C7: rheoli anghenion toiled
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Beth mae’r cwestiwn hwn yn ei olygu
Mae’r cwestiwn hwn yn ymwneud â sut mae’ch cyflwr yn ei gwneud hi’n anodd i chi:
gael eich hun ar sedd toiled heb ei addasu a chodi oddi yno
glanhau eich hun ar ôl hynny
rheoli eich anymataliaeth, os yn briodol
Does gan yr Adran Gwaith a Phensiynau ddim diddordeb yn yr anawsterau rydych chi’n eu cael o ran cyrraedd yr ystafell ymolchi neu reoli eich dillad – er enghraifft, tynnu sip eich trowsus neu ddatod gwregys. Os ydych chi’n cael anawsterau gyda’r rhain, gallwch chi eu hesbonio nhw yng nghwestiwn 8.
Ceisiwch beidio â theimlo embaras, hepgor gwybodaeth na bod yn ddewr am y peth. Os byddwch chi’n gwneud hynny, ni fydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn cael darlun go iawn o sut mae’ch cyflwr yn effeithio arnoch chi, a gall hyn ei gwneud hi’n anoddach i gael PIP.
Cwestiwn 7a
"Ydych chi’n defnyddio cymorth neu declyn i fynd i’r toiled neu i reoli anymataliaeth?"
Ydw
Nac ydw
Weithiau
Dylech dicio “ydw” siŵr o fod:
os ydych chi’n anymataliol ac yn gorfod defnyddio cymhorthion fel padiau anymataliaeth neu reiliau
os ydych chi’n defnyddio sedd toiled neu doiled wedi’i addasu – er enghraifft, bod ganddo reiliau
os nad ydych chi’n defnyddio toiled – er enghraifft, os ydych chi’n defnyddio comôd neu gathetr
os ydych chi’n defnyddio cymorth naill ai drwy’r amser neu weithiau
Cwestiwn 7b
"Ydych chi angen help gan berson arall i fynd i’r toiled neu i reoli anymataliaeth?"
Ydw
Nac ydw
Weithiau
Dylech dicio “ydw” siŵr o fod:
os oes rhywun yn eich helpu chi (hyd yn oed os yw ond yn helpu gyda’ch cymorth – er enghraifft, ymdrin â bidet cludadwy sydd wedi’i ddefnyddio)
os oes rhywun o gwmpas rhag ofn y byddwch chi angen help
os oes rhywun yn eich atgoffa chi i fynd i’r toiled
os oes rhywun yn esbonio sut i lanhau eich hun yn iawn
os ydych chi angen help ond nad ydych chi’n ei gael
Gwybodaeth ychwanegol: beth i’w ysgrifennu
Mae’n bwysig eich bod chi’n dweud mwy wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau trwy esbonio eich sefyllfa yn y bocs.
Dyma’ch cyfle chi i roi darlun go iawn i’r Adran Gwaith a Phensiynau o’r anawsterau rydych chi’n eu hwynebu oherwydd eich cyflwr. Byddan nhw’n defnyddio’r wybodaeth hon i benderfynu a fyddwch chi’n cael PIP.
Gallwch ddefnyddio’r gofod hwn hefyd i esbonio pa help rydych chi ei angen ond nad ydych chi’n ei gael.
Cymhorthion rydych chi’n eu defnyddio
Rhestrwch yr holl gymhorthion rydych chi’n eu defnyddio:
i’ch helpu chi i gael eich hun ar sedd toiled a chodi oddi yno
i lanhau eich hun
i reoli eich anymataliaeth – nodwch yn glir os yw hyn yn cynnwys padiau anymataliaeth, cathetr dros dro neu barhaol, bag colostomi neu rywbeth tebyg
Peidiwch byth â hepgor unrhyw gymhorthion o’ch rhestr am eich bod chi’n meddwl eu bod yn amlwg, a chofiwch:
esbonio sut maen nhw’n eich helpu chi
esbonio os ydych chi’n gorfod eu defnyddio nhw gan nad ydych chi’n gallu defnyddio toiled
nodi’n glir os yw gweithiwr iechyd proffesiynol wedi’ch cynghori chi i’w defnyddio nhw
cynnwys unrhyw gymhorthion a fyddai’n eich helpu chi pe bai gennych chi nhw
Rhywun yn eich helpu, eich cynorthwyo neu’n eich atgoffa chi
Nodwch yn glir os ydych chi angen help ond nad ydych chi’n ei gael.
