Dealing with rent arrears
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Os ydych ar ei hôl hi gyda’ch rhent byddwch mewn ‘ôl-ddyledion’. Mae hon yn fath o ddyled pan fydd arnoch chi rent i'ch landlord. Gallai eich landlord fod yn landlord preifat, yn gymdeithas tai neu'n gyngor. Byddwch mewn ôl-ddyledion cyn gynted ag y byddwch wedi methu taliad.
Dylech ddelio ag ôl-ddyledion cyn gynted ag y gallwch. Rydych yn debygol o gael eich troi allan os na fyddwch yn ei dalu. Hyd yn oed os na allwch dalu’r arian i gyd, gallai talu rhywfaint o’r arian dros amser eich atal rhag cael eich troi allan.
Cael cyfnod i anadlu os bydd angen amser ychwanegol arnoch
Os oes angen mwy o amser arnoch i drefnu sut i ddelio â’ch ôl-ddyledion, gallai’r cynllun cyfnod i anadlu sy’n cael ei gefnogi gan y llywodraeth eich helpu. Gallwch gael cyfnod i anadlu unrhyw amser.
Os ydych yn gymwys, gallech gael cyfnod i anadlu am 60 diwrnod pan na fydd eich landlord yn gallu:
cysylltu â chi ynglŷn ag ôl-ddyledion
eich gorfodi i dalu ôl-ddyledion
ychwanegu llog a thaliadau i’ch ôl-ddyledion
Bydd yn rhaid i chi barhau i dalu eich rhent fel arfer. Os ewch i ôl-ddyledion pellach ar ôl i chi ddechrau eich cyfnod i anadlu, gall eich landlord gysylltu â chi ynglŷn â’r rheini o hyd. Fel arfer dim ond unwaith bob 12 mis y gallwch gael cyfnod i anadlu.
I gael cyfnod i anadlu bydd angen i chi siarad â chynghorydd dyledion.
Gwirio a ydych yn gyfrifol am dalu
Mae’n bosibl na fyddwch yn gyfrifol am dalu’r holl ôl-ddyledion rhent os:
ydych yn byw gyda rhywun arall
ydych wedi cymryd drosodd cytundeb rhentu rhywun arall
Gwiriwch beth sy’n ddyledus gennych cyn i chi dalu unrhyw arian i'ch landlord.
Os ydych yn byw gyda rhywun arall
Os gwnaethoch lofnodi cytundeb rhentu gyda rhywun arall pan symudoch i mewn, bydd gennych ‘gontract meddiannaeth ar y cyd’ neu ‘gytundeb trwydded ar y cyd’. Er enghraifft, gallai hyn fod gyda'ch partner neu gyd-letywyr. Byddwch yn gyfrifol am dalu’r holl ôl-ddyledion gyda’ch gilydd. Os nad yw rhywun rydych yn byw gyda nhw yn talu eu hôl-ddyledion, mae’n debyg y bydd yn rhaid i chi ac unrhyw un arall ar y cytundeb dalu amdanynt.
Os nad oes gennych gytundeb rhentu ar y cyd, bydd pawb yr ydych yn byw gyda nhw wedi llofnodi cytundebau rhentu ar wahân. Dim ond y rhent y cytunwyd arno y bydd angen i chi ei dalu. Dylai eich taliadau rhent fod yn eich cytundeb rhentu eich hun. Mae hyn yn golygu na fyddwch yn gyfrifol am dalu ôl-ddyledion unrhyw un arall.
Gwiriwch pa fath o gytundeb rhent sydd gennych os ydych yn byw gyda phobl eraill.
Os gwnaethoch gymryd drosodd cytundeb rhentu rhywun arall
Byddwch ond yn gyfrifol am dalu rhent o’r dyddiad y dechreuodd eich cytundeb rhentu. Nid oes angen i chi dalu ôl-ddyledion sy’n ddyledus gan y person a oedd yn rhentu o’ch blaen chi.
