylltu â chredydwr yn ysgrifenedig os ydych chi'n credu y gallai'r ddyled fod yn waharddedig trwy statud. Mae hyn yn cynnwys anfon neges destun neu e-bost, neu siarad â nhw mewn sgwrs ar-lein.
Gallai ysgrifennu atynt wneud iddo edrych fel eich bod chi'n cytuno bod arnoch chi arian iddynt. Gallai hyn ailosod y terfyn amser - mae hyn yn golygu y bydd 6 blynedd arall cyn i'r ddyled fod yn waharddedig trwy statud.
Os nad ydych chi'n siŵr a yw eich dyled yn waharddedig trwy statud, neu os ydych chi'n meddwl y bydd eich dyled yn waharddedig trwy statud cyn bo hir, cysylltwch â’ch Cyngor ar Bopeth agosaf.
Os nad ydych chi wedi cyrraedd y terfyn amser eto, bydd gwneud taliad i'ch credydwr wastad yn ailosod y terfyn amser. Hyd yn oed os mai dim ond taliad bach ydyw, neu os oes rhywun arall yn gwneud taliad ar eich rhan.
Os yw eich dyled mewn enwau ar y cyd
Gwiriwch a yw'r person arall wedi cyfaddef yn ysgrifenedig mai nhw biau'r ddyled a phryd oedd y tro diwethaf iddynt wneud taliad.
Caiff y terfyn amser o 6 blynedd ei ailosod ar gyfer y person hwnnw yn unig os oes un ohonoch chi’n ysgrifennu at y credydwr. Caiff y terfyn amser ei ailosod i'r ddau ohonoch chi os oes un ohonoch chi’n gwneud taliad.
Os yw’r terfyn amser wedi pasio a bod eich credydwyr yn dal i gysylltu â chi
Os ydych chi'n gwybod bod eich dyled yn waharddedig trwy statud, gallwch chi ysgrifennu at y credydwr i'w hatal rhag cysylltu â chi am y peth. Dylech gynnwys datganiad sy’n dweud ‘Dydw i ddim yn cyfaddef unrhyw atebolrwydd am eich hawliad'. Peidiwch â dweud nad ydych chi'n siŵr faint o arian sydd arnoch chi, neu eich bod chi'n meddwl bod y swm yn anghywir.
Gallwch ddefnyddio llythyr enghreifftiol y Llinell Ddyled Genedlaethol i ysgrifennu at eich credydwr.
Gofynnwch i Swyddfa’r Post am brawf postio am ddim - efallai y bydd angen i chi ddangos pryd anfonoch chi'r llythyr at eich credydwr.
Gallech chi hefyd anfon y llythyr drwy wasanaeth dosbarthiad a gofnodwyd – bydd rhaid i chi dalu os gwnewch chi hyn.
Os yw eich credydwr yn dal i ddadlau nad yw eich dyled yn waharddedig trwy statud, bydd yn rhaid iddynt fynd i'r llys i brofi hynny. Os yw eich credydwr yn anfon papurau’r llys atoch chi am ddyled sy’n waharddedig trwy statud yn eich barn chi, dylech chi gael help eich Cyngor ar Bopeth agosaf.
Os yw credydwr yn parhau i gysylltu â chi am ddyled sy’n waharddedig trwy statud ar ôl i chi anfon y llythyr atynt, gallwch gwyno i’r credydwr. Os nad ydych chi'n fodlon â'u hymateb, gallwch gwyno i'r Ombwdsmon Ariannol.
Gwasanaeth Ombwdsmon Ariannol
Ffôn: 0800 023 4567
Llun - Gwener, 8am i 5pm
Mae galwadau am ddim o ffonau symudol a llinellau tir.
Os anfonir papurau’r llys atoch chi
Os yw eich credydwr eisiau cychwyn achos llys yn eich erbyn, fe gewch chi bapurau’r llys yn y post. Mae'n bwysig eich bod yn ymateb erbyn y dyddiad cau sydd wedi'i ysgrifennu ar bapurau'r llys.
Os ydych chi’n derbyn papurau’r llys am ddyled sy’n waharddedig trwy statud yn eich barn chi, mae angen i chi esbonio hyn pan fyddwch chi'n llenwi'r papurau. Gallwch chi gael help wrth eich Cyngor ar Bopeth agosaf.
