Sut i ddarllen eich mesurydd nwy neu drydan
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Mae angen i’ch cyflenwr gael darlleniadau rheolaidd o’ch mesurydd nwy neu drydan i gyfrifo eich biliau. Os na fyddwch yn anfon darlleniadau atynt, byddant yn amcangyfrif eich defnydd. Mae hyn yn golygu y gallai eich bil fod yn rhy isel neu uchel.
Ffoniwch eich cyflenwr i roi’r darlleniadau iddynt - neu gwnewch yn siŵr eich bod yn gallu eu cyflwyno ar eu gwefan neu ar ap.
Os nad ydych chi’n gallu cyrraedd eich mesurydd, efallai y bydd eich cyflenwr ynni yn gallu rhoi cymorth ychwanegol i chi i ddarllen neu symud eich mesurydd. Cliciwch yma i weld a oes modd i chi gael cymorth ychwanegol gan eich cyflenwr ynni.
Os oes gennych chi fesurydd clyfar
Mae mesuryddion clyfar yn wahanol i fesuryddion safonol – maent fel arfer yn anfon darlleniadau at eich cyflenwr yn awtomatig.
Fel arfer, byddwch hefyd yn cael dyfais gludadwy o'r enw 'dangosydd yn y cartref' - sy’n dangos faint rydych chi'n ei wario ar eich ynni.
Gwybodaeth am sut i wneud y canlynol:
Mesuryddion trydan
Mesurydd digidol cyfradd sengl

Darlleniad y mesurydd hwn yw 75085. Dylid anwybyddu’r rhif coch.
Mae gan fesurydd digidol ddangosydd electronig neu ddigidol. Bydd yn dangos 5 rhif mewn du neu wyn, ac efallai y bydd 1 neu fwy o rifau coch yn eu dilyn.
I ddarllen y mesurydd:
Ysgrifennwch y 5 rhif cyntaf o’r chwith i’r dde
Anwybyddwch unrhyw rifau eraill
Two rate digital meter

Mae gan y mesurydd hwn 2 ddarlleniad - 25404 a 54250. Bydd angen i chi roi'r ddau ddarlleniad i'ch cyflenwr.
Os byddwch yn cael trydan rhatach ar adegau penodol, efallai y bydd gennych chi fesurydd dwy gyfradd (neu ‘gyfradd ddeuol’). Mae hyn yn golygu y bydd ganddo 2 res o rifau.
Mae’r rhes uchaf (sydd â’r label ‘isel’ neu ‘nos’) yn dangos nifer yr unedau o drydan rhatach rydych chi wedi’u defnyddio.
Mae’r rhes waelod (sydd â’r label ‘normal’ neu ‘dydd’) yn dangos nifer yr unedau o drydan pris safonol rydych chi wedi’u defnyddio.
I ddarllen y mesurydd:
Darllenwch y rhes uchaf a’r rhes waelod.
Ysgrifennwch y 5 rhif cyntaf o’r chwith i’r dde.
Anwybyddwch unrhyw rifau mewn coch.
Mesurydd ag un dangosydd dwy gyfradd

Mae gan y mesurydd hwn 2 ddarlleniad - 75085 a 46806. Bydd angen i chi roi'r ddau ddarlleniad i'ch cyflenwr.
Dim ond un dangosydd digidol sydd gan rai mesuryddion dwy gyfradd (neu ‘gyfradd ddeuol’). Byddant naill ai’n fflachio’r gwahanol fathau o ddarlleniadau cyfradd mewn patrwm penodol, neu bydd ganddynt fotwm y bydd angen i chi ei bwyso i wneud i’r dangosydd gylchredeg drwy’r darlleniadau ar gyfer y gwahanol gyfraddau.
Bydd gan y rhan fwyaf o fesuryddion label sy’n dweud wrthych chi pa gyfradd sy’n ‘isel’ neu’n ‘nos’ a pha un sy’n ‘uchel’ neu’n ‘normal’. Os oes ‘N’ ar y label, bydd hyn yn golygu ‘normal’ – nid ‘nos’.
Os nad ydych chi’n siŵr pa gyfradd yw pa un, gwnewch nodyn o’r rhifau yn y bore a gwirio eto yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw. Rhaid mai’r rhif sydd wedi newid yw eich cyfradd ‘uchel’ neu ‘normal’.
I ddarllen y mesurydd, ysgrifennwch y rhifau o’r chwith i’r dde ar gyfer pob darlleniad.
I ddarllen y mesurydd hwn:
Ysgrifennwch y 5 rhif cyntaf o’r chwith i’r dde.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn nodi’r ddau ddarlleniad.
Efallai y bydd mwy o rifau ar ôl y cyfraddau uchel ac isel. Does dim angen y rhifau ychwanegol hyn arnoch chi ar gyfer eich darlleniad.
Mesurydd Deialu