Os bydd eich landlord yn gofyn i chi dalu ôl-ddyledion y person blaenorol, mae angen i chi atgoffa eich landlord pryd y gwnaethoch symud i mewn. Esboniwch nad eich ôl-ddyledion chi yw’r rhain. Gallwch ddangos eich cytundeb rhentu i brofi o pryd y dylech dalu rhent.
Os bydd eich landlord yn parhau i fod eisiau i chi dalu ôl-ddyledion y person blaenorol, siaradwch â chynghorydd.
Gwirio faint sy’n ddyledus gennych
Gwiriwch eich cyfriflenni banc ac unrhyw gofnodion ysgrifenedig eraill o’ch taliadau rhent. Er enghraifft, efallai bod gennych dderbynebau neu lyfr rhent.
Os nad oes gennych gofnod clir o’ch holl daliadau rhent, gofynnwch i’ch landlord am gyfriflen o faint o rent rydych wedi’i dalu.
Adiwch faint rydych wedi’i dalu a gweld faint sydd gennych ar ôl i’w dalu. Gwnewch yn siŵr bod y swm y mae’r landlord yn ei ddweud sy’n ddyledus gennych yn gywir – os nad yw, dywedwch wrth eich landlord.
Os telir eich budd-daliadau i’ch landlord
Gofynnwch faint mae eich landlord wedi’i dderbyn.
Gwiriwch unrhyw lythyrau sydd gennych gyda manylion eich taliadau budd-daliadau.
Os ydych yn cael Budd-dal Tai, gofynnwch i’ch cyngor – canfyddwch eich cyngor lleol ar GOV.UK. Os ydych yn cael Credyd Cynhwysol, cysylltwch â’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) – mae rhif DWP ar frig eich llythyr budd-daliadau.
Gwiriwch beth allwch chi fforddio ei dalu'n ôl
Gwiriwch yn gyntaf a allwch gael help ychwanegol gyda’ch incwm, er enghraifft gwiriwch i weld a allwch hawlio budd-daliadau. Yna edrychwch ar gyllideb eich cartref.
Hyd yn oed os nad oes gennych ddigon i dalu’r holl ôl-ddyledion, gwiriwch i weld a allwch dalu rhywfaint o’r arian bob mis.
Gwiriwch pa fudd-daliadau y gallwch eu cael
Mae llawer o bobl yn colli allan ar fudd-daliadau y mae ganddynt hawl iddynt – felly mae’n werth gwirio i weld beth allwch chi ei gael. Gallai hawlio budd-daliadau eich helpu i gael cymorth ariannol arall hefyd, fel taliadau costau byw. Gwiriwch i weld pa fudd-daliadau y gallwch eu cael.
Os ydych eisoes yn cael Budd-dal Tai neu’r Credyd Cynhwysol, gwiriwch eich bod yn derbyn y swm cywir. Gallwch ddefnyddio’r gyfrifiannell budd-daliadau ar wefan Turn2us.
Gwiriwch i weld a allwch gael cymorth gyda’ch costau ynni
Os ydych yn cael anhawster i dalu eich costau ynni, gallech gael help – er enghraifft taleb neu grant tanwydd gan eich cyflenwr ynni.
Gwiriwch a allwch chi gael help i dalu eich biliau ynni.
Gweithio allan eich cyllideb
Gall gweithio allan eich cyllideb eich helpu i ddeall:
pa arian sydd gennych yn dod i mewn ac yn mynd allan
lle gallech dorri costau
Gallwch weithio allan eich cyllideb gan ddefnyddio adnodd cyllidebu.
Gallwch ddangos eich cyllideb i’ch landlord er mwyn iddynt allu gweld faint y gallwch fforddio ei ad-dalu bob mis.
Ad-dalu eich ôl-ddyledion rhent
Mae’n bwysig eich bod yn parhau i dalu eich rhent er mwyn i chi beidio mynd i fwy o ddyled.
Siaradwch â’ch landlord cyn gynted ag y gallwch. Esboniwch pam eich bod ar ei hôl hi gyda’ch rhent.
Os gallwch ad-dalu’r ôl-ddyledion mewn un taliad, talwch cyn gynted ag y gallwch. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael derbynneb ysgrifenedig gan eich landlord.