Os anfonir gorchymyn llys atoch chi
Os oes credydwr wedi cymryd achos llys ein eich erbyn chi, fe gewch chi orchymyn llys yn y post. Unwaith y bydd gennych orchymyn llys, mae'n rhy hwyr honni bod y ddyled yn waharddedig trwy statud.
Os ydych chi'n credu bod y ddyled eisoes yn waharddedig trwy statud pan wnaeth y credydwr gais am orchymyn llys, efallai y byddwch yn gallu newid y gorchymyn llys.
Bydd y gorchymyn llys yn dweud wrthych am dalu’r arian yn ôl i’r credydwr, ac yn egluro sut mae’n rhaid i chi dalu. Efallai y bydd yn dweud wrthych chi am dalu'r swm yn llawn ar unwaith, neu mewn rhandaliadau misol. Mae'n bwysig eich bod chi'n cadw at delerau'r gorchymyn. Os na allwch chi fforddio'r hyn y mae'r llys wedi’i orchymyn i chi ei dalu, efallai y byddwch yn gallu newid y gorchymyn llys.
Gwirio a herio dyledion
Mae’n bwysig gwirio os ydych chi’n atebol am ddyled er mwyn i chi wybod os dylech chi wneud trefniadau i'w had-dalu. Mae sut rydych chi'n gwirio yn dibynnu ar ba fath o ddyled yw hi.
Os nad ydych chi'n credu eich bod chi'n atebol am ddyled, efallai y byddwch chi'n gallu ei herio.
Os oes gennych chi ôl-ddyledion y dreth gyngor
Os ydych chi'n atebol am fil y dreth gyngor ac wedi methu taliad, mae'n bwysig eich bod chi'n cysylltu â'ch awdurdod lleol cyn gynted â phosib. Gallwch gael mwy o help i ddelio ag ôl-ddyledion y dreth gyngor.
Fel arfer, bydd yn rhaid i chi dalu'r dreth gyngor ar gyfer yr eiddo rydych chi'n byw ynddo. Mae'n werth gwirio a yw perchennog yr eiddo yn atebol i dalu, hyd yn oed os nad ydynt yn byw yno. Er enghraifft, bydd y perchennog yn atebol os yw pawb sy'n byw yn y tŷ:
yn byw yn eu rhannau eu hunain o'r adeilad, ar wahân
yno dros dro, er enghraifft mewn rhai hosteli
yn geisiwr lloches
Os ydych chi’n byw gyda phobl eraill, er enghraifft tenant arall neu bartner, fel arfer byddwch yn atebol ar y cyd am dalu'r dreth gyngor ac unrhyw ôl-ddyledion.
Os ydych chi’n atebol ar y cyd, mae pob person yn gyfrifol am y bil cyfan, nid rhan ohono’n unig. Mae hyn yn golygu, os oes rhywun yn symud heb dalu, byddwch dal yn atebol am y bil cyfan. Gall y cyngor ofyn i unrhyw un o'r bobl sy’n atebol dalu swm y bil yn llawn.
Herio ôl-ddyledion y dreth gyngor
Efallai y gallwch chi herio bil y dreth gyngor os:
nad ydych chi’n credu mai chi sy’n atebol amdano
ydych chi’n credu bod yr eiddo wedi'i eithrio'n barhaol rhag y dreth gyngor, er enghraifft os yw'n neuadd breswyl i fyfyrwyr neu'n llety i'r lluoedd arfog
ydych chi’n credu bod yr eiddo wedi’i eithrio dros dro, er enghraifft os yw wedi’i adael yn wag oherwydd ei fod wedi’i adfeddu, neu os oes rhywun wedi marw neu yn yr ysbyty
Darllenwch fwy am bwy sy’n gorfod talu’r dreth gyngor ac eithriadau’r dreth gyngor.
Os ydych chi'n credu bod angen i chi herio bil y dreth gyngor, dylech gysylltu â’ch cyngor lleol. Gallwch wirio eich cyngor lleol ar GOV.UK os oes angen.
Os nad ydych chi'n siŵr a ydych chi'n atebol am fil y dreth gyngor, cysylltwch â’ch Cyngor ar Bopeth agosaf.
Os oes gennych chi ôl-ddyledion rhent
Os wnaethoch chi lofnodi cytundeb tenantiaeth, byddwch chi’n gyfrifol am unrhyw ôl-ddyledion rhent.