Mae’r deialau’n dangos 1 5 6 5 9. Ar ôl dilyn cyfarwyddiadau darllen y mesurydd, y darlleniad o’r mesurydd y byddech yn ei roi i’ch cyflenwr yw 1 5 6 4 9.
Mae gan fesurydd deialu trydan 5 deial neu fwy. Maen nhw i gyd yn troi i bwyntio at rif rhwng 0 a 9.
Bydd pob deial ar eich mesurydd yn troi i’r cyfeiriad sy’n groes i’r un wrth ei ymyl. Mae rhai mesuryddion deialu yn dechrau gyda deial clocwedd ac mae rhai yn dechrau gyda deial gwrthglocwedd - edrychwch i weld beth yw cyfeiriad eich deialau cyn i chi eu darllen.
I ddarllen y mesurydd:
Darllenwch y 5 deial cyntaf o’r chwith i’r dde - anwybyddwch unrhyw ddeialau coch neu ddeialau sydd wedi’u marcio 1/10.
Os yw’r pwyntydd rhwng dau rif, ysgrifennwch y rhif is – os yw rhwng 9 a 0, ysgrifennwch 9.
Os yw’r pwyntydd yn union uwchben rhif, ysgrifennwch y rhif hwnnw a’i danlinellu.
Os ydych chi wedi tanlinellu rhif, symudwch at y deial nesaf i'r dde. Os yw'r pwyntydd ar y deial hwnnw rhwng 9 a 0, dylech newid y rhif rydych chi wedi'i danlinellu i fod 1 yn llai. Er enghraifft, os oeddech chi wedi ysgrifennu 5 yn y lle cyntaf, newidiwch ef i 4.
Mesuryddion nwy
Mesurydd metrig digidol

Darlleniad y mesurydd hwn yw 00544.
Bydd gan fesurydd metrig digidol ddangosydd electronig neu ddigidol, sy’n dangos 5 rhif ac yna bwynt degol, gyda mwy o rifau i ddilyn.
I ddarllen y mesurydd:
Ysgrifennwch y 5 rhif cyntaf o’r chwith i’r dde.
Anwybyddwch y rhifau ar ôl y pwynt degol, a ddangosir weithiau mewn coch.
Mesurydd imperial digidol

Darlleniad y mesurydd hwn yw 1860.
Mae gan fesurydd imperial digidol ddangosydd electronig neu ddigidol, sy’n dangos 4 rhif du neu wyn, ac yna 2 rif mewn coch.
I ddarllen y mesurydd:
Ysgrifennwch y 4 rhif cyntaf o’r chwith i’r dde.
Anwybyddwch weddill y rhifau, a ddangosir mewn coch.
Mesurydd deialu

Darlleniad y mesurydd hwn yw 7241.
Mae gan fesurydd deialu nwy 4 deial neu fwy. Maen nhw i gyd yn troi i bwyntio at rif rhwng 0 a 9.
Bydd pob deial ar eich mesurydd yn troi i’r cyfeiriad sy’n groes i’r un wrth ei ymyl. Mae rhai mesuryddion deialu yn dechrau gyda deial clocwedd ac mae rhai yn dechrau gyda deial gwrthglocwedd - edrychwch i weld beth yw cyfeiriad eich deialau cyn i chi eu darllen.
I ddarllen y mesurydd:
Darllenwch y 4 deial cyntaf o’r chwith i’r dde - anwybyddwch y deialau mawr neu goch.
Os yw’r pwyntydd rhwng dau rif, ysgrifennwch y rhif is – os yw rhwng 9 a 0, ysgrifennwch 9.
Os yw’r pwyntydd yn union uwchben rhif, ysgrifennwch y rhif hwnnw.
Os nad yw eich mesurydd ar y dudalen hon
Gallai fod yn fesurydd clyfar. Gwiriwch sut i wneud y canlynol:
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.