Os bydd angen mwy o amser arnoch, gallech:
gwneud cynllun ad-dalu gyda’ch landlord
talu eich ôl-ddyledion yn uniongyrchol o’ch budd-daliadau
gofyn am daliad disgresiwn at gostau tai
gofyn am gymorth gan gronfa atal digartrefedd
Gwneud cynllun ad-dalu
Cynllun ad-dalu yw pan fyddwch yn talu arian ychwanegol i’ch landlord yn ychwanegol at bob taliad rhent. Mae’r arian ychwanegol yn mynd tuag at ad-dalu eich ôl-ddyledion dros amser.
Peidiwch â chynnig talu mwy nag y gallwch ei fforddio. Os na allwch dalu eich taliadau rydych yn debygol o gael eich troi allan.
Os bydd eich landlord yn cytuno i’r cynllun ad-dalu, dylai fod yn ysgrifenedig a dylech ei lofnodi. Gofynnwch i’ch landlord ei lofnodi hefyd os yn bosibl, fel ei bod yn glir beth mae’r ddau ohonoch wedi cytuno arno.
Siaradwch â chynghorydd os bydd angen cymorth arnoch i greu cynllun ad-dalu.
Nid oes rhaid i’ch landlord gytuno ar gynllun ad-dalu. Os na fyddant yn cytuno efallai y byddant yn ceisio eich troi allan. Mae’n syniad da talu cymaint ag y gallwch o’ch ôl-ddyledion – gallai hyn eich helpu mewn llys os bydd eich landlord yn ceisio eich troi allan.
Talu ôl-ddyledion o’ch budd-daliadau
Efallai y gallwch dalu eich ôl-ddyledion o’ch taliadau budd-dal. Gallai hyn eich helpu i negodi gyda’ch landlord – gallant fod yn hyderus y byddant yn derbyn yr arian i gyd.
Gallwch ofyn i’ch ôl-ddyledion gael eu talu o’ch budd-daliadau os ydych yn cael Budd-dal Tai neu ran costau tai y Credyd Cynhwysol. Fel arfer bydd angen o leiaf 8 wythnos o rent dyledus i fod yn gymwys.
Dywedwch wrth DWP eich bod eisiau defnyddio eich budd-daliadau i dalu eich ôl-ddyledion. Mae’r rhif ar gyfer y DWP ar frig eich llythyr budd-daliadau. Byddant yn tynnu swm o bob taliad budd-dal ac yn ei anfon i’ch landlord, yna byddwch yn talu’r gweddill fel arfer.
Gall yr arian i’w dalu i’ch landlord ddod allan o’r budd-daliadau canlynol:
Credyd Cynhwysol
Lwfans Ceisio Gwaith (JSA) yn seiliedig ar incwm
Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) yn seiliedig ar incwm
Cymhorthdal Incwm
Credyd Pensiwn
Os ydych yn cael Credyd Cynhwysol, rhoddir rhwng 10% ac 20% o’ch taliad i’ch landlord.
Os ydych yn cael budd-daliadau eraill ar wahân i Gredyd Cynhwysol, bydd 5% o’r taliadau hynny’n mynd i’ch landlord. Ni ddylid cymryd mwy na £4.55 bob wythnos, gallwch wirio faint y gellir ei ddidynnu o’ch taliadau budd-dal ar GOV.UK.
Siaradwch â chynghorydd os oes angen cymorth arnoch i ddefnyddio eich budd-daliadau i dalu ôl-ddyledion.
Gofyn am daliad disgresiwn at gostau tai
Os ydych yn cael Budd-dal Tai neu Gredyd Cynhwysol, gallech gael taliad disgresiwn at gostau tai. Mae taliad disgresiwn at gostau tai yn arian ychwanegol gan eich cyngor lleol i helpu i dalu eich rhent – nid oes rhaid i chi ei ad-dalu.
