Yr help a’r arian ychwanegol rydych chi’n gymwys i’w cael o dan PIP
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Os ydych chi’n derbyn PIP, gallech fod yn gymwys i gael arian ychwanegol ar ben eich budd-daliadau presennol, gostyngiad ar filiau’r dreth gyngor a’r dreth ffordd a gostyngiadau ar gostau teithio.
Byddwch chi angen eich llythyr dyfarnu PIP cyn y gallwch chi wneud cais am yr help ychwanegol hwn. Weithiau, mae’r llythyr dyfarnu yn cael ei alw’n hysbysiad dyfarnu PIP. Mae’n cael ei anfon atoch pan fydd yr Adran Gwaith a Phensiynau wedi gwneud penderfyniad ar eich hawliad PIP.
Symiau atodol
Efallai y byddwch chi’n cael swm atodol (o’r enw premiwm) ar ben y budd-daliadau canlynol os ydych chi’n derbyn PIP:
Budd-dal Tai
Lwfans Ceisio Gwaith
Cymhorthdal Incwm
Credyd Treth Gwaith
Lwfans Cyflogaeth a Chymorth – ond dim ond os ydych chi’n derbyn elfen bywyd beunyddiol PIP
Credyd Pensiwn - ond dim ond os ydych chi’n derbyn elfen bywyd beunyddiol PIP
Sut i wneud cais
Cysylltwch â’r swyddfa sy’n rheoli eich budd-daliadau, dywedwch wrthyn nhw eich bod chi’n derbyn PIP a gofynnwch iddyn nhw pa help arall rydych chi’n gymwys i’w gael yn sgil hynny. Efallai y bydd angen i chi anfon copi o’ch llythyr dyfarnu PIP atyn nhw. Gallan nhw ddweud wrthych chi hefyd faint o help ychwanegol y byddwch chi’n ei gael.
Ni fydd cael premiwm anabledd yn lleihau eich PIP nac unrhyw un o’ch budd-daliadau eraill, felly y peth gorau i’w wneud yw gofyn i’r Adran Gwaith a Phensiynau pa help ychwanegol rydych chi’n gymwys i’w gael a gwneud cais amdano.
Mae hi bob amser yn syniad da i wneud yn siŵr eich bod chi'n hawlio'r holl fudd-daliadau rydych chi'n gymwys i'w cael.
Gostyngiadau’r dreth gyngor
Os ydych chi’n derbyn naill ai elfen bywyd beunyddiol neu elfen symudedd PIP, efallai y gallwch chi gael gostyngiad ar fil y dreth gyngor.
Mae’n anodd dweud yn union faint o ostyngiad y byddwch chi’n ei gael gan ei fod yn dibynnu ar bethau fel elfen a graddfa’r PIP rydych chi’n ei dderbyn. Fodd bynnag, bydd eich cyngor yn gallu dweud wrthych chi.
Sut i wneud cais
I gael eich gostyngiad, cysylltwch â'ch cyngor lleol a dywedwch wrthyn nhw eich bod chi’n derbyn PIP. Efallai y bydd angen i chi anfon copi o’ch llythyr dyfarnu PIP atyn nhw.
Os ydych chi’n hawlio PIP ar gyfer plentyn
Os yw’ch plentyn yn derbyn PIP a’i fod rhwng 16 a 20 oed ac yn dal i fod mewn addysg neu hyfforddiant, efallai y bydd eich Budd-dal Tai yn cynyddu.
Efallai y byddwch chi’n cael gostyngiad ar fil y dreth gyngor hefyd. Bydd eich cyngor yn gallu dweud wrthych chi.
Sut i wneud cais
I weld a allwch chi gael yr help hwn, cysylltwch â’r swyddfa sy’n rheoli’ch Budd-dal Tai a’ch cyngor lleol a dywedwch wrthyn nhw bod eich plentyn yn derbyn PIP. Byddan nhw’n gallu dweud wrthych chi faint fydd y cynnydd neu’r gostyngiad hefyd.
Cymorth teithio
Pan fyddwch chi’n cael eich llythyr dyfarnu PIP, gallwch chi wneud cais am:
Cerdyn rheilffordd i bobl anabl – gostyngiad o hyd at 33% ar y rhan fwyaf o docynnau trên
Gostyngiad o 50% ar y dreth ffordd - os ydych chi’n cael cyfradd symudedd safonol PIP
Gostyngiad o 100% ar y dreth ffordd - os ydych chi’n cael cyfradd symudedd uwch PIP
Efallai y byddwch chi hefyd:
yn gymwys i deithio am ddim ar fysiau yng Nghymru a Lloegr - ond cysylltwch â'ch cyngor lleol i ddysgu mwy
yn gallu defnyddio’r cynllun ‘motability’ os ydych chi’n derbyn cyfradd symudedd uwch PIP
Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n hawlio’r holl fudd-daliadau rydych chi’n gymwys i’w cael
Edrychwch pa fudd-daliadau a help ychwanegol y gallech chi eu cael gan ddefnyddio ein hadnodd ar-lein syml a chyflym.
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.