Get help if you're behind with your energy bills

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Siaradwch â chynghorydd ynni

Ffoniwch ein llinell gymorth defnyddwyr ar 0808 223 1133.

Relay UK - os na allwch glywed neu siarad ar y ffôn, gallwch deipio'r hyn rydych am ei ddweud: 18001 yna 0808 223 1133

Gallwch ddefnyddio Relay UK gydag ap neu ffôn testun. Nid oes tâl ychwanegol i'w ddefnyddio. Dysgwch sut i ddefnyddio Relay UK ar wefan Relay UK.

Mae'r llinellau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm. Mae llinellau ar gau ar wyliau banc.

I gysylltu â chynghorydd sy’n siarad Cymraeg: 0808 223 1144

Bydd cynghorydd yn ateb eich galwad cyn gynted â phosibl, fel arfer o fewn ychydig funudau. Unwaith y byddwch yn siarad â chynghorydd, dylai eich galwad gymryd 8 i 10 munud ar gyfartaledd.

Mae galwadau o ffonau symudol a llinellau tir am ddim.

Gwiriwch y gwahanol ffyrdd o gysylltu â llinell gymorth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth.

Os ydych chi’n cael trafferth fforddio eich biliau nwy a thrydan, cysylltwch â’ch cyflenwr i drafod ffyrdd o dalu’r hyn sy’n ddyledus iddyn nhw.

Mae'n rhaid i'ch cyflenwr eich helpu i ddod o hyd i ddatrysiad. Dylech geisio dod i gytundeb sy’n gweithio i’r ddau ohonoch.

Os na fyddwch yn ceisio negodi gyda’ch cyflenwr, efallai y byddant yn bygwth eich datgysylltu. Gwiriwch i weld beth i’w wneud os ydych chi wedi cael gwybod y bydd eich cyflenwad ynni’n cael ei ddatgysylltu. 

Os ydych chi wedi methu taliadau oherwydd y coronafeirws, dylech egluro hyn i’ch cyflenwr. Efallai y byddant yn cytuno i beidio â’ch datgysylltu. Er enghraifft, dywedwch wrthynt os yw eich incwm wedi cael ei effeithio gan symptomau tymor hir. 

Os nad yw eich cyflenwr yn eich datgysylltu, dylech fynd ati i drefnu i dalu’r hyn sy’n ddyledus iddynt. Mae hyn yn eich diogelu rhag cael eich datgysylltu yn y dyfodol.

Dysgwch sut mae cysylltu â’ch cyflenwr i drafod problem.

Gall y dudalen hon eich helpu os byddwch yn talu am eich ynni ar ôl i chi ei ddefnyddio - er enghraifft trwy ddebyd uniongyrchol misol neu fil chwarterol. Mae gwahanol bethau y dylech eu gwneud os na allwch fforddio ychwanegu at eich mesurydd talu ymlaen llaw.

Os oes gennych fwy nag un ddyled

Mae ôl-ddyledion ynni yn 'ddyledion â blaenoriaeth'. Mae hyn yn golygu bod angen i chi eu talu cyn dyledion fel cardiau credyd. Os oes gennych fwy nag un ddyled, cyfrifwch pa ddyledion i'w talu gyntaf. 

Cytuno ar gynllun talu â’ch cyflenwr

Dywedwch wrth eich cyflenwr eich bod am dalu eich dyledion mewn rhandaliadau fel rhan o gynllun talu.

Byddwch yn talu symiau penodol dros gyfnod penodol o amser, sy'n golygu y byddwch yn talu'r hyn y gallwch ei fforddio. Bydd y cynllun talu’n talu’r hyn sy’n ddyledus, ynghyd â swm ar gyfer eich defnydd presennol.

Rhaid i’ch cyflenwr ystyried y canlynol:

  • faint y gallwch fforddio'i dalu - rhowch fanylion am eich incwm a'ch gwariant, eich dyledion a'ch amgylchiadau personol

  • faint o ynni y byddwch yn ei ddefnyddio yn y dyfodol - byddant yn amcangyfrif hyn ar sail eich defnydd yn y gorffennol, ond dylech roi darlleniadau mesurydd rheolaidd iddynt i wneud hyn yn fwy cywir

Os nad ydych chi’n siŵr faint allwch chi fforddio ei dalu, defnyddiwch ein hadnodd cyllidebu i’ch helpu.

Enghraifft

Mae arnoch chi £400 i’ch cyflenwr am ddyledion. Yn hytrach na thalu hyn ar unwaith, rydych chi’n siarad â’ch cyflenwr – rydych chi’n dweud wrthyn nhw mai’r uchafswm y gallwch chi fforddio ei dalu ydy £40 yr wythnos. Rydych chi’n cytuno â nhw i dalu £10 yr wythnos i dalu’r ddyled, a £30 yr wythnos i dalu am eich defnydd presennol o ynni nes bydd y ddyled wedi’i thalu.