I gael y taliad disgresiwn at gostau tai, mae’n rhaid eich bod yn cael Budd-dal Tai neu ran costau tai y Credyd Cynhwysol. Mae’n rhaid i’r swm o Fudd-dal Tai neu ran tai y Credyd Cynhwysol rydych yn ei gael ar hyn o bryd fod yn llai na’ch rhent.
Gallwch ofyn i’ch cyngor lleol am ffurflen hawlio taliad disgresiwn at gostau tai – gallwch ddod o hyd i’ch cyngor lleol ar GOV.UK. Cadwch gopi o’ch ffurflen wedi’i chwblhau ar gyfer eich cofnodion.
Siaradwch â chynghorydd os oes angen cymorth arnoch i lenwi’r ffurflen hawlio taliad disgresiwn at gostau tai.
Nid oes rhaid i’ch cyngor roi taliad disgresiwn at gostau tai i chi – mae’n dibynnu ar eich amgylchiadau.
Cael cymorth gan y gronfa atal digartrefedd
Mae’n bosibl bod gan eich cyngor lleol gronfa i helpu i atal pobl rhag mynd yn ddigartref. Gall hyn helpu pobl gydag ôl-ddyledion rhent – nid oes rhaid i chi fod mewn perygl uniongyrchol o gael eich troi allan.
Gofynnwch i’ch cyngor a allant eich helpu i dalu rhywfaint o’ch ôl-ddyledion. Bydd angen i chi ofyn i’ch cyngor am ffurflen gais. Gallwch ddod o hyd i’ch cyngor lleol ar GOV.UK.
Siaradwch â chynghorydd os bydd angen cymorth arnoch gyda’r ffurflen gais.
Cael cymorth os na allwch fforddio i ad-dalu eich ôl-ddyledion rhent
Efallai y gallwch gael arian ychwanegol gan elusen i’ch helpu. Mae rhai o’r grantiau elusennol hyn yn agored i bawb. Gallai rhai eraill fod ar gael yn seiliedig ar eich sefyllfa, er enghraifft:
os oes gennych anabledd neu gyflwr iechyd
eich oedran
eich swydd flaenorol neu bresennol
Gallwch ganfod pa gymorth y gallwch ei gael gan elusennau lleol a chenedlaethol ar wefan Turn2us. Bydd angen i chi wybod beth yw eich cod post.
Efallai y gallwch gael cymorth arall i dalu’r ôl-ddyledion. Bydd hyn yn dibynnu ar eich amgylchiadau, felly siaradwch â chynghorydd.
Os oes gennych ystafell sbâr
Gallech gael lletywr i helpu gyda chostau. Mae lletywr yn rhywun sy’n talu rhent i chi i fyw mewn ystafell sbâr yn eich cartref. Gallwch ofyn iddynt helpu gyda’r biliau hefyd.
Gallai cael lletywr effeithio ar eich budd-daliadau – mae’n bwysig gwirio a fyddwch yn well eich byd ai peidio. Efallai y bydd angen i chi gael caniatâd gan eich landlord.
Gwiriwch i weld a fyddech yn well eich byd yn cael lletywr.
Os ydych yn byw mewn tŷ cyngor neu gymdeithas tai, bydd eich budd-daliadau’n cael eu lleihau am gael ystafell sbâr – gelwir hyn yn ‘dreth ystafell wely’. Gallwch ofyn i gael eich symud i dŷ â llai o ystafelloedd gwely i arbed arian ar eich rhent. Gwiriwch i weld a allwch symud i dŷ â llai o ystafelloedd gwely.
Os bydd eich landlord yn ceisio eich troi allan
Ceisiwch dalu cymaint o’r ôl-ddyledion ag y gallwch ei fforddio – gallai hyn eich helpu os byddwch yn mynd i’r llys. Po fwyaf sy'n ddyledus gennych, y mwyaf tebygol yw'r llys o'ch troi allan.
Gallai eich landlord geisio eich troi allan hyd yn oed os byddwch yn ad-dalu’r holl arian sy’n ddyledus.
Os oes gennych gontract meddiannaeth, gallwch gael cymorth os bydd eich landlord yn ceisio eich troi allan oherwydd ôl-ddyledion rhent.
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.