Sut mae’r Adran Gwaith a Phensiynau’n penderfynu ar hawliadau PIP

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Pan gewch chi’ch asesu am y Taliad Annibyniaeth Personol (PIP), bydd gweithiwr iechyd proffesiynol yn edrych ar eich gallu i gyflawni amrywiaeth o weithgareddau bywyd bob dydd a gweithgareddau symudedd. Bydd y gweithiwr iechyd proffesiynol yn ystyried a yw’ch cyflwr iechyd neu anabledd yn cyfyngu ar eich gallu i gyflawni’r gweithgareddau a faint o gymorth rydych chi ei angen i’w cyflawni.

Bydd y gweithiwr iechyd proffesiynol yn ysgrifennu adroddiad ar gyfer yr Adran Gwaith a Phensiynau. Bydd penderfynwr o’r adran honno’n penderfynu wedyn a oes gennych chi hawl i’r PIP, ar ba gyfradd ac am ba mor hir.

Mae dwy elfen i’r PIP – yr elfen bywyd dyddiol a’r elfen symudedd. Mae’r ddwy elfen yn cael eu talu ar un o ddwy gyfradd, naill ai’r gyfradd sylfaenol neu’r gyfradd uwch.

Os yw’r penderfynwr yn yr Adran Gwaith a Phensiynau’n penderfynu bod eich gallu i gyflawni’r elfen yn gyfyngedig, byddwch yn cael y gyfradd sylfaenol. Os yw’n gyfyngedig iawn, byddwch yn cael y gyfradd uwch.

Y gweithgareddau bywyd dyddiol

I gael elfen bywyd dyddiol y PIP, rhaid bod gennych chi gyflwr corfforol neu feddyliol sy’n cyfyngu ar eich gallu i gyflawni rhai neu bob un o’r gweithgareddau hyn:

  • paratoi bwyd

  • bwyta ac yfed

  • rheoli’ch triniaethau

  • golchi ac ymolchi

  • rheoli anghenion toiled neu anymataliaeth

  • gwisgo a dadwisgo

  • cyfathrebu’n llafar

  • darllen a deall gwybodaeth ysgrifenedig

  • cymysgu gydag eraill

  • gwneud penderfyniadau am arian

Mae gan Action on Hearing Loss help penodol os na allwch chi fynegi neu ddeall gwybodaeth lafar.

Y gweithgareddau symudedd

I gael elfen symudedd PIP, rhaid bod gennych chi gyflwr corfforol neu feddyliol sy’n cyfyngu ar eich gallu i gyflawni rhai neu bob un o’r gweithgareddau hyn:

  • cynllunio a dilyn teithiau

  • symud o gwmpas

Y disgrifyddion

Mae’ch gallu i gyflawni pob gweithgaredd yn cael ei fesur yn erbyn rhestr o ddatganiadau safonol sy’n disgrifio’r hyn rydych chi’n gallu ei wneud neu’n methu â’i wneud. Y disgrifyddion yw’r rhain. Bydd y gweithiwr iechyd proffesiynol yn dweud wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau pa ddisgrifydd sy’n berthnasol i chi am bob gweithgaredd.

Er enghraifft, mae 6 disgrifydd ar gyfer ‘Gwisgo a dadwisgo’, o ‘Gallu gwisgo a dadwisgo heb gymorth’ i ‘Methu â gwisgo a dadwisgo o gwbl’.

Mae gan bob disgrifydd sgôr rhwng 0 a 12.

Lawrlwytho: Tabl o weithgareddau, disgrifyddion a phwyntiau

Lawrlwytho: Canllaw i’r iaith a ddefnyddir yn y gweithgareddau a disgrifyddion

Os yw'r hyn y gallwch chi ei wneud o ddydd i ddydd yn newid

Ar gyfer pob gweithgaredd rhaid i'r asesydd benderfynu pa ddisgrifydd sy'n debygol o fod yn berthnasol i chi ar y rhan fwyaf o ddiwrnodau. Mae'r rhan fwyaf o ddiwrnodau'n golygu mwy na 50% o'r dyddiau mewn blwyddyn.