Os nad oes gennych gytundeb tenantiaeth, efallai eich bod wedi cytuno â'ch landlord pwy oedd yn atebol pan wnaethoch chi symud. Gwiriwch a oes gennych unrhyw dystiolaeth o'r hyn a gytunwyd - gallai hyn gynnwys e-byst, llythyrau, negeseuon testun neu gofnodion o daliadau mewn llyfr rhent.
Os oes gennych chi ôl-ddyledion rhent, dylech siarad â’ch landlord cyn gynted â phosib. Talwch beth allwch chi a gofynnwch am fwy o amser i dalu'r rhent yn ôl. Gallai eich landlord eich troi allan os na wnewch chi hynny. Gallwch gael mwy o help i ddelio gyda’ch ôl-ddyledion rhent.
Os ydych chi’n herio eich ôl-ddyledion rhent
Yn dibynnu ar eich tenantiaeth, mae yna risg y gallai eich landlord geisio eich troi allan os wnewch chi herio eich ôl-ddyledion rhent. Fel arfer, byddwch yn derbyn hysbysiad adran 8 neu adran 21 os yw eich landlord eisiau eich troi allan.
Gwiriwch beth i’w wneud os gewch chi hysbysiad adran 8. Gwiriwch beth i’w wneud os gewch chi hysbysiad adran 21.
Os nad ydych chi'n credu eich bod chi'n atebol am ôl-ddyledion rhent ac eisiau herio'ch landlord, dylech gysylltu â’ch Cyngor ar Bopeth agosaf.
Os ydych chi’n rhannu’r denantiaeth gyda phobl eraill
Os ydych chi wedi llofnodi cytundeb tenantiaeth ar y cyd, bydd pawb a lofnododd yn atebol ar y cyd am unrhyw ôl-ddyledion rhent. Os oes un person yn gadael heb dalu rhent, gall y landlord ddal y tenantiaid eraill yn gyfrifol am dalu eu hôl-ddyledion rhent.
Os ydych chi’n warantwr
Os wnaethoch chi gytuno i fod yn warantwr i rywun ac nad ydynt yn talu eu rhent, gall eu landlord ofyn i chi dalu.
Os wnaethoch chi gytuno i fod yn warantwr i rywun sy’n atebol ar y cyd am rent gyda phobl eraill, gallech chi hefyd fod yn atebol am rent y tenantiaid eraill os nad ydynt yn ei dalu.
Os ydych chi’n warantwr, dylech gael cytundeb gwarant ysgrifenedig wedi'i lofnodi sy'n egluro pryd y gallech chi fod yn atebol. Dylech hefyd fod wedi cael copi o'r cytundeb tenantiaeth.
Os nad ydych chi wedi talu eich bil dŵr
Chi fydd yn gyfrifol am y bil dŵr lle rydych chi’n byw. Bydd pawb sy’n byw gyda chi yn atebol ar y cyd, hyd yn oed os nad yw eu henwau ar y bil.
Ni fydd eich dŵr yn cael ei ddatgysylltu os na wnewch chi dalu eich bil oni bai eich bod yn rhedeg busnes yn yr eiddo. Gwiriwch beth all ddigwydd os nad ydych chi’n talu eich bil dŵr.
Os ydych chi'n cael trafferth talu gallwch chi gael help i dalu am eich biliau dŵr.
Talu biliau dŵr os ydych chi’n rhentu
Efallai y byddwch chi’n talu am ddŵr fel rhan o’ch rhent. Gwiriwch eich cytundeb tenantiaeth os nad ydych chi’n siŵr.
Os nad oes gennych gytundeb tenantiaeth, gwiriwch a oes gennych unrhyw dystiolaeth o'r hyn a gytunwyd pan wnaethoch chi symud i mewn. Gallai hyn gynnwys e-byst, llythyrau neu negeseuon testun.
Os yw dŵr wedi’i gynnwys, mae yna reolau i wneud yn siŵr nad ydych chi'n talu gormod am eich dŵr. Gallwch ddarllen mwy am dalu eich bil dŵr os ydych chi’n denant.
Os ydych chi’n symud allan
Gwnewch yn siŵr eich bod yn dweud wrth eich cwmni dŵr os ydych chi’n symud allan. Os byddwch chi'n rhoi rhybudd o 2 ddiwrnod gwaith neu fwy cyn i chi symud, byddwch chi'n atebol tan y dyddiad y byddwch chi'n symud.
