Os yw beilïaid yn dweud y byddan nhw’n gwerthu’ch eiddo
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Gallai beilïaid (neu ‘asiantau gorfodi’) gymryd a gwerthu’ch eiddo os na fyddwch chi’n trefnu i dalu dyled neu os byddwch chi’n torri ‘cytundeb nwyddau a reolir’.
Bydd eich pethau’n cael eu gwerthu mewn arwerthiant fel arfer. Rhaid i’r beilïaid gael y pris gorau posibl, a bydd yr arian yn mynd tuag at dalu’ch dyled ac unrhyw ffioedd beilïaid. Bydd dal rhaid i chi dalu unrhyw ddyled sy’n weddill ar ôl yr arwerthiant.
Os byddwch chi’n gweithredu’n gyflym, efallai gallwch chi gael eich pethau yn ôl cyn i’r beilïaid eu gwerthu nhw.
Cael eich eiddo yn ôl cyn iddyn nhw gael eu gwerthu
Byddwch chi’n cael ‘hysbysiad o werthiant’ os bydd y beilïaid yn penderfynu gwerthu’ch eiddo. Bydd hwn yn dweud wrthych chi pryd a ble bydd yr arwerthiant yn cael ei gynnal.
I gael eich pethau yn ôl cyn yr arwerthiant, bydd angen i chi:
dalu’ch dyled i gyd a ffioedd y beilïaid; neu
drafod cytundeb talu gyda’ch credydwr – efallai y bydd yn caniatáu i chi dalu’ch dyled yn raddol
Dywedwch wrth y beilïaid os ydych chi eisiau talu’ch dyled ond eich bod chi angen mwy o amser. Efallai y byddan nhw’n cytuno i ohirio’r arwerthiant – byddai’n well ganddyn nhw gael yr arian oddi wrthych chi yn uniongyrchol na thrwy werthu’ch pethau.
Mae rhai pethau nad yw beilïaid yn cael eu gwerthu, felly mae’n werth edrych beth mae beilïaid yn cael ei gymryd.
Gofalwch fod y beilïaid yn rhoi digon o amser i chi
Rhaid i’r beilïaid roi’r hysbysiad o werthiant i chi o leiaf 7 diwrnod cyn yr arwerthiant. Dydy’r 7 diwrnod hyn ddim yn cynnwys:
y diwrnod rydych chi’n cael yr hysbysiad o werthiant
diwrnod yr arwerthiant
dyddiau Sul na gwyliau banc
Felly, os byddwch chi’n cael yr hysbysiad o werthiant ddydd Llun 1 Medi, ni fydd y beilïaid yn gallu gwerthu’ch pethau tan ddydd Mercher 10 Medi.
Gallech gael llai o amser os yw’r beilïaid yn gwerthu rhywbeth a allai golli ei werth – er enghraifft, bwyd a fydd yn pydru.
Os na fydd y beilïaid yn rhoi digon o rybudd i chi
Os bydd y beilïaid yn dweud wrthych chi am yr arwerthiant lai na 7 diwrnod cyn yr arwerthiant, ni fydd ganddyn nhw’r hawl i werthu’ch pethau.
Cysylltwch â’r beilïaid a dywedwch wrthyn nhw nad ydyn nhw wedi rhoi digon o rybudd i chi. Dywedwch y dylai eich pethau gael eu dosbarthu fel eiddo ‘wedi’i adael’. Mae hyn yn golygu y gallwch chi fynd i’w hôl nhw gan y beilïaid.
Os bydd y beilïaid yn gwerthu’ch eiddo
Bydd yr hysbysiad o werthiant yn dweud wrthych chi ble a phryd bydd yr arwerthiant yn cael ei gynnal – rhaid iddo fod yn gyhoeddus.
Cyn yr arwerthiant, rhaid i’r beilïaid anfon amcangyfrif ysgrifenedig o werth eich pethau atoch chi. Dywedwch wrth y beilïaid os ydyn nhw wedi tanbrisio’ch pethau – gallai effeithio ar y prisiau gwerthu.
Ar ôl yr arwerthiant, rhaid i’r beilïaid anfon rhestr o’r canlynol atoch chi:
beth maen nhw wedi’i werthu
y pris gwerthu
unrhyw ffioedd maen nhw wedi’u hychwanegu
Mae’n werth edrych pa ffioedd mae beilïaid yn gallu eu codi.
Os bydd yr arian y byddan nhw’n ei wneud o werthu’ch pethau yn ddigon i dalu’r ddyled yn llawn, rhaid i’r beilïaid roi unrhyw arian sy’n weddill yn ôl i chi.
Os na fydd yr arian byddan nhw’n ei wneud o werthu’ch pethau yn ddigon i dalu’r ddyled yn llawn, efallai y gallwch chi gwyno. Mae’r beilïaid ond i fod cymryd eich pethau os ydyn nhw’n credu y byddan nhw’n gwerthu am ddigon o arian i dalu’ch dyled.
Pan fydd y beilïaid yn dweud wrthych chi faint o arian maen nhw wedi’i wneud o werthu’ch pethau, byddan nhw’n dweud wrthych chi hefyd am unrhyw ffioedd maen nhw wedi’u hychwanegu.
Os na fydd eich eiddo’n gwerthu
Rhaid i’r beilïaid ddychwelyd eich pethau os na allan nhw eu gwerthu nhw o fewn 12 mis. Ni fydd rhaid i chi dalu unrhyw ffioedd beilïaid.
Bydd y beilïaid yn anfon ‘hysbysiad gadael’ atoch chi, gyda chyfarwyddiadau ar sut i gasglu eich pethau. Rhaid iddyn nhw roi o leiaf 28 diwrnod i chi wneud hyn – os na fyddwch chi’n casglu’ch pethau yn y cyfnod hwn, efallai y bydd eich pethau’n cael eu dinistrio neu eu rhoi i elusen.
Os na fydd eich pethau’n gwerthu, bydd gennych chi amser i ddelio â’ch dyled o hyd – y peth gorau i’w wneud yw ceisio trafod taliad gyda chredydwr neu’r beilïaid.
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.