Amseroedd casglu a danfon y post
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Bydd y Post Brenhinol yn danfon ac yn casglu eich post o ddydd Llun i ddydd Sadwrn. Bydd hefyd yn danfon ar ddydd Sul mewn rhai ardaloedd.
Fyddwch chi ddim yn cael post ar wyliau banc.
Pryd byddwch yn cael eich post
Dylai eich post gyrraedd erbyn 3pm os ydych chi’n byw mewn tref neu ddinas, neu 4pm os ydych chi’n byw mewn ardal wledig.
Gallwch weld os bydd eich post yn hwyr ar wefan y Post Brenhinol.
Os oes rhaid i chi gasglu post o bwynt gwasanaeth i gwsmeriaid
Fel arfer, mae pwyntiau gwasanaeth i gwsmeriaid mewn swyddfeydd danfon.
Edrychwch ar yr oriau agor ar wefan y Post Brenhinol cyn casglu eich post.
Pryd bydd eich post yn cael ei gasglu
Mae amser casglu eich blwch post lleol yn dibynnu ar le rydych chi'n byw.
Mae’r casgliad olaf o swyddfa bost adeg y bydd y swyddfa bost yn cau fel rheol.
Gallwch weld pryd bydd eich post yn cael ei gasglu o flwch post neu swyddfa bost ar wefan y Post Brenhinol.
Gallwch hefyd ffonio’r Post Brenhinol i gael gwybod pryd mae’r amseroedd casglu yn eich ardal chi. Mae’r amseroedd casglu ar ddydd Sadwrn rhwng 7am a 1:30pm ym mhob man.
Post Brenhinol
Rhif ffôn: 03457 740 740
Dydd Llun i ddydd Gwener, 7am i 8pm
Dydd Sadwrn, 8am i 6pm
Dydd Sul, 9am i 4pm
Mae’n debyg y bydd eich galwad am ddim os oes gennych chi gytundeb ffôn sy’n cynnwys galwadau am ddim i linellau tir - rhagor o wybodaeth am ffonio rhifau 0345.
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.
Adolygwyd y dudalen ar 22 Tachwedd 2018