Os ydych chi eisiau ad-daliad ar gyfer teithio oherwydd y coronafeirws
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Os na allwch deithio oherwydd coronafeirws, efallai y byddwch yn gallu cael ad-daliad neu ddewis ail-archebu ar gyfer amser arall.
Dylech wirio gwefan y cwmni y gwnaethoch archebu gydag ef neu unrhyw e-byst rydych wedi’u derbyn ganddynt. Efallai bod ganddyn nhw bolisi ad-daliad coronafeirws.
Mae gennych chi hawliau gwahanol yn dibynnu ar y canlynol:
canslwyd eich archeb gan y cwmni teithio
rydych chi eisiau canslo eich archeb ond mae'n taith yn dal i fynd yn ei flaen
Canslwyd eich archeb gan y cwmni teithio
Bydd gennych hawl awtomatig i gael ad-daliad os oedd eich archeb ar gyfer:
gwyliau pecyn - gwiriwch a yw eich archeb yn cyfrif fel gwyliau pecyn a sut i gael ad-daliad
awyren yn gadael y DU
awyren sy'n cyrraedd y DU gyda chwmni hedfan o'r DU neu'r UE
awyren yn cyrraedd yr UE gyda chwmni hedfan o’r DU
Gwiriwch sut i gael ad-daliad os caiff eich taith hedfan ei chanslo.
Os oedd eich archeb am rywbeth arall, gwiriwch y telerau ac amodau i weld a oes gennych hawl i gael ad-daliad a pha mor hir y dylai gymryd.
Os ydych chi eisiau canslo eich archeb ond mae'r taith yn dal i fynd yn ei flaen
Mae’n bosibl na fyddwch eisiau neu’n gallu teithio os, er enghraifft:
rhaid i chi hunan-ynysu
rhaid i chi fynd i cwarantin
mae cyfyngiadau coronafeirws yn newid yn y lle rydych chi’n ymweld ag ef
Os na fydd y cwmni’n canslo eich archeb, gallwch ofyn am ad-daliad ond nid oes gennych hawl awtomatig i un. Gwiriwch delerau ac amodau eich archeb i weld beth allwch chi ei wneud.
Gallwch ddarganfod a yw cyfyngiadau coronafeirws yn effeithio ar eich teithio ar wefan Llywodraeth Cymru.
Gallwch hefyd wirio’r cyngor teithio tramor ar GOV.UK.
Cofiwch y gallai cyfyngiadau coronafeirws a chyngor y llywodraeth newid cyn i chi deithio neu tra byddwch i ffwrdd.
Dywedwch wrth y cwmni os yw'r llywodraeth yn dweud y bydd teithio i wlad yn peryglu eich iechyd neu'ch diogelwch. Gallai hyn eich helpu i ddadlau am ad-daliad.
Os na fydd y cwmni’n rhoi ad-daliad i chi, fel arfer mae’n well aros i weld a fydd yn canslo’r archeb yn ddiweddarach. Os byddant yn canslo'r archeb, dylent roi ad-dalu i chi.
Os cynigir taleb i chi yn lle ad-daliad
Fel arfer mae’n well gofyn am ad-daliad yn lle hynny – dylech gysylltu â’r cwmni y gwnaethoch archebu gydag ef a gofyn. Dylent roi ad-daliad i chi os gwnaethant ganslo eich taith.
Os ydych yn ystyried derbyn taleb, gwiriwch y telerau ac amodau, gan gynnwys:
pan ddaw'r daleb i ben
a allwch chi newid eich meddwl yn ddiweddarach a chael ad-daliad
Os yw'r cwmni y gwnaethoch archebu gydag ef wedi mynd i'r wal
Dylech wirio a fydd eich archeb yn dal i fynd yn ei blaen - er enghraifft, fe allech chi:
edrych ar wefan y cwmni
ffonio neu ysgrifennu at y cwmni a gofyn
Os gwnaethoch archebu gydag asiant teithio, dylech gysylltu â'r cwmnïau eraill y byddwch yn teithio gyda nhw - er enghraifft, eich darparwr hedfan neu westy.
Os nad yw eich archeb yn mynd yn ei flaen, efallai y byddwch yn gallu cael ad-daliad - gallwch ddarganfod sut i geisio cael eich arian yn ôl os bydd cwmni yn rhoi’r gorau i fasnachu.
Cysylltwch â llinell gymorth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth i gael help i weld a allwch chi gael ad-daliad am daleb.
Os yw eich ad-daliad yn cymryd mwy o amser na'r disgwyl
Dylech gysylltu â'r cwmni a gofyn faint o amser y bydd yr ad-daliad yn ei gymryd. Mae’n werth dweud wrthyn nhw os ydych chi angen yr arian ar frys – er enghraifft, os ydych chi wedi colli’ch swydd.
Os bydd yr ad-daliad yn cymryd mwy o amser nag y dywedodd y cwmni y byddai, gallwch dyma sut i gwyno.
Os yw’r cwmni’n dweud na fyddant yn rhoi ad-daliad i chi
Os oes gennych yswiriant teithio, gwiriwch a allwch wneud cais. Gallech ddarllen y telerau ac amodau neu gysylltu â’r yswiriwr. Mae'n bosibl y byddwch hefyd wedi'ch diogelu gan eich yswiriant cartref neu yswiriant eich cyfrif banc.
Os ydych chi'n hawlio ar eich yswiriant, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu:
ffi ychwanegol
mwy ar gyfer yswiriant yn y dyfodol
Os gwnaethoch archebu rhywbeth i rywun arall, efallai na fyddwch yn gallu ei hawlio’n ôl oni bai eu bod wedi’u henwi ar eich polisi yswiriant.
Gallech wirio a allwch gael ad-daliad os gwnaethoch dalu â cherdyn neu Paypal yn lle hynny.
Gallwch geisio cael ad-daliad gan ddarparwr eich cerdyn ar yr un pryd â dechrau eich hawliad yswiriant. Dim ond gan un ohonyn nhw y gallwch chi gael ad-daliad - os ydych chi'n cadw'r arian o'r ddau fe allai fod yn dwyll.
Cysylltwch â llinell gymorth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth os oes angen mwy o help arnoch - gall cynghorydd hyfforddedig roi cyngor i chi dros y ffôn neu drwy e-bost.
Os oes angen mwy o help arnoch
Gallwch wirio sut i ddelio â chwmni na fydd yn rhoi ad-daliad i chi.
Gallwch hefyd gysylltu â llinell gymorth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth - gall cynghorydd hyfforddedig roi cyngor i chi dros y ffôn neu drwy e-bost.
Os yw cwmni wedi eich trin yn annheg, gallwch roi gwybod i Safonau Masnach amdanynt. Gallwch wirio sut i roi gwybod i Safonau Masnach am gwmni.
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.