Os na fyddwch chi’n rhoi rhybudd o 2 ddiwrnod ymlaen llaw, byddwch yn atebol tan y dyddiad cynharaf o’r:
28ain diwrnod ar ôl i chi ddweud wrthynt eich bod yn symud
pan fydd meddiannydd newydd yn dweud wrth y cwmni dŵr eu bod nhw wedi symud i mewn
dyddiad y byddai'r mesurydd yn cael ei ddarllen neu’n cael ei ddarllen fel arfer (os oes mesurydd)
Darllenwch fwy am symud cartref a biliau dŵr.
Herio bil dŵr
Os ydych chi’n credu bod eich bil yn anghywir, dylech gysylltu â’ch cwmni dŵr ac egluro pam rydych chi’n credu ei fod yn anghywir. Dylech allu dod o hyd i’w manylion cyswllt ar eich bil.
Os nad ydych chi’n hapus gydag ymateb eich cwmni dŵr, gallwch wneud cwyn am eich cwmni dŵr.
Os ydych chi'n credu nad ydych chi'n atebol am fil dŵr, neu os yw eich bil yn rhy uchel, gwiriwch:
pryd wnaethoch chi symud i mewn ac allan o'r eiddo, os yw'r bil ar gyfer rhywle roeddech chi'n arfer byw ynddo
os a phryd y dywedoch chi wrth eich cwmni dŵr eich bod chi'n symud, os yw'r bil ar gyfer rhywle roeddech chi'n arfer byw ynddo
unrhyw ollyngiadau, y tu mewn i'ch eiddo neu'r tu allan, os oes gennych chi fesurydd dŵr
Os cysylltwyd â chi ynglŷn â gordaliad budd-dal neu gredyd treth
Efallai eich bod wedi cael gwybod eich bod wedi cael eich gor-dalu drwy gamgymeriad, neu oherwydd bod rhywfaint o wybodaeth amdanoch chi’n anghywir pan wnaed y penderfyniad ynglŷn â’r budd-dal.
Darllenwch beth i'w wneud os dywedwyd:
Os oes gennych chi ôl-ddyledion morgais
Os llofnodoch chi'r cytundeb morgais byddwch yn atebol am unrhyw ôl-ddyledion morgais. Os llofnodoch chi'r cytundeb gyda rhywun arall byddwch yn atebol ar y cyd am unrhyw ôl-ddyledion.
Os ydych chi wedi llofnodi'r cytundeb morgais, byddwch chi'n atebol am unrhyw ôl-ddyledion morgais. Os ydych chi wedi llofnodi'r cytundeb gyda rhywun arall, byddwch chi'n atebol ar y cyd am unrhyw ôl-ddyledion.
Os ydych chi'n gwybod eich bod chi'n mynd i fethu taliad morgais, dylech chi siarad â'ch cwmni morgais cyn gynted â phosib. Gallech chi golli'ch cartref os byddwch chi'n methu ad-daliadau morgais.
Os wnewch chi gysylltu â’ch cwmni morgais, efallai y byddant yn gadael i chi leihau eich ad-daliadau neu gymryd seibiant rhag talu am gyfnod. Siaradwch â nhw cyn gynted â phosib fel y gallwch ddechrau delio ag ôl-ddyledion morgais.
Os cafodd eich eiddo ei adfeddu ac mae gennych chi ôl-ddyledion morgais o hyd
Gwiriwch y dyddiad y gwerthwyd yr eiddo, a'r dyddiad y gwnaethoch chi’r taliad diwethaf i'r cwmni morgais.
Mae’n rhaid i’ch cwmni morgais gysylltu â chi o fewn 6 blynedd i werthu'r tŷ i ofyn i chi ad-dalu unrhyw ôl-ddyledion. Os na fyddant yn gwneud hynny, efallai na fydd yn rhaid i chi dalu. Os cysylltwyd â chi ynglŷn ag ôl-ddyledion morgais o eiddo a werthwyd dros 6 mlynedd yn ôl, dylech gysylltu â’ch Cyngor ar Bopeth agosaf.
Os cysylltwyd â chi ynglŷn ag ôl-ddyledion morgais o eiddo a werthwyd yn ystod y 6 blynedd diwethaf, fel arfer, bydd hynny oherwydd bod arnoch chi arian ar brif swm y morgais (y cyfalaf).
Siaradwch â'r benthyciwr morgais i drefnu i dalu'r ôl-ddyledion. Os na wnewch chi hynny, mae ganddynt 12 mlynedd o'r dyddiad y gwnaethoch chi fethu taliad i fynd â chi i'r llys.
