Yswiriant cynnwys y cartref
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Mae’n syniad da trefnu yswiriant cynnwys y cartref i yswirio’ch cynnwys yn erbyn tân, lladrata a pheryglon eraill, fel niwed damweiniol. Os bydd rhywbeth yn digwydd i ddinistrio neu ddifrodi eich eiddo, gall gostio llawer i brynu eitemau i’w rhoi yn eu lle, yn enwedig yr eitemau hanfodol.
Mae’r dudalen hon yn egluro cwmpas yswiriant cynnwys y cartref, sut i ddewis polisi a pha broblemau allai godi wrth hawlio ar eich yswiriant.
Gair o gyngor
Os ydych yn lawr lwytho cerddoriaeth a ffilmiau ar eich cyfrifiadur, ffôn symudol neu chwaraewr mp3, mae nifer o bolisïau cynnwys y cartref yn cynnig cyfle i lawr lwytho yswiriant.
Mae’r yswiriant hwn yn eich gwarchod rhag costau amnewid yr hyn yr ydych wedi ei lawr lwytho os ydynt yn cael eu difrodi, eu dwyn neu’n mynd ar goll.
Serch hynny, ni fydd hyn yn eich gwarchod os yw firws neu galedwedd diffygiol yn gyfrifol am y golled, felly gwenwch yn siŵr bod gennych y feddalwedd gwrthfirysau diweddaraf.
Beth yw yswiriant cynnwys y cartref
Mae yswiriant cynnwys y cartref yn gwarchod eich eiddo personol ac eiddo’r cartref rhag colled, difrod neu ladrad. Gall hefyd eich gwarchod os ydych yn mynd ag eitemau allan o’r cartref, er enghraifft ar wyliau.
Mae’r yswiriant yn gwarchod eiddo sy’n perthyn i chi ac aelodau agos eich teulu sy’n byw gyda chi. Efallai na fydd yn gwarchod eiddo unrhyw un sydd yn aros gyda chi dros dro.
Ni does rhaid i chi gymryd yswiriant cynnwys y cartref. Fodd bynnag, mae’n syniad da i chi wneud hynny oherwydd os bydd unrhyw eiddo yn mynd ar goll, cael ei ddwyn neu’i ddifrodi bydd angen ichi dalu i amnewid yr eiddo hwnnw.
Beth ddylai eich polisi ei warchod
Dylai eich polisi warchod difrod i’ch eiddo a achosir gan dân, llifogydd a stormydd, yn ogystal â lladrad. Efallai y bydd angen i chi dalu mwy i warchod difrod damweiniol neu eiddo sy’n mynd ar goll. Byddai’n werth ystyried hyn os oes gennych blant neu anifeiliaid anwes. Fodd bynnag, holwch i weld beth mae hyn yn ei gynnwys.
Bydd hefyd angen i chi dalu mwy i warchod eiddo yr ydych am fynd â hwy allan o’r cartref, er enghraifft, camerâu neu emwaith, neu os ydych am warchod eitem werthfawr iawn. Efallai na fydd eich yswiriant yn gwarchod cynnwys eich rhewgell neu ffôn symudol ac efallai y bydd terfyn uwch ar gyfer eitem unigol.
Mae tâl cychwynnol gan y mwyafrif o bolisïau. Mae hyn yn golygu na fydd yn gwarchod yr ychydig bunnoedd cyntaf pan fyddwch yn hawlio. Fel arfer mae’r tâl cychwynnol rhwng £50 a £100.
Mae’r mwyafrif o bolisïau yn cynnig gwarchodaeth newydd am hen. Mae hyn yn golygu y cewch chi’r gost lawn o amnewid hen eitem gydag un newydd os ydyw wedi’i ddifrodi, wedi’i ddwyn neu fynd ar goll. Fodd bynnag ,dim ond y swm ar gyfer gwerth presennol yr eiddo y bydd rhai polisïau yn ei gynnig os byddwch angen hawlio ar eich yswiriant. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod yr hyn y mae eich polisi yn ei gynnig cyn i chi ei gymryd.
