C3: paratoi a choginio pryd bwyd
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Beth mae’r cwestiwn hwn yn ei olygu
Mae’r cwestiwn hwn yn ymwneud â sut mae’ch cyflwr yn ei gwneud hi’n anodd i chi:
baratoi pryd o fwyd syml i un
ei dwymo ar hob neu mewn popty microdon tan ei fod yn ddiogel i’w fwyta
Rhaid i’r hob neu’r popty microdon fod ar uchder eich canol, felly does gan yr Adran Gwaith a Phensiynau ddim diddordeb mewn unrhyw anawsterau rydych chi’n eu cael wrth blygu i lawr.
Mae’n annhebygol bod eich syniad chi o bryd o fwyd syml yr un fath â syniad y llywodraeth. Mae’n gallu bod yn ddefnyddiol i seilio’ch atebion ar yr enghraifft hon: pilio, torri a berwi 2 daten fawr, agor tun o india-corn a ffrio darn bach o gig neu bysgodyn.
Dydy’r cwestiwn hwn ddim yn ymwneud ag a ydych chi angen bwyta deiet arbennig. Mae’n ymwneud â’ch gallu i gyflawni tasgau sy’n angenrheidiol i baratoi a choginio pryd o fwyd syml, fel troi tapiau neu ddefnyddio popty yn ddiogel.
Cwestiwn 3a
"Ydych chi’n defnyddio cymorth neu ddyfais i baratoi neu goginio pryd o fwyd syml?"
Ydw
Nac ydw
Weithiau
Dylech chi dicio ‘ydw’ siẃr o fod:
os ydych chi angen eistedd wrth baratoi neu goginio – mae stôl neu rywbeth tebyg yn cyfrif fel cymorth
os oes gennych chi aelod prosthetig
os ydych chi’n cymryd seibiant wrth baratoi neu goginio
os ydych chi’n defnyddio cymorth naill ai drwy’r amser neu weithiau
Cwestiwn 3b
"Ydych chi angen help gan berson arall i baratoi neu goginio pryd o fwyd syml?"
Ydw
Nac ydw
Weithiau
Dylech chi dicio ‘ydw’ siŵr o fod:
os ydych chi’n debygol o dangoginio neu orgoginio’ch bwyd
os oes rhywun yn eich helpu, eich atgoffa, eich annog, eich goruchwylio neu’n eich cynorthwyo chi
os oes rhywun yn aros gyda chi neu’n cadw llygad arnoch chi i wneud yn siŵr eich bod chi’n ddiogel
os ydych chi’n wynebu risg o gael anaf, fel llosgi neu sgaldio’ch hun
os ydych chi angen help i ddarllen neu ddeall rhifau – er enghraifft, wrth ddilyn ryseitiau syml neu ddefnyddio amseryddion
os ydych chi angen help ond nad ydych chi’n ei gael
Gwybodaeth ychwanegol: beth i’w ysgrifennu
Mae’n bwysig eich bod chi’n dweud mwy wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau trwy esbonio’ch sefyllfa yn y bocs.
Dyma’ch cyfle i gyflwyno darlun go iawn i’r Adran Gwaith a Phensiynau o sut mae’ch cyflwr yn effeithio ar eich gallu i baratoi a choginio pryd o fwyd. Byddan nhw’n defnyddio hyn i benderfynu a fyddwch chi’n cael PIP.
Gallwch ddefnyddio’r gofod hwn i esbonio pa help rydych chi ei angen ond nad ydych chi’n ei gael.
Cymhorthion rydych chi’n eu defnyddio
Rhestrwch yr holl gymhorthion rydych chi’n eu defnyddio, gan gynnwys pethau fel stolion neu aelodau prosthetig.
Peidiwch byth â hepgor cymorth o’ch rhestr am eich bod chi’n meddwl ei fod yn amlwg, a chofiwch:
esbonio sut maen nhw’n eich helpu chi
esbonio beth fyddai’n digwydd os na fyddech chi’n eu defnyddio nhw
nodi’n glir os yw gweithiwr iechyd proffesiynol wedi’ch cynghori chi i’w defnyddio nhw
cynnwys unrhyw rai a fyddai’n eich helpu chi pe bai gennych chi nhw
cynnwys unrhyw rai y mae’ch cyflwr yn eich atal chi rhag eu defnyddio nhw
Werth gwybod
Esboniwch os ydych chi’n defnyddio cymorth i leihau teimladau meddyliol neu gorfforol (fel poen, anghysur neu flinder) wrth baratoi neu goginio pryd o fwyd. Nodwch yn glir os mai lleihau’r teimlad hwnnw yn unig y mae’r cymorth hwn, a’ch bod chi’n dal i deimlo rhywbeth.
Rhywun yn eich atgoffa, eich annog, eich goruchwylio neu’n eich cynorthwyo chi
Dywedwch yn glir os ydych chi angen help ond nad ydych chi’n ei gael.