Os na allwch chi fforddio'r cynllun talu

Siaradwch â'ch cyflenwr eto os ydych chi'n meddwl eu bod yn codi gormod arnoch chi neu os ydych chi'n cael trafferth fforddio'r ad-daliadau. Gallwch geisio negodi bargen well. Os na fyddwch chi’n gwneud hynny, efallai y bydd eich cyflenwr yn gwneud yn siŵr bod mesurydd talu ymlaen llaw wedi’i osod.

Gwirio a oes sgam ynni ar waith

Mae rhai sgamwyr yn esgus eu bod yn gweithio i gwmnïau ynni i gael eich gwybodaeth bersonol.

Os ydych chi’n meddwl y gallai rhywbeth fod yn sgam:

  • peidiwch â rhannu unrhyw wybodaeth bersonol na’ch manylion banc

  • peidiwch â defnyddio unrhyw fanylion cyswllt o’r sgâm posibl

Gallwch wirio a yw rhywbeth yn sgam.

Talu eich dyled drwy eich budd-daliadau

Efallai byddwch chi’n gallu ad-dalu eich dyled yn uniongyrchol o’ch budd-daliadau drwy'r Cynllun Tanwydd Uniongyrchol.

Bydd swm penodol yn cael ei dynnu’n awtomatig o’ch budd-daliadau i dalu’r hyn sy’n ddyledus gennych. Os ydych chi’n cytuno, efallai y byddant yn cymryd swm ychwanegol ar gyfer eich defnydd presennol.

Gall fod yn fwy cyfleus na gosod mesurydd talu ymlaen llaw (efallai y bydd eich cyflenwr yn ceisio gwneud hyn os na allwch gytuno ar gynllun talu) ac ni fyddwch mewn perygl o redeg allan o nwy neu drydan.

I fod yn gymwys, rhaid i chi fod yn cael un o'r budd-daliadau canlynol:

  • Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm

  • Cymhorthdal Incwm

  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm

  • Credyd Pensiwn

  • Credyd Cynhwysol 

Os ydych chi'n cael Credyd Cynhwysol a'ch bod yn gweithio, dim ond os yw eich enillion yn llai na'ch 'lwfans gwaith' y byddwch yn gymwys ar gyfer y Cynllun Tanwydd Uniongyrchol. Os nad ydych yn sicr, cysylltwch â’r Ganolfan Waith.

Gwneud cais am y Cynllun Tanwydd Uniongyrchol

Os ydych chi'n cael Credyd Pensiwn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Pensiwn. Os ydych chi'n cael budd-dal arall, cysylltwch â'r Ganolfan Waith.  Dywedwch wrthynt eich bod am ymuno â'r Cynllun Tanwydd Uniongyrchol. Byddant yn cysylltu â'ch cyflenwr ac yn dweud wrthynt eich bod am ad-dalu'ch dyled o dan y Cynllun Tanwydd Uniongyrchol - rhaid i'ch cyflenwr gytuno i hynny.

Bydd eich cyflenwr yn trefnu'r ad-daliadau ac yn rhoi gwybod i chi faint y byddwch yn ei dalu.

Talu eich biliau nwy a thrydan drwy fudd-daliadau

Os ydych chi eisoes yn talu dyledion ynni drwy eich budd-daliadau, gallwch hefyd ofyn am gael dechrau talu eich biliau ynni'n uniongyrchol o'ch budd-daliadau.

Cysylltwch â'ch cyflenwr ynni i drefnu hyn ar eich rhan. Bydd angen i chi:

  • gyflwyno darlleniad mesurydd i sicrhau bod eich bil yn gywir

  • rhoi eich caniatâd iddynt - naill ai dros y ffôn neu'n ysgrifenedig

  • cytuno ar swm sy'n talu cost yr ynni a ddefnyddiwch

Gall eich cyflenwr ofyn i chi ddechrau talu am eich biliau ynni drwy eich budd-daliadau. Rhaid i chi gytuno cyn y gellir cymryd unrhyw daliadau. 

Os ydych chi eisoes yn talu trwy eich budd-daliadau, gall eich cyflenwr ofyn i chi gynyddu'r swm. Rhaid i chi gytuno cyn y gellir newid y swm. 

Os gallwch fforddio cynyddu'r taliadau o'ch budd-daliadau, gall eich helpu i osgoi mynd i fwy o ddyled. Os byddwch chi’n mynd i fwy o ddyled, efallai y bydd eich cyflenwr yn eich gorfodi i osod mesurydd talu ymlaen llaw.

Os na fyddwch yn dod i gytundeb

Os nad ydych chi’n gallu cytuno ar gynllun talu gyda’ch cyflenwr, neu os nad ydych chi’n glynu wrth gynllun rydych chi wedi cytuno arno o’r blaen, efallai y bydd eich cyflenwr yn ceisio eich gorfodi i osod mesurydd talu ymlaen llaw.