Os ydynt yn cysylltu â chi ynglŷn â’r llog sydd arnoch chi ac nad ydych chi'n trefnu i'w dalu, dim ond 6 blynedd sydd ganddynt i fynd â chi i'r llys.
Os na fyddant yn cymryd camau o fewn y terfyn amser, ni all eich cwmni morgais fynd â chi i'r llys i ad-dalu'r arian.
Os oes gennych chi ddyled credyd
Os ydych chi wedi llofnodi cytundeb credyd, fel arfer byddwch chi'n gyfrifol am dalu'r ddyled credyd yn ôl. Nid ydych chi'n gyfrifol am ddyled os nad ydych chi wedi'ch enwi ar y cytundeb credyd neu os nad ydych chi wedi llofnodi'r cytundeb. Er enghraifft, efallai eich bod chi'n ddeiliad ychwanegol awdurdodedig ar gerdyn credyd ond oherwydd nad chi yw prif ddeiliad y cerdyn a heb lofnodi'r cytundeb credyd, nid chi sy’n gyfrifol am y ddyled.
Mae dyled credyd, neu ‘arian a fenthycwyd’ yn cynnwys:
cardiau credyd
benthyciadau banc a benthyciadau diwrnod cyflog
gorddrafftiau
cardiau siopau
nwyddau a brynwyd ar hurbwrcas
Os byddwch chi'n benthyca arian neu nwyddau fel hyn, y gyfraith sy'n amddiffyn eich hawliau yw’r Ddeddf Credyd Defnyddwyr.
Os nad yw credydwr wedi cysylltu â chi ynglŷn â dyled credyd o fewn y terfyn amser o 6 blynedd, ni allant eich gorfodi i'w thalu'n ôl. Ni allant eich gorfodi i dalu chwaith os oedd problemau gyda'r cytundeb gwreiddiol, er enghraifft os nad oeddent wedi cynnwys y wybodaeth gywir am sut byddai'r arian yn cael ei dalu'n ôl.
Os ydych chi’n warantwr i rywun arall
Os gwnaethoch chi gytuno i fod yn warantwr i rywun arall ac nad ydynt yn talu’r taliadau, gall y credydwr ofyn i chi wneud y taliadau.
Os ydych chi'n warantwr, dylech chi gael cytundeb gwarant wedi'i lofnodi sy'n egluro pryd gallech chi fod yn atebol.
Os gwnaethoch chi fenthyg nwyddau ar gytundeb hurbwrcas
Os ydych chi wedi prynu rhywbeth ar gytundeb hurbwrcas, er enghraifft car neu beiriant golchi, dydych chi ddim yn berchen arno nes i chi dalu amdano'n llawn. Os byddwch chi'n methu â thalu, efallai y bydd y benthyciwr yn gallu cymryd y nwyddau yn ôl.
Mae gennych yr hawl i ddod â’r cytundeb hurbwrcas i ben unrhyw bryd, er enghraifft os na allwch chi fforddio'r taliadau mwyach. Os ydych chi eisiau dod â’r cytundeb i ben yn gynnar, dylech chi wneud hyn yn ysgrifenedig. Gallwch chi ddefnyddio ein llythyr enghreifftiol.
Os byddwch chi’n dod â’r cytundeb i ben yn gynnar, byddwch yn atebol am hanner y swm y cytunoch i’w dalu am y nwyddau. Bydd y benthyciwr yn tynnu’r swm rydych chi eisoes wedi’i dalu iddynt, ond efallai y bydd yn ychwanegu costau ychwanegol am ddod â’r cytundeb i ben.
Os yw eich benthyciwr yn dweud bod yn rhaid i chi dalu dros hanner y swm cyfan sy’n ddyledus cyn y gallwch chi ddod â'r cytundeb i ben, dylech chi gysylltu â’ch Cyngor ar Bopeth agosaf.
Os ydych chi'n cael trafferth talu, mae'n well dod â'r cytundeb i ben eich hun. Os bydd eich benthyciwr yn dod â'r cytundeb i ben, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu costau ychwanegol. Pwy bynnag sy'n dod â'r cytundeb i ben, bydd yn rhaid i chi roi'r nwyddau yn ôl.
Os gwnaethoch chi fenthyg arian gyda rhywun arall
Os ydych chi wedi llofnodi cytundeb credyd gyda rhywun arall, byddwch chi'n gyfrifol ar y cyd am dalu'r ddyled yn ôl. Os bydd y person arall yn rhoi'r gorau i dalu, gall y credydwr eich gorfodi i dalu swm llawn y ddyled, nid dim ond eich cyfran chi.
