C14: symud o gwmpas

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Beth mae’r cwestiwn yn ei olygu

Mae’r cwestiwn hwn yn ymwneud â sut mae’ch cyflwr yn ei gwneud hi’n anodd i chi:

  • sefyll yn ddiogel heb help

  • cerdded yn ddiogel heb stopio a heb help

Cwestiwn 14a

"Pa mor bell allwch chi gerdded gan ystyried unrhyw gymhorthion rydych chi’n eu defnyddio?"

  • llai nag 20 metr

  • rhwng 20 a 50 metr

  • rhwng 50 a 200 metr

  • 200 metr neu fwy

  • mae’n amrywio

Dylai’ch ateb fod yn seiliedig ar ba bellter allwch chi lwyddo ei wneud y rhan fwyaf o’r amser (hynny yw, yn rheolaidd a sawl gwaith drosodd) gyda neu heb gymorth, fel ffon.

Peidiwch â rhoi amcan rhy uchel o’ch gallu. Er enghraifft, os na allwch chi gerdded 50 metr yn rheolaidd a sawl gwaith drosodd, yna peidiwch â dweud y gallwch chi wneud hynny.

Os yw poen neu ddiffyg anadl yn effeithio ar ba mor bell allwch chi gerdded, dylech ystyried hynny.

Dylech ateb “llai nag 20 metr” os na allwch chi sefyll neu gerdded.

Pa mor bell yw 20, 50 neu 200 metr?

I roi syniad bras i chi o bellter:

  • 20 metr yw hyd 2 fws

  • 50 metr yw hyd 5 bws

  • 200 metr yw hyd 20 bws

Cwestiwn 14b

"Ydych chi’n defnyddio cymorth neu declyn i gerdded?"

  • Ydw

  • Nac ydw

  • Weithiau

Dylech ateb "ydw":

  • os ydych chi’n defnyddio prosthesis, bagl siglo neu debyg

  • os ydych chi’n cymryd seibiant wrth gerdded unrhyw bellter

  • os ydych chi’n defnyddio cymorth drwy’r amser neu weithiau

Cwestiwn 14c

"Ydych chi’n defnyddio cadair olwyn neu ddyfais debyg i symud o gwmpas yn ddiogel, yn ddibynadwy ac yn fynych ac mewn cyfnod rhesymol o amser?"

  • Ydw

  • Nac ydw

  • Weithiau 

Atebwch "ydw" os ydych chi’n defnyddio cadair olwyn, sgwter symuded neu debyg.

Gwybodaeth ychwanegol: beth i’w ysgrifennu

Pwysig

Mae’n bwysig eich bod chi’n dweud mwy wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau trwy esbonio eich sefyllfa yn y bocs.

Dyma’ch cyfle i roi darlun llawn i’r Adran Gwaith a Phensiynau o sut mae’ch cyflwr yn effeithio ar eich gallu i sefyll a cherdded. Byddant yn defnyddio’r wybodaeth hon i benderfynu a fyddwch chi’n cael PIP.

Gallwch ddefnyddio’r gofod hwn hefyd i esbonio pa help rydych chi ei angen ond nad ydych chi’n ei gael.

Cymhorthion sy’n eich helpu i sefyll a symud

Rhestrwch yr eitemau rydych chi’n eu defnyddio i’ch helpu i sefyll, cerdded a symud o gwmpas.

Peidiwch â hepgor unrhyw gymhorthion oddi ar eich rhestr am eich bod chi’n meddwl eu bod nhw’n amlwg, a chofiwch ym mhob achos:

  • egluro sut maen nhw’n eich helpu

  • datgan yn glir os oes gweithiwr iechyd proffesiynol wedi’ch cynghori i’w defnyddio

  • cynnwys unrhyw gymhorthion a fyddai’n eich helpu pe baen nhw gennych chi

  • cynnwys unrhyw gymhorthion mae’ch cyflwr yn eich atal rhag eu defnyddio – er enghraifft, allwch chi ddim dal ffon am fod gennych arthritis yn eich dwylo

Eglurwch os ydych chi’n defnyddio cymorth i leihau teimladau meddyliol neu gorfforol (fel poen, anghysur neu flinder) wrth sefyll neu gerdded. Pwysleisiwch os mai dim ond lleihau’r teimlad hwnnw mae’n ei wneud a’ch bod yn profi rhywbeth o hyd.

Seibiannau a symptomau fel poen neu bendro

Eglurwch os oes angen i chi orffwys wrth gerdded neu os na allwch chi sefyll neu gerdded o gwbl.