Gall yswiriant cynnwys y cartref hefyd dalu cyfandaliad os ydych yn marw o ganlyniad i dân, lladrad neu ddamwain yn y cartref. Gall hefyd eich gwarchod os caiff rywun anaf neu os fyddan nhw farw wrth ymweld â chi.
Yswiriant cynnwys yn y cartref os ydych yn rhentu
Os ydych yn denant, holwch i weld ai chi sydd yn gyfrifol am yswirio unrhyw gynnwys sy’n eiddo i’ch landlord, oherwydd fe allech fod yn atebol am amnewid unrhyw eitemau sydd yn cael eu difrodi neu’n mynd ar goll. Os ydych yn rhentu eitem, er enghraifft teledu, holwch i weld a oes angen i chi drefnu yswiriant ar ei gyfer.
Dewis polisi cynnwys y cartref
Cyn i chi brynu polisi cynnwys y cartref, penderfynwch faint o yswiriant sydd ei angen arnoch, a hynny’n yn seiliedig ar y gost o amnewid eich eiddo’n gyfan gwbl. Mae nifer o bobl yn tan-yswirio, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn cofio popeth, yn cynnwys carpedi a chynnwys eich garej neu sied. Gofynnwch am ddyfynbrisiau gan sawl yswiriwr cyn dewis polisi.
Polisïau swm penodol a pholisïau’n seiliedig ar ystafelloedd gwely
Cyfrifir polisïau yswiriant cynnwys y cartref fel arfer yn ôl nifer yr ystafelloedd yn eich tŷ. Gelwir y rhain yn bolisïau cyfradd ystafelloedd gwely. Neu fel arall, efallai eu bod yn seiliedig ar gyfanswm y cynnwys a’r eiddo yr ydych yn berchen arnynt. Gelwir y rhain yn bolisïau swm penodol.
Gall premiymau fod yn uwch os ydych yn dewis polisi sy’n cael ei gyfrifo ar sail nifer yr ystafelloedd, ond fe allant gynnig mwy o warchodaeth.
Fe fydd angen i chi gymharu:
beth mae pob polisi yn ei warchod, ac unrhyw eithriadau
y premiwm y bydd angen i chi ei dalu
cyfanswm unrhyw dâl cychwynnol y bydd angen i chi ei dalu
y bonws dim hawliad sy’n cynyddu’n flynyddol os na fyddwch yn hawlio
unrhyw amodau ychwanegol, er enghraifft, os ydych yn gadael eich cartref yn wag am gyfnod hir.
Rhaid i chi roi cymaint o wybodaeth ag y medrwch i’ch yswiriwr, a hynny ynglŷn ag unrhyw beth a allai effeithio ar eu penderfyniad i’ch yswirio, a faint o dâl i’w godi. Rhaid i chi hefyd ddweud wrthynt am unrhyw newidiadau yn eich amgylchiadau.
Problemau gyda hawlio yswiriant cynnwys y cartref
Os nad ydych wedi yswirio’n ddigonol, gall eich yswiriwr dalu rhan o’ch hawliad yn unig
Efallai bod terfyn ar yr hyn y medrwch ei hawlio am eitem unigol ac efallai bydd angen i chi dalu tâl cychwynnol
Os na wnaethoch ddewis polisi newydd am hen, ni fydd yr yswiriant yn ystyried cais am draul a gwisgo
Efallai bod eich polisi yn datgan y gall eich yswiriwr amnewid eitem yn hytrach na thalu’r arian i’w amnewid
Os oes un eitem mewn set wedi cael ei ddifrodi, er enghraifft cadair mewn set o gadeiriau, efallai na fyddwch yn medru ei hamnewid. Pe byddai hyn yn digwydd dylai eich yswiriwr dalu am yr eitem sydd wedi ei ddifrodi a thalu swm tuag at amnewid yr eitemau sydd heb eu difrodi.
Camau nesaf
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.
Adolygwyd y dudalen ar 20 Chwefror 2020