Herio dyledion credyd
Mae cyfreithiau i'ch amddiffyn pan fyddwch chi'n benthyca arian. Efallai na fydd y credydwr yn gallu cymryd camau i wneud i chi dalu os:
na wnaethant roi cytundeb ysgrifenedig i chi yn dweud faint roeddech chi'n ei fenthyg, sut dylid ei dalu’n ôl a'ch hawliau i'w ganslo
na wnaethant wirio'n iawn y gallech chi fforddio'r ad-daliadau
wnaethon nhw eich trin chi’n annheg, er enghraifft fe wnaethon nhw werthu PPI i chi pan na ddylent fod wedi gwneud
na wnaethant anfon diweddariadau rheolaidd atoch am eich cyfrif a'r swm o arian sydd arnoch chi iddynt
ni wnaethoch chi fenthyg yr arian
fe gawsoch chi eich rhoi dan bwysau i lofnodi'r cytundeb credyd neu gytundeb y gwarantwr
ni allech chi ddeall beth roeddech chi'n ei lofnodi
roeddech chi o dan 18 oed pan wnaethoch chi lofnodi’r cytundeb
Cael help os nad ydych chi’n atebol am ddyled credyd
Yn y sefyllfaoedd hyn, efallai fod y ddyled yn anorfodadwy. Mae hyn yn golygu efallai na fydd y credydwr yn gallu eich gorfodi i dalu’r ddyled.
Gallwch chi gael help wrth eich Cyngor ar Bopeth agosaf os ydych chi'n credu y gallai dyled credyd fod yn anorfodadwy.
Dylech hefyd gael cymorth os yw credydwr yn cysylltu â chi’n gyson am ddyled nad ydych chi’n gyfrifol amdani yn eich barn chi.
Os nad ydych chi’n hapus gyda sut mae eich credydwr yn delio â’ch sefyllfa, dylech chi gysylltu â nhw i gwyno. Os nad ydych chi’n fodlon â’u hymateb, gallwch chi gwyno i’r Ombwdsmon Ariannol:
Gwasanaeth Ombwdsmon Ariannol
Ffôn: 0800 023 4567
Llun - Gwener, 8am i 8pm
Sadwrn, 9am i 1pm
Mae galwadau am ddim o ffonau symudol a llinellau tir.
Os cysylltwyd â chi ynglŷn ag ôl-ddyledion cynhaliaeth plant
Os cewch chi fil am gynhaliaeth plant dylech chi wneud y canlynol:
gofyn am gyfriflen fanwl a’i gwirio yn erbyn yr hyn rydych chi'n meddwl eich bod chi wedi'i dalu
gwirio faint o gynhaliaeth plant rydych chi’n ei dalu – defnyddiwch y gyfrifiannell cynhaliaeth plant ar GOV.UK i wirio eich bod yn talu’r swm iawn
gwirio eich bod wedi dweud wrth y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant (CMS) am unrhyw newidiadau yn eich amgylchiadau - gall hyn effeithio ar y swm y dylech ei dalu
Os ydych chi'n credu bod y swm yn anghywir, efallai y byddwch chi'n gallu apelio neu ofyn am adolygiad. Dylech chi gysylltu â'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant. Gwiriwch sut i gysylltu â’r CMS ar GOV.UK
Os nad ydych chi’n talu eich cynhaliaeth plant, mae'r camau y gellir eu cymryd yn dibynnu ar y math o drefniant sydd gennych. Gwiriwch beth i’w wneud os oes arnoch chi arian am gynhaliaeth plant.
Os yw eich ôl-ddyledion cynhaliaeth plant oherwydd taliadau wnaethoch chi eu methu amser maith yn ôl, efallai y bydd modd eu dileu. Bydd hyn yn dibynnu ar ba fath o gytundeb cynhaliaeth plant oedd gennych. Ni fyddwch yn gallu dileu’r ôl-ddyledion os dylech chi fod yn talu cynhaliaeth plant o hyd.
Os ydych chi’n credu bod eich ôl-ddyledion cynhaliaeth plant yn hen ac yn ansicr os oes rhaid i chi dalu, gofynnwch am help eich Cyngor ar Bopeth agosaf.
Camau nesaf
Ystyriwch pa ddyledion i fynd i’r afael â nhw’n gyntaf
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.
Adolygwyd y dudalen ar 22 Chwefror 2019