Dywedwch yn glir os mai’r rheswm yw oherwydd:

  • eich bod chi’n teimlo’n flinedig

  • eich bod chi mewn poen

  • eich bod chi’n fyr o wynt

  • mae perygl i chi gael anaf – er enghraifft, cwympo, llithro, simsanu neu deimlo pendro

Mae’n bwysig egluro symptomau fel poen neu anghysur ac egluro sut maen nhw’n effeithio arnoch chi, yn cynnwys:

  • pa mor aml rydych chi’n eu cael

  • am faint maen nhw’n para

  • os ydyn nhw’n debygol o gynyddu’r risg o ddamwain

  • os ydyn nhw’n golygu ei bod hi’n cymryd mwy o amser i chi gerdded i rywle

  • os ydyn nhw’n effeithio ar eich gallu i gerdded ymhellach

  • os ydyn nhw’n effeithio ar eich gallu i gyflawni unrhyw weithgareddau eraill ar eich ffurflen hawlio PIP

Os yw symptomau fel poen neu ddiffyg anadl yn effeithio ar eich cerdded y rhan fwyaf o’r amser, dywedwch hynny’n glir.

Enghraifft

Enghraifft

Collodd Alan ei gydbwysedd wrth gerdded i’r ystafell ymolchi a chwympodd. Ers y ddamwain mae wedi mynd allan llai ac nid yw’n mynd i’r siopau lleol mwyach oherwydd mae’n poeni am gwympo eto.

Diwrnodau da a diwrnodau gwael

Esboniwch sut rydych chi’n ymdopi ar ddiwrnodau da a diwrnodau gwael a sut rydych chi’n ymdopi dros gyfnod hwy (fel wythnos). Mae hyn yn rhoi darlun gwell i’r Adran Gwaith a Phensiynau o sut rydych chi’n ymdopi y rhan fwyaf o’r amser.

Nodwch yn glir:

  • os ydych chi’n cael diwrnodau da a diwrnodau gwael

  • pa mor aml rydych chi’n cael diwrnodau gwael

  • os ydych chi’n cael diwrnodau gwael yn amlach na pheidio

  • sut mae eich anawsterau a’ch symptomau yn amrywio ar ddiwrnodau da a diwrnodau gwael - er enghraifft, os na allwch chi gerdded mor bell neu sefyll o gwbl neu’ch bod mewn mwy o boen.

Mae’n iawn rhoi amcan ond dywedwch os mai amcan yw e. Os yw’n rhy anodd rhoi amcan - eglurwch pam. Er enghraifft, am fod eich cyflwr yn anwadal.

Yr amser mae’n ei gymryd

Meddyliwch a yw’n cymryd o leiaf ddwywaith mor hir i chi i gerdded yr un pellter â rhywun heb eich cyflwr.

Ceisiwch esbonio faint o amser mae’n ei gymryd. Mae’n iawn i chi amcangyfrif, ond dywedwch os mai dyna rydych chi’n ei wneud. Os yw’n rhy anodd i chi amcangyfrif, esboniwch pam – er enghraifft, am ei bod hi’n anodd ymdopi â’ch lefel chi o boen heb feddyginiaeth neu gyffuriau lladd poen.

Cofiwch:

  • gynnwys cyfnodau seibiant os ydych chi eu hangen

  • esbonio os yw’n cymryd mwy fyth o amser ar ddiwrnod gwael

  • dweud sut byddai cerdded y pellter hwnnw drosodd a throsodd yn effeithio arnoch chi – er enghraifft, byddech yn teimlo’n fwy blinedig, byddai’n cymryd mwy o amser i chi neu’n achosi mwy o boen i chi

Diogelwch: damweiniau a’r risg o anaf

Dywedwch wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau os ydych chi wedi cael anaf neu os gallech chi gael anaf gerdded neu sefyll.

Mae o gymorth rhoi enghraifft ac egluro

  • pam mae’n gallu digwydd

  • pa mor aml mae’n gallu digwydd

  • pa mor wael y gallai effeithio arnoch chi

  • pa effaith mae’n ei chael ar eich iechyd corfforol a meddyliol

  • os yw oherwydd nad ydych chi’n gallu barnu pryd i stopio a gorffwys

  • os yw oherwydd nad ydych chi’n cael help gan rywun

Dylech sôn am risg hyd yn oed os nad yw’n digwydd yn rheolaidd.

Mae rhywun yn eich helpu neu’n eich cynorthwyo

Dywedwch yn glir os ydych chi angen help ond ddim yn ei gael.

Os ydych chi’n cael help, dywedwch pwy sy’n eich helpu (er enghraifft, perthynas neu gyfaill) ac eglurwch:

  • pam mae’n helpu

  • sut mae’n helpu

  • pa mor aml mae’n helpu

Nodwch yn glir os ydych chi angen iddo:

  • eich helpu drwy’r amser neu ddim ond weithiau

  • eich cynorthwyo’n gorfforol

  • bod wrth law – er enghraifft, dim ond rhag ofn y bydd angen help arnoch

  • atal anaf neu ddamwain

Esboniwch beth sy’n digwydd (neu beth fyddai’n digwydd) os nad ydych chi’n cael help. Er enghraifft:

  • rydych chi’n fwy tebygol o gael damwain

  • rydych chi’n fwy tebygol o ddioddef symptomau corfforol neu feddyliol fel poen neu bendro

  • os ydych chi’n llai tebygol o fynd allan neu gymdeithasu am eich bod chi ofn cwympo neu lithro

Help gyda chwestiwn 15: gwybodaeth ychwanegol

Yn ôl i Help i Lenwi’ch Ffurflen Hawlio PIP

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.