Os ydych chi’n cael help, dywedwch pwy sy’n eich helpu chi (er enghraifft, perthynas neu ffrind) ac esboniwch:
pam maen nhw’n helpu
sut maen nhw’n helpu
pa mor aml maen nhw’n helpu
Dywedwch yn glir os ydych chi angen iddyn nhw:
eich atgoffa chi i baratoi neu goginio pryd o fwyd
esbonio sut i baratoi neu goginio pryd o fwyd
eich helpu chi yn gorfforol
helpu gyda rhan o dasg neu’r dasg i gyd
eich helpu chi drwy’r amser neu weithiau’n unig (os yw hi’n rhy anodd i chi ddarogan hyn – dywedwch hynny)
bod wrth law – er enghraifft, help dim ond os ydych chi ei angen neu i wneud yn siŵr eich bod chi’n ddiogel
Cofiwch esbonio beth sy’n digwydd (neu a fyddai’n digwydd) os na fyddwch chi’n cael help. Er enghraifft:
rydych chi’n fwy tebygol o gael damwain neu anaf
rydych chi’n fwy tebygol o ddioddef symptomau corfforol neu feddyliol fel poen, anghysur neu flinder
bydd hi’n cymryd o leiaf ddwywaith gymaint o amser i chi baratoi neu goginio pryd o fwyd o gymharu â rhywun heb eich cyflwr
Diogelwch: damweiniau neu risg o gael anaf
Dywedwch wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau os ydych chi wedi anafu’ch hun neu rywun arall, neu os ydych chi’n debygol o wneud hynny, wrth baratoi neu goginio pryd o fwyd. Er enghraifft, dywedwch wrthyn nhw os ydych chi’n debygol o losgi neu dorri’ch hun, disgyn neu dangoginio neu orgoginio’r bwyd. Gofalwch eich bod chi’n dweud wrthyn nhw os ydych chi’n credu y gallech chi gychwyn tân.
Dylech chi sôn am y canlynol hefyd:
pa mor aml mae risg yn codi, hyd yn oed os nad yw’n codi’n rheolaidd
pa mor wael y gallech chi gael eich niweidio
a oes unrhyw beth y gallwch chi ei wneud i atal hynny rhag digwydd
Er enghraifft, efallai eich bod chi’n cael ffitiau o bryd i’w gilydd ond eu bod nhw’n gallu cychwyn unrhyw bryd, yn gwbl ddirybudd. Does dim byd y gallwch chi ei wneud i baratoi eich hun ac, os byddech chi’n cael ffit wrth goginio, gallech chi anafu’ch hun yn wael.
Nodwch yn glir os yw’r risg yn codi oherwydd:
na chawsoch chi help na goruchwyliaeth
eich bod chi’n ei chael hi’n anodd canolbwyntio
eich bod chi’n drysu
Yr amser y mae’n ei gymryd
Meddyliwch a yw’n cymryd o leiaf ddwywaith gymaint o amser i chi baratoi neu goginio pryd o fwyd o gymharu â rhywun heb eich cyflwr.
Ceisiwch esbonio faint o amser mae’n ei gymryd. Mae’n iawn i chi amcangyfrif, ond dywedwch os mai dyna rydych chi’n ei wneud. Os yw’n rhy anodd i chi amcangyfrif, esboniwch pam – er enghraifft, am fod eich cyflwr yn anwadal.
Cofiwch:
gynnwys cyfnodau seibiant os ydych chi eu hangen
esbonio os yw’n cymryd mwy fyth o amser i chi ar ddiwrnod gwael
dweud os yw’n cymryd mwy o amser os oes rhaid i chi wneud rhywbeth dro ar ôl tro
Diwrnodau da a diwrnodau gwael
Esboniwch sut rydych chi’n ymdopi ar ddiwrnodau da a diwrnodau gwael a sut rydych chi’n ymdopi dros gyfnod hwy (fel wythnos). Mae hyn yn rhoi darlun gwell i’r Adran Gwaith a Phensiynau o sut rydych chi’n ymdopi y rhan fwyaf o’r amser.
Nodwch yn glir:
os ydych chi’n cael diwrnodau da a diwrnodau gwael
pa mor aml rydych chi’n cael diwrnodau gwael
os ydych chi’n cael diwrnodau gwael yn amlach na pheidio
sut mae eich anawsterau a’ch symptomau yn amrywio ar ddiwrnodau da a diwrnodau gwael – er enghraifft, rydych chi’n methu â gorffen paratoi pryd o fwyd neu rydych chi ond yn defnyddio llysiau wedi’u torri ymlaen llaw
Mae’n iawn i chi amcangyfrif eich diwrnodau gwael, ond dywedwch os mai dyna rydych chi’n ei wneud. Os yw’n rhy anodd i chi amcangyfrif - esboniwch pam. Er enghraifft, gan fod eich cyflwr yn anwadal.
Symptomau fel poen neu flinder
Esboniwch os yw’r anawsterau rydych chi’n eu cael wrth baratoi neu goginio pryd o fwyd yn achosi unrhyw symptomau corfforol neu feddyliol i chi (fel poen, anghysur, blinder neu ddiffyg brwdfrydedd).
Mae’n gallu bod yn ddefnyddiol esbonio’r symptomau a rhoi enghraifft, gan gynnwys:
pa mor aml rydych chi’n eu cael nhw
am faint maen nhw’n para
os ydyn nhw’n debygol o gynyddu’r risg o ddamwain
os ydyn nhw’n effeithio ar eich gallu i gyflawni unrhyw un o’r gweithgareddau eraill ar eich ffurflen hawlio PIP
Enghraifft
Mae Brian yn gallu paratoi ei frecwast heb help, ond am fod hyn yn ei flino (yn gorfforol ac yn feddyliol), dydy e ddim yn gallu paratoi ei ginio. Ar ddiwrnod gwael (tua dwywaith yr wythnos), yn aml bydd wedi blino gormod i wisgo neu fynd allan.
Help gyda chwestiwn 4: bwyta ac yfed
Yn ôl i Help i Lenwi’ch Ffurflen Hawlio PIP
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.