Os ydych chi’n cael help, dywedwch pwy sy’n eich helpu chi (er enghraifft, gofalwr neu ffrind) ac esboniwch:
pam maen nhw’n helpu
sut maen nhw’n helpu
pa mor aml maen nhw’n helpu
Dywedwch yn glir os ydych chi angen iddyn nhw:
eich helpu chi i gael eich hun ar y sedd toiled a chodi oddi yno
eich helpu chi i lanhau eich hun
eich helpu gyda rhai o’ch anghenion toiled
bod wrth law – er enghraifft, i helpu os oes angen neu i wneud yn siŵr eich bod chi’n ddiogel
eich atgoffa chi i fynd i’r toiled, i wagio eich bag colostomi neu i olchi’ch dwylo
esbonio sut i fynd i’r toiled neu lanhau eich hun
Cofiwch esbonio beth sy’n digwydd (neu beth a fyddai’n digwydd) os nad ydych chi’n cael help. Er enghraifft:
rydych chi’n fwy tebygol o faeddu’ch hun
rydych chi’n fwy tebygol o gael damwain – er enghraifft, os ydych chi’n epileptig ac yn wynebu risg o gael ffit pan fyddwch chi ar y toiled
rydych chi’n llai tebygol o fynd allan oherwydd efallai y byddwch chi angen mynd i’r toiled
Mae’n iawn i chi amcangyfrif, ond dywedwch os mai dyna rydych chi’n ei wneud. Os yw’n rhy anodd i chi amcangyfrif, esboniwch pam – er enghraifft, gan fod eich cyflwr yn anwadal.
Diogelwch: damweiniau a risg o gael anaf neu haint
Dywedwch wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau os ydych chi, neu os ydych chi’n meddwl y gallech chi:
lithro neu ddisgyn wrth gael eich hun ar y toiled neu godi oddi yno
mynd yn sâl neu gael haint gan eich bod chi’n ei chael hi’n anodd glanhau eich hun
Nodwch yn glir:
pam mae’n gallu digwydd
pa mor aml mae’n gallu digwydd
pa mor wael y gallai effeithio arnoch chi
sut rydych chi’n ceisio ei atal – er enghraifft, rydych chi’n dibynnu ar reilen neu rywun i’ch helpu chi
os yw oherwydd na wnaeth rhywun eich helpu chi
os yw oherwydd eich bod chi’n drysu neu’n cael trafferth cofio
Yr amser y mae’n ei gymryd
Dywedwch wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau os yw’n cymryd o leiaf ddwywaith gymaint o amser â rhywun heb eich cyflwr i wneud unrhyw un o’r canlynol:
eich cael eich hun ar sedd toiled heb ei addasu a chodi oddi yno
glanhau eich hun
golchi’ch dwylo ar ôl hynny
Ceisiwch esbonio faint o amser y mae’n ei gymryd. Mae’n iawn i chi amcangyfrif, ond dywedwch os mai dyna rydych chi’n ei wneud. Os yw’n rhy anodd i chi amcangyfrif, esboniwch pam.
Cofiwch:
gynnwys cyfnodau seibiant os ydych chi eu hangen
esbonio os yw’n cymryd mwy fyth o amser i chi ar ddiwrnod gwael
Diwrnodau da a diwrnodau gwael
Esboniwch sut rydych chi’n ymdopi â’ch anghenion toiled ar ddiwrnodau da a diwrnodau gwael a sut rydych chi’n ymdopi dros gyfnod hwy (fel wythnos). Mae hyn yn rhoi darlun gwell i’r Adran Gwaith a Phensiynau o sut rydych chi’n ymdopi y rhan fwyaf o’r amser.
Nodwch yn glir:
os ydych chi’n cael diwrnodau da a diwrnodau gwael
pa mor aml rydych chi’n cael diwrnodau gwael
os ydych chi’n cael diwrnodau gwael yn amlach na pheidio
sut mae eich anawsterau a’ch symptomau yn amrywio ar ddiwrnodau da a diwrnodau gwael
Mae’n iawn i chi amcangyfrif eich diwrnodau gwael, ond dywedwch os mai dyna rydych chi’n ei wneud. Os yw’n rhy anodd i chi amcangyfrif - esboniwch pam. Er enghraifft, gan fod eich cyflwr yn anwadal.
Symptomau fel poen a rhwystredigaeth
Esboniwch os yw’r anawsterau rydych chi’n eu cael wrth gael eich hun ar y toiled a chodi oddi yno, glanhau eich hun neu reoli eich anymataliaeth yn achosi unrhyw symptomau corfforol neu feddyliol i chi, er enghraifft, poen, blinder neu straen.
Mae’n gallu bod yn ddefnyddiol esbonio’r symptomau a rhoi enghraifft, gan gynnwys:
pa mor aml rydych chi’n eu cael nhw
am faint maen nhw’n para
os ydyn nhw’n debygol o gynyddu’r risg o ddamwain neu faeddu’ch hun
os ydyn nhw’n effeithio ar eich gallu i gyflawni unrhyw un o’r gweithgareddau eraill ar eich ffurflen hawlio PIP – er enghraifft, rydych chi mor bryderus ynglŷn â rheoli eich anymataliaeth fel ei fod yn eich atal chi rhag mynd allan
Enghraifft
Mae Sarah yn ei chael hi’n anodd rheoli ei hanghenion toiled, felly dydy hi ddim yn bwyta nac yfed yn iawn nac yn mynd allan gyda’i ffrindiau gymaint ag yr oedd hi’n arfer gwneud gan ei bod hi’n poeni am orfod mynd i’r toiled.
Help gyda chwestiwn 8: gwisgo a dadwisgo
Yn ôl i Help i Lenwi’ch Ffurflen Hawlio PIP
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.