Rhaid i'r asesydd ddewis y disgrifydd gyda'r nifer uchaf o bwyntiau sy'n berthnasol i chi ar y rhan fwyaf o ddiwrnodau.

Allwch chi gyflawni’r gweithgareddau’n ddibynadwy

Pan fydd yr aseswr yn penderfynu pa ddisgrifydd sy’n berthnasol i chi, rhaid iddo ystyried ydych chi’n gallu cyflawni’r gweithgaredd yn ddibynadwy. Mae hyn yn golygu:

  • yn ddiogel mewn ffordd sy’n annhebygol o achosi niwed naill ai i chi neu unrhyw un arall, naill ai yn ystod y gweithgaredd neu wedyn

  • i safon dderbyniol

  • mwy nag unwaith mor aml ag sy’n ofynnol o fewn rheswm

  • o fewn cyfnod amser rhesymol – ni ddylai gymryd dwywaith mor hir i chi â rhywun heb eich cyflwr

Defnyddio cymhorthion neu ddyfeisiau

Bydd eich gallu i gyflawni’r gweithgareddau bywyd dyddiol a’r gweithgareddau symudedd yn cael ei asesu fel pe baech yn gwisgo neu’n defnyddio unrhyw gymhorthion neu ddyfeisiau y byddai’n rhesymol i chi eu defnyddio. Mae hyn yn wir waeth a ydych chi’n defnyddio’r cymhorthion neu’r dyfeisiau hynny fel arfer ai peidio. Fodd bynnag os ydych chi’n defnyddio neu angen cymhorthion a dyfeisiau, gall hyn eich helpu i sgorio rhagor o bwyntiau.

Cymorth yw unrhyw eitem sy’n gwella, yn darparu neu’n disodli gweithrediad corfforol neu feddyliol. Nid oes rhaid iddo fod wedi’i ddylunio’n arbennig i fod yn gymorth anabledd. Mae enghreifftiau’n cynnwys stôl rydych chi angen eistedd arni wrth goginio, neu ffôn i’ch helpu i sefyll.

Sgorio’ch galluoedd

Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau’n adio’ch pwyntiau o’r holl weithgareddau bywyd dyddiol.

Darganfyddwch faint y gallwch ei gael ar gyfer pob elfen o PIP.

Gwiriwch beth mae'r sgoriau bywyd dyddiol yn eu golygu

Os bydd eich cyfanswm rhwng 8 ac 11 pwynt, byddwch yn cael elfen bywyd dyddiol y PIP ar y gyfradd safonol.

Os cewch chi gyfanswm o 12 pwynt neu fwy, byddwch yn cael yr elfen bywyd dyddiol ar y gyfradd uwch.

Gwiriwch beth mae'r sgoriau symudedd yn eu golygu

Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau’n adio’ch pwyntiau o’r holl weithgareddau symudedd. Os bydd eich cyfanswm rhwng 8 ac 11 pwynt, byddwch yn cael elfen symudedd y PIP ar y gyfradd safonol.

Os cewch chi gyfanswm o 12 pwynt neu fwy, byddwch yn cael yr elfen symudedd ar y gyfradd uwch.

Enghraifft

Gall Bob gerdded gyda ffon gerdded hyd at 50 metr, ond ni all wneud hyn eilwaith yr un diwrnod oherwydd bod gwneud hyn yn ei flino ac yn achosi poen iddo. Mae'n rhesymol disgwyl i rywun gerdded hyd at 50 metr fwy nag unwaith y dydd, ond ni all Bob wneud hyn dro ar ôl tro. Gall gerdded hyd at 20 metr a gwneud hyn eilwaith yn yr un diwrnod.

Byddai disgrifydd (e) yn berthnasol iddo. Yn yr achos hwn, byddai'n sgorio 12 pwynt ac yn gymwys i gael cyfradd uwch yr elfen symudedd.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.