Trafod eich dyled gyda beilïaid
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Gallwch atal beilïaid (neu 'asiantau gorfodi') rhag dod i’ch cartref i gasglu dyled sydd arnoch chi trwy dalu’r ddyled yn llawn.
Os na allwch chi dalu’ch dyled yn llawn, mae gennych chi opsiynau – bydd y rhain yn dibynnu ar eich cyllideb a’ch amgylchiadau.
Gallwch ofyn i’r beilïaid a allwch chi:
dalu’r rhan fwyaf o’ch dyled mewn cyfandaliad os ydych chi’n gallu fforddio’r rhan fwyaf ohoni
gwneud trefniant talu os ydych chi’n gallu fforddio taliadau rheolaidd bach
Hyd yn oed os bydd eich cynnig yn cael ei wrthod, dylech chi dal geisio talu. Mae hyn yn gallu ei gwneud hi’n haws trafod gyda’r beilïaid gan y byddan nhw’n gallu gweld eich bod chi eisiau talu.
Hyd yn oed os yw’r beilïaid yn eich cartref yn barod, nid yw hi’n rhy hwyr i’w talu nhw. Bydd hyn yn eu hatal nhw rhag cymryd eich eiddo a byddwch chi’n gallu osgoi talu ffioedd ychwanegol.
Os bydd y beilïaid yn dod i mewn i’ch cartref ac na allwch chi fforddio talu’ch dyled, fel arfer bydd rhaid i chi wneud 'cytundeb nwyddau a reolir'. Mae hyn yn golygu y byddwch chi’n cytuno i gynllun ad-dalu ac yn talu rhai o ffioedd y beilïaid.
Darllenwch fwy am wneud cytundeb nwyddau a reolir.
Os ydych chi’n cael problemau gyda’ch dyledion, cysylltwch â’ch Cyngor ar Bopeth agosaf i ddysgu sut arall y gallech chi ddelio â’r ddyled. Dysgwch fwy am gael help gyda’ch dyled.
Rhaid i feilïaid roi mwy o amser a chymorth i chi i ddelio â’ch dyled os ydych chi’n agored i niwed. Edrychwch ar y rheolau ychwanegol y dylai’r beilïaid eu dilyn:
os ydych chi’n anabl neu’n ddifrifol wael
os oes gennych chi broblemau iechyd meddwl
os oes gennych chi blant neu os ydych chi’n feichiog
os ydych chi’n iau nag 18 oed neu dros 65 oed
os nad ydych chi’n siarad neu’n darllen Saesneg yn dda
os ydych chi o dan straen, oherwydd profedigaeth ddiweddar neu ddiweithdra efallai
Ad-dalu’r rhan fwyaf o’r ddyled
Os na allwch chi dalu’r ddyled i gyd ond eich bod chi’n gallu talu’r rhan fwyaf o’r hyn sydd arnoch chi mewn un taliad, ffoniwch y beilïaid i ofyn iddyn nhw a fyddan nhw’n derbyn taliad llai o faint.
Efallai y byddan nhw’n derbyn eich cynnig gan y bydd y ddyled yn cael ei thalu’n gyflymach, hyd yn oed os na fyddan nhw’n cael yr arian i gyd.
Gallwch ddod o hyd i fanylion cyswllt y beili mewn unrhyw lythyrau mae wedi’u hanfon atoch chi ynglŷn â’r ddyled. Y ffordd gyflymaf o gysylltu â nhw yw trwy eu ffonio nhw.
Y peth gorau i’w wneud yw talu trwy gerdyn banc neu siec fel bod gennych chi gofnod. Hefyd, gofynnwch i’r beilïaid anfon derbynneb atoch chi pan fyddwch chi’n talu – mae’n bwysig cael hon rhag ofn y byddwch chi angen profi yn ddiweddarach eich bod chi wedi talu.
Gwneud trefniant talu
Gallwch gynnig talu’ch dyled mewn taliadau wythnosol neu fisol rheolaidd yn hytrach na gorfod ei thalu i gyd ar unwaith.
Rydych chi’n fwy tebygol o gael y beilïaid i dderbyn eich cynnig os yw’n realistig ac yn fforddiadwy.
Os ydych chi angen help i wneud trefniant talu
Ffoniwch y beilïaid i ofyn iddyn nhw ohirio’ch achos tra’ch bod chi’n cael cyngor gan eich Cyngor ar Bopeth agosaf. Os byddan nhw’n cytuno i ohirio’ch achos – bydd hyn yn rhoi amser i chi asesu faint rydych chi’n gallu ei dalu.
Does dim rhaid iddyn nhw gytuno i ohirio’ch achos oni bai eich bod chi’n agored i niwed. Edrychwch sut i brofi eich bod chi’n agored i niwed.
Gweithiwch allan faint rydych chi’n gallu fforddio ei dalu
Cyn gwneud eich cynnig, gweithiwch allan faint rydych chi’n gallu ei fforddio a chrëwch daflen gyllideb i ddangos yr arian sydd gennych chi yn dod i mewn ac yn mynd allan. Er enghraifft, efallai byddwch chi’n gallu talu £10 y mis ar ôl talu’ch costau hanfodol eraill fel bwyd, rhent, morgais a biliau ynni.
Peidiwch â chynnig talu mwy nag rydych chi’n gallu ei fforddio. Gallech waethygu’ch sefyllfa os na allwch chi gadw at eich taliadau. Er enghraifft, efallai y bydd rhaid i chi dalu ffioedd ychwanegol.
Edrychwch hefyd a allwch chi gynyddu’ch incwm – gallai hyn eich helpu chi i glirio’ch dyled yn gyflymach. Er enghraifft, efallai y byddwch chi’n gallu cynyddu’ch oriau yn y gwaith. Dylech wneud yn siŵr eich bod chi’n cael yr holl fudd-daliadau mae gennych chi hawl i’w cael hefyd.
Anfon eich gwybodaeth
Anfonwch eich taflen gyllideb at y beilïaid gyda llythyr byr yn esbonio pam na allwch chi dalu’r ddyled yn llawn. Gofynnwch am gael talu mewn rhandaliadau wythnosol neu fisol, yn dibynnu ar sut rydych chi’n rheoli’ch arian.
Mae’n werth anfon eich gwybodaeth at y credydwr hefyd – hwn yw’r person neu’r sefydliad mae arnoch chi’r arian iddo. Mae gwneud hyn yn gallu helpu i gael eich cynnig wedi’i dderbyn yn gynt gan mai nhw sydd wedi gofyn i’r beilïaid gasglu’r ddyled.
Dylai’r beilïaid fod wedi dweud wrthych chi pwy yw’ch credydwr ar lythyr o’r enw ‘hysbysiad gorfodi’. Defnyddiwch y manylion i chwilio am eu cyfeiriad ar-lein. Os mai cwmni yw’ch credydwr, chwiliwch ar wefan Tŷ’r Cwmnïau yn GOV.UK.
Anfonwch eich gwybodaeth trwy ddosbarthiad cofnodedig os allwch chi neu gofynnwch am dderbynneb prawf postio am ddim. Cadwch gopi o’ch llythyr ac unrhyw ymateb rydych chi’n ei gael rhag ofn byddwch chi eu hangen nhw yn ddiweddarach.
Os oes well gennych chi, gallech anfon eich gwybodaeth mewn e-bost.
Os bydd y beilïaid yn cytuno i’ch cynnig talu, gofynnwch iddyn nhw anfon datganiad ysgrifenedig atoch chi. Gofalwch eich bod chi a’r beilïaid yn llofnodi’r cytundeb – mae hyn yn ei gwneud hi’n glir beth rydych chi wedi’i gytuno.
Os oes rhaid i chi dalu’r ddyled o fewn amser penodol
Efallai y gofynnir i chi ad-dalu’ch dyled o fewn 6 mis neu flwyddyn – er enghraifft, os oes gennych chi ddyled y dreth gyngor.
Dydy beilïaid ddim yn cael gofyn i chi dalu o fewn amser penodol os ydych chi mewn sefyllfa sy’n ei gwneud hi’n anodd i chi ddelio â nhw. Er enghraifft, os ydych chi’n anabl neu os oes gennych chi blant. Edrychwch sut i brofi ei bod hi’n anodd i chi ddelio â beilïaid.
Cysylltwch â’ch Cyngor ar Bopeth agosaf i gael help os gofynnwyd i chi dalu’ch dyled o fewn amser penodol ac nad ydych chi’n gallu gwneud hynny.
Os na allwch chi gadw at eich trefniant talu
Ffoniwch y beilïaid os ydych chi’n credu efallai y bydd rhaid i chi fethu taliad – esboniwch pam rydych chi’n cael trafferthion talu. Er enghraifft, dywedwch wrthyn nhw os ydych chi wedi colli’ch swydd.
Dylen nhw ofyn i chi faint rydych chi’n gallu ei fforddio yn seiliedig ar eich sefyllfa newydd neu ddweud wrthych chi am gael cyngor ar ddyledion i weithio hyn allan.
Os byddwch chi’n methu taliadau ac yn methu â chysylltu â’r beilïaid i drafod eich sefyllfa, fe allan nhw ganslo’ch trefniant talu. Fel arfer, mae hyn yn golygu y bydd rhaid i chi dalu ffioedd ychwanegol.
Os bydd y beilïaid yn canslo’ch trefniant talu
Ffoniwch y beilïaid ar unwaith a gofynnwch iddyn nhw pam maen nhw wedi canslo’ch trefniant. Os ydyn nhw wedi canslo’ch trefniant am eich bod chi wedi methu taliad, esboniwch pam wnaethoch chi fethu’r taliad. Os ydych chi’n gallu talu nawr, gofynnwch iddyn nhw ailgychwyn eich trefniant.
Os ydych chi’n dal i fod yn methu â thalu, gofynnwch iddyn nhw ohirio’ch achos tra’ch bod chi’n edrych ar eich cyllideb a gweithio allan faint rydych chi’n gallu ei dalu.
Cysylltwch â’ch Cyngor ar Bopeth agosaf os bydd y beilïaid yn ceisio codi llog a ffioedd arnoch chi tra bod eich achos wedi’i ohirio – yn y rhan fwyaf o achosion, ddylen nhw ddim codi ffioedd arnoch chi.
Os yw’ch taliad wedi’i ganslo am reswm arall neu os ydych chi’n poeni am siarad â’r beilïaid, dylech chi gael help gan eich Cyngor ar Bopeth agosaf.
Os bydd y beilïaid yn gwrthod eich cynnig talu
Mae rhai pethau rydych chi’n gallu eu gwneud i geisio cael eich cynnig wedi’i dderbyn.
Siaradwch â’ch credydwr
Ffoniwch y credydwr – y person neu’r sefydliad mae arnoch chi’r arian iddo. Gofynnwch iddyn nhw dderbyn eich cynnig. Efallai y byddan nhw’n cytuno i wneud hyn i gael y ddyled wedi’i chlirio’n gyflym.
Gallwch ddod o hyd i enw’ch credydwr ar y llythyr ‘hysbysiad gorfodi’ y dylai’r beilïaid fod wedi’i anfon atoch chi. Defnyddiwch y manylion i chwilio am eu rhif ffôn ar-lein. Y peth gorau i’w wneud yw eu ffonio nhw gan mai dyma’r ffordd gyflymaf o gysylltu â nhw.
Efallai y bydd eich credydwr yn gofyn i chi anfon eich taflen gyllideb ato i brofi faint rydych chi’n gallu ei fforddio.
Cysylltwch â’ch Cyngor ar Bopeth agosaf os ydych chi’n poeni am siarad â’ch credydwr.
Daliwch ati i dalu beth bynnag
Os bydd eich credydwr yn gwrthod derbyn eich cynnig, dylech ddal ati i geisio talu’ch dyled. Mae’n werth gwneud hyn oherwydd os byddan nhw’n cymryd camau pellach yn eich erbyn, er enghraifft, trwy fynd â chi i’r llys, byddwch yn gallu profi eich bod chi wedi ceisio talu.
Gallwch gael manylion talu eich credydwr o lythyrau blaenorol mae wedi’u hanfon atoch chi.
Os nad oes gennych chi fanylion talu’ch credydwr, gallwch ysgrifennu ato i geisio cael eich cynnig wedi’i dderbyn. Defnyddiwch ei enw i chwilio am ei gyfeiriad ar wefan Tŷ’r Cwmnïau yn GOV.UK.
Os bydd eich credydwr yn dychwelyd eich taliadau, ewch ati i gynilo’r arian fel ei fod yn barod gennych chi rhag ofn y bydd yn penderfynu derbyn eich cynnig yn ddiweddarach.
Gwnewch gais i’r llys os oes arnoch chi arian i lys sirol neu’r uchel lys
Os oes arnoch chi arian i lys sirol neu’r uchel lys, mae gennych chi opsiwn arall os bydd eich credydwr yn gwrthod eich cynnig talu. Rydych chi’n gallu gwneud cais i’r llys yn gofyn iddyn nhw benderfynu beth ddylech chi ei dalu.
Bydd y llythyr y dylai’r beilïaid fod wedi’i anfon atoch chi ynglŷn â’ch dyled yn dweud wrthych chi os oes arnoch chi arian i lys sirol neu’r uchel lys. Bydd arnoch chi arian i lys sirol neu’r uchel lys os oedd eich credydwr wedi mynd â chi i’r llys i geisio cael y ddyled wedi’i thalu.
Pan fyddwch chi’n gwneud cais i’r llys, bydd eich sefyllfa a’ch cyllideb yn cael eu harchwilio i benderfynu faint rydych chi’n gallu ei fforddio. Cyn belled â’ch bod chi’n talu’r swm mae’r llys yn ei nodi, ni fydd rhaid i chi ddelio â beilïaid rhagor.
Bydd angen i chi wneud cais i’r llys trwy lenwi ffurflen N245 yn GOV.UK ar gyfer dyled llys sirol a ffurflen N244 ar gyfer dyled uchel lys.
Esboniwch ar y ffurflen pam rydych chi eisiau i’ch credydwr dderbyn eich cynnig a rhowch fanylion eich sefyllfa ariannol.
Fel arfer, bydd rhaid i chi dalu ffi i wneud cais i’r llys. Efallai byddwch chi’n gallu cael help gyda ffioedd llys os ydych chi ar incwm isel neu’n hawlio budd-daliadau penodol.
Os ydych chi angen help i lenwi’ch ffurflen llys, cysylltwch â’ch Cyngor ar Bopeth agosaf.
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.