Mewn achosion prin iawn, efallai y bydd eich cyflenwr yn bygwth eich datgysylltu.

Gwirio a allwch chi gael grant i helpu i dalu eich dyled ynni

Os ydych chi mewn dyled i'ch cyflenwr ynni, efallai y gallwch gael grant i helpu i'w dalu.

Mae’r cyflenwyr ynni canlynol yn cynnig grantiau i’w cwsmeriaid:

Os nad yw eich cyflenwr wedi'i restru, mae'n syniad da cysylltu â nhw'n uniongyrchol i weld pa gymorth ychwanegol y gallant ei roi i chi.

Os na allwch gael grant gan eich cyflenwr, efallai y gallwch gael grant gan British Gas Energy Trust. Mae’r grantiau hyn ar gael i unrhyw un – does dim rhaid i chi fod yn gwsmer i British Gas.

Bydd angen i chi gael cyngor ar ddyledion cyn gwneud cais.

Os ydych eisoes wedi siarad â chynghorydd dyled, gwiriwch a allwch gael grant gan British Gas Energy Trust.

Cyn i chi wneud cais

Pan fyddwch chi’n gwneud cais am grant, bydd rhaid i chi ddarparu manylion eich sefyllfa ariannol fel rhan o’ch cais. Gallai gymryd peth amser i’w gwblhau, ac efallai y byddai’n werth cael help gan ffrind neu aelod o’r teulu.

Siaradwch â chynghorydd os oes angen help arnoch i lenwi ffurflenni. Mae'n werth gwirio gwefan yr ymddiriedolaeth neu'r gronfa i weld a oes unrhyw beth arall y mae angen i chi ei wneud cyn gwneud cais.

Er enghraifft, os mai E.ON Next neu EDF yw eich cyflenwr, bydd angen i chi ddangos eich bod wedi llenwi taflen gyllideb gyda chynghorydd cymeradwy’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA). Er mwyn gwneud hyn:

  1. Dewch o hyd i gynghorydd drwy ddefnyddio'r lleolydd cyngor am ddyledion ar wefan Money Helper.

  2. Gwiriwch a yw'r cynghorydd neu ei gwmni ar gofrestr yr FCA.

  3. Cysylltwch â’r cynghorydd i drefnu sgwrs lle byddwch yn llenwi taflen gyllideb.

Gallwch baratoi ar gyfer eich sgwrs drwy ddefnyddio’r Budget Planner ar wefan Money Helper.

Rhagor o gymorth

Os na allwch chi ddod i gytundeb gyda’ch cyflenwr ynghylch ad-dalu eich dyled, neu os nad ydych chi’n fodlon â’r opsiwn maen nhw wedi’i roi i chi, cysylltwch â llinell gymorth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth i gael cyngor.

Os ydych chi'n cael trafferth gyda phroblemau dyled, holwch sut i gael help gyda dyled.

Os ydych chi’n ei chael hi’n anodd gyda chostau byw

Os ydych chi’n cael trafferth gydag arian, mae yna bethau y gallwch chi eu gwneud i arbed ar eich costau byw beunyddiol. Gwiriwch beth i'w wneud os oes angen help arnoch gyda chostau byw.

Os ydych chi’n ei chael hi’n anodd talu’ch biliau, gallwch chi gael cymorth. Dysgwch fwy am gael help gyda'ch biliau.

Gallwch hefyd gael help gyda dyledion.

Os ydych chi'n cael trafferth talu am fwyd, dysgwch fwy am gael help gan fanc bwyd.

Os ydych chi'n ei chael hi’n anodd

Mae eich iechyd meddwl yr un mor bwysig â'ch iechyd corfforol. Dylech siarad â'ch meddyg teulu os yw eich problemau ariannol yn effeithio ar eich iechyd meddwl.

Gallwch ddod o hyd i ffyrdd eraill o gael help gyda'ch iechyd meddwl ar wefan Mind. 

Os oes angen i chi siarad â rhywun ar hyn o bryd gallwch ffonio'r Samariaid am ddim.

Samariaid

Llinell gymorth: 116 123 (dydd Llun i ddydd Sul ar unrhyw adeg)

Llinell Gymraeg: 0808 164 0123 (dydd Llun i ddydd Sul 7pm tan 11pm)

Shout

Gallwch hefyd anfon neges destun i 'SHOUT' i 85258 i ddechrau sgwrs gyda gwirfoddolwr Shout hyfforddedig. Mae’r negeseuon testun am ddim, yn ddienw ac yn gyfrinachol o unrhyw le yn y DU.

Os ydych chi'n meddwl ei fod yn argyfwng

Os ydych chi'n meddwl bod eich bywyd chi neu rywun arall mewn perygl, dylech ffonio 999 neu fynd i’r Adran Damweiniau ac Achosion Brys os gallwch chi.

Gallwch hefyd ddod o hyd i restr o wasanaethau iechyd meddwl brys ar wefan Mind.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.