Cysylltu â’r llinell gymorth defnyddwyr
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Cysylltwch â llinell gymorth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth (yr hen Consumer Direct) os ydych chi angen rhagor o gymorth gyda phroblem defnyddwyr.
Ffonio’r llinell gymorth
Llinell gymorth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth: 0808 223 1133
Ffôn testun: 18001 0808 223 1133
Mae llinellau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9am tan 5pm. Nid yw’r llinellau ar agor ar wyliau banc.
I gysylltu â chynghorydd sy’n siarad Cymraeg: 0808 223 1144
Ffôn testun i gysylltu â chynghorydd sy’n siarad Cymraeg: 18001 0808 223 1144
Bydd cynghorydd yn ateb eich galwad cyn gynted â phosibl, o fewn rhai munudau fel arfer. Unwaith y byddwch chi’n siarad â chynghorydd, dylai’ch galwad bara 8 i 10 munud fel arfer.
Mae galwadau o ffonau symudol a llinellau tir am ddim.
Sgwrsio gyda ni ar-lein
Gallwch siarad am eich problem defnyddwyr ar-lein hefyd gyda chynghorydd wedi’i hyfforddi. Byddwn yn ceisio eich helpu i ddatrys eich problem neu wneud cynnydd da tuag at hynny.
Fel arfer, gallwch sgwrsio rhwng 9am a 5pm, dydd Llun i ddydd Gwener.
Siarad â chynghorydd defnyddwyr.
Er mwyn eich cysylltu chi gyda’r cynghorydd priodol, byddwn yn gofyn i chi roi ychydig o fanylion i ni, gan gynnwys eich cod post.
Ni all ein cynghorwyr sgwrsio helpu gyda phroblemau ynni neu bost, ond mae ffyrdd eraill i gysylltu â ni i gael cymorth gyda’r pethau hyn.
Defnyddio ffurflen ar-lein
Mae gwahanol ffyrdd o gysylltu â ni, yn dibynnu ar y mater rydych chi angen cymorth yn ei gylch:
ynni - cyflenwad nwy neu drydan
Sut gall y llinell gymorth defnyddwyr eich helpu chi
Gall y cynghorydd llinell gymorth:
roi cyngor ymarferol ac amhleidiol i chi ar sut i ddatrys eich problem defnyddiwr
dweud wrthych chi pa gyfraith sy’n berthnasol i’ch sefyllfa
trosglwyddo gwybodaeth am gwynion i adran Safonau Masnach (ni allwch wneud hyn eich hun)
Fodd bynnag, ni all y cynghorydd
wneud cwyn ar eich rhan
cymryd camau cyfreithiol ar eich rhan
Cyn i chi gysylltu â’r llinell gymorth
Cyn i chi gysylltu â’r llinell gymorth, dylech sicrhau bod gennych feiro a phapur wrth law.
I helpu’r cynghorydd roi’r cyngor mwyaf perthnasol i chi, dylech fod yn barod i roi cymaint o’r wybodaeth ganlynol â phosibl iddynt:
manylion cryno am eich problem, e.e. pryd wnaethoch chi dalu am yr eitem neu’r gwasanaeth, faint wnaethoch chi ei dalu, sut wnaethoch chi dalu, mewn siop neu ar-lein
enw a chyfeiriad y gwerthwr neu fasnachwr
yr hyn rydych chi wedi’i wneud hyd yma i geisio datrys y broblem
eich cyfeirnod (os ydych chi eisoes wedi cysylltu â’r llinell gymorth ynghylch yr un broblem)
Mae gan ein staff yr hawl i wneud eu gwaith heb gael eu trin yn wael - darganfyddwch sut rydyn ni'n delio ag ymddygiad annerbyniol.
Beth rydym yn ei wneud gyda’ch gwybodaeth
Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth rydych chi wedi’i rhoi i ni i ateb eich ymholiad. Efallai y byddwn ni’n cysylltu â chi i gael eich adborth ar ein gwasanaeth.
Byddwn yn rhannu’ch gwybodaeth hefyd gyda’r adran Safonau Masnach a sefydliadau eraill rydym yn ymddiried ynddynt ac yn gweithio gyda nhw i helpu eu gwaith diogelu cwsmeriaid. Efallai y byddant nhw’n cysylltu â chi i ofyn am ragor o wybodaeth a fydd yn eu helpu gyda’u gwaith.
Dywedwch wrthym wrth gysylltu â’r gwasanaeth defnyddwyr os nad ydych chi am i rannu’ch gwybodaeth.
Gwybodaeth am sut rydym yn defnyddio, cadw a rhannu'ch gwybodaeth.
Os ydych chi’n anhapus gyda’r gwasanaeth a